Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ardal benodedig” (“specified area”) yw ardal a bennir mewn amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth fel man y mae’r gwasanaeth i’w ddarparu mewn perthynas ag ef;

ystyr “comisiynydd y gwasanaeth” (“service commissioner”) yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am wneud trefniadau â darparwr gwasanaeth ar gyfer darparu cynhorthwy i blentyn neu berson o dan adran 178(1) o Ddeddf 2014(1);

ystyr “cynllun eirioli” (“advocacy plan”) yw’r cynllun a lunnir gan y darparwr gwasanaeth mewn perthynas ag unigolyn yn unol â rheoliad 12;

ystyr “cynrychiolydd” (“representative”) yw unrhyw berson a chanddo awdurdod cyfreithiol, neu sydd wedi cael cydsyniad yr unigolyn i weithredu ar ran yr unigolyn;

ystyr “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yw darparwr gwasanaeth eirioli sydd wedi ei gofrestru o dan adran 7 o’r Ddeddf;

ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth y mae rhaid i ddarparwr gwasanaeth ei gadw o dan adolygiad a’i ddiwygio yn unol â rheoliad 4(2);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

ystyr “eiriolaeth” (“advocacy”) yw cynhorthwy a roddir er mwyn helpu person i fynegi ei safbwyntiau;

ystyr “GDG” (“DBS”) neu “y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd” (“the Disclosure and Barring Service”) yw’r corff a sefydlir gan adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012(3);

ystyr “gwasanaeth” (“service”) yw gwasanaeth eirioli a ddiffinnir yn rheoliad 2 sydd wedi ei ddarparu mewn perthynas ag ardal benodedig;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 18 oed;

ystyr “rheoleiddiwr gwasanaethau” (“service regulator”) yw Gweinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol(4);

ystyr “tystysgrif GDG” (“DBS certificate”) yw tystysgrif o fath y cyfeirir ato ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 1;

ystyr “unigolyn” (“individual”), ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn mynnu fel arall, yw person y mae’r darparwr gwasanaeth yn darparu eiriolaeth ar ei gyfer, neu wedi darparu eiriolaeth ar ei gyfer, neu berson y caiff y darparwr gwasanaeth ddarparu eiriolaeth ar ei gyfer.

Diffiniad ac eithriadau

2.—(1At ddiben paragraff 7(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf, mae gwasanaeth eirioli yn—

(a)gwasanaeth a gynhelir i ddarparu eiriolaeth ar gyfer plant sy’n cyflwyno neu’n bwriadu cyflwyno sylwadau sy’n dod o fewn adran 174 o Ddeddf 2014(5); neu

(b)gwasanaeth a gynhelir i ddarparu eiriolaeth ar gyfer personau sy’n cyflwyno neu’n bwriadu cyflwyno sylwadau sy’n dod o fewn adran 176 o Ddeddf 2014(6),

pan ddiben yr eiriolaeth yw cynrychioli safbwyntiau’r plant neu’r personau neu eu helpu i fynegi eu safbwyntiau mewn perthynas â’u hanghenion am ofal a chymorth(7).

(2Ond nid yw gwasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn wasanaeth eirioli—

(a)os yw’n cael ei ddarparu gan berson yng nghwrs gweithgaredd cyfreithiol o fewn yr ystyr a roddir i “legal activity” yn Neddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007(8) gan berson sy’n—

(i)person awdurdodedig at ddibenion y Ddeddf honno, neu

(ii)cyfreithiwr Ewropeaidd (o fewn yr ystyr a roddir i “European lawyer” yng Ngorchymyn Cymunedau Ewropeaidd (Gwasanaethau Cyfreithwyr) 1978 (9));

(b)os yw’r cynhorthwy yn cael ei ddarparu gan swyddog achosion teuluol Cymreig yng nghwrs cyflawni swyddogaethau mewn perthynas ag achosion teuluol;

(c)os yw’r cynhorthwy yn cael ei ddarparu gan Gomisiynydd Plant Cymru neu gan aelod o staff Comisiynydd Plant Cymru;

(d)os yw’n cael ei ddarparu gan berson nad yw wedi darparu nac yn bwriadu darparu eiriolaeth i fwy na 4 person o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis;

(e)i’r graddau y mae’n cael ei ddarparu gan berthynas neu gyfaill i’r person y cyflwynir sylwadau ar ei ran neu y bwriedir cyflwyno sylwadau ar ei ran.

(3Yn y rheoliad hwn—

(a)mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ganlyn yr ystyron a roddir iddynt—

(i)ystyr “perthynas” yw rhiant neu berson arall a chanddo gyfrifoldeb rhiant, brawd, chwaer, ewythr neu fodryb (pa un ai drwy briodas neu bartneriaeth sifil), tad-cu/taid neu fam-gu/nain, llys-riant, rhiant maeth neu ddarpar fabwysiadydd y lleolir y plentyn gydag ef neu hi;

(ii)mae i “achosion teuluol” yr ystyr a roddir i “family proceedings” gan adran 12 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000(10);

(iii)mae i “swyddog achosion teuluol Cymreig” yr un ystyr â “Welsh family proceedings officer” yn adran 35(4) o Ddeddf Plant 2004(11);

(iv)mae “grŵp o frodyr a chwiorydd” yn cynnwys brodyr a chwiorydd a hanner brodyr a hanner chwiorydd; a

(b)wrth benderfynu a yw person wedi darparu neu’n bwriadu darparu gwasanaeth eirioli i fwy na 4 person at ddiben paragraff (2)(d), mae darparu eiriolaeth i grŵp o frodyr a chwiorydd yn cael ei gyfrif fel darparu eiriolaeth i un person.

RHAN 2Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau

Gofynion mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth

3.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.

Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben

4.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a

(b)pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.

(3Oni bai bod paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad sydd i’w wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’n angenrheidiol diwygio’r datganiad o ddiben gydag effaith ar unwaith.

(5Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth, yn ddi-oed, hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad a wneir i’r datganiad o ddiben.

(6Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) neu (5) yw—

(a)y rheoleiddiwr gwasanaethau,

(b)yr unigolion,

(c)comisiynwyr gwasanaethau, a

(d)unrhyw gynrychiolydd, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn.

(7Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn.

Gofynion mewn perthynas â monitro a gwella

5.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd yr eiriolaeth a ddarperir.

(2Rhaid i’r trefniadau hynny gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—

(a)unigolion,

(b)unrhyw gynrychiolwyr, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn,

(c)comisiynwyr gwasanaethau, a

(d)staff,

ar ansawdd yr eiriolaeth a ddarperir gan y gwasanaeth a sut y gellir gwella hyn.

(3Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd yr eiriolaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)ystyried safbwyntiau’r personau hynny yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2), a

(b)rhoi sylw i’r adroddiad ar ansawdd y gwasanaeth a lunnir gan yr unigolyn cyfrifol yn unol â rheoliad 50(4).

Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol

6.—(1Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth sy’n unigolyn.

(2Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y person sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol—

(a)yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol; a

(b)yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.

(3Os bydd gan y darparwr gwasanaeth reswm dros gredu nad yw’r unigolyn cyfrifol wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan reoliadau 36 i 54, rhaid i’r darparwr—

(a)cymryd unrhyw gamau gweithredu sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad; a

(b)hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau.

(4Yn ystod unrhyw adeg pan nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—

(a)rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,

(b)goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,

(c)cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15, a

(d)monitro, adolygu a gwella ansawdd yr eiriolaeth a ddarperir.

(5Os nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau; a

(b)rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim a wnaed i gydymffurfio â pharagraff (4).

Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

(2Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r unigolyn ymgymryd â hyfforddiant priodol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau’n briodol fel yr unigolyn cyfrifol.

(3Yn ystod unrhyw adeg pan yw’r unigolyn yn absennol, rhaid iddo sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—

(a)rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,

(b)goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,

(c)cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15, a

(d)monitro, adolygu a gwella ansawdd yr eiriolaeth a ddarperir gan y gwasanaeth.

(4Os nad yw’r unigolyn yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r unigolyn—

(a)hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a

(b)rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim a wnaed i gydymffurfio â pharagraff (3).

Gofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth

8.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn ariannol at ddiben cyflawni’r nodau a’r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnal cyfrifon priodol a chyfredol ar gyfer y gwasanaeth.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu copïau o’r cyfrifon i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gyfrifon gael eu hardystio gan gyfrifydd.

Gofynion i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau

9.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—

  • Cychwyn y gwasanaeth (gweler Rhan 3, rheoliad 11)

  • Cyfrinachedd (gweler Rhan 6, rheoliad 19)

  • Diogelu (gweler Rhan 7, rheoliad 21)

  • Cefnogi a datblygu staff (gweler Rhan 8, rheoliad 25)

  • Disgyblu staff (gweler Rhan 8, rheoliad 28)

  • Cwynion (gweler Rhan 10, rheoliad 34)

  • Chwythu’r chwiban (gweler Rhan 10, rheoliad 35).

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle sy’n rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) a (2)—

(a)yn briodol i anghenion yr unigolion y darperir eiriolaeth ar eu cyfer,

(b)yn gyson â’r datganiad o ddiben, ac

(c)yn cael eu cadw’n gyfredol.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny.

Dyletswydd gonestrwydd

10.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag—

(a)unigolion,

(b)unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny.

RHAN 3Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i’w cymryd cyn cytuno i ddarparu eiriolaeth

Addasrwydd y gwasanaeth

11.—(1Ni chaiff y darparwr gwasanaeth ddarparu eiriolaeth ar gyfer unigolyn oni bai bod y darparwr gwasanaeth wedi penderfynu bod y gwasanaeth yn addas i ddiwallu angen yr unigolyn am eiriolaeth.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefn yn eu lle ar gychwyn y gwasanaeth.

(3Rhaid i’r penderfyniad o dan baragraff (1) ystyried—

(a)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,

(b)unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn,

(c)unrhyw addasiadau rhesymol y gallai’r darparwr gwasanaeth eu gwneud i alluogi i anghenion eiriolaeth yr unigolyn gael eu diwallu, a

(d)polisi a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth ar gychwyn y gwasanaeth.

(4Wrth wneud y penderfyniad ym mharagraff (1), rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—

(a)os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys; neu

(b)pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.

RHAN 4Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i’w cymryd wrth gychwyn darparu eiriolaeth

Cynllun eirioli

12.—(1Os yw’r darparwr gwasanaeth yn penderfynu bod y gwasanaeth yn addas i ddiwallu anghenion yr unigolyn, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, lunio cynllun sy’n nodi—

(a)y camau sydd i’w cymryd i gynorthwyo’r unigolyn i gyflwyno sylwadau; a

(b)unrhyw gamau sydd i’w cymryd i liniaru risgiau a nodir i lesiant yr unigolyn.

(2Wrth lunio’r cynllun eirioli, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn ac unrhyw gynrychiolydd oni bai—

(a)bod yr unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn am i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys; neu

(b)y byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.

Adolygu’r cynllun eirioli

13.—(1Rhaid i’r cynllun eirioli gael ei adolygu fel a phan y’i cytunir rhwng y darparwr gwasanaeth a’r unigolyn.

(2Rhaid i adolygiad o gynllun eirioli gynnwys adolygiad o’r graddau y mae’r unigolyn wedi gallu mynegi safbwyntiau’r unigolyn neu sicrhau bod y safbwyntiau hynny yn cael eu cynrychioli.

(3Wrth gynnal adolygiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—

(a)os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys; neu

(b)pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.

(4Ar ôl cwblhau unrhyw adolygiad sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried a ddylai’r cynllun eirioli gael ei ddiwygio a diwygio’r cynllun fel y bo angen.

Cofnodion o gynlluniau eirioli

14.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)cadw cofnod o’r canlynol—

(i)y cynllun eirioli ac unrhyw gynllun diwygiedig, a

(ii)canlyniad unrhyw adolygiad, a

(b)rhoi copi o’r cynllun eirioli ac unrhyw gynllun diwygiedig i—

(i)yr unigolyn,

(ii)unrhyw gynrychiolydd, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn.

RHAN 5Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran yr wybodaeth sydd i’w darparu i unigolion wrth gychwyn darparu eiriolaeth

Gwybodaeth am y gwasanaeth

15.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth.

(2Rhaid i’r canllaw—

(a)cael ei ddyddio, ei adolygu o leiaf bob blwyddyn a’i ddiweddaru fel y bo angen;

(b)bod mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat priodol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth;

(c)cael ei roi i bob unigolyn sy’n cael eiriolaeth;

(d)cael ei roi i awdurdodau comisiynu; ac

(e)cael ei wneud ar gael i eraill ar gais, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant unigolyn.

(3Rhaid i’r canllaw gynnwys gwybodaeth am sut i godi pryder neu wneud cwyn.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob unigolyn yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw.

RHAN 6Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safon yr eiriolaeth sydd i’w darparu

Safonau gwasanaeth

16.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir eiriolaeth mewn ffordd—

(a)sy’n galluogi unigolion i fynegi eu safbwyntiau ac i sicrhau bod y safbwyntiau hynny yn cael eu cynrychioli; a

(b)sy’n diogelu, yn hybu ac yn cynnal diogelwch a llesiant unigolion.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir eiriolaeth i bob unigolyn yn unol â chynllun eirioli’r unigolyn.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir yr eiriolaeth mewn ffordd—

(a)sy’n cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion a staff; a

(b)sy’n annog ac yn cynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion.

(4Os nad yw’r darparwr gwasanaeth, o ganlyniad i newid yn amgylchiadau’r unigolyn, yn gallu diwallu’r anghenion hynny mwyach, hyd yn oed ar ôl gwneud unrhyw addasiadau rhesymol, rhaid i’r darparwr roi hysbysiad ysgrifenedig o hyn i’r unigolyn, unrhyw gynrychiolydd a chomisiynydd y gwasanaeth ar unwaith.

(5Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried a oes ar unigolyn angen cyngor neu gynhorthwy cyfreithiol neu gyngor neu gynhorthwy arbenigol arall a chymryd pob cam rhesymol i gael y cyngor hwnnw neu’r cynhorthwy hwnnw.

Iaith a chyfathrebu

17.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i ddiwallu anghenion iaith a chyfathrebu unigolion.

Parch a sensitifrwydd

18.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolion yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.

(2Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i—

(a)parchu preifatrwydd ac urddas yr unigolyn;

(b)hybu ymreolaeth ac annibyniaeth yr unigolyn;

(c)rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel y’u diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(12)) yr unigolyn.

Cyfrinachedd

19.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth barchu hawliau’r unigolyn i gyfrinachedd.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ynghylch hawl unigolion i gyfrinachedd, sydd hefyd yn cynnwys yr amgylchiadau pan ganiateir i hawl unigolyn i gyfrinachedd gael ei threchu, a rhaid iddo weithredu’r gwasanaeth yn unol â’r polisi.

RHAN 7Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau – diogelu

Diogelu - gofyniad cyffredinol

20.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth mewn ffordd sy’n sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol.

Polisïau a gweithdrefnau diogelu

21.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle ar gyfer—

(a)atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a

(b)ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.

(2Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau o’r fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod ei bolisïau a’i weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

(4Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)gweithredu yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau diogelu;

(b)cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob unigolyn y darperir gwasanaethau eirioli ar ei gyfer;

(c)gwneud atgyfeiriadau priodol i asiantaethau eraill; a

(d)cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.

Dehongli Rhan 7

22.  Yn y Rhan hon—

ystyr “camdriniaeth” (“abuse”) yw camdriniaeth gorfforol, rywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol ac, mewn perthynas â phlentyn, unrhyw niwed arall, ac at ddibenion y diffiniad hwn—

(a)

mae “camdriniaeth ariannol” yn cynnwys—

(i)

bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn;

(ii)

bod person yn cael ei dwyllo;

(iii)

bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;

(iv)

bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;

(b)

mae i “niwed” yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;

mae i “esgeulustod” (“neglect”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;

mae “triniaeth amhriodol” (“improper treatment”) yn cynnwys gwahaniaethu neu atal anghyfreithlon, gan gynnwys amddifadu amhriodol o ryddid o dan delerau Deddf Galluedd Meddyliol 2005(13).

RHAN 8Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran staffio

Staffio - gofynion cyffredinol

23.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad addas yn cael eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

Addasrwydd staff

24.—(1Ni chaiff y darparwr gwasanaeth—

(a)cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;

(b)caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;

(c)caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs ei ddyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi ag unigolion hyglwyf neu â phersonau hyglwyf eraill oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—

(a)bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da;

(b)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae’r person hwnnw i’w wneud;

(c)bod y person, oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawni’n briodol y tasgau sy’n rhan annatod o’r gwaith y mae’r person hwnnw wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen ar ei gyfer;

(d)bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 a bod yr wybodaeth hon neu’r ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau edrych arni;

(e)pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth ar ôl 1 Medi 2022, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â GCC(14).

(3Rhaid i gais gael ei wneud am dystysgrif GDG briodol gan neu ar ran y darparwr gwasanaeth at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer y swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r person sy’n gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “gwasanaeth diweddaru’r GDG”).

(4Pan fo person sy’n cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.

(5Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.

(6Pan na fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cais am dystysgrif GDG newydd mewn cysylltiad â’r person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddi’r dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny rhaid i geisiadau pellach o’r fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.

(7Os nad yw person sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion perthnasol;

(b)pan fo’n briodol, hysbysu—

(i)y corff rheoleiddiol neu broffesiynol perthnasol;

(ii)y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cefnogi a datblygu staff

25.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar gyfer cefnogi a datblygu staff.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—

(a)yn cael cyfnod sefydlu sy’n briodol i’w rôl;

(b)yn cael ei wneud yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill;

(c)yn cael ei oruchwylio a’i arfarnu’n briodol;

(d)yn cael hyfforddiant craidd sy’n briodol i’r gwaith sydd i’w wneud ganddo;

(e)yn cael hyfforddiant arbenigol fel y bo’n briodol;

(f)yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach sy’n briodol i’r gwaith y mae’n ei wneud.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth yn cael ei gefnogi i gynnal ei gofrestriad â’r corff rheoleiddiol neu alwedigaethol priodol.

Cydymffurfio â chod ymarfer y cyflogwr

26.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lynu wrth y cod ymarfer ar y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol iddo gael ei gyhoeddi gan GCC o dan adran 112(1)(b) o’r Ddeddf.

Gwybodaeth ar gyfer staff

27.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gwybodaeth i bob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) am y gwasanaeth a’r ffordd y caiff ei ddarparu.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle i wneud staff yn ymwybodol o unrhyw godau ymarfer ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol iddynt gael eu cyhoeddi gan GCC o dan adran 112(1)(a) o’r Ddeddf.

Gweithdrefnau disgyblu

28.—(1 Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi gweithdrefn ddisgyblu yn ei lle a’i gweithredu.

(2Rhaid i’r weithdrefn ddisgyblu gynnwys—

(a)darpariaeth ar gyfer atal dros dro, a chymryd camau gweithredu heb fod mor bell ag atal dros dro, gyflogai er budd diogelwch neu lesiant unigolion;

(b)darpariaeth bod methiant ar ran cyflogai i adrodd am achos o gam-drin, neu am amheuaeth o gam-drin, i berson priodol yn sail dros ganiatáu cychwyn achos disgyblu.

(3At ddiben paragraff (2)(b), person priodol yw—

(a)y darparwr gwasanaeth,

(b)yr unigolyn cyfrifol,

(c)swyddog i’r rheoleiddiwr gwasanaethau,

(d)swyddog i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y darperir y gwasanaeth ynddi,

(e)yn achos cam-drin neu amheuaeth o gam-drin plentyn, swyddog i’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu

(f)swyddog heddlu.

RHAN 9Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran mangreoedd

Gofyniad cyffredinol

29.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y mangreoedd, y cyfleusterau a’r cyfarpar yn addas ar gyfer y gwasanaeth, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

Mangreoedd

30.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gan y mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer gweithredu’r gwasanaeth gyfleusterau digonol ar gyfer storio cofnodion yn ddiogel.

RHAN 10Gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau

Cofnodion

31.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gadw a chynnal y cofnodion a bennir yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â phob man y darperir y gwasanaeth ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)sicrhau bod cofnodion sy’n ymwneud ag unigolion yn gywir ac yn gyfredol;

(b)cadw pob cofnod yn ddiogel;

(c)gwneud trefniadau er mwyn i’r cofnodion barhau i gael eu cadw’n ddiogel os bydd y gwasanaeth yn cau;

(d)rhoi’r cofnodion ar gael i’r rheoleiddiwr gwasanaethau ar gais;

(e)cadw cofnodion sy’n ymwneud ag oedolion am dair blynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;

(f)cadw cofnodion sy’n ymwneud â phlant am bymtheng mlynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;

(g)sicrhau bod unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth—

(i)yn gallu cael mynediad i’w cofnodion; a

(ii)yn cael eu gwneud yn ymwybodol eu bod yn gallu cael mynediad i’w cofnodion.

Hysbysiadau

32.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y digwyddiadau a bennir yn Atodlen 3.

(2Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys manylion y digwyddiad.

(3Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.

(4Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau.

Gwrthdaro buddiannau

33.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle i nodi, cofnodi a rheoli achosion o wrthdaro buddiannau.

Polisi a gweithdrefn gwyno

34.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi cwyno yn ei le a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol â’r polisi hwnnw.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer ymdrin â chwynion gan gynnwys trefniadau ar gyfer—

(a)nodi cwynion ac ymchwilio iddynt;

(b)rhoi ymateb priodol i berson sy’n gwneud cwyn, os yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r person hwnnw;

(c)sicrhau bod camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd yn dilyn ymchwiliad;

(d)cadw cofnodion sy’n ymwneud â’r materion yn is-baragraffau (a) i (c).

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu crynodeb o gwynion, ymatebion a chamau gweithredu dilynol i’r rheoleiddiwr gwasanaethau o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)dadansoddi gwybodaeth sy’n ymwneud â chwynion a phryderon; a

(b)gan roi sylw i’r dadansoddiad hwnnw, nodi unrhyw feysydd i’w gwella.

Chwythu’r chwiban

35.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau bod pob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) yn gallu codi pryderon am faterion a all effeithio’n andwyol ar iechyd, diogelwch neu lesiant unigolion y darperir y gwasanaeth ar eu cyfer.

(2Rhaid i’r trefniadau hyn gynnwys—

(a)cael polisi chwythu’r chwiban yn ei le a gweithredu yn unol â’r polisi hwnnw; a

(b)sefydlu trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath.

(3Rhaid i’r darparwr sicrhau bod y trefniadau sy’n ofynnol o dan y rheoliad hwn yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

(4Pan godir pryder, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau—

(a)yr ymchwilir i’r pryder;

(b)y cymerir camau priodol yn dilyn ymchwiliad;

(c)y cedwir cofnod o’r ddau beth uchod.

RHAN 11Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol

Goruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth

36.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth, sy’n cynnwys y gofynion penodol a nodir yn y Rhan hon.

Dyletswydd i benodi rheolwr

37.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (2) neu (3) yn gymwys.

(2Yr amodau yw—

(a)bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn;

(b)bod y darparwr gwasanaeth yn bwriadu rheoli’r gwasanaeth;

(c)bod y darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth;

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (6), fod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â GCC; ac

(e)bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth.

(3Yr amodau yw—

(a)bod y darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, yn gorff corfforaethol neu’n gorff anghorfforedig;

(b)bod y darparwr gwasanaeth yn cynnig bod yr unigolyn sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth i’w benodi i reoli’r gwasanaeth;

(c)bod yr unigolyn hwnnw yn addas i reoli’r gwasanaeth;

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (6), fod yr unigolyn hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â GCC; ac

(e)bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r unigolyn hwnnw reoli’r gwasanaeth.

(4At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw’r darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 24(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r darparwr gwasanaeth.

(5Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) wedi ei chyflawni os yw’r person a benodir i reoli’r gwasanaeth yn absennol am gyfnod o fwy na thri mis.

(6Nid yw’r amod ym mharagraffau (2)(d) a (3)(d) ond yn gymwys ar ôl 1 Medi 2022.

Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr

38.—(1Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 24(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

Cyfyngiadau ar benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth

39.—(1Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli mwy nag un gwasanaeth, oni bai bod paragraff (2) yn gymwys.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw’r darparwr gwasanaeth wedi gwneud cais i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am ganiatâd i benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth; a

(b)os yw’r rheoleiddiwr gwasanaethau wedi ei fodloni—

(i)na fydd y trefniadau rheoli arfaethedig yn cael effaith andwyol ar allu’r darparwr gwasanaeth i fodloni gofynion rheoliad 16(1); a

(ii)y bydd y trefniadau rheoli arfaethedig yn darparu goruchwyliaeth ddibynadwy ac effeithiol o bob gwasanaeth.

Dyletswydd i adrodd am benodi rheolwr i’r darparwr gwasanaeth

40.  Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 37(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i’r darparwr gwasanaeth—

(a)o enw’r person a benodir, a

(b)o’r dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.

Dyletswydd i adrodd am benodi rheolwr i reoleiddiwr y gweithlu a’r rheoleiddiwr gwasanaethau

41.—(1Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 37(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i GCC a’r rheoleiddiwr gwasanaethau—

(a)o enw, dyddiad geni a rhif cofrestru GCC y person a benodir, a

(b)o’r dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.

(2Mewn achos pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn a bod y rheoleiddiwr gwasanaethau wedi cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi hysbysiad i GCC—

(a)o enw, dyddiad geni a rhif cofrestru GCC y darparwr gwasanaeth, a

(b)o’r dyddiad y mae’r darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth ohono.

Y trefniadau pan yw’r rheolwr yn absennol

42.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr neu pan nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth.

(2Os nad oes rheolwr neu os nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r unigolyn cyfrifol—

(a)hysbysu’r darparwr gwasanaeth a’r rheoleiddiwr gwasanaethau; a

(b)rhoi gwybod iddynt am y trefniadau sydd wedi eu rhoi yn eu lle ar gyfer rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol.

Ymweliadau

43.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol—

(a)ymweld â’r fangre y darperir y gwasanaeth ohoni;

(b)cwrdd ag aelodau o staff sydd wedi eu cyflogi i ddarparu’r gwasanaeth mewn perthynas â phob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef; ac

(c)cwrdd ag unigolion y mae eiriolaeth yn cael ei darparu ar eu cyfer mewn perthynas â phob man o’r fath.

(2Mae amlder ymweliadau a chyfarfodydd o’r fath i’w benderfynu gan yr unigolyn cyfrifol gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ond rhaid iddynt gael eu cynnal o leiaf bob tri mis.

RHAN 12Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol

Goruchwylio digonolrwydd adnoddau

44.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd i’r darparwr gwasanaeth am ddigonolrwydd yr adnoddau sydd ar gael i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau yn Rhannau 3 i 15.

(2Rhaid i adroddiadau o’r fath gael eu gwneud yn chwarterol.

(3Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

Adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth

45.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol, yn ddi-oed, adrodd i’r darparwr gwasanaeth—

(a)am unrhyw bryderon ynghylch rheoli neu ddarparu’r gwasanaeth;

(b)am unrhyw newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli neu ei ddarparu;

(c)am unrhyw bryderon nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

(2Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

Ymgysylltu ag unigolion ac eraill

46.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle ar gyfer cael safbwyntiau—

(a)unigolion,

(b)unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny,

(c)comisiynwyr gwasanaethau, a

(d)staff sy’n cael eu cyflogi yn y gwasanaeth,

ar ansawdd yr eiriolaeth a ddarperir a sut y gellir gwella hyn.

(2Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd am y safbwyntiau a geir i’r darparwr gwasanaeth er mwyn i’r safbwyntiau hyn allu cael eu hystyried gan y darparwr gwasanaeth wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd yr eiriolaeth a ddarperir.

RHAN 13Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth

Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle i gofnodi digwyddiadau a chwynion

47.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle i gofnodi digwyddiadau, cwynion a materion y mae rhaid gwneud hysbysiadau yn eu cylch yn unol â rheoliadau 32 a 54.

Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle ar gyfer cadw cofnodion

48.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle mewn perthynas â chadw cofnodion, sy’n cynnwys systemau ar gyfer sicrhau bod cofnodion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cadw gan reoliad 31 yn gywir ac yn gyflawn.

Dyletswydd i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn gyfredol

49.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth yn cael eu cadw’n gyfredol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.

RHAN 14Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth

Adolygiad o ansawdd y gwasanaeth

50.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

(2Rhaid i’r system a sefydlir o dan baragraff (1) wneud darpariaeth i ansawdd y gwasanaeth gael ei adolygu mor aml ag sy’n ofynnol ond o leiaf bob chwe mis.

(3Fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir, rhaid i’r unigolyn cyfrifol wneud trefniadau ar gyfer—

(a)ystyried canlyniad yr ymgysylltiad ag unigolion ac eraill, fel sy’n ofynnol gan reoliad 46 (ymgysylltu ag unigolion ac eraill);

(b)dadansoddi’r data cyfanredol ar ddigwyddiadau, digwyddiadau hysbysadwy, materion diogelu, chwythu’r chwiban, pryderon a chwynion;

(c)adolygu unrhyw gamau gweithredu a gymerir mewn perthynas â chwynion;

(d)ystyried canlyniad unrhyw archwiliad o gywirdeb a chyflawnrwydd cofnodion.

(4Ar ôl cwblhau adolygiad o ansawdd y gwasanaeth yn unol â’r rheoliad hwn, rhaid i’r unigolyn cyfrifol lunio adroddiad i’r darparwr gwasanaeth y mae rhaid iddo gynnwys—

(a)asesiad o safon yr eiriolaeth a ddarperir, a

(b)argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth.

(5Ond nid yw’r gofyniad ym mharagraff (4) yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

Datganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau eiriolaeth

51.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol lunio’r datganiad y mae’n ofynnol iddo gael ei gynnwys yn y datganiad blynyddol o dan adran 10(2)(b) o’r Ddeddf, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r man neu’r mannau y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef neu â hwy.

(2Wrth lunio’r datganiad, rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi sylw i’r asesiad o safon yr eiriolaeth a gynhwysir mewn adroddiad a lunnir yn unol â rheoliad 50(4).

RHAN 15Gofynion eraill ar unigolion cyfrifol

Cymorth ar gyfer staff sy’n codi pryderon

52.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu chwiban y darparwr a bod y trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

Dyletswydd gonestrwydd

53.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag—

(a)unigolion,

(b)unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny.

Hysbysiadau

54.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y digwyddiadau a bennir yn Atodlen 4.

(2Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys manylion y digwyddiad.

(3Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.

(4Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau.

RHAN 16Troseddau

Troseddau – darparwyr gwasanaethau

55.—(1Mae’n drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2)(15).

(2Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau 4(3), 4(5), 8(3), 9(1), 9(3), 15(1), 15(2), 15(3), 24(1), 27(1), 31(1), 31(2), 32(1) a 32(3).

(3Mae darparwr gwasanaeth yn cyflawni trosedd os yw’r darparwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (4) a bod methiant o’r fath yn arwain at—

(a)niwed y gellir ei osgoi (pa un ai o natur gorfforol neu seicolegol) i unigolyn,

(b)unigolyn yn cael ei wneud yn agored i risg sylweddol o niwed o’r fath, neu

(c)yn achos dwyn, camddefnyddio neu gamberchnogi arian neu eiddo, unrhyw golled gan unigolyn o’r arian neu’r eiddo o dan sylw.

(4Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (3) yw darpariaethau rheoliadau 3, 4(1), 11(1), 11(3) a 12(1).

Troseddau – unigolion cyfrifol

56.—(1Mae’n drosedd i’r unigolyn cyfrifol fethu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2)(16).

(2Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau 37(1), 38(1), 41(1), 41(2), 43(1), 43(2), 44(1), 44(2), 45(1), 50(4), 51(1), 54(1) a 54(3).

RHAN 17Darparwyr gwasanaethau sydd wedi eu datod etc. neu sydd wedi marw

Penodi datodwyr etc.

57.  Rhaid i berson a benodir(17)

(a)yn ddi-oed, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr gwasanaethau o’i benodiad a’r rhesymau dros ei benodi;

(b)o fewn 28 o ddiwrnodau i’w benodi, hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am ei fwriadau ynghylch gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.

Marwolaeth y darparwr gwasanaeth

58.—(1Pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw, rhaid i gynrychiolwyr personol yr unigolyn—

(a)yn ddi-oed, roi hysbysiad ysgrifenedig o’r farwolaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau;

(b)o fewn 28 o ddiwrnodau i’r farwolaeth, hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am eu bwriadau ynghylch gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.

(2Caiff cynrychiolwyr personol yr unigolyn weithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth am gyfnod nad yw’n hwy nag 28 o ddiwrnodau neu am unrhyw gyfnod hwy (nad yw’n hwy nag un flwyddyn) y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno.

(3Pan fo’r cynrychiolwyr personol yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth yn unol â pharagraff (2), mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)nid yw adran 5 (gofyniad i gofrestru) yn gymwys;

(b)yn adran 21(2) (unigolion cyfrifol) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)pan fo cynrychiolwyr personol darparwr gwasanaeth sydd wedi marw yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth, fod yn un o’r cynrychiolwyr personol;.

RHAN 18Rheoliadau o dan adran 21(5) o’r Ddeddf

Dynodiad unigolyn cyfrifol gan Weinidogion Cymru

59.  Caiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol, er nad yw gofynion adran 21(2) o’r Ddeddf wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn, o dan yr amgylchiadau a ganlyn—

(a)bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn sydd wedi marw ac mae cynrychiolwyr personol y darparwr gwasanaeth wedi hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau nad ydynt yn bwriadu gwneud cais o dan adran 11(1)(c) o’r Ddeddf;

(b)bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn ac wedi hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau—

(i)na all gydymffurfio â’i ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol mwyach, a

(ii)y rhesymau dros hyn;

(c)bod y darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth ac wedi hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau—

(i)nad yw’r unigolyn sydd wedi ei ddynodi gan y darparwr gwasanaeth fel yr unigolyn cyfrifol yn gallu cydymffurfio â’i ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol mwyach,

(ii)y rhesymau dros hyn, a

(iii)nad oes unrhyw unigolyn arall sy’n gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol ac sy’n gallu cydymffurfio â dyletswyddau unigolyn cyfrifol.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

31 Ionawr 2019

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill