Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007
15.—(1) Mae Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn lle’r diffiniad o “Cyfarwyddeb 89/108” rhodder—
“ystyr “Cyfarwyddeb 89/108” (“Directive 89/108”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 89/108/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy’n ymwneud â deunyddiau bwyd sydd wedi’u rhewi’n gyflym ac sydd i’w bwyta gan bobl(2);”;
(ii)yn lle’r diffiniad o “awdurdod bwyd” rhodder—
“mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o’r Ddeddf;”;
(b)ym mharagraff (3)—
(i)yn is-baragraff (a), hepgorer “neu 7”;
(ii)ar ddiwedd is-baragraff (a), mewnosoder “neu”;
(iii)ar ddiwedd is-baragraff (b), hepgorer “neu”;
(iv)hepgorer is-baragraff (c).
(3) Yn rheoliad 9, hepgorer paragraff (3).
(4) Hepgorer Atodlen 3.
O.S. 2007/389 (Cy. 40), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 40, 11.2.1989, t. 34, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/20/EU (OJ Rhif L 158, 10.6.2013, t. 234).