Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1Darpariaethau Cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2018.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae “anifail buchol” (“bovine animal”) yn cynnwys bualod a byfflos (gan gynnwys byfflos dŵr);

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw arolygydd a benodwyd o dan reoliad 13, ac ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw milfeddyg a benodwyd yn arolygydd gan Weinidogion Cymru;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag ardal yw’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

ystyr “BSE” (“BSE”) yw enseffalopathi sbyngffurf buchol;

ystyr “bwyd anifeiliaid cyfansawdd” (“compound feed”) yw cymysgedd o o leiaf ddau ddeunydd bwyd anifeiliaid, pa un a yw’n cynnwys ychwanegion bwyd anifeiliaid ai peidio, ar gyfer ei fwydo drwy’r geg i anifeiliaid ar ffurf bwyd anifeiliaid cyflawn neu gydategol;

ystyr “deunydd risg penodedig” (“specified risk material”) yw’r meinweoedd a bennir yn Atodiad V i Reoliad TSE yr UE ac, oni nodir fel arall, nid yw’n cynnwys cynhyrchion sy’n cynnwys y meinweoedd hynny neu sy’n deillio ohonynt;

ystyr “y gofynion TSE” (“the TSE requirements”) yw’r gofynion hynny yn Rheoliad TSE yr UE a nodir yn rheoliad 5 ac Atodlen 1;

mae i “lladd-dy” yr ystyr a roddir i “slaughterhouse” ym mharagraff 1.16 o Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 853/2004, ac mae’n sefydliad a gymeradwywyd neu a gymeradwywyd yn amodol fel y cyfryw gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd o dan Erthygl 31(2) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys—

(a)

mangre ddomestig os defnyddir hi at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â Rheoliad TSE yr UE neu’r Rheoliadau hyn;

(b)

tir ac adeiladau allanol;

(c)

lladd-dy;

(d)

safle torri;

(e)

man sydd, at ddibenion pwynt 4.1(a) o Atodiad V, yn fan cigydda arall; ac

(f)

unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu strwythur (symudol neu fel arall);

mae i “offal” yr ystyr a roddir i “offal” ym mhwynt 1.11 o Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 853/2004;

mae i “pasbort gwartheg” (“cattle passport”) yr un ystyr ag yn Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007(1);

ystyr “Penderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC” (“Commission Decision 2007/411/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC(2) sy’n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996, at unrhyw ddiben, ac yn esemptio anifeiliaid o’r fath rhag mesurau rheoli a dileu penodol a osodir yn Rheoliad TSE yr UE;

ystyr “person wedi ei hyfforddi” (“trained person”) yw unrhyw berson—

(a)

sydd wedi ei hyfforddi i gymryd samplau o anifeiliaid buchol marw, a

(b)

y mae gweithredwr y safle wedi ei fodloni ei fod yn gymwys i ymgymryd â samplu o’r fath;

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 853/2004” (“Regulation (EC) No 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid, fel y’i darllenir ar y cyd ag—

(a)

Cyfarwyddeb 2004/41/EC(3) Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl;

(b)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005(4) sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynglŷn â salmonela ar gyfer traddodi mathau penodol o gig ac wyau i’r Ffindir a Sweden; ac

(c)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005(5) sy’n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004(6) Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004;

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 882/2004” (“Regulation (EC) No 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau y gwirir cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid, fel y’i darllenir ar y cyd â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005;

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009” (“Regulation (EC) No 1069/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009(7) Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd mewn cysylltiad â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliedig nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl, fel y’i gweithredir gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011(8);

ystyr “Rheoliad TSE yr UE” (“the EU TSE Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001(9) Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol, fel y’i darllenir ar y cyd ag—

(a)

Penderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC;

(b)

Penderfyniad y Comisiwn 2007/453/EC(10) sy’n pennu statws BSE Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd neu ranbarthau ohonynt yn unol â’u risg BSE; ac

(c)

Penderfyniad y Comisiwn 2009/719/EC(11) sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau penodol i ddiwygio eu rhaglen fonitro BSE flynyddol;

mae i “safle torri” yr ystyr a roddir i “cutting plant” ym mharagraff 1.17 o Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 853/2004(12), ac mae’n sefydliad a gymeradwywyd neu a gymeradwywyd yn amodol fel y cyfryw gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd(13) o dan Erthygl 31(2) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004(14), neu sy’n gweithredu fel y cyfryw o dan Erthygl 4(5) o Reoliad (EC) Rhif 853/2004, hyd nes y ceir cymeradwyaeth o’r fath;

ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad nad yw’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd;

ystyr “TSE” (“TSE”) yw enseffalopathi sbyngffurf trosglwyddadwy.

(2Mae gan ymadroddion nad ydynt wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac sy’n ymddangos yn Rheoliad TSE yr UE yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddynt at ddibenion Rheoliad TSE yr UE.

(3Mae’r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Erthyglau neu Atodiadau yn gyfeiriadau at Erthyglau ac Atodiadau yn Rheoliad TSE yr UE oni nodir fel arall.

Penodi awdurdod cymwys

3.  Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad TSE yr UE ac eithrio fel a bennir fel arall yn y Rheoliadau hyn.

Anifeiliaid a fwriedir ar gyfer ymchwil

4.—(1Nid yw darpariaethau Atodlenni 2 i 8 yn gymwys mewn perthynas ag anifeiliaid a gedwir at ddibenion ymchwil mewn mangre a gymeradwywyd at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn.

(2Os bydd farw neu os lleddir anifail buchol, defeidiog neu afraidd, neu ei epil, a gedwir mewn mangre ymchwil, rhaid i’r meddiannydd waredu’r anifail fel sgil-gynnyrch anifail Categori 1 yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009, ac mae methu â gwneud hynny yn drosedd.

RHAN 2Rheolaethau TSE

Y Gofynion TSE

5.—(1At ddibenion Erthygl 11, pan fo person ag unrhyw anifail yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth yr amheuir ei fod wedi ei heintio â TSE rhaid i’r person hwnnw hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith a chadw’r anifail yn y daliad hyd nes y bydd arolygydd milfeddygol wedi ei archwilio.

(2Pan fo arolygydd milfeddygol yn archwilio neu’n arolygu anifail ac yn amau’n rhesymol fod yr anifail wedi ei heintio â TSE, rhaid i’r arolygydd milfeddygol hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith am yr amheuaeth honno.

(3Pan fo person yn archwilio carcas anifail mewn labordy ac yn amau’n rhesymol fod TSE yn bresennol, rhaid i’r person hwnnw hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith, a chadw’r carcas hyd nes y bydd arolygydd milfeddygol wedi awdurdodi ei waredu.

(4Mae’r gofynion TSE yn Atodlen 1 yn gymwys.

(5Rhaid i feddiannydd lladd-dy gydymffurfio â’r gofyniad i gymryd samplau neu hwyluso cymryd samplau gan arolygydd sy’n deillio o ofynion monitro TSE Gweinidogion Cymru yn Atodiad 3.

(6Yn unol ag Erthygl 12, rhaid i berson sydd ag anifeiliaid a osodir o dan gyfyngiad swyddogol ar symud gydymffurfio ag—

(a)unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arolygydd a chydweithredu â Gweinidogion Cymru i gyflawni’r gofynion monitro TSE yn Atodiad III;

(b)unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arolygydd a chydweithredu â Gweinidogion Cymru i gymryd y camau i reoli a dileu TSE yn Atodiad VII;

(c)y gofynion yn Atodiad IV ar gyfer cynhyrchu, defnyddio cyfarpar, pecynnu, storio a chludo bwyd anifeiliaid;

(d)y gofynion bwydo anifeiliaid yn Atodiad IV;

(e)y gwaharddiadau sy’n ymwneud â bwydo anifeiliaid yn Erthygl 7, oni bai bod y cynhyrchion bwyd anifeiliaid yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio prosesau cynhyrchu a gweithgynhyrchu a gymeradwywyd gan Gomisiwn yr UE;

(f)y gofynion o ran ymdrin â deunydd risg penodedig yn Erthygl 8 ac Atodiad V ac Atodlen 7;

(g)y cyfyngiadau yn Atodiad VIII ac Atodlen 8 ynghylch rhoi anifeiliaid neu gynhyrchion ar y farchnad neu ar gyfer eu hallforio.

Cymhwyso’r Atodlenni

6.  Mae’r Atodlenni a ganlyn yn cael effaith—

(a)Atodlen 2 (Monitro ar gyfer TSE a chymeradwyo labordai);

(b)Atodlen 3 (Rheoli a dileu TSE mewn anifeiliaid buchol);

(c)Atodlen 4 (Rheoli a dileu TSE mewn anifeiliaid defeidiog a gafraidd);

(d)Atodlen 5 (Rheoli a dileu TSE mewn anifeiliaid nad ydynt yn fuchol, yn ddefeidiog nac yn afraidd);

(e)Atodlen 6 (Bwydydd anifeiliaid);

(f)Atodlen 7 (Deunydd risg penodedig, cig a wahenir yn fecanyddol a thechnegau cigydda); ac

(g)Atodlen 8 (Cyfyngiadau ar roi ar y farchnad ac allforio).

RHAN 3Gweinyddu a Gorfodi

Cymeradwyo, awdurdodi, trwyddedu neu gofrestru

7.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru roi cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hyn os ydynt wedi eu bodloni y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad TSE yr UE a’r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i gymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad fod mewn ysgrifen a rhaid iddi neu iddo bennu—

(a)cyfeiriad y fangre;

(b)enw’r meddiannydd; ac

(c)y diben y’i rhoddir ar ei gyfer.

(3Caniateir i gymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad gael ei gwneud neu ei wneud yn ddarostyngedig i’r amodau hynny sy’n angenrheidiol er mwyn—

(a)sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad TSE yr UE a’r Rheoliadau hyn; neu

(b)diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.

(4Pan fônt yn gwrthod rhoi cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad, neu’n rhoi un yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi rhesymau mewn ysgrifen; a

(b)egluro bod hawl gan y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

(5Yna bydd y weithdrefn apelio yn rheoliad 11 yn gymwys.

Dyletswydd y meddiannydd

8.  Mae meddiannydd unrhyw fangre a gymeradwyir, a awdurdodir, a drwyddedir neu a gofrestrir o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd oni bai ei fod yn sicrhau—

(a)bod y fangre yn cael ei chynnal a’i gweithredu yn unol ag—

(i)unrhyw amod o’r gymeradwyaeth, yr awdurdodiad, y drwydded neu’r cofrestriad;

(ii)gofynion Rheoliad TSE yr UE a’r Rheoliadau hyn; a

(b)bod unrhyw berson a gyflogir ganddo, ac unrhyw berson y caniateir iddo fynd i’r fangre, yn cydymffurfio â’r amodau a’r gofynion hynny.

Atal dros dro a diwygio

9.—(1Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddiwygio cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn—

(a)os na chyflawnwyd unrhyw un neu ragor o’r amodau y’i rhoddwyd oddi tanynt; neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni na chydymffurfir â darpariaethau Rheoliad TSE yr UE neu ddarpariaethau’r Rheoliadau hyn.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hynny’n angenrheidiol yng ngoleuni datblygiadau technegol neu wyddonol.

(3Mewn perthynas ag ataliad dros dro neu ddiwygiad—

(a)caiff gael effaith ar unwaith os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; a

(b)fel arall, caiff gael effaith ar ôl i gyfnod o 21 o ddiwrnodau o leiaf ddod i ben.

(4Rhaid i’r hysbysiad am yr ataliad dros dro neu’r diwygiad—

(a)bod mewn ysgrifen;

(b)datgan pa bryd y bydd yr ataliad dros dro neu’r diwygiad yn cael effaith;

(c)rhoi’r rhesymau; a

(d)egluro bod hawl gan y person a hysbyswyd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

(5Yna bydd y weithdrefn apelio yn rheoliad 11 yn gymwys.

(6Os nad yw’r ataliad dros dro neu’r diwygiad yn cael effaith ar unwaith a bod sylwadau’n cael eu cyflwyno o dan reoliad 11, ni chaiff gael effaith hyd nes bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu ar yr apêl yn derfynol, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i’r ataliad dros dro neu’r diwygiad gael effaith cyn hynny er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.

Dirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad

10.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni na fydd y fangre yn cael ei rhedeg yn unol â Rheoliad TSE yr UE neu’r Rheoliadau hyn ac—

(a)os yw wedi ei hatal neu ei atal dros dro ar hyn o bryd a’r cyfnod ar gyfer apelio o dan reoliad 11 wedi dod i ben neu’r ataliad dros dro wedi ei gadarnhau yn dilyn apêl o’r fath;

(b)os oedd wedi ei hatal neu ei atal dros dro yn flaenorol ac y bu anghydffurfio pellach â Rheoliad TSE yr UE neu’r Rheoliadau hyn; neu

(c)os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r meddiannydd bellach yn defnyddio’r fangre at y diben y’i rhoddwyd ar ei gyfer.

(2Rhaid i’r hysbysiad am y dirymiad—

(a)bod mewn ysgrifen;

(b)datgan pa bryd y bydd y dirymiad yn cael effaith;

(c)rhoi’r rhesymau; a

(d)egluro bod hawl gan y person a hysbyswyd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn dirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad o dan baragraff (1)(b) neu (1)(c) bydd y weithdrefn apelio yn rheoliad 11 yn gymwys, ond bydd y dirymiad yn parhau mewn grym yn ystod y weithdrefn apelio honno.

Y weithdrefn apelio

11.—(1Pan fo’r weithdrefn apelio yn y rheoliad hwn yn gymwys, caiff person gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru, o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl hysbysu’r person hwnnw am y penderfyniad.

(2Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person a benodir ynglŷn â’r penderfyniad o fewn 21 o ddiwrnodau i gael sylwadau’r apelydd.

(3Yna rhaid i’r person a benodir gyflwyno adroddiad mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig i’r apelydd am benderfyniad terfynol Gweinidogion Cymru a’r rhesymau drosto.

(5Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod angen cymryd camau ar unwaith er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd neu les anifeiliaid, ni chaniateir iddynt ladd unrhyw anifail na difa unrhyw beth o dan y Rheoliadau hyn—

(a)hyd nes y bydd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau wedi dod i ben heb i unrhyw apêl gael ei chyflwyno; neu

(b)os gwneir apêl, hyd nes i’r apêl honno gael ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.

Prisiadau

12.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo prisiad yn angenrheidiol o dan y Rheoliadau hyn.

(2Caiff y perchennog a Gweinidogion Cymru gytuno ar brisiad.

(3Os na all y perchennog a Gweinidogion Cymru gytuno ar brisiad, cânt enwebu prisiwr ar y cyd i gynnal prisiad.

(4Os na all y perchennog a Gweinidogion Cymru gytuno ar bwy ddylai’r prisiwr fod, rhaid i’r prisiad gael ei gynnal gan brisiwr sydd â’i enw ar restr a gynhelir gan Weinidogion Cymru, ac a enwebir gan Lywydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, neu gan Lywydd Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol, yn ôl fel y penderfynir gan Weinidogion Cymru.

(5Rhaid i’r prisiwr gynnal y prisiad a’i gyflwyno ynghyd ag unrhyw wybodaeth a dogfennaeth berthnasol arall i Weinidogion Cymru, a darparu copi i’r perchennog.

(6Mae hawl gan y perchennog a chynrychiolydd Gweinidogion Cymru i fod yn bresennol yn ystod prisiad.

(7Mae’r prisiad yn rhwymo’r perchennog a Gweinidogion Cymru.

(8Yn y rheoliad hwn, ystyr “perchennog” (“owner”) yw perchennog yr anifail neu’r cynnyrch o dan sylw.

Penodi arolygwyr

13.—(1Ac eithrio fel a bennir ym mharagraff (2), caiff Gweinidogion Cymru a’r awdurdod lleol benodi arolygwyr at ddibenion gorfodi’r Rheoliadau hyn.

(2Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd benodi arolygwyr at ddibenion gorfodi Atodlenni 7 ac 8 mewn perthynas â lladd-dy neu safle torri.

(3Caniateir i benodiad arolygydd (pa un ai o dan baragraff (1) neu (2)) fod yn gyfyngedig i bwerau a dyletswyddau a bennir yn y penodiad.

Pwerau mynediad

14.—(1Caiff arolygydd, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol, fynd i unrhyw fangre (ac eithrio os defnyddir hi yn llwyr neu’n bennaf fel annedd breifat) ar unrhyw adeg resymol at ddiben gweithredu neu orfodi Rheoliad TSE yr UE neu’r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i’r arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos rhyw ddogfen sydd wedi ei dilysu yn briodol ac sy’n dangos ei awdurdod cyn arfer ei hawl o dan baragraff (1).

(3Nid yw’r gofyniad i roi rhybudd o dan baragraff (1) yn gymwys pan fo—

(a)y meddiannydd wedi hepgor y gofyniad;

(b)ymdrechion rhesymol i adnabod y meddiannydd wedi methu;

(c)ymdrechion rhesymol i gytuno ar apwyntiad wedi methu; neu

(d)pan fo gan arolygydd amheuaeth resymol o fethiant i gydymffurfio â Rheoliad TSE yr UE neu’r Rheoliadau hyn.

(4Caiff arolygydd fynd â’r personau eraill hynny y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol gydag ef.

(5Os yw arolygydd yn mynd i unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu neu (pan fo’r fangre wedi ei meddiannu) os yw meddiannydd y fangre yn absennol dros dro, rhaid iddo adael y fangre honno (i’r graddau y bo’n ymarferol resymol) wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag ydoedd cyn dyfodiad yr arolygydd.

(6Os yw ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth mewn ysgrifen ar lw, wedi ei fodloni bod sail resymol dros fynd i unrhyw fangre (gan gynnwys tŷ annedd) at ddibenion gorfodi Rheoliad TSE yr UE a’r Rheoliadau hyn, a—

(a)bod mynediad wedi ei wrthod, neu y disgwylir iddo gael ei wrthod, ac (yn y naill achos neu’r llall) fod hysbysiad o gais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;

(b)y byddai gofyn am gael mynediad, neu roi hysbysiad o’r fath, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i mewn;

(c)bod yr achos yn achos brys; neu

(d)bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad, drwy warant a lofnodwyd, awdurdodi arolygydd i fynd i’r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol pe bai angen.

(7Mae gwarant o dan y rheoliad hwn yn ddilys am un mis.

Pwerau arolygwyr

15.—(1Caiff arolygydd—

(a)ymafael yn unrhyw—

(i)anifail;

(ii)corff anifail, ac unrhyw rannau o’r corff (gan gynnwys y gwaed a’r croen) ac unrhyw semen, embryo neu ofwm;

(iii)protein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid; neu

(iv)llaeth neu gynnyrch llaeth,

a’u gwaredu yn ôl yr angen;

(b)cynnal unrhyw ymholiadau, ymchwiliadau, archwiliadau a phrofion;

(c)casglu, corlannu ac arolygu unrhyw anifail ac at y pwrpas hwn caiff ei gwneud yn ofynnol bod ceidwad unrhyw anifail o’r fath yn trefnu i gasglu a chorlannu’r anifail;

(d)arolygu unrhyw gorff anifail ac unrhyw rannau o’r corff (gan gynnwys y gwaed a’r croen) ac unrhyw semen, embryo neu ofwm;

(e)arolygu unrhyw ran o’r fangre, unrhyw gyfarpar, cyfleuster, gwaith neu weithdrefn;

(f)cymryd unrhyw samplau;

(g)ymafael yn unrhyw basbort gwartheg neu ei gadw;

(h)cael mynediad i unrhyw gofnodion (ym mha ffurf bynnag y’u delir), eu harolygu a’u copïo, er mwyn penderfynu a gydymffurfir â’r Rheoliadau hyn, gan gynnwys cofnodion a gedwir o dan Reoliad TSE yr UE a’r Rheoliadau hyn, neu fynd â chofnodion o’r fath ymaith er mwyn galluogi iddynt gael eu copïo;

(i)cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur, ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad ag unrhyw gofnod, eu harolygu a gwirio eu gweithrediad; ac at y diben hwn, caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sy’n gyfrifol am weithredu’r cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu’n gysylltiedig fel arall â’u gweithredu, yn rhoi iddo ba bynnag gymorth y mae’n rhesymol i’r arolygydd ei gwneud yn ofynnol (gan gynnwys darparu unrhyw gyfrineiriau angenrheidiol iddo), a phan gedwir cofnod ar gyfrifiadur, caiff ei gwneud yn ofynnol bod y cofnodion yn cael eu cynhyrchu ar ffurf sy’n caniatáu eu cludo ymaith;

(j)marcio unrhyw beth (gan gynnwys anifail) yn electronig neu fel arall, at y diben o’i adnabod; a

(k)cloi neu selio unrhyw gynhwysydd neu storfa.

(2Mae unrhyw berson sy’n difwyno, yn difodi neu’n tynnu unrhyw farc neu sêl, neu’n tynnu unrhyw glo, a osodwyd o dan baragraff (1) yn cyflawni trosedd.

(3Nid yw arolygydd yn atebol yn bersonol am unrhyw beth a wneir—

(a)wrth weithredu neu honni gweithredu’r Rheoliadau hyn; a

(b)o fewn cwmpas ei gyflogaeth,

os oedd yr arolygydd yn gweithredu gan gredu yn onest bod dyletswydd yr arolygydd o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol ei fod yn ei wneud, neu’n rhoi’r hawl iddo i’w wneud; ond nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd ar ran cyflogwr yr arolygydd.

Hysbysiadau

16.—(1Os yw hynny’n angenrheidiol, am unrhyw reswm sy’n gysylltiedig â gorfodi Rheoliad TSE yr UE neu’r Rheoliadau hyn, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad—

(a)i berchennog neu geidwad unrhyw anifail;

(b)i’r person sy’n meddu ar gorff neu unrhyw ran o gorff anifail (gan gynnwys y gwaed a’r croen) neu unrhyw semen, embryo neu ofwm;

(c)i’r person sy’n meddu ar unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid, neu sy’n eu cyflenwi; neu

(d)i berchennog, neu’r person sy’n meddu ar, unrhyw laeth neu gynhyrchion llaeth.

(2Rhaid i’r hysbysiad fod mewn ysgrifen.

(3Caiff yr hysbysiad—

(a)gwahardd neu ei gwneud yn ofynnol symud unrhyw anifail i mewn neu allan o’r fangre a bennir yn yr hysbysiad;

(b)gwahardd symud unrhyw laeth neu gynhyrchion llaeth o’r fangre a bennir yn yr hysbysiad;

(c)pennu’r rhannau hynny o’r fangre y caniateir neu na chaniateir i anifail gael mynediad iddynt;

(d)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw anifail yn cael ei ladd neu ei gigydda;

(e)gwahardd neu ei gwneud yn ofynnol symud corff unrhyw anifail neu unrhyw ran o gorff (gan gynnwys gwaed a chroen) unrhyw anifail, unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid, ac unrhyw semen, embryo neu ofwm anifeiliaid i mewn neu allan o’r fangre a bennir yn yr hysbysiad;

(f)ei gwneud yn ofynnol bod corff neu unrhyw ran o gorff (gan gynnwys gwaed a chroen) unrhyw anifail (pa un a yw’n anifail yr oedd yn ofynnol ei ddal dan gadw ai peidio) ac unrhyw semen, embryo, ofwm, llaeth neu gynnyrch llaeth a bennir yn yr hysbysiad yn cael eu gwaredu;

(g)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid yn cael eu gwaredu neu bennu sut y maent i’w defnyddio;

(h)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid yn cael eu hadalw;

(i)ei gwneud yn ofynnol bod meddiannydd lladd-dy—

(i)yn cymryd sampl o anifeiliaid yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2, neu

(ii)yn caniatáu i filfeddyg swyddogol gymryd sampl o anifeiliaid yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2;

(j)ei gwneud yn ofynnol bod y fangre gyfan neu unrhyw ran o’r fangre (ac unrhyw gyfarpar cysylltiedig) yn cael eu glanhau a’u diheintio pan fo arolygydd yn amau bod risg i iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; neu

(k)ei gwneud yn ofynnol cymryd unrhyw gam y mae arolygydd yn credu’n rhesymol ei fod yn angenrheidiol er mwyn rheoli lledaeniad clefyd.

(4Caiff hysbysiad bennu’r modd y bydd rhaid cydymffurfio â’r hysbysiad, a phennu terfynau amser.

(5Rhaid cydymffurfio â hysbysiad ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac oni chydymffurfir ag ef caiff arolygydd drefnu ar gyfer cydymffurfio ag ef ar draul y person hwnnw.

(6Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad yn drosedd.

Cyflwyno hysbysiadau

17.—(1Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn fod mewn ysgrifen a chaniateir ei ddiwygio, ei atal dros dro neu ei ddirymu ar unrhyw adeg.

(2Caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad o’r fath drwy—

(a)ei ddanfon i’r person;

(b)ei adael ym mhriod gyfeiriad y person; neu

(c)ei anfon at y person drwy’r post neu drwy gyfrwng electronig yn y cyfeiriad hwnnw.

(3Caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad o’r fath—

(a)yn achos corff corfforaethol, i un o swyddogion y corff;

(b)yn achos partneriaeth, i bartner neu berson a chanddo reolaeth ar, neu sy’n rheoli, busnes y bartneriaeth; ac

(c)yn achos cymdeithas anghorfforedig, i un o swyddogion y gymdeithas.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “priod gyfeiriad” (“proper address”) yw—

(a)yn achos corff corfforaethol neu un o swyddogion y corff hwnnw—

(i)cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw, neu

(ii)cyfeiriad e-bost y swyddog;

(b)yn achos partneriaeth, partner neu berson a chanddo reolaeth ar, neu sy’n rheoli, busnes y bartneriaeth—

(i)cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth, neu

(ii)cyfeiriad e-bost y partner neu’r person a chanddo’r rheolaeth honno, neu sy’n rheoli felly;

(c)yn achos cymdeithas anghorfforedig neu un o swyddogion y gymdeithas—

(i)cyfeiriad prif swyddfa’r gymdeithas, neu

(ii)cyfeiriad e-bost y swyddog; a

(d)mewn unrhyw achos arall, y cyfeiriad hysbys diwethaf ar gyfer person, gan gynnwys cyfeiriad e-bost.

(5At ddiben paragraff (4), prif swyddfa corff corfforaethol sy’n gofrestredig y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu bartneriaeth neu bartneriaeth Albanaidd a sefydlwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig yw ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa yn y Deyrnas Unedig.

(6Os na ellir dod o hyd i enw neu gyfeiriad unrhyw feddiannydd mangre y mae hysbysiad i’w gyflwyno iddo o dan y Rheoliadau hyn, ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno’r hysbysiad drwy ei adael wedi ei osod yn weladwy ar adeilad neu wrthrych yn y fangre.

(7Caiff hysbysiad bennu bod person sy’n ei gael yn rhoi gwybod ar unwaith i arolygydd ei fod wedi ei gael yn ddiogel.

(8Rhaid i berson gydymffurfio â thelerau unrhyw hysbysiad a gyflwynir, a roddir neu a arddangosir o dan y Rheoliadau hyn.

(9Yn y rheoliad hwn—

mae “corff corfforaethol” (“body corporate”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig,

ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol,

nid yw “partneriaeth” (“partnership”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig,

ystyr “swyddog” (“officer”) mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o’r corff corfforaethol.

Hysbysiadau sy’n cyfyngu ar symud

18.—(1Os cyflwynir hysbysiad sy’n cyfyngu ar symudiadau unrhyw anifail neu gynnyrch, caiff arolygwyr wedi hynny ganiatáu symud o dan awdurdod trwydded.

(2Rhaid i’r person sy’n cludo’r anifail neu’r cynnyrch o dan awdurdod trwydded fynd â’r drwydded gydag ef yn ystod unrhyw symudiad, a’i dangos i unrhyw arolygydd sy’n gofyn am gael ei gweld, ac mae methu â gwneud hynny yn drosedd.

Troseddau eraill

19.  Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—

(a)yn fwriadol yn rhwystro arolygydd sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn;

(b)heb achos rhesymol, yn methu â rhoi unrhyw gymorth neu wybodaeth i arolygydd sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn neu’n methu â darparu unrhyw gyfleusterau y mae’r arolygydd yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol bod y person hwnnw yn eu rhoi neu’n eu darparu er mwyn i’r arolygydd gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;

(c)yn rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i arolygydd sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn;

(d)yn methu â dangos cofnod pan fo’n ofynnol iddo wneud hynny gan arolygydd sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn;

(e)yn methu â chydymffurfio â gofynion unrhyw hysbysiad neu drwydded a gyflwynwyd neu a ddyroddwyd o dan y Rheoliadau hyn; neu

(f)yn methu â chydymffurfio â’r gofynion TSE.

Cosbau

20.  Mae person sy’n euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.

Troseddau corfforaethol

21.—(1Os dangosir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—

(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,

mae’r swyddog yn ogystal â’r corff corfforaethol yn agored i gael ei erlyn.

(2Os rheolir materion corff corfforaethol gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â’i swyddogaethau rheoli, fel pe bai’n un o gyfarwyddwyr y corff.

(3Os dangosir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth—

(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner; neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,

mae’r partner yn ogystal â’r bartneriaeth yn agored i gael ei erlyn.

(4Os dangosir bod unrhyw drosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig, ac eithrio partneriaeth—

(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o’i chorff llywodraethu; neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog neu’r aelod hwnnw,

mae’r swyddog neu’r aelod hwnnw yn ogystal â’r gymdeithas yn agored i gael ei erlyn.

(5Yn y rheoliad hwn—

mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel partner; ac

ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig, yw cyfarwyddwr, aelod o’r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff, neu berson sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath.

Gorfodi

22.—(1Gorfodir Atodlen 2 mewn lladd-dai a safleoedd torri gan Weinidogion Cymru.

(2Gorfodir Atodlen 7 a pharagraff 1 o Atodlen 8 mewn lladd-dai a safleoedd torri gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

(3Fel arall, gorfodir y Rheoliadau hyn gan yr awdurdod lleol.

(4Mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn unrhyw achos penodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod rhaid i ddyletswydd orfodi a osodir ar yr awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn gael ei chyflawni gan Weinidogion Cymru, ac nid gan yr awdurdod lleol.

Diwygiadau canlyniadol

23.—(1Yn Atodlen 3 i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(15), yn lle “Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008” rhodder “Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018”.

(2Mae Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014(16) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 20(a) (cosbau), hepgorer “nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol”;

(b)yn rheoliad 29(1) (darpariaeth drosiannol), hepgorer “ar gyfer y cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2014,”;

(c)yn Atodlen 2, hepgorer paragraff 7.

Dirymiadau

24.  Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008(17);

(b)Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008(18);

(c)Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2009(19);

(d)Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2010(20);

(e)Rheoliadau Gwartheg Hŷn (Gwaredu) (Cymru) 2006(21);

(f)Rheoliadau Crwyn Gwartheg 1997(22); ac

(g)Rheoliadau Difa Detholus (Gorfodi Amodau Digolledu’r Gymuned) 1996(23).

Darpariaethau trosiannol

25.  Mae unrhyw hysbysiad, cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad a ddyroddwyd, a gyflwynwyd, a wnaed neu a roddwyd o dan Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008 ac sy’n cael effaith pan fo’r Rheoliadau hyn yn dod i rym yn parhau mewn grym fel pe bai wedi ei ddyroddi neu ei dyroddi, ei gyflwyno neu ei chyflwyno, ei wneud neu ei gwneud, neu ei roi neu ei rhoi o dan y Rheoliadau hyn.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

4 Medi 2018

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill