- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
15 Awst 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
16 Awst 2019
Yn dod i ryme
9 Medi 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983(1) ac adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3) a phwerau a roddir iddynt o dan adran 5(5)(b) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(4), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau i Gymhwystra Myfyrwyr) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Medi 2019.
2.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(5) wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a)ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—
“(iia)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b)ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014(6) wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 3, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a)ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—
“(iia)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b)ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
4.—(1) Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015(7) wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a)ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—
“(iia)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b)ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
5.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(8) wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a)ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—
“(iia)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b)ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
6.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017(9) wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a)ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—
“(iia)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b)ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
7.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(10) wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 3(4)—
(a)ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—
“(iia)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b)ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
8.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(11) wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a)ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—
“(iia)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b)ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
9.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019(12) wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 4(4)—
(a)ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—
“(iia)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b)ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
15 Awst 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—
(a)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007;
(b)Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014;
(c)Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015;
(d)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017;
(e)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017;
(f)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018;
(g)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018;
(h)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019.
Mae pob un o’r Rheoliadau y cyfeirir atynt wedi eu diwygio er mwyn mewnosod yn y diffiniad o “caniatâd i ddod i mewn neu i aros”, bersonau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros ar sail bywyd teuluol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1983 p. 40; diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p. 56) , Atodlen 37, paragraff 57; Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 21, paragraff 5 ac Atodlen 22; Deddf Addysg 2005 (p. 18) , Atodlen 14, paragraff 9; O.S. 2005/3238, Atodlen 1, paragraff 9; O.S. 2010/1158, Atodlen 2, paragraff 1; Deddf Addysg 2011 (p. 21), Atodlen 5, paragraff 5 ac Atodlen 16, paragraff 5; a Deddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), Atodlen 14, paragraff 33. Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30) (“Deddf 1998”), adran 44 ac Atodlen 4.
1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, adran 146 ac Atodlen 11; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6; Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147; Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7; Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257; Deddf Addysg 2011 (p. 21), adran 76; O.S. 2013/1181 a Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 88. Gweler adran 43(1) o Ddeddf 1998 am y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 (“Deddf 1983”) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 2006/1458 gydag effaith o 8 Mehefin 2006. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 2 o Ddeddf 1983 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(2)(a) i (i) a (k) o Ddeddf 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004, ac mae is-adrannau (a), (c) a (k) yn arferadwy ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42 o Ddeddf 1998, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd holl swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru uchod i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 2007/2310 (Cy. 181), a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy. 101), O.S. 2011/1978 (Cy. 218), O.S. 2018/814 (Cy. 165) ac O.S. 2019/424 (Cy. 98) (o’r diwrnod ymadael ymlaen, fel y diffinnir “exit day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), adran 20(1) i (5)); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2014/3037 (Cy. 303), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/211 (Cy. 84), O.S. 2018/814 (Cy. 165) ac O.S. 2019/424 (Cy. 98) (o’r diwrnod ymadael ymlaen, fel y diffinnir “exit day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, adran 20(1) i (5)).
O.S. 2015/1484 (Cy. 163), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/276 (Cy. 100), O.S. 2018/814 (Cy. 165) ac O.S. 2019/424 (Cy. 98) (o’r diwrnod ymadael ymlaen, fel y diffinnir “exit day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, adran 20(1) i (5)).
O.S. 2017/47 (Cy. 21), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/191 (Cy. 42), O.S. 2018/814 (Cy. 165) ac O.S. 2019/424 (Cy. 98) (o’r diwrnod ymadael ymlaen, fel y diffinnir “exit day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, adran 20(1) i (5)).
O.S. 2017/523 (Cy. 109), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/712O.S. 2018/277 (Cy. 53), O.S. 2018/814 (Cy. 165), O.S. 2019/424 (Cy. 98) (o’r diwrnod ymadael ymlaen, fel y diffinnir “exit day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, adran 20(1) i ( 5)) ac O.S. 2019/895 (Cy. 161).
O.S. 2018/191 (Cy. 42), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/813 (Cy. 164), O.S. 2018/814 (Cy. 165), O.S. 2019/235 (Cy. 54) ac O.S. 2019/424 (Cy. 98) (o’r diwrnod ymadael ymlaen, fel y diffinnir “exit day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, adran 20(1) i (5)).
O.S. 2018/656 (Cy. 124), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/814 (Cy. 165), O.S. 2019/235 (Cy. 54) ac O.S. 2019/424 (Cy. 98) (o’r diwrnod ymadael ymlaen, fel y diffinnir “exit day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, adran 20(1) i (5)).
O.S. 2019/895 (Cy. 161), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/1039 (Cy. 182) (o’r diwrnod ymadael ymlaen, fel y diffinnir “exit day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, adran 20(1) i (5)).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys