- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Gwnaed
29 Ionawr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Ionawr 2019
Yn dod i rym
6 Mawrth 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 2 a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 6 Mawrth 2019.
2. Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018(2)wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
3. Yn erthygl 19(1), yn is-baragraffau (a) a (b), ar ôl “Fraxinus L.,” mewnosoder “Olea europaea L.,”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
29 Ionawr 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 19 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018 sy’n gymwys i blanhigion penodol a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu mewn Aelod-wladwriaeth arall neu yn y Swistir. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i fewnforiwr unrhyw blanhigion o’r fath hysbysu arolygydd awdurdodedig mewn ysgrifen am eu glaniad ddim hwyrach na phedwar diwrnod ar ôl dyddiad eu glaniad yng Nghymru. Mae’r diwygiad yn estyn y gofynion hyn i blanhigion Olea europaea L.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: cangen Iechyd Planhigion a Diogelu’r Amgylchedd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, CF10 3NQ.
1967 p. 8; diwygiwyd adran 2 gan baragraff 8(2)(a) o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), Rhan 1 o’r tabl ym mharagraff 12 o Atodlen 4 i Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 (p. 2), O.S. 1990/2371 ac O.S.2011/1043. Diwygiwyd adran 3(1) gan baragraff 8(2)(a) a (b) o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac O.S. 2011/1043. Mae’r pwerau a roddir gan adrannau 2 a 3(1) yn cael eu rhoi i “competent authority” (“awdurdod cymwys”) a ddiffinnir yn adran 1(2). Diwygiwyd adran 1(2) gan baragraff 43 o Atodlen 2 i O.S. 2013/755 (Cy. 90). Mae adran 1(2), fel y’i diwygiwyd, yn darparu mai’r awdurdod cymwys ar gyfer Cymru yw Gweinidogion Cymru.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys