- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
31 Ionawr 2019
Yn dod i rym
29 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 21(5), 27, 28, 30, 31, 45, 46 a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol, fel sy’n ofynnol gan adrannau 27(4)(a) ac 28(4) o’r Ddeddf honno, ac wedi cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan adran 27(4)(b) o’r Ddeddf honno. Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod y datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel sy’n ofynnol gan adran 27(5) o’r Ddeddf honno.
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(f), (g), (j) a (k) o’r Ddeddf honno ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “addasiadau rhesymol” (“reasonable adjustments”) yw unrhyw addasiadau rhesymol a fyddai’n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010(2);
ystyr “ardal benodedig” (“specified area”) yw ardal a bennir mewn amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth fel man y mae’r gwasanaeth i’w ddarparu mewn perthynas ag ef;
ystyr “canlyniadau personol” (“personal outcomes”) yw’r canlyniadau y mae’r unigolyn sy’n cael y gofal a’r cymorth yn dymuno eu cyflawni mewn bywyd o ddydd i ddydd;
ystyr “comisiynydd y gwasanaeth” (“service commissioner”) yw’r awdurdod lleol neu’r corff GIG sy’n gyfrifol am wneud trefniadau â’r darparwr gwasanaeth er mwyn i ofal a chymorth gael eu darparu i unigolyn;
mae i “cyflogai” yr un ystyr ag “employee” yn adran 230(1) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(3);
ystyr “cynllun gofal a chymorth” (“care and support plan”) yw cynllun o dan adran 54 o Ddeddf 2014(4);
ystyr “cynllun personol” (“personal plan”) yw’r cynllun y mae’n ofynnol iddo gael ei lunio yn unol â rheoliad 13(1);
ystyr “cynrychiolydd” (“representative”) yw unrhyw berson a chanddo awdurdod cyfreithiol, neu sydd wedi cael cydsyniad yr unigolyn sy’n cael y gofal a’r cymorth i weithredu ar ran yr unigolyn;
ystyr “cytundeb lleoli unigolyn” (“individual placement agreement”) yw cytundeb rhwng darparwr gwasanaeth, gofalwr lleoli oedolion ac unigolyn i ofalwr lleoli oedolion ddarparu llety a gofal a chymorth i’r unigolyn hwnnw;
ystyr “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yw person sy’n cynnal gwasanaeth lleoli oedolion(5);
ystyr “y datganiad o ddiben” (“the statement of purpose”) yw’r datganiad o ddiben ar gyfer y man y mae’r gwasanaeth wedi ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef(6);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
ystyr “gofalwr lleoli oedolion” (“adult placement carer”) yw person sydd wedi ymrwymo i gytundeb gofalwr(7) â darparwr gwasanaeth;
ystyr “y gwasanaeth” (“the service”), mewn perthynas â gwasanaeth lleoli oedolion, yw’r gwasanaeth a ddarperir mewn perthynas ag ardal benodedig;
ystyr “y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd” (“the Disclosure and Barring Service”) a’r “GDG” (“DBS”) yw’r corff a sefydlir gan adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012(8);
mae i “gweithiwr” yr un ystyron â “worker” yn adran 230(3) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;
ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n aelod o unrhyw broffesiwn y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 1999(9) yn gymwys iddo;
ystyr “y rheoleiddiwr gwasanaethau” (“the service regulator”) yw Gweinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol(10);
ystyr “rheoleiddiwr y gweithlu” (“the workforce regulator”) yw GCC(11);
mae “staff” (“staff”) yn cynnwys—
personau a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth i weithio yn y gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr, a
personau sydd wedi eu cymryd ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau,
ond nid yw’n cynnwys personau y caniateir iddynt weithio fel gwirfoddolwyr neu ofalwyr lleoli oedolion;
ystyr “tystysgrif GDG” (“DBS certificate”) yw tystysgrif o fath y cyfeirir ato ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 1;
ystyr “yr unigolyn” (“the individual”), oni bai bod y cyd-destun yn nodi fel arall, yw’r oedolyn sy’n cael gofal a chymorth.
2. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.
3.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a
(b)pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.
(3) Oni bai bod paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad sydd i’w wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’n angenrheidiol diwygio’r datganiad o ddiben gydag effaith ar unwaith.
(5) Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth, yn ddi-oed, hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad a wneir i’r datganiad o ddiben.
(6) Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) neu (5) yw—
(a)y rheoleiddiwr gwasanaethau,
(b)yr unigolyn,
(c)y gofalwr lleoli oedolion,
(d)unrhyw gynrychiolydd, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn,
(e)comisiynydd y gwasanaeth.
(7) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn.
4.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.
(2) Rhaid i’r trefniadau hynny gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—
(a)unigolion,
(b)unrhyw gynrychiolwyr, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn,
(c)gofalwyr lleoli oedolion,
(d)comisiynwyr gwasanaethau, ac
(e)staff,
ar ansawdd y gwasanaeth a sut y gellir gwella hyn.
(3) Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)ystyried safbwyntiau’r personau hynny yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2), a
(b)rhoi sylw i’r adroddiad ar ansawdd gofal a lunnir gan yr unigolyn cyfrifol yn unol â rheoliad 59(4).
5.—(1) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth sy’n unigolyn.
(2) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y person sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol(12)—
(a)yn cael cymorth i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol, a
(b)yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.
(3) Os bydd gan y darparwr gwasanaeth reswm dros gredu nad yw’r unigolyn cyfrifol wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau yn Rhannau 12 i 16, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)cymryd unrhyw gamau gweithredu sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad, a
(b)hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau.
(4) Yn ystod unrhyw adeg pan nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—
(a)rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,
(b)goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,
(c)cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 2 i 11, a
(d)monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.
(5) Os nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a
(b)rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim.
6.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.
(2) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r unigolyn ymgymryd â hyfforddiant priodol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau’n briodol fel yr unigolyn cyfrifol.
(3) Yn ystod unrhyw adeg pan yw’r darparwr gwasanaeth yn absennol, rhaid i’r unigolyn sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—
(a)rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,
(b)goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,
(c)cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 2 i 11, a
(d)monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.
(4) Os nad yw’r unigolyn yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid iddo—
(a)hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a
(b)rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim.
7.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn ariannol at ddiben cyflawni’r nodau a’r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnal cyfrifon priodol a chyfredol ar gyfer y gwasanaeth.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu copïau o’r cyfrifon i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gyfrifon gael eu hardystio gan gyfrifydd.
8.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—
(a)addasrwydd y gwasanaeth (gweler rheoliad 10);
(b)diogelu (gweler rheoliad 22);
(c)cefnogi unigolion i reoli eu harian (gweler rheoliad 23);
(d)defnyddio rheolaeth neu ataliaeth yn briodol (gweler rheoliad 24);
(e)cefnogi a datblygu staff (gweler rheoliad 29);
(f)gweithdrefn ddisgyblu (gweler rheoliad 32);
(g)recriwtio a hyfforddi gofalwyr lleoli oedolion (gweler rheoliad 33);
(h)cwynion (gweler rheoliad 43);
(i)chwythu’r chwiban (gweler rheoliad 44).
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle sy’n rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth a nodir yn y datganiad o ddiben.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) a (2)—
(a)yn briodol i anghenion unigolion y darperir gofal a chymorth ar eu cyfer a’u gofalwyr lleoli oedolion,
(b)yn gyson â’r datganiad o ddiben, ac
(c)yn cael eu cadw’n gyfredol.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny.
9. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag—
(a)yr unigolyn,
(b)unrhyw gynrychiolydd yr unigolyn,
(c)y gofalwr lleoli oedolion, a
(d)comisiynydd y gwasanaeth.
10.—(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth gytuno i leoli unigolyn oni bai bod y darparwr gwasanaeth wedi penderfynu bod lleoliad oedolyn addas a all ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn a chefnogi’r unigolyn i gyflawni ei ganlyniadau personol.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ar addasrwydd y gwasanaeth.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth wrth wneud penderfyniad o dan baragraff (1) ystyried—
(a)cynllun gofal a chymorth yr unigolyn,
(b)os nad oes cynllun gofal a chymorth, asesiad y darparwr gwasanaeth o dan baragraff (4),
(c)unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,
(d)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,
(e)unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn,
(f)unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt,
(g)unrhyw risgiau i lesiant y gofalwr lleoli oedolion ac aelodau o’i aelwyd,
(h)unrhyw addasiadau rhesymol y gallai’r darparwr gwasanaeth eu gwneud i alluogi i anghenion gofal a chymorth yr unigolyn gael eu diwallu, ac
(i)polisi a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth ar baru ar gyfer cydweddu a chychwyn y gwasanaeth.
(4) Mewn achos pan na fo gan yr unigolyn gynllun gofal a chymorth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)asesu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn, a
(b)nodi ei ganlyniadau personol.
(5) Rhaid i’r asesiad sy’n ofynnol gan baragraff (4) gael ei gynnal gan berson sydd—
(a)â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i gynnal yr asesiad, a
(b)wedi cael hyfforddiant i gynnal asesiadau.
(6) Wrth wneud y penderfyniad ym mharagraff (1), rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—
(a)os nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu
(b)pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
11.—(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth leoli unigolyn gyda gofalwr lleoli oedolion oni bai bod y darparwr gwasanaeth wedi ymrwymo i gytundeb gofalwr â’r gofalwr lleoli oedolion.
(2) Rhaid i’r cytundeb gofalwr fod yn ysgrifenedig.
(3) Ni chaiff darparwr gwasanaeth ymrwymo ond i un cytundeb gofalwr â phob gofalwr lleoli oedolion.
(4) Rhaid i’r cytundeb gofalwr—
(a)darparu bod y partïon i’r cytundeb gofalwr yn ymgymryd â’u rolau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r gwasanaeth;
(b)cynnwys trefniadau i sicrhau bod y mangreoedd, y cyfleusterau a’r cyfarpar a ddefnyddir gan ofalwyr lleoli oedolion—
(i)yn addas ac yn ddiogel i’r diben y bwriedir iddynt gael eu defnyddio ato;
(ii)yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel;
(iii)yn cael eu cynnal a’u cadw’n briodol;
(iv)yn cael eu cadw’n lân yn unol â safon sy’n briodol i’r diben y maent yn cael eu defnyddio ato;
(v)yn achos cyfarpar, yn cael ei storio’n briodol;
(c)cynnwys gofyniad y dylai’r gofalwr lleoli oedolion gefnogi’r unigolyn i gael mynediad i driniaeth, cyngor a gwasanaethau eraill gan unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd fel y bo angen;
(d)cynnwys trefniadau i sicrhau bod meddyginiaethau yn cael eu storio a’u rhoi’n ddiogel gan gynnwys pennu o dan ba amgylchiadau y caiff gofalwr lleoli oedolion roi neu gynorthwyo i roi meddyginiaeth unigolyn a’r gweithdrefnau sydd i’w mabwysiadu o dan amgylchiadau o’r fath;
(e)cynnwys trefniadau addas i gefnogi unigolion i reoli eu harian.
(5) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth derfynu cytundeb gofalwr mewn unrhyw achos pan fo’r gofalwr lleoli oedolion yn peidio â bod yn addas i fod yn ofalwr lleoli oedolion yn unol â rheoliad 36.
(6) Heb ragfarnu paragraff (5), rhaid i’r darparwr gwasanaeth derfynu cytundeb gofalwr mewn unrhyw achos pan fo’n ymddangos i’r darparwr gwasanaeth nad yw neu na fydd y gofalwr lleoli oedolion yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y cytundeb gofalwr.
(7) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth derfynu cytundeb gofalwr heb ymgynghori’n gyntaf â’r gofalwr lleoli oedolion, oni bai nad yw’n rhesymol ymarferol ymgynghori ag ef.
12.—(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth leoli unigolyn gyda gofalwr lleoli oedolion oni bai bod y darparwr gwasanaeth wedi ymrwymo i gytundeb lleoli unigolyn â’r gofalwr lleoli oedolion.
(2) Rhaid bod cytundeb lleoli unigolyn ar gyfer pob unigolyn sydd i’w leoli gyda’r gofalwr lleoli oedolion.
(3) Pryd bynnag y bo’n ymarferol, rhaid i’r unigolyn fod yn barti i’r cytundeb, a rhaid rhoi copi iddo o’r cytundeb wedi ei lofnodi sy’n ymwneud â’r gofal a’r cymorth sydd i’w darparu i’r unigolyn i gyflawni ei ganlyniadau personol.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys mewn cytundeb lleoli unigolyn wybodaeth sy’n galluogi pob parti sy’n ymwneud â’r cytundeb i ddeall ei rolau a’i gyfrifoldebau.
(5) Rhaid i’r cytundeb lleoli unigolyn hefyd gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)pryd bynnag y bo’n ymarferol, enw unigolyn ac eithrio aelod o staff y darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r gofalwr lleoli oedolion, sydd, gyda chydsyniad datganedig neu oblygedig yr unigolyn, yn cymryd diddordeb yn iechyd a lles yr unigolyn;
(b)yr ystafell sydd i’w meddiannu gan yr unigolyn yng nghartref y gofalwr lleoli oedolion;
(c)y ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r lleoliad a chan bwy y maent yn daladwy.
(6) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod unigolion yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w galluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir mewn unrhyw gytundeb o’r fath.
(7) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth adolygu’r cytundeb lleoli unigolyn—
(a)o leiaf unwaith o fewn blwyddyn gyntaf y lleoliad;
(b)pryd bynnag y gwneir newid sylweddol i’r cynllun personol;
(c)ar gais rhesymol yr unigolyn, unrhyw gynrychiolydd neu’r gofalwr lleoli oedolion;
(d)beth bynnag, o fewn blwyddyn i’r adolygiad diwethaf.
(8) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth derfynu cytundeb lleoli unigolyn mewn unrhyw achos pan fo’r gofalwr lleoli oedolion yn peidio â bod yn addas i fod yn ofalwr lleoli oedolion yn unol â rheoliad 36.
(9) Heb ragfarnu paragraff (8), rhaid i’r darparwr gwasanaeth derfynu cytundeb gofalwr mewn unrhyw achos pan fo’n ymddangos i’r darparwr gwasanaeth nad yw neu na fydd y gofalwr lleoli oedolion yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y cytundeb lleoli unigolyn.
(10) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth derfynu cytundeb lleoli unigolyn heb ymgynghori’n gyntaf â’r unigolyn, oni bai nad yw’n rhesymol ymarferol ymgynghori ag ef.
13.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio cynllun i’r unigolyn sy’n nodi—
(a)sut y bydd anghenion gofal a chymorth yr unigolyn yn cael eu diwallu o ddydd i ddydd,
(b)sut y bydd yr unigolyn yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ganlyniadau personol,
(c)y camau a fydd yn cael eu cymryd i liniaru unrhyw risgiau a nodir i lesiant yr unigolyn, a
(d)y camau a fydd yn cael eu cymryd i gefnogi cymryd risgiau cadarnhaol ac annibyniaeth, pan benderfynwyd bod hyn yn briodol.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at y cynllun y mae’n ofynnol iddo gael ei lunio o dan baragraff (1) fel cynllun personol.
(3) Rhaid i’r cynllun personol gael ei lunio cyn cychwyn darparu gofal a chymorth i’r unigolyn, oni bai bod paragraff (4) yn gymwys.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achos pan fo ar yr unigolyn angen brys am ofal a chymorth ac na fo amser wedi bod i lunio cynllun personol cyn cychwyn darparu gofal a chymorth i’r unigolyn.
(5) Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r cynllun personol gael ei lunio o fewn 24 awr i gychwyn darparu gofal a chymorth i’r unigolyn.
(6) Wrth lunio cynllun personol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—
(a)os nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu
(b)pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
(7) Wrth lunio’r cynllun personol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried—
(a)cynllun gofal a chymorth yr unigolyn,
(b)os nad oes cynllun gofal a chymorth, asesiad y darparwr o dan reoliad 10(4),
(c)unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,
(d)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,
(e)unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac
(f)unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt yn yr un llety.
14.—(1) Rhaid i gynllun personol yr unigolyn gael ei adolygu fel sy’n ofynnol, a phan fo’n ofynnol, ond o leiaf bob tri mis.
(2) Rhaid i adolygiadau o gynllun personol gynnwys adolygiad o’r graddau y mae’r unigolyn wedi gallu cyflawni ei ganlyniadau personol.
(3) Wrth gynnal adolygiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—
(a)os nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu
(b)pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
(4) Ar ôl cwblhau unrhyw adolygiad sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried a ddylai’r cynllun personol gael ei ddiwygio a diwygio’r cynllun fel y bo angen.
15. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)cadw cofnod o’r canlynol—
(i)y cynllun personol ac unrhyw gynllun diwygiedig, a
(ii)canlyniad unrhyw adolygiad, a
(b)rhoi copi o’r cynllun personol ac unrhyw gynllun diwygiedig i—
(i)yr unigolyn,
(ii)unrhyw gynrychiolydd, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn.
16.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth.
(2) Rhaid i’r canllaw—
(a)cael ei ddyddio, ei adolygu o leiaf bob blwyddyn a’i ddiweddaru fel y bo angen,
(b)bod mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat priodol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth,
(c)cael ei roi i bob unigolyn sy’n cael gofal a chymorth,
(d)cael ei roi i bob gofalwr lleoli oedolion,
(e)cael ei wneud ar gael i eraill ar gais, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant unrhyw unigolyn.
(3) Rhaid i’r canllaw gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)gwybodaeth am sut i godi pryder neu wneud cwyn;
(b)gwybodaeth am argaeledd gwasanaethau eirioli.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod pob unigolyn yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw.
17.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau y darperir gofal a chymorth mewn ffordd sy’n amddiffyn, yn hybu ac yn cynnal diogelwch a llesiant unigolion.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau y darperir gofal a chymorth i bob unigolyn yn unol â chynllun personol yr unigolyn.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau y darperir gofal a chymorth mewn ffordd—
(a)sy’n cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion a staff a gofalwyr lleoli oedolion; a
(b)sy’n annog ac yn cynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion a gofalwyr lleoli oedolion.
(4) Os nad yw’r darparwr gwasanaeth, o ganlyniad i newid yn anghenion asesedig yr unigolyn am ofal a chymorth, yn gallu diwallu’r anghenion hynny mwyach, hyd yn oed ar ôl gwneud unrhyw addasiadau rhesymol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi hysbysiad ysgrifenedig o hyn i’r unigolyn, unrhyw gynrychiolydd, y gofalwr lleoli oedolion a chomisiynydd y gwasanaeth ar unwaith.
18.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod gan unigolion yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i wneud neu gymryd rhan mewn asesiadau, cynlluniau a phenderfyniadau o ddydd i ddydd am y ffordd y darperir gofal a chymorth iddynt a sut y maent yn cael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol.
(2) Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir fod ar gael yn yr iaith, yr arddull, y cyflwyniad a’r fformat priodol, gan roi sylw i—
(a)natur y gwasanaeth fel y’i disgrifir yn y datganiad o ddiben;
(b)lefel dealltwriaeth yr unigolyn a’i allu i gyfathrebu.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod yr unigolyn yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a ddarperir.
19.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod anghenion iaith unigolion yn cael eu diwallu.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau y darperir mynediad i unrhyw gymhorthion a chyfarpar sy’n angenrheidiol i unigolion a’u gofalwyr lleoli oedolion i hwyluso’r ffordd y mae’r unigolyn yn cyfathrebu ag eraill.
20.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod unigolion yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.
(2) Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i—
(a)parchu preifatrwydd ac urddas yr unigolyn;
(b)parchu hawliau’r unigolyn i gyfrinachedd;
(c)hybu ymreolaeth ac annibyniaeth yr unigolyn;
(d)rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel y’u diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010) yr unigolyn.
21. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol.
22.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle—
(a)ar gyfer atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a
(b)ar gyfer ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.
(2) Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau o’r fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod ei bolisïau a’i weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
(4) Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)gweithredu yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau diogelu,
(b)cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob unigolyn y darperir gofal a chymorth ar ei gyfer,
(c)gwneud atgyfeiriadau priodol i asiantaethau eraill, a
(d)cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.
23.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ynghylch cefnogi unigolion i reoli eu harian a rhaid iddo roi trefniadau yn eu lle i sicrhau y darperir y gwasanaeth yn unol â’r polisi hwnnw a’r gweithdrefnau hynny.
(2) Rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol gan y rheoliad hwn iddynt fod yn eu lle nodi’r camau sydd i’w cymryd i gefnogi unigolion i reoli eu harian eu hunain ac i amddiffyn unigolion rhag camdriniaeth ariannol.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau i’r graddau y bo’n ymarferol nad yw personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth a gofalwyr lleoli oedolion yn gweithredu fel asiant unigolyn.
24.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ar ddefnyddio rheolaeth neu ataliaeth.
(2) Rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau wahardd gofal a chymorth rhag cael eu darparu gan y gofalwr lleoli oedolion mewn ffordd sy’n cynnwys gweithredoedd y bwriedir iddynt reoli neu atal unigolyn oni bai bod y gweithredoedd hynny—
(a)yn angenrheidiol i atal risg o niwed a berir i’r unigolyn neu i unigolyn arall neu ddifrod difrifol tebygol i eiddo, a
(b)yn ymateb cymesur i risg o’r fath.
(3) Rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau ei gwneud yn ofynnol i ofalwr lleoli oedolion gael ei hyfforddi yn y dull rheoli neu atal a ddefnyddir.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw reolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir gan y gofalwyr lleoli oedolion yn cael ei chyflawni yn unol â’r polisïau hyn a’r gweithdrefnau hyn.
(5) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cofnod o unrhyw ddigwyddiad y defnyddir rheolaeth neu ataliaeth ynddo yn union ar ôl iddo gael ei hysbysu amdano gan y gofalwr lleoli oedolion.
(6) Rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau ei gwneud yn ofynnol i ofalwr lleoli oedolion hysbysu’r darparwr gwasanaeth am unrhyw ddigwyddiad y defnyddir rheolaeth neu ataliaeth ynddo o fewn 24 awr i’r digwyddiad.
(7) At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn rheoli neu’n atal unigolyn os yw’r person hwnnw—
(a)yn defnyddio, neu’n bygwth defnyddio, grym i sicrhau bod gweithred yn cael ei gwneud y mae’r unigolyn yn ei gwrthsefyll, neu
(b)yn cyfyngu ar ryddid symud yr unigolyn, pa un a yw’r unigolyn yn gwrthsefyll ai peidio, gan gynnwys drwy ddefnyddio dulliau corfforol, mecanyddol neu gemegol.
25. Ni chaniateir amddifadu unigolyn o’i ryddid at ddiben cael gofal a chymorth heb awdurdod cyfreithlon.
26. Yn y Rhan hon—
ystyr “camdriniaeth” (“abuse”) yw camdriniaeth gorfforol, rywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol.
mae “camdriniaeth ariannol” (“financial abuse”) yn cynnwys—
bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn;
bod person yn cael ei dwyllo;
bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;
bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;
mae i “esgeulustod” (“neglect”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;
ystyr “niwed” (“harm”) yw camdriniaeth neu amhariad ar—
iechyd corfforol neu iechyd meddwl, neu
datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol;
mae “triniaeth amhriodol” (“improper treatment”) yn cynnwys gwahaniaethu neu atal anghyfreithlon, gan gynnwys amddifadu amhriodol o ryddid o dan delerau Deddf Galluedd Meddyliol 2005(13).
27.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad addas yn cael eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw—
(a)i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth;
(b)i’r gofyniad i gefnogi unigolion i gyflawni eu canlyniadau personol;
(c)i ofynion y rheoliadau yn Rhannau 2 i 11;
(d)i’r gofyniad i gefnogi a goruchwylio gofalwyr lleoli oedolion wrth iddynt ddarparu gofal a chymorth.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau addas yn cael eu gwneud ar gyfer cefnogi a datblygu staff.
28.—(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth—
(a)cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;
(b)caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;
(c)caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs ei ddyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi ag unigolion sy’n cael gofal a chymorth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—
(a)bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da;
(b)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i’w wneud;
(c)bod y person, oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawni’n briodol y tasgau sy’n rhan annatod o’r gwaith y mae wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen ar ei gyfer;
(d)bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Atodlen 1 a bod yr wybodaeth hon neu’r ddogfennaeth hon ar gael gan y darparwr gwasanaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau edrych arni;
(e)pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth, o 1 Ebrill 2022, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â GCC(14).
(3) Rhaid i gais gael ei wneud am dystysgrif GDG briodol gan neu ar ran y darparwr gwasanaeth at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r person sy’n gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel gwasanaeth diweddaru’r GDG).
(4) Pan fo person sy’n cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.
(5) Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.
(6) Pan na fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cais am dystysgrif GDG newydd mewn cysylltiad â’r person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddi’r dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny rhaid i geisiadau pellach o’r fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.
(7) Os nad yw person sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion perthnasol;
(b)pan fo’n briodol, hysbysu—
(i)y corff rheoleiddiol neu broffesiynol perthnasol;
(ii)y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
29.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar gyfer cefnogi a datblygu staff.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—
(a)yn cael cyfnod sefydlu sy’n briodol i’w rôl;
(b)yn cael ei wneud yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill;
(c)yn cael ei oruchwylio a’i arfarnu’n briodol;
(d)yn cael hyfforddiant craidd sy’n briodol i’r gwaith sydd i’w wneud ganddo;
(e)yn cael hyfforddiant arbenigol fel y bo’n briodol;
(f)yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach sy’n briodol i’r gwaith y mae’n ei wneud.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth yn cael ei gefnogi i gynnal ei gofrestriad â’r corff rheoleiddiol neu alwedigaethol priodol.
30. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lynu wrth y cod ymarfer ar y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol(15), sydd wedi ei gyhoeddi gan GCC o dan adran 112(1)(b) o’r Ddeddf.
31.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gwybodaeth i bob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) am y gwasanaeth a’r ffordd y caiff ei ddarparu.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau addas yn eu lle i wneud staff yn ymwybodol o unrhyw godau ymarfer ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol, sydd i’w cyhoeddi gan GCC o dan adran 112(1)(a) o’r Ddeddf.
32.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi gweithdrefn ddisgyblu yn ei lle a’i gweithredu.
(2) Rhaid i’r weithdrefn ddisgyblu gynnwys—
(a)darpariaeth ar gyfer atal dros dro, a chymryd camau gweithredu heb fod mor bell ag atal dros dro, gyflogai er budd diogelwch neu lesiant pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth;
(b)darpariaeth bod methiant ar ran cyflogai i adrodd am achos o gam-drin, neu am amheuaeth o gam-drin, i berson priodol yn sail dros ganiatáu cychwyn achos disgyblu.
(3) At ddiben paragraff (2)(b), person priodol yw—
(a)y darparwr gwasanaeth,
(b)yr unigolyn cyfrifol,
(c)swyddog i’r rheoleiddiwr gwasanaethau,
(d)swyddog i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y darperir y gwasanaeth ynddi,
(e)yn achos cam-drin neu amheuaeth o gam-drin plentyn, swyddog i’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu
(f)swyddog heddlu.
33.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle ar gyfer recriwtio a hyfforddi gofalwyr lleoli oedolion.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod gofalwyr lleoli oedolion yn cael hyfforddiant digonol er mwyn eu cynorthwyo i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel ar gyfer unigolion yn unol â’r cynllun personol ac i gefnogi pob unigolyn i gyflawni ei ganlyniadau personol.
34. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)cynnal perthnasoedd proffesiynol da â gofalwr lleoli oedolion; a
(b)annog a chynorthwyo gofalwr lleoli oedolion i gynnal perthnasoedd personol da ag unigolion.
35. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod gan ofalwr lleoli oedolion yr wybodaeth y mae ei hangen arno i ddarparu gofal a chymorth i unigolion i gyflawni eu canlyniadau personol.
36.—(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth ymrwymo i gytundeb gofalwr â gofalwr lleoli oedolion oni bai bod y gofalwr yn addas i fod yn ofalwr.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i fod yn ofalwr lleoli oedolion oni bai—
(a)bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da;
(b)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i’w wneud;
(c)bod y person, oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawni’n briodol y tasgau sy’n rhan annatod o’r gwaith y mae wedi ei gymryd ymlaen ar ei gyfer;
(d)bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Atodlen 1 a bod yr wybodaeth hon neu’r ddogfennaeth hon ar gael gan y darparwr gwasanaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau edrych arni.
(3) Rhaid i gais gael ei wneud am y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraffau 2 a 3 o Atodlen 1 (y cyfeirir ati yn y rheoliad hwn fel tystysgrif GDG) gan neu ar ran y darparwr gwasanaeth at ddiben asesu addasrwydd person i fod yn ofalwr lleoli oedolion. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r gofalwr lleoli oedolion wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel gwasanaeth diweddaru’r GDG).
(4) Pan fo person sy’n cael ei ystyried i fod yn ofalwr lleoli oedolion wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw i fod yn ofalwr lleoli oedolion.
(5) Pan fo person a gymeradwywyd i fod yn ofalwr lleoli oedolion wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.
(6) Pan na fo person a gymeradwywyd i fod yn ofalwr lleoli oedolion wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cais am dystysgrif GDG newydd mewn cysylltiad â’r person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddi’r dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny rhaid i geisiadau pellach o’r fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.
(7) Os nad yw gofalwr lleoli oedolion yn addas i fod yn ofalwr lleoli oedolion mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion perthnasol;
(b)pan fo’n briodol, hysbysu’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
37. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y mangreoedd, y cyfleusterau a’r cyfarpar yn addas ar gyfer y gwasanaeth, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.
38. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gan y mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer gweithredu’r gwasanaeth gyfleusterau digonol ar gyfer—
(a)goruchwylio staff;
(b)storio cofnodion yn ddiogel.
39. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau bod y mangreoedd, y cyfleusterau a’r cyfarpar a ddefnyddir gan ofalwyr lleoli oedolion i ddiwallu anghenion unigolion—
(a)yn addas ac yn ddiogel i’r diben y bwriedir iddynt gael eu defnyddio ato;
(b)yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel;
(c)yn cael eu cynnal a’u cadw’n briodol;
(d)yn cael eu cadw’n lân yn unol â safon sy’n briodol i’r diben y maent yn cael eu defnyddio ato;
(e)yn achos cyfarpar, yn cael ei storio’n briodol.
40.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gadw a chynnal y cofnodion a bennir yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â phob man y darperir gwasanaeth ohono.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)sicrhau bod cofnodion sy’n ymwneud ag unigolion yn gywir ac yn gyfredol;
(b)cadw pob cofnod yn ddiogel;
(c)gwneud trefniadau addas er mwyn i’r cofnodion barhau i gael eu cadw’n ddiogel os bydd y gwasanaeth yn cau;
(d)rhoi’r cofnodion ar gael i’r rheoleiddiwr gwasanaethau ar gais;
(e)cadw cofnodion sy’n ymwneud ag unigolion am dair blynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;
(f)sicrhau bod unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth—
(i)yn gallu cael mynediad i’w cofnodion; a
(ii)yn cael eu gwneud yn ymwybodol eu bod yn gallu cael mynediad i’w cofnodion.
41.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y digwyddiadau a bennir yn Atodlen 3.
(2) Rhaid i’r hysbysiad gynnwys manylion y digwyddiad.
(3) Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.
(4) Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau.
42. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle i nodi, cofnodi a rheoli achosion posibl o wrthdaro buddiannau.
43.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi cwyno yn ei le a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol â’r polisi hwnnw.
(2) Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr gwasanaeth gan ofalwyr lleoli oedolion ynghylch—
(a)y darparwr, a
(b)unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer ymdrin â chwynion gan gynnwys trefniadau ar gyfer—
(a)nodi cwynion ac ymchwilio iddynt;
(b)rhoi ymateb priodol i berson sy’n gwneud cwyn, os yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r person hwnnw;
(c)sicrhau bod camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd yn dilyn ymchwiliad;
(d)cadw cofnodion sy’n ymwneud â’r materion yn is-baragraffau (a) i (c).
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu crynodeb o gwynion, ymatebion a chamau gweithredu dilynol i’r rheoleiddiwr gwasanaethau o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.
(5) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)dadansoddi gwybodaeth sy’n ymwneud â chwynion a phryderon; a
(b)gan roi sylw i’r dadansoddiad hwnnw, nodi unrhyw feysydd i’w gwella.
44.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau bod pob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) yn gallu codi pryderon am faterion a all effeithio’n andwyol ar iechyd, diogelwch neu lesiant unigolion y darperir y gwasanaeth ar eu cyfer.
(2) Rhaid i’r trefniadau hyn gynnwys—
(a)cael polisi chwythu’r chwiban yn ei le a gofyniad i weithredu yn unol â’r polisi hwnnw, a
(b)sefydlu trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y trefniadau sy’n ofynnol o dan y rheoliad hwn yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
(4) Pan godir pryder, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau—
(a)yr ymchwilir i’r pryder;
(b)y cymerir camau priodol yn dilyn ymchwiliad;
(c)y cedwir cofnod o bob un o’r camau hyn.
45. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth, sy’n cynnwys cymryd y camau a ddisgrifir yn rheoliadau 51 a 52.
46.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (2) neu (3) yn gymwys.
(2) Yr amodau yw—
(a)bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn;
(b)bod y darparwr gwasanaeth yn bwriadu rheoli’r gwasanaeth;
(c)bod y darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth;
(d)bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â GCC; ac
(e)bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth.
(3) Yr amodau yw—
(a)bod y darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, yn gorff corfforaethol neu’n gorff anghorfforedig;
(b)bod y darparwr gwasanaeth yn cynnig bod yr unigolyn sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth i’w benodi i reoli’r gwasanaeth;
(c)bod yr unigolyn hwnnw yn addas i reoli’r gwasanaeth;
(d)bod yr unigolyn hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â GCC; ac
(e)bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r unigolyn hwnnw reoli’r gwasanaeth.
(4) At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw’r darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 28(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r darparwr gwasanaeth.
(5) Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) wedi ei chyflawni os yw’r person a benodir i reoli’r gwasanaeth yn absennol am gyfnod o fwy na thri mis.
47.—(1) Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 28(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.
48.—(1) Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli mwy nag un gwasanaeth, oni bai bod paragraff (2) yn gymwys.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)os yw’r darparwr gwasanaeth wedi gwneud cais i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am ganiatâd i benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth, a
(b)os yw’r rheoleiddiwr gwasanaethau wedi ei fodloni—
(i)na fydd y trefniadau rheoli arfaethedig yn cael effaith andwyol ar iechyd neu lesiant unigolion, a
(ii)y bydd y trefniadau rheoli arfaethedig yn darparu goruchwyliaeth ddibynadwy ac effeithiol o bob gwasanaeth.
49. Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 46(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i’r darparwr gwasanaeth—
(a)o enw’r person a benodir, a
(b)o’r dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.
50.—(1) Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 46(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i reoleiddiwr y gweithlu a’r rheoleiddiwr gwasanaethau—
(a)o enw, dyddiad geni a rhif cofrestru GCC y person a benodir, a
(b)o’r dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.
(2) Mewn achos pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn a bod y rheoleiddiwr gwasanaethau wedi cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi hysbysiad i reoleiddiwr y gweithlu—
(a)o enw, dyddiad geni a rhif cofrestru GCC y darparwr gwasanaeth, a
(b)o’r dyddiad y mae’r darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth ohono.
51.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr neu pan nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth.
(2) Os nad oes rheolwr neu os nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r unigolyn cyfrifol—
(a)hysbysu’r darparwr gwasanaeth a’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a
(b)rhoi gwybod iddynt am y trefniadau sydd wedi eu rhoi yn eu lle ar gyfer rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol.
52.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol—
(a)ymweld â’r fangre y darperir y gwasanaeth ohoni;
(b)cwrdd ag aelodau o staff sydd wedi eu cyflogi i ddarparu’r gwasanaeth mewn perthynas â phob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef, a
(c)cwrdd ag unigolion y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar eu cyfer a’u gofalwr lleoli oedolion.
(2) Mae amlder ymweliadau a chyfarfodydd o’r fath i’w benderfynu gan yr unigolyn cyfrifol gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ond rhaid iddynt gael eu cynnal o leiaf bob tri mis.
53.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd i’r darparwr gwasanaeth am ddigonolrwydd yr adnoddau sydd ar gael i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r gofynion ar y darparwr gwasanaeth yn Rhannau 2 i 11.
(2) Rhaid i adroddiadau o’r fath gael eu gwneud yn chwarterol.
(3) Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.
54.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol, yn ddi-oed, adrodd i’r darparwr gwasanaeth—
(a)am unrhyw bryderon ynghylch rheoli neu ddarparu’r gwasanaeth;
(b)am unrhyw newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli neu ei ddarparu;
(c)am unrhyw bryderon nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.
(2) Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.
55.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle ar gyfer cael safbwyntiau—
(a)yr unigolion sy’n cael gofal a chymorth,
(b)unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny,
(c)gofalwyr lleoli oedolion,
(d)comisiynwyr gwasanaethau, ac
(e)staff sy’n cael eu cyflogi yn y gwasanaeth,
ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir a sut y gellir gwella hyn.
(2) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd am y safbwyntiau a geir i’r darparwr gwasanaeth er mwyn i’r safbwyntiau hyn allu cael eu hystyried gan y darparwr gwasanaeth wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.
56. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle i gofnodi digwyddiadau, cwynion a materion y mae rhaid gwneud hysbysiadau yn eu cylch yn unol â rheoliadau 41 a 63.
57. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle mewn perthynas â chadw cofnodion, sy’n cynnwys systemau ar gyfer sicrhau bod cofnodion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cadw gan reoliad 40 yn gywir ac yn gyflawn.
58. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth yn cael eu cadw’n gyfredol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.
59.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.
(2) Rhaid i’r system a sefydlir o dan baragraff (1) wneud darpariaeth i ansawdd y gwasanaeth gael ei adolygu mor aml ag sy’n ofynnol ond o leiaf bob chwe mis.
(3) Fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir, rhaid i’r unigolyn cyfrifol wneud trefniadau addas ar gyfer—
(a)ystyried canlyniad yr ymgysylltiad ag unigolion ac eraill, fel sy’n ofynnol gan reoliad 55;
(b)dadansoddi’r data cyfanredol ar ddigwyddiadau, digwyddiadau hysbysadwy, materion diogelu, chwythu’r chwiban, pryderon a chwynion;
(c)adolygu unrhyw gamau gweithredu a gymerir mewn perthynas â chwynion;
(d)ystyried canlyniad unrhyw archwiliad o gywirdeb a chyflawnrwydd cofnodion.
(4) Ar ôl cwblhau adolygiad o ansawdd y gofal a’r cymorth yn unol â’r rheoliad hwn, rhaid i’r unigolyn cyfrifol lunio adroddiad i’r darparwr gwasanaeth y mae rhaid iddo gynnwys—
(a)asesiad o safon y gofal a’r cymorth a ddarperir, a
(b)argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth.
(5) Ond nid yw’r gofyniad ym mharagraff (4) yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.
60.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol lunio’r datganiad y mae’n ofynnol iddo gael ei gynnwys yn y datganiad blynyddol o dan adran 10(2)(b) o’r Ddeddf, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r man neu’r mannau y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef neu â hwy.
(2) Wrth lunio’r datganiad, rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi sylw i’r asesiad o safon y gofal a’r cymorth a gynhwysir mewn adroddiad a lunnir yn unol â rheoliad 59(4).
61. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu chwiban y darparwr gwasanaeth a bod y trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
62. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag—
(a)yr unigolyn;
(b)unrhyw gynrychiolydd yr unigolyn;
(c)y gofalwyr lleoli oedolion;
(d)comisiynydd y gwasanaeth.
63.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y digwyddiadau a bennir yn Atodlen 4.
(2) Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys manylion y digwyddiad.
(3) Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.
(4) Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau.
64.—(1) Mae’n drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2)(16).
(2) Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau 3(3), 3(5), 7(3), 8(1), 8(4), 11(1), 16(1), 16(2), 16(3), 28(1), 31(1), 36(1), 40(1), 40(2), 41(1) ac 41(3).
(3) Mae darparwr gwasanaeth yn cyflawni trosedd os yw’r darparwr gwasanaeth yn methu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (4) a bod methiant o’r fath yn arwain at—
(a)niwed y gellir ei osgoi (pa un ai o natur gorfforol neu seicolegol) i unigolyn,
(b)unigolyn yn cael ei wneud yn agored i risg sylweddol o niwed o’r fath, neu
(c)yn achos dwyn, camddefnyddio neu gamberchnogi arian neu eiddo, unrhyw golled gan unigolyn o’r arian neu’r eiddo o dan sylw.
(4) Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (3) yw darpariaethau rheoliadau 2, 3(1), 10(1), 10(3), 13(1), 13(3), 13(5), 14(1), 14(4), 17(1), 17(2), 21 a 27(1).
65.—(1) Mae’n drosedd i’r unigolyn cyfrifol fethu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2)(17).
(2) Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau 46(1), 47(1), 50(1), 50(2), 52(1), 52(2), 53(1), 53(2), 54(1), 59(4), 60(1), 63(1) a 63(3).
66. Rhaid i berson a benodir(18)—
(a)yn ddi-oed, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr gwasanaethau o’i benodiad a’r rhesymau dros ei benodi;
(b)o fewn 28 o ddiwrnodau i’w benodi, hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau o’i fwriadau ynghylch gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.
67.—(1) Pan fo’r darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw, rhaid i gynrychiolwyr personol yr unigolyn—
(a)yn ddi-oed, roi hysbysiad ysgrifenedig o’r farwolaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau;
(b)o fewn 28 o ddiwrnodau i’r farwolaeth, hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am eu bwriadau ynghylch gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.
(2) Caiff cynrychiolwyr personol yr unigolyn weithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth am gyfnod nad yw’n hwy nag 28 o ddiwrnodau neu am unrhyw gyfnod hwy (nad yw’n hwy nag un flwyddyn) y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno.
(3) Pan fo’r cynrychiolwyr personol yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth yn unol â pharagraff (2), mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a)nid yw adran 5 (gofyniad i gofrestru) yn gymwys;
(b)mae adran 21(2) (unigolion cyfrifol) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (a)—
“(aa)pan fo cynrychiolwyr personol darparwr gwasanaeth sydd wedi marw yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth, fod yn un o’r cynrychiolwyr personol;”.
68. Caiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol, er nad yw gofynion adran 21(2) o’r Ddeddf wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn, o dan yr amgylchiadau a ganlyn—
(a)bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn sydd wedi marw ac mae cynrychiolwyr personol y darparwr gwasanaeth wedi hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau nad ydynt yn bwriadu gwneud cais o dan adran 11(1)(c) o’r Ddeddf;
(b)bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn ac wedi hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau—
(i)na all gydymffurfio â’i ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol mwyach, a
(ii)y rhesymau dros hyn;
(c)bod y darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth ac wedi hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau—
(i)nad yw’r unigolyn sydd wedi ei ddynodi gan y darparwr gwasanaeth fel yr unigolyn cyfrifol yn gallu cydymffurfio â’i ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol mwyach,
(ii)y rhesymau dros hyn, a
(iii)nad oes unrhyw unigolyn arall sy’n gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol ac sy’n gallu cydymffurfio â dyletswyddau unigolyn cyfrifol.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
31 Ionawr 2019
Rheoliadau 28 ac 36
1. Prawf o bwy yw’r person gan gynnwys ffotograff diweddar.
2. Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997(19), copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys a ddyroddir o dan adran 113A o’r Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan fo’n gymwys, â’r wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(20) (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).
3. Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â gwybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).
4. Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diwethaf, os oes un.
5. Pan fo person wedi gweithio’n flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o’r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu’r swydd i ben.
6. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.
7. Pan fo’n berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â GCC.
8. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.
9. Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu gofal a chymorth i’r unigolion hynny y mae’r gweithiwr neu’r gofalwr lleoli oedolion i ddarparu gofal a chymorth ar eu cyfer.
10. Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff o’r fath.
11. At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 o’r Atodlen hon—
(a)os nad yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—
(i)os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 28(3) neu (6), neu 36(3) neu (6), a
(ii)os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers i’r dystysgrif gael ei dyroddi;
(b)os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.
Rheoliad 40
1. Mewn cysylltiad â phob gofalwr lleoli oedolion, cofnodion o—
(a)enw llawn;
(b)rhyw;
(c)dyddiad geni;
(d)cyfeiriad;
(e)cymwysterau sy’n berthnasol i waith sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf a phrofiad o wneud gwaith o’r fath;
(f)copi o’r cytundeb gofalwr;
(g)copi o unrhyw gytundebau lleoli unigolion perthnasol;
(h)cofnod o’r gwaith monitro a wneir mewn cysylltiad â’r lleoliad.
2. Mewn cysylltiad â phob unigolyn, cofnodion o—
(a)pob asesiad perthnasol;
(b)cynlluniau gofal a chymorth;
(c)cynlluniau personol;
(d)adolygiadau o gynlluniau personol.
3. Cofnod o unrhyw ffioedd gan y darparwr gwasanaeth i unigolion am ddarparu gofal a chymorth ac unrhyw wasanaethau ychwanegol.
4. Pan fo’n gymwys, cofnod o’r holl feddyginiaethau a gedwir gan y gofalwr lleoli oedolion ar gyfer pob unigolyn a’r dyddiad a’r amser y’u rhoddwyd i’r unigolyn.
5. Cofnod o’r holl arian neu bethau gwerthfawr eraill a adneuwyd gan yr unigolyn gyda’r gofalwr lleoli oedolion i’w cadw’n ddiogel neu a gafwyd ar ran yr unigolyn, a hwnnw’n gofnod y mae rhaid iddo gynnwys cofnod o—
(a)y dyddiad yr adneuwyd neu y cafwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr;
(b)y dyddiad y cafodd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr—
(i)eu dychwelyd at yr unigolyn, neu
(ii)eu defnyddio, ar gais yr unigolyn, ar ei ran;
(c)pan fo’n gymwys, y diben y defnyddiwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr ato;
(d)y gydnabyddiaeth ysgrifenedig bod yr arian neu’r pethau gwerthfawr wedi eu dychwelyd.
6. Cofnod o’r digwyddiadau a ganlyn sy’n digwydd yng nghartref y gofalwr lleoli oedolion—
(a)unrhyw ddamwain neu anaf difrifol sy’n cael effaith niweidiol sylweddol ar lesiant unigolyn;
(b)unrhyw achos o ddwyn neu fwrgleriaeth;
(c)unrhyw atgyfeiriad diogelu a wneir mewn cysylltiad ag unigolyn;
(d)dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheoli, atal neu ddisgyblu a ddefnyddir ar unigolyn.
7. Cofnod o’r holl gwynion a wneir gan unigolion neu eu cynrychiolwyr neu gan bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth neu gan ofalwyr lleoli oedolion ynghylch gweithrediad y gwasanaeth, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gŵyn o’r fath.
8. Cofnod o’r holl bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a hwnnw’n gofnod y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—
(a)enw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni, cymwysterau a phrofiad y person;
(b)copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) y person;
(c)copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad â’r person;
(d)y dyddiadau y mae’r person yn dechrau cael ei gyflogi felly ac yn peidio â chael ei gyflogi felly;
(e)y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth, y gwaith y mae’n ei wneud a nifer yr oriau y mae wedi ei gyflogi bob wythnos;
(f)cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person;
(g)cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.
9. Copi o restr ddyletswyddau’r personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a chofnod o ran a oedd y rhestr yn gweithio yn ôl yr hyn a fwriadwyd mewn gwirionedd.
Rheoliad 41
1. Unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, 28 o ddiwrnodau cyn i’r datganiad o ddiben diwygiedig gymryd effaith.
2. Pan fo’r darparwr gwasanaeth (unigolyn neu sefydliad) yn newid ei enw.
3. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gwmni, unrhyw newid i gyfarwyddwyr y cwmni.
4. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad mewn perthynas â’r unigolyn hwnnw.
5. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth, penodi derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro mewn perthynas â’r cwmni hwnnw neu’r bartneriaeth honno.
6. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, marwolaeth un o’r partneriaid.
7. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, unrhyw newid i’r partneriaid.
8. Absenoldeb disgwyliedig yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.
9. Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.
10. Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.
11. Bod yr unigolyn cyfrifol yn dychwelyd o fod yn absennol.
12. Bod yr unigolyn cyfrifol yn peidio â bod, neu’n bwriadu peidio â bod, yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth.
13. Unrhyw gam-drin neu honiad o gam-drin mewn perthynas ag unigolyn sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth, aelod o staff, gwirfoddolwr a/neu ofalwr lleoli oedolion.
14. Pan fo’r darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei euogfarnu o drosedd.
15. Unrhyw honiad o gamymddwyn gan aelod o staff.
16. Damwain neu anaf difrifol unigolyn sydd wedi ei leoli gyda gofalwr lleoli oedolion.
17. Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.
18. Unrhyw ddigwyddiadau sy’n atal, neu a allai atal, y darparwr gwasanaeth rhag parhau i ddarparu’r gwasanaeth yn ddiogel.
19. Marwolaeth unigolyn sydd wedi ei leoli gyda gofalwr lleoli oedolion a’r amgylchiadau.
20. Unrhyw gais i gorff goruchwylio mewn perthynas â chymhwyso’r mesurau diogelwch amddifadu o ryddid (DOLS)(21).
21. Unrhyw gynnig i newid cyfeiriad y brif swyddfa, 28 o ddiwrnodau cyn i’r newid ddigwydd.
Rheoliad 63
1. Penodi rheolwr (gweler rheoliad 46(1)).
2. Absenoldeb disgwyliedig y rheolwr a benodir am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.
3. Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.
4. Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.
5. Bod y rheolwr a benodir yn dychwelyd o fod yn absennol.
6. Trefniadau interim pan fo’r rheolwr yn absennol am fwy nag 28 o ddiwrnodau.
7. Bod rhywun ac eithrio’r rheolwr a benodir yn bwriadu rheoli neu yn rheoli’r gwasanaeth.
8. Bod y rheolwr a benodir yn peidio, neu’n bwriadu peidio, â rheoli’r gwasanaeth.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn cyflwyno system newydd o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, gan ddisodli’r un a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Mae’r Ddeddf yn cyflwyno cysyniad newydd o “gwasanaethau rheoleiddiedig” ac mae adran 2 o’r Ddeddf yn diffinio “gwasanaeth rheoleiddiedig” i gynnwys gwasanaeth lleoli oedolion. Mae paragraff 6 o Atodlen 1 i’r Ddeddf yn diffinio “gwasanaeth lleoli oedolion” fel gwasanaeth a gynhelir (pa un ai er elw ai peidio) gan awdurdod lleol neu berson arall at ddibenion lleoli oedolion gydag unigolyn yng Nghymru o dan gytundeb gofalwr (ac mae’n cynnwys unrhyw drefniadau ar gyfer recriwtio, hyfforddi a goruchwylio unigolion o’r fath).
Yn unol â’r pwerau yn adran 27 o’r Ddeddf, mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn perthynas â gwasanaethau lleoli oedolion, gan gynnwys gofynion o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu i unigolyn a leolir o dan gytundeb gofalwr. Mae paragraff 6 o Atodlen 1 i’r Ddeddf yn diffinio “cytundeb gofalwr” fel cytundeb ar gyfer darparu gan unigolyn lety yng nghartref yr unigolyn ynghyd â gofal a chymorth ar gyfer hyd at dri oedolyn.
Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau yn cynnwys diffiniadau o dermau penodol sy’n cael eu defnyddio yn y Rheoliadau.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn nodi’r gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau. Mae’r gofynion hyn yn ymwneud â darparu’r gwasanaeth lleoli oedolion (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y gwasanaeth”), gofynion penodol mewn perthynas â’r datganiad o ddiben, gofynion mewn perthynas â monitro a gwella’r gwasanaeth, gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol a gofynion i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau yn pennu’r gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i’w cymryd cyn cytuno i ddarparu gofal a chymorth. Mae hyn yn ymwneud ag addasrwydd y gwasanaeth.
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau yn pennu’r gofynion ar y darparwr gwasanaeth o ran y camau sydd i’w cymryd wrth gychwyn darparu gofal a chymorth a safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu. Mae hyn yn cynnwys llunio cytundeb gofalwr, llunio cytundeb lleoli unigolyn a llunio ac adolygu cynllun personol.
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau yn pennu’r gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran yr wybodaeth sydd i’w darparu i unigolion wrth gychwyn darparu gofal a chymorth.
Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau yn pennu gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu. Mae hyn yn cynnwys gofynion cyffredinol, darparu gwybodaeth, rhoi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod anghenion iaith unigolion yn cael eu diwallu a sicrhau bod unigolion yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.
Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau yn pennu gofynion diogelu ar ddarparwyr gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys polisïau a gweithdrefnau diogelu, cefnogi unigolion i reoli eu harian, defnyddio rheolaeth ac ataliaeth yn briodol ac amddifadu o ryddid.
Mae Rhan 8 o’r Rheoliadau yn pennu gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran staffio. Mae hyn yn cynnwys addasrwydd staff, cefnogi a datblygu staff, cydymffurfedd â chod ymarfer y cyflogwr, gwybodaeth ar gyfer staff a gweithdrefnau disgyblu.
Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau yn pennu gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y cymorth y mae rhaid iddo fod yn ei le ar gyfer gofalwyr lleoli oedolion. Mae hyn yn cynnwys recriwtio a hyfforddi gofalwyr lleoli oedolion, perthnasoedd effeithiol, cymorth, hyfforddiant a gwybodaeth ar gyfer gofalwyr lleoli oedolion ac addasrwydd gofalwyr lleoli oedolion.
Mae Rhan 10 o’r Rheoliadau yn pennu gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar. Mae hyn yn cynnwys y mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer gweithredu’r gwasanaeth a’r mangreoedd, y cyfleusterau a’r cyfarpar a ddefnyddir gan ofalwyr lleoli oedolion i ddiwallu anghenion unigolion.
Mae Rhan 11 o’r Rheoliadau yn pennu gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys cofnodion, hysbysiadau, gwrthdaro buddiannau, polisi a gweithdrefnau cwyno a chwythu’r chwiban.
Mae Rhan 12 o’r Rheoliadau yn pennu’r dyletswyddau ar unigolion cyfrifol sy’n ymwneud â rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol. Mae’r dyletswyddau hyn yn cynnwys goruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth lleoli oedolion, dyletswydd i benodi rheolwr a chyfyngiadau a gofynion adrodd sy’n ymwneud â’r penodiad hwnnw a dyletswydd i wneud trefniadau pan yw’r rheolwr yn absennol. Mae Rhan 13 o’r Rheoliadau yn pennu’r dyletswyddau ar unigolion cyfrifol sy’n ymwneud â goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys goruchwylio digonolrwydd adnoddau, adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth ac ymgysylltu ag unigolion ac eraill. Mae Rhan 14 o’r Rheoliadau yn pennu’r dyletswyddau ar unigolion cyfrifol sy’n ymwneud â sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle i gofnodi digwyddiadau a chwynion a bod systemau yn eu lle i gadw cofnodion ac i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn gyfredol. Mae Rhan 15 o’r Rheoliadau yn pennu’r dyletswyddau ar unigolion cyfrifol ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth rheoleiddiedig. Mae Rhan 16 yn gosod gofynion ar unigolion cyfrifol mewn perthynas â chymorth ar gyfer staff sy’n codi pryderon, dyletswydd gonestrwydd a hysbysiadau.
Mae Rhan 17 o’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer troseddau y mae darparwr ac unigolyn cyfrifol yn eu cyflawni os byddant yn methu â chydymffurfio â gofynion penodedig.
Mae Rhan 18 o’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer darparwyr gwasanaethau sydd wedi eu datod etc. neu sydd wedi marw. Mae Rhan 19 o’r Rheoliadau yn gwneud darpariaethau ar gyfer dynodi unigolyn cyfrifol gan Weinidogion Cymru o dan adran 21(5) o’r Ddeddf.
Mae canllawiau wedi cael eu cyhoeddi ynghylch sut y caiff y darparwr gwasanaeth a’r unigolion cyfrifol gydymffurfio â’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn (gan gynnwys sut y caiff y darparwr gwasanaeth gyrraedd unrhyw safonau ar gyfer darparu gwasanaeth rheoleiddiedig) ac mae adran 29 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr a’r unigolyn cyfrifol roi sylw i’r canllawiau hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Diffinnir “Deddf 2014” yn adran 189 o’r Ddeddf fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).
Diffinnir “gwasanaeth lleoli oedolion” ym mharagraff 6(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf fel “gwasanaeth a gynhelir (pa un ai er elw ai peidio) gan awdurdod lleol neu berson arall at ddibenion lleoli oedolion gydag unigolyn yng Nghymru o dan gytundeb gofalwr (ac mae’n cynnwys unrhyw drefniadau ar gyfer recriwtio, hyfforddi a goruchwylio unigolion o’r fath)”.
Mae rheoliad 3 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1098 (Cy. 278)) yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n dymuno darparu gwasanaethau lleoli oedolion ddarparu datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i’w ddarparu ohono.
Diffinnir “cytundeb gofalwr” ym mharagraff 6(2) o Atodlen 1 i’r Ddeddf fel “cytundeb ar gyfer darparu gan unigolyn lety yng nghartref yr unigolyn ynghyd â gofal a chymorth ar gyfer hyd at dri oedolyn”.
Diffinnir “swyddogaethau rheoleiddiol” yn adran 3(1)(b) o’r Ddeddf.
Gweler adran 67(3) o’r Ddeddf am y diffiniad o Ofal Cymdeithasol Cymeu fel “GCC”.
Fel y’i diffinnir yn adran 21(1) o’r Ddeddf.
Gweler adran 67(3) o’r Ddeddf am y diffiniad o Ofal Cymdeithasol Cymru fel “GCC”.
Fel y’i diffinnir yn adran 79 o’r Ddeddf.
Am gosbau yn dilyn euogfarn am drosedd o dan y rheoliad hwn, gweler adran 51(1) o’r Ddeddf.
Am gosbau yn dilyn euogfarn am drosedd o dan y rheoliad hwn, gweler adran 51(1) o’r Ddeddf.
Mae i “person a benodir” yr un ystyr ag yn adran 30 o’r Ddeddf.
Gweler Rhan 1 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys