- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 6(b)
1.—(1) At ddibenion Erthygl 11, rhaid i unrhyw berson sydd ag unrhyw anifail buchol yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth sydd o dan amheuaeth o fod wedi ei effeithio gan TSE hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith a chadw’r anifail yn y daliad hyd nes yr archwilir yr anifail gan arolygydd milfeddygol.
(2) Rhaid i unrhyw filfeddyg sy’n archwilio neu’n arolygu unrhyw anifail o’r fath hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl.
(3) Rhaid i unrhyw berson (ac eithrio Gweinidogion Cymru) sy’n archwilio corff unrhyw anifail buchol, neu unrhyw ran ohono, mewn labordy ac sy’n amau’n rhesymol fod TSE yn bresennol hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith, a chadw’r corff ac unrhyw rannau ohono hyd nes yr awdurdodir eu gwaredu gan arolygydd milfeddygol.
(4) Mae methu â chydymffurfio â’r paragraff hwn yn drosedd.
2.—(1) Os yw anifail buchol yn destun hysbysiad o dan baragraff 1 neu yr amheuir fel arall ei fod wedi ei heintio â TSE at ddibenion Erthygl 12, rhaid i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud yr anifail hwnnw o’i ddaliad.
(2) Ni chaniateir symud anifeiliaid sydd o dan gyfyngiadau ac eithrio yn unol â rheoliad 18.
(3) Os yw’r arolygydd milfeddygol yn penderfynu, yn dilyn ymchwiliad, nad amheuir bod unrhyw anifail yn y daliad wedi ei heintio â TSE, rhaid i’r arolygydd dynnu’r holl gyfyngiadau ar y daliad hwnnw a dychwelyd unrhyw basbortau gwartheg a gadwyd.
3.—(1) At ddibenion Erthygl 12(1) a (2) os yw arolygydd milfeddygol yn amau bod anifail buchol wedi ei heintio â TSE, rhaid i’r arolygydd milfeddygol naill ai—
(a)ei ladd yn y daliad ar unwaith;
(b)tynnu ei basbort gwartheg yn ôl; neu
(c)sicrhau bod ei basbort gwartheg wedi ei stampio “Not for human consumption”.
(2) Os lleddir yr anifail yn y daliad (neu os yw’n marw yno), mae symud y corff o’r daliad hwnnw neu ei waredu, ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd milfeddygol, yn drosedd.
4.—(1) At ddibenion Erthygl 12(1), yn dilyn achos o amheuaeth o TSE (pa un ai mewn anifail byw neu drwy fonitro)—
(a)rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud o’i ddaliad unrhyw anifail buchol sydd yn yr un daliad â’r anifail sydd o dan amheuaeth os yw’r arolygydd yn ystyried y bu’r anifail sydd o dan amheuaeth yn agored i TSE yn y daliad hwnnw;
(b)caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud unrhyw anifail buchol i unrhyw ddaliad neu o unrhyw ddaliad os oes tystiolaeth y bu’r anifail sydd o dan amheuaeth yn agored i TSE yn y daliad hwnnw.
(2) Rhaid i’r arolygydd adnabod—
(a)(os yw’r anifail sydd o dan amheuaeth yn fenyw) ei holl epil a anwyd o fewn y ddwy flynedd cyn, neu ar ôl—
(i)cychwyniad clinigol y clefyd, neu
(ii)pan na wnaeth yr anifail arddangos arwyddion clefyd clinigol, dyddiad ei farwolaeth; a
(b)(ym mhob achos) pob un o’i gohortau buchol a anwyd ar 1 Awst 1996 neu ar ôl hynny,
ac at y dibenion hyn dyddiad geni anifail yw’r un a ddangosir ar ei basbort gwartheg.
(3) Rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiadau yn gwahardd symud yr anifeiliaid hynny o’r daliad lle y’u cedwir neu lle y mae’r arolygydd yn amau y gallent fod yn cael eu cadw (pa un ai’r un daliad yw hwnnw â’r daliad lle cedwir yr anifail sydd o dan amheuaeth ai peidio) a thynnu yn ôl eu pasbortau gwartheg.
(4) Os na ellir adnabod yr anifeiliaid yn is-baragraff (2) ar unwaith caiff arolygydd wahardd symud unrhyw anifail buchol o’r daliad hyd nes y gellir ei adnabod.
(5) Ni chaniateir symud anifeiliaid sydd o dan gyfyngiadau ac eithrio yn unol â rheoliad 18.
5.—(1) Os ceir cadarnhad bod anifail wedi ei heintio â TSE rhaid i arolygydd—
(a)(os yw’r anifail yn fenyw) lladd pob un o’i hepil a anwyd o fewn dwy flynedd cyn, neu ar ôl—
(i)cychwyniad clinigol y clefyd neu,
(ii)pan na wnaeth yr anifail arddangos arwyddion clefyd clinigol, dyddiad ei farwolaeth; a
(b)(ym mhob achos) lladd pob un o’r anifeiliaid buchol yn ei gohort a anwyd ar 1 Awst 1996 neu ar ôl hynny, ac eithrio pan fo’r arolygydd wedi ei fodloni—
(i)(ym mhob achos) nad oedd gan yr anifail fynediad at yr un bwyd anifeiliaid â’r anifail yr effeithiwyd arno; neu
(ii)(pan fo’r anifail yn darw) y cedwir yr anifail mewn canolfan casglu semen yn barhaus, ac na fydd yn cael ei symud oddi yno, ac mewn achos o’r fath caniateir gohirio’r lladd hyd ddiwedd oes gynhyrchiol yr anifail hwnnw.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), dyddiad geni anifail yw’r un a ddangosir ar ei basbort gwartheg.
(3) Mae’r weithdrefn apelio yn rheoliad 11 yn gymwys i benderfyniad i ladd o dan is-baragraff (1)(b).
(4) Pan fo is-baragraff (1)(b)(ii) yn gymwys, mae’n drosedd i symud yr anifail o’r ganolfan casglu semen ac eithrio yn unol â thrwydded a ddyroddwyd o dan reoliad 18.
(5) Os yw anifail i’w ladd yn unol â’r paragraff hwn, ond nad yw i’w ladd yn y daliad, rhaid i arolygydd sicrhau bod ei basbort gwartheg yn cael ei stampio “Not for human consumption”.
(6) Os yw canlyniad y prawf yn negyddol rhaid i’r arolygydd dynnu’r holl gyfyngiadau a osodwyd oherwydd yr anifail a oedd o dan amheuaeth a dychwelyd y pasbortau gwartheg.
(7) Pan leddir anifail o dan y paragraff hwn, mae’n drosedd symud y carcas o’r fangre lle y’i lladdwyd ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig oddi wrth arolygydd.
6. Os bydd farw neu os lleddir unrhyw anifail tra bo o dan gyfyngiad am unrhyw reswm o dan yr Atodlen hon, rhaid i’r perchennog hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith a chadw’r corff yn y fangre hyd nes y caiff gyfarwyddyd gan arolygydd i’w symud neu ei waredu, ac mae’n drosedd i fethu â chydymffurfio â’r paragraff hwn neu fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd oddi tano.
7. Mae unrhyw berson sy’n rhoi anifail ar y farchnad y mae’r person hwnnw yn gwybod ei fod yr epil diwethaf y rhoddodd anifail buchol benywaidd sydd wedi ei heintio â TSE enedigaeth iddo yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd cyn, neu yn ystod y cyfnod sy’n dilyn—
(a)yr arwyddion clinigol cyntaf o gychwyniad y clefyd, neu
(b)pan na wnaeth yr anifail arddangos arwyddion clefyd clinigol, dyddiad ei farwolaeth,
yn cyflawni trosedd.
8.—(1) Os ganwyd neu os magwyd anifail buchol yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996, mae’n drosedd—
(a)i’w draddodi i ladd-dy ar gyfer ei fwyta gan bobl (pa un a yw’r anifail yn fyw neu’n farw); neu
(b)i’w gigydda ar gyfer ei fwyta gan bobl.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), bernir bod anifail buchol wedi ei eni neu ei fagu yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 oni bai bod ei basbort gwartheg yn dangos naill ai—
(a)ei fod wedi ei eni yn y Deyrnas Unedig ar 1 Awst 1996 neu ar ôl hynny; neu
(b)y daeth i’r Deyrnas Unedig am y tro cyntaf ar 1 Awst 1996 neu ar ôl hynny.
9. Rhaid i Weinidogion Cymru dalu digollediad—
(a)pan leddir anifail o dan yr Atodlen hon; a
(b)pan fo anifail yn ddarostyngedig i gyfyngiad ar symud o dan yr Atodlen hon, ac y bu’n rhaid ei ladd fel mesur argyfwng, a milfeddyg wedi datgan mewn ysgrifen y byddai’r anifail, fel arall, wedi bod yn addas ar gyfer ei fwyta gan bobl yn unol â Phennod VI o Adran I o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004, ac mewn achos o’r fath y digollediad yw gwerth y corff (gan gynnwys y gwaed a’r croen).
10.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 11, y digollediad sy’n daladwy am unrhyw wartheg domestig yw pris cyfartalog y farchnad ar gyfer y categori y mae’r anifail yn perthyn iddo ar y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad o’r bwriad i ladd fel a nodir yn y tabl yn is-baragraff (6) ac—
(a)yn achos anifeiliaid di-bedigri, caiff ei gyfrifo bob mis o ddata prisiau gwerthu anifeiliaid yn y categori hwnnw mewn cysylltiad â gwerthiannau sy’n digwydd yn ystod y cyfnod sy’n dod i ben ar 20fed diwrnod y mis blaenorol ac sy’n dechrau ar 21ain diwrnod y mis cyn hynny;
(b)yn achos anifeiliaid pedigri, caiff ei gyfrifo bob mis o ddata prisiau gwerthu anifeiliaid yn y categori hwnnw mewn cysylltiad â gwerthiannau sy’n digwydd dros gyfnod treigl o chwe mis sy’n cwmpasu’r chwe mis sy’n dod i ben ar 20fed diwrnod y mis blaenorol ac sy’n dechrau ar 21ain diwrnod y mis sydd chwe mis cyn hynny.
(2) Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer digollediad rhaid i anifail gael ei adnabod drwy gyfrwng tagiau clust a rhaid cyflwyno, ar adeg y cigydda neu cyn hynny, basbort gwartheg mewn cysylltiad â’r anifail hwnnw i Weinidogion Cymru neu i asiant sy’n gweithredu ar eu rhan.
(3) Y data prisiau gwerthu yw’r data a gesglir mewn perthynas â gwartheg domestig o farchnadoedd storio, prif farchnadoedd, gwerthiannau lloi magu, gwerthiannau bridio a gwerthiannau gwasgaru ym Mhrydain Fawr.
(4) Pris cyfartalog y farchnad ar gyfer categori y mae data prisiau gwerthu wedi eu casglu ar ei gyfer yw’r swm a geir drwy rannu swm y prisiau gwerthu hynny â chyfanswm yr anifeiliaid yn y categori hwnnw.
(5) Mae anifail yn anifail pedigri at ddibenion y paragraff hwn, ar yr adeg y cyflwynir yr hysbysiad o’r bwriad i’w ladd—
(a)os yw’r anifail yn gyfan; a
(b)os yw’r anifail, ar yr adeg y cyflwynir yr hysbysiad rheoliad 16(3)(d), yn anifail bridio pur sydd wedi ei gofnodi neu ei gofrestru ac yn gymwys i’w gofnodi ym mhrif adran llyfr bridio, ac y mae tystysgrif bedigri wedi ei dyroddi ar ei gyfer gan gymdeithas brid sydd wedi ei chydnabod gan Weinidogion Cymru o dan Erthygl 4 neu Erthygl 64(4) o Reoliad (EU) 2016/1012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar amodau sootechnegol ac achyddol ar gyfer bridio anifeiliaid bridio pur, eu masnachu a rhoi mynediad iddynt i’r Undeb(1).
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gategoreiddio anifeiliaid yn unol â’r tabl a ganlyn, ac at ddibenion penderfynu pa gategori y mae’r anifail yn perthyn iddo, oedran yr anifail yw’r oedran, a ddangosir ar ei basbort gwartheg, ar y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad o’r bwriad i’w ladd—
Gwryw | Benyw |
---|---|
Y Sector Cig Eidion — anifail di-bedigri | Y Sector Cig Eidion — anifail di-bedigri |
Hyd at a chan gynnwys 3 mis | Hyd at a chan gynnwys 3 mis |
Dros 3 mis hyd at a chan gynnwys 6 mis | Dros 3 mis hyd at a chan gynnwys 6 mis |
Dros 6 mis hyd at a chan gynnwys 9 mis | Dros 6 mis hyd at a chan gynnwys 9 mis |
Dros 9 mis hyd at a chan gynnwys 12 mis | Dros 9 mis hyd at a chan gynnwys 12 mis |
Dros 12 mis hyd at a chan gynnwys 16 o fisoedd | Dros 12 mis hyd at a chan gynnwys 16 o fisoedd |
Dros 16 o fisoedd hyd at a chan gynnwys 20 mis | Dros 16 o fisoedd hyd at a chan gynnwys 20 mis |
Dros 20 mis, teirw bridio | Dros 20 mis, wedi bwrw llo |
Dros 20 mis, teirw nad ydynt ar gyfer bridio | Dros 20 mis, heb fwrw llo |
Y Sector Llaeth — anifail di-bedigri | Y Sector Llaeth — anifail di-bedigri |
Hyd at a chan gynnwys 3 mis | Hyd at a chan gynnwys 3 mis |
Dros 3 mis hyd at a chan gynnwys 6 mis | Dros 3 mis hyd at a chan gynnwys 6 mis |
Dros 6 mis hyd at a chan gynnwys 12 mis | Dros 6 mis hyd at a chan gynnwys 12 mis |
Dros 12 mis hyd at a chan gynnwys 16 o fisoedd | Dros 12 mis hyd at a chan gynnwys 16 o fisoedd |
Dros 16 o fisoedd hyd at a chan gynnwys 20 mis | Dros 16 o fisoedd hyd at a chan gynnwys 20 mis |
Dros 20 mis | Dros 20 mis hyd at a chan gynnwys 84 o fisoedd, wedi bwrw llo |
Dros 20 mis hyd at a chan gynnwys 84 o fisoedd, heb fwrw llo | |
Dros 84 o fisoedd | |
Y Sector Cig Eidion — anifail pedigri | Y Sector Cig Eidion — anifail pedigri |
Hyd at a chan gynnwys 6 mis | Hyd at a chan gynnwys 6 mis |
Dros 6 mis hyd at a chan gynnwys 12 mis | Dros 6 mis hyd at a chan gynnwys 12 mis |
Dros 12 mis hyd at a chan gynnwys 24 o fisoedd | Dros 12 mis hyd at a chan gynnwys 24 o fisoedd |
Dros 24 o fisoedd | Dros 24 o fisoedd, heb fwrw llo |
Dros 24 o fisoedd hyd at a chan gynnwys 36 o fisoedd, wedi bwrw llo | |
Dros 36 o fisoedd, wedi bwrw llo | |
Y Sector Llaeth — anifail pedigri | Y Sector Llaeth — anifail pedigri |
Hyd at a chan gynnwys 2 fis | Hyd at a chan gynnwys 2 fis |
Dros 2 fis hyd at a chan gynnwys 12 mis | Dros 2 fis hyd at a chan gynnwys 10 mis |
Dros 12 mis hyd at a chan gynnwys 24 o fisoedd | Dros 10 mis hyd at a chan gynnwys 18 mis |
Dros 24 o fisoedd | Dros 18 mis, heb fwrw llo |
Dros 18 mis hyd at a chan gynnwys 36 o fisoedd, wedi bwrw llo | |
Dros 36 o fisoedd hyd at a chan gynnwys 84 o fisoedd, wedi bwrw llo | |
Dros 84 o fisoedd, wedi bwrw llo |
11.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y data ar gyfer cyfrifo pris cyfartalog y farchnad yn unol â pharagraff 10 yn annigonol, caiff Gweinidogion Cymru dalu digollediad fel a ganlyn—
(a)ar gyfer anifeiliaid yn y categori hwnnw, y pris cyfartalog blaenorol a gyfrifwyd ddiwethaf pan oedd data digonol ar gael i gyfrifo’r pris cyfartalog; neu
(b)ar gyfer yr anifail unigol, y gwerth ar y farchnad.
(2) Ar gyfer byfflos neu fualod, y digollediad yw’r gwerth ar y farchnad.
(3) At ddibenion y paragraff hwn, y gwerth ar y farchnad yw’r pris y disgwylid yn rhesymol fod wedi ei gael am yr anifail gan brynwr ar y farchnad agored ar yr adeg y’i prisiwyd, a hynny gan ragdybio nad oedd yr anifail wedi ei effeithio gan TSE.
(4) Pan na fo’r perchennog a Gweinidogion Cymru yn gallu cytuno ar werth ar y farchnad at ddibenion y paragraff hwn, rhaid cynnal y prisiad yn unol â’r weithdrefn a osodir yn rheoliad 12(3) i (7) gyda’r perchennog yn talu unrhyw ffi a godir ynglŷn â’r prisio.
OJ Rhif L 171, 29.06.2016, t. 66.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys