Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Materion Gwledig a’r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1408 (Cy. 249)

Bwyd, Cymru

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Materion Gwledig a’r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

Gwnaed

28 Hydref 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Hydref 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(2), ac atal ac adfer difrod amgylcheddol(3).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso rheoliadau 3 a 4, fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Materion Gwledig a’r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y’u gosodir.

Diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

2.  Ar ôl rheoliad 18 o Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009(5) mewnosoder—

Adrodd gan awdurdodau gorfodi

18A.(1) Pan fo awdurdod gorfodi wedi cyflwyno hysbysiad i weithredwr cyfrifol o dan reoliad 18(1) ar ôl i’r rheoliad hwn ddod i rym, rhaid i’r awdurdod gorfodi hysbysu Gweinidogion Cymru am y difrod amgylcheddol perthnasol cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl.

(2) Rhaid i’r hysbysiad a ddarperir i Weinidogion Cymru o dan baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)y math o ddifrod amgylcheddol, yn unol â’r categorïau a nodir yn rheoliad 4(1)(a) i (d),

(b)y dyddiad y digwyddodd y difrod amgylcheddol neu y cafodd ei ddarganfod, ac

(c)y gweithgaredd a achosodd y difrod amgylcheddol, yn unol â’r rhestr a nodir yn Atodlen 2, ac eithrio mewn achosion pan fo rheoliad 5(2) yn gymwys.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gorfodi ddarparu unrhyw wybodaeth arall mewn perthynas â’r difrod amgylcheddol y mae’n rhesymol i Weinidogion Cymru ofyn amdani.

Diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010

3.—(1Mae Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(6)(a), ar ôl “unrhyw ddarpariaeth yn y” mewnosoder “Rheoliad Sengl CMO neu”.

(3Yn Atodlen 1, yn y tabl yn Rhan 1, yn rhes 1—

(a)yn lle’r cofnod yng ngholofn 1 rhodder—

Erthygl 116 o’r Rheoliad Sengl CMO i’r graddau y mae’n ymwneud â marchnata wyau deor a chywion;

(b)yn y cofnod yng ngholofn 2, yn lle “Erthygl 116 o’r Rheoliad Sengl CMO a Rhan C o Atodiad XIV iddo,” rhodder “Rhan C o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO”.

(4Yn Atodlen 2, Rhan 1—

(a)yn lle pennawd y tabl rhodder—

RHAN 1

DARPARIAETHAU’R RHEOLIAD SENGL CMO NEU REOLIAD (EU) 2013;

(b)yn y tabl—

(i)yn lle’r pennawd yng ngholofn 1 rhodder—

Y ddarpariaeth berthnasol yn Rheoliad (EU) 2013 neu pan nodir hynny, y Rheoliad Sengl CMO;

(ii)ym mhennawd colofn 2, yn lle “gyda darpariaethau Rheoliad (EU) 2013” rhodder “gyda’r darpariaethau”;

(iii)yn rhes 1, yn lle’r cofnod yng ngholofn 1 rhodder—

Erthygl 116 o’r Rheoliad Sengl CMO, i’r graddau y mae’n ymwneud â marchnata wyau.

(5Yn Atodlen 3, yn lle’r cofnod yng ngholofn 2, rhes 3, rhodder—

Erthygl 1(3) o Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 a phwynt 4 o Ran D o Atodiad II iddo, Erthygl 116 o’r Rheoliad Sengl CMO, Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, i’r graddau y maent yn ymwneud ag wyau Dosbarth B.

Diwygio Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011

4.—(1Mae Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1, yn y tabl yn Rhan 1, yn rhes 1—

(a)yn lle’r cofnod yng ngholofn 1 rhodder—

Erthygl 116 o’r Rheoliad CMO Sengl, i’r graddau y mae’r ddarpariaeth honno yn ymwneud â marchnata cig dofednod;

(b)yn lle’r cofnod yng ngholofn 2 rhodder—

Rhan B(I)(2) a (3) a (III)(1) o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl a Rheoliad y Comisiwn.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

28 Hydref 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â diogelu’r amgylchedd a bwyd.

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/995 (Cy. 81)) (“Rheoliadau 2009”). Mae’r diwygiadau’n ymwneud â gweithredu Erthygl 3 o Reoliad (EU) 2019/1010 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gysoni rhwymedigaethau adrodd ym maes deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd (OJ Rhif L 170, 25.6.2019, t. 115). Mae Rheoliad (EU) 2019/1010 yn diwygio Erthygl 18 o Gyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol o ran atal ac adfer difrod amgylcheddol (OJ Rhif L 143, 30.4.2004, t. 56), ac yn disodli Atodiad 6 iddi. Mae rheoliad 2 yn mewnosod darpariaeth newydd yn Rheoliadau 2009 sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gorfodi roi gwybodaeth benodol yn ymwneud ag achosion o ddifrod amgylcheddol i Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1671 (Cy. 158)) (“Rheoliadau 2010”), sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a gweithredu safonau marchnata sy’n gymwys i wyau deor, cywion dofednod buarth fferm, ac wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta. Mae rheoliad 3(2) i (5) yn addasu cyfeiriadau at Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 a Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 yn y darpariaethau gorfodi yn Rheoliadau 2010.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1719 (Cy. 195)) (“Rheoliadau 2011”), sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a gweithredu safonau marchnata sy’n gymwys i gig dofednod. Mae rheoliad 4(2) yn addasu cyfeiriadau at Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 a Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 yn y darpariaethau gorfodi yn Rheoliadau 2011.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mae wedi ei diddymu yn rhagolygol gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) o’r diwrnod ymadael (gweler adran 20 o’r Ddeddf honno).

(4)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 2019/1243 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 198, 25.7.2019, t. 241).

(5)

O.S. 2009/995 (Cy. 81), a ddiwygiwyd gan O.S. 2015/1394 (Cy. 138). Mae diwygiadau presennol a rhagolygol eraill nad ydynt yn berthnasol.

(6)

O.S. 2010/1671 (Cy. 158), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, O.S. 2013/3270 (Cy. 320) ac O.S. 2019/463 (Cy. 111). Mae O.S. 2010/1671 (Cy. 158) wedi ei ddiwygio hefyd gan O.S. 2019/732 (Cy. 137) a daw’r diwygiadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(7)

O.S. 2011/1719 (Cy. 195), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/3270 (Cy. 320) ac O.S. 2019/463 (Cy. 111). Mae O.S. 2011/1719 (Cy. 195) wedi ei ddiwygio hefyd gan O.S. 2019/732 (Cy. 137) a daw’r diwygiadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill