- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
3. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “Atebolrwydd sydd heb ei Dalu” (“Outstanding Liability”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7;
ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs”) yw benthyciad a geir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2019/2020 o dan Ran 6 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(1) neu o dan Ran 8 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(2) mewn cysylltiad â chwrs llawnamser;
ystyr “benthyciwr” (“borrower”) yw person sydd wedi cael benthyciad at gostau byw;
ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Medi, 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Gorffennaf yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr, ar neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf, neu ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst, yn y drefn honno;
ystyr “Blwyddyn Academaidd 2019/2020” (“Academic Year 2019/2020”) yw blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Gwerthu Benthyciadau Myfyrwyr 2008(3);
ystyr “Dyddiad Ad-dalu” (“Repayment Date”) yw’r diwrnod ar ôl y dyddiad yr ystyrir bod ad-daliad cyntaf y benthyciwr ar ei fenthyciad wedi ei gael naill ai gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu gan Weinidogion Cymru, pa un bynnag yr ystyrir iddo ei gael gyntaf (yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998(4));
mae i “Dyddiad Bodloni” (“Satisfaction Date”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 9;
mae “Gweinidogion Cymru” (“Welsh Ministers”) yn cynnwys unrhyw berson y mae Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi dirprwyo eu swyddogaethau iddo o dan adran 23 o Ddeddf 1998(5) neu unrhyw berson y maent wedi trosglwyddo eu hawliau iddo o dan adran 9 o Ddeddf 2008; ac
mae i “Swm Penodedig” (“Specified Amount”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6.
O.S. 2017/47 (Cy. 21), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/191 (Cy. 42), O.S. 2018/814 (Cy. 165) ac O.S. 2019/235 (Cy. 54).
O.S. 2018/191 (Cy. 42), a ddiwygiwyd gan O.S, 2018/813 (Cy. 164), O.S. 2018/814 (Cy. 165) ac O.S. 2019/235 (Cy. 54).
Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn, penderfynir ar y dyddiad yr ystyrir bod ad-daliad benthyciwr wedi ei gael yn unol â rheoliad 17 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (O.S. 2009/470).
Diwygiwyd adran 23 gan adran 146 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), O.S. 2002/808 ac O.S. 2010/1158.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys