Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 235 (Cy. 54)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

Gwnaed

12 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Chwefror 2019

Yn dod i rym

8 Mawrth 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983(1) ac adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2) sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3) a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(4) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1ENWI, CYCHWYN A CHYMHWYSO

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.

(2Mae’r rheoliad hwn a rheoliadau 3, 4, 6(b), 8(b) 12, 13(b), 21, 34(a) a 45 yn dod i rym ar 8 Mawrth 2019.

(3Mae pob rheoliad arall a’r Atodlenni—

(a)yn dod i rym ar 8 Mawrth 2019; a

(b)yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

RHAN 2DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (FFIOEDD A DYFARNIADAU) (CYMRU) 2007

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

2.  Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(5) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 6.

3.  Yn y testun Saesneg, yn lle “United Kingdom and Islands” ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “United Kingdom and the Islands”.

Diwygiad i reoliad 4

4.  Yn rheoliad 4 (codi ffioedd) ym mharagraff (4), yn lle “amod a osodir o dan adran 28 o Ddeddf Addysg Uwch 2004” rhodder “adran 10 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015”.

Diwygiadau i reoliad 5

5.  Yn rheoliad 5 (dyfarniadau gan awdurdodau lleol), ym mharagraff (1)—

(a)yn is-baragraff (b), yn lle “o fewn paragraffau 4A a 5” rhodder “o fewn paragraffau 4A, 5 a 5A”;

(b)yn is-baragraff (c), yn lle “o fewn paragraffau 4A, 5 a 9” rhodder “o fewn paragraffau 4A, 5, 5A a 9”.

Diwygiadau i’r Atodlen

6.  Yn yr Atodlen—

(a)ym mharagraff 1, yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”) yw person—

(a)

y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016(6) ac yn unol â’r rheolau mewnfudo(7); a

(b)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;;

(b)ym mharagraff 4A, yn lle “yng Nghymru” ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “yn y Deyrnas Unedig”;

(c)ar ôl paragraff 5 (personau â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ac aelodau o’u teulu), mewnosoder—

Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67

5A.(1) Person—

(a)sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Yn y paragraff hwn—

ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.

RHAN 3DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (ATHROFA BRIFYSGOL EWROPEAIDD) (CYMRU) 2014

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014

7.  Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014(8) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 8 i 10.

Diwygiadau i reoliad 3

8.  Yn rheoliad 3, yn y lleoedd priodol mewnosoder—

(a)

  • ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”) yw person—

    (a)

    y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo; a

    (b)

    sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;;

(b)

  • ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw;.

Diwygiadau i reoliad 6

9.  Yn rheoliad 6 (myfyrwyr cymwys)—

(a)ar ôl paragraff (10) mewnosoder—

(10A) Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, neu’n blentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a

(b)y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.;

(b)ym mharagraff (11), yn lle “paragraffau (9) a (10)” rhodder “paragraffau (9), (9A), (10) a (10A)”.

Diwygiad i Atodlen 1

10.  Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 5 mewnosoder—

Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67

5A.(1) Person—

(a)sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Yn y paragraff hwn—

ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.

RHAN 4DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG UWCH (CYRSIAU CYMHWYSOL, PERSONAU CYMHWYSOL A DARPARIAETH ATODOL) (CYMRU) 2015

Diwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015

11.  Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015(9) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 12 a 13.

12.  Yn y testun Saesneg, yn lle “United Kingdom and Islands” ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “United Kingdom and the Islands”.

Diwygiadau i’r Atodlen

13.  Yn yr Atodlen—

(a)ym mharagraff 1(1), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”) yw person—

(a)

y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo; a

(b)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;;

(b)ym mharagraff 4A, yn lle “yng Nghymru” ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “yn y Deyrnas Unedig”;

(c)ar ôl paragraff 5 (personau â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teulu) mewnosoder—

Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67

5A.(1) Person—

(a)sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Yn y paragraff hwn—

ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.

RHAN 5DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2017

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

14.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(10) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 15 i 40.

Diwygiadau i reoliad 2

15.  Yn rheoliad 2 (dehongli), paragraff (1)—

(a)hepgorer y diffiniad o “sefydliad rheoleiddiedig Seisnig”;

(b)yn y lle priodol mewnosoder—

(i)

  • ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”) yw person—

    (a)

    y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo; a

    (b)

    sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;;

(i)“ystyr “darparwr Seisnig gwarchodedig” (“protected English provider”) yw sefydliad a oedd, ar neu ar ôl 1 Awst 2018 ond cyn 1 Awst 2019, yn cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd yn unol ag adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac eithrio sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd a wneir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;”;(11)

(c)yn lle’r diffiniad o “sefydliad addysgol cydnabyddedig” rhodder—

ystyr “sefydliad addysgol cydnabyddedig” (“recognised educational institution”) yw—

(a)

sefydliad rheoleiddiedig Cymreig;

(b)

darparwr Seisnig gwarchodedig; neu

(c)

sefydliad sy’n cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd o gronfeydd cyhoeddus ac sydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon;.

Diwygiadau i reoliad 4

16.  Yn rheoliad 4 (myfyrwyr cymwys)—

(a)ar ôl paragraff (10) mewnosoder—

(10A) Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 neu yn rhinwedd bod yn blentyn i’r cyfryw berson—

(i)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs presennol; neu

(ii)yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.;

(b)ym mharagraff (11), yn lle “paragraffau (9), (9A) a (10)” rhodder “paragraffau (9), (9A), (10) a (10A)”.

Diwygiadau i reoliad 5

17.  Yn rheoliad 5 (cyrsiau dynodedig)—

(a)yn lle paragraff (1)(e) rhodder—

(e)ar gyfer cwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2017, os yw’n cael ei ddarparu gan sefydliad a oedd, cyn y dyddiad hwnnw, yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig);;

(b)ar ôl paragraff (1)(e) mewnosoder—

(ea)ar gyfer cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2017, os yw’n cael ei ddarparu gan—

(i)sefydliad addysgol cydnabyddedig (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig);

(ii)elusen o fewn yr ystyr a roddir i “charity” gan adran 1 o Ddeddf Elusennau 2011 ar ran sefydliad rheoleiddiedig Cymreig;

(iii)sefydliad a ariannwyd yn gyhoeddus cyn 1 Awst 2019 ar ran darparwr Seisnig gwarchodedig.;

(c)yn lle paragraff (5)(c) rhodder—

(c)ni fernir bod sefydliad wedi cael ei ariannu’n gyhoeddus cyn 1 Awst 2019 dim ond am ei fod wedi cael arian o gronfeydd cyhoeddus cyn y dyddiad hwnnw gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;(12).

Diwygiad i reoliad 15

18.  Yn rheoliad 15 (digwyddiadau), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;.

Diwygiadau i reoliad 16

19.  Yn rheoliad 16 (grant newydd at ffioedd)—

(a)ym mharagraff (3)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “£4,800” rhodder “£4,665”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “£4,200” rhodder “£4,335”;

(b)ym mharagraff (4)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “£2,480” rhodder “£2,410”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “£2,020” rhodder “£2,090”.

Diwygiadau i reoliad 19

20.  Yn rheoliad 19 (benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012)—

(a)ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,200” rhodder £4,335”;

(b)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,020” rhodder £2,090”.

Diwygiadau i reoliad 20

21.  Yn rheoliad 20 (benthyciad ychwanegol at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012)—

(a)ym mharagraff (5)(b), yn lle “£900” rhodder “£1,800”;

(b)ym mharagraff (6)(b), yn lle “£675” rhodder “£1,350”.

Diwygiad i reoliad 23

22.  Yn rheoliad 23 (amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw), ar ôl paragraff (12)(b) mewnosoder—

(ba)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;.

Diwygiadau i reoliad 24

23.  Yn rheoliad 24 (grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl), paragraff (3)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “£21,181” rhodder “£22,472”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “£5,332” rhodder “£5,657”;

(c)yn is-baragraff (d), yn lle “£1,785” rhodder “£1,894”.

Diwygiadau i reoliad 43

24.  Yn rheoliad 43 (uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys penodol)—

(a)ym mharagraff (2)—

(i)yn is-baragraff (i), yn lle “£5,529” rhodder “£5,684”;

(ii)yn is-baragraff (ii), yn lle “£10,007” rhodder “£10,288”;

(iii)yn is-baragraff (iii), yn lle “£8,517” rhodder “£8,756”;

(iv)yn is-baragraff (iv), yn lle “£8,517” rhodder “£8,756”;

(v)yn is-baragraff (v), yn lle “£7,143” rhodder “£7,344”;

(b)ym mharagraff (3)—

(i)yn is-baragraff (i), yn lle “£5,006” rhodder “£5,147”;

(ii)yn is-baragraff (ii), yn lle “£9,112” rhodder “£9,368”;

(iii)yn is-baragraff (iii), yn lle “£7,408” rhodder “£7,616”;

(iv)yn is-baragraff (iv), yn lle “£7,408” rhodder “£7,616”;

(v)yn is-baragraff (v), yn lle “£6,617” rhodder “£6,803”.

Diwygiadau i reoliad 45

25.  Yn rheoliad 45 (myfyrwyr sydd â hawlogaeth ostyngol)—

(a)ym mharagraff (1)(a)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “£2,625” rhodder “£2,699”;

(ii)ym mharagraff (ii), yn lle “£4,920” rhodder “£5,058”;

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “£3,500” rhodder “£3,598”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “£3,500” rhodder “£3,598”;

(v)ym mharagraff (v), yn lle “£3,500” rhodder “£3,598”;

(b)ym mharagraff (1)(b)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “£2,625” rhodder “£2,699”;

(ii)ym mharagraff (ii), yn lle “£4,920” rhodder “£5,058”;

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “£4,186” rhodder “£4,304”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “£4,186” rhodder “£4,304”;

(v)ym mharagraff (v), yn lle “£3,500” rhodder “£3,598”;

(c)ym mharagraff (1)(c)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “£4,147” rhodder “£4,263”;

(ii)ym mharagraff (ii), yn lle “£7,505” rhodder “£7,716”;

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “£6,388” rhodder “£6,567”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “£6,388” rhodder “£6,567”;

(v)ym mharagraff (v), yn lle “£5,357” rhodder “£5,508”;

(d)ym mharagraff (2)(a)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “£1,996” rhodder “£2,052”;

(ii)ym mharagraff (ii), yn lle “£3,763” rhodder “£3,869”;

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “£2,727” rhodder “£2,804”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “£2,727” rhodder “£2,804”;

(v)ym mharagraff (v), yn lle “£2,727” rhodder “£2,804”;

(e)ym mharagraff (2)(b)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “£1,996” rhodder “£2,052”;

(ii)ym mharagraff (ii), yn lle “£3,763” rhodder “£3,869”;

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “£3,060” rhodder “£3,146”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “£3,060” rhodder “£3,146”;

(v)ym mharagraff (v), yn lle “£2,727” rhodder “£2,804”;

(f)ym mharagraff (2)(c)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “£3,755” rhodder “£3,860”;

(ii)ym mharagraff (ii), yn lle “£6,834” rhodder “£7,026”;

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “£5,556” rhodder “£5,712”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “£5,556” rhodder “£5,712”;

(v)ym mharagraff (v), yn lle “£4,963” rhodder “£5,102”.

Diwygiad i reoliad 49

26.  Yn rheoliad 49 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd), ar ôl paragraff (2)(b) mewnosoder—

(ba)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;.

Diwygiadau i reoliad 50

27.  Yn rheoliad 50 (codiadau yn yr uchafswm), paragraff (1)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “£80” rhodder “£84”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “£153” rhodder “£162”;

(c)yn is-baragraff (c), yn lle “£166” rhodder “£177”;

(d)yn is-baragraff (d), yn lle “£166” rhodder “£177”;

(e)yn is-baragraff (e), yn lle “£120” rhodder “£127”.

Diwygiadau i reoliad 64

28.  Yn rheoliad 64 (myfyrwyr dysgu o bell cymwys)—

(a)ar ôl paragraff (11) mewnosoder—

(11A) Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 neu fod yn blentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs dysgu o bell presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.;

(b)ym mharagraff (12), yn lle “paragraffau (10), (10A) ac (11)” rhodder “paragraffau (10), (10A), (11) ac (11A)”.

Diwygiadau i reoliad 65

29.  Yn rheoliad 65 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd)—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “(b), (e)”, rhodder “(b), (ba), (e)”;

(b)ym mharagraff (3), yn lle “(b), (e)” rhodder “(b), (ba), (e)”; ac

(c)ym mharagraff (4), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(ba)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;.

Diwygiadau i reoliad 81

30.  Yn rheoliad 81 (myfyrwyr rhan-amser cymwys)—

(a)ar ôl paragraff (10) mewnosoder—

(10A) Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, neu fod yn blentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.;

(b)ym mharagraff (11), yn lle “paragraffau (9), (9A) a (10)” rhodder “paragraffau (9), (9A), (10) a (10A)”; ac

(c)yn lle paragraffau (28) a (29) rhodder—

(28) Mae cwrs wedi ei bennu at ddiben paragraff (27)—

(a)os yw’n ymwneud ag astudio hanes a gramadeg y Gymraeg a’r defnydd ohoni;

(b)os yw’r cwrs wedi ei restru yn y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch yn un o’r meysydd pwnc a ganlyn—

(i)pynciau perthynol i feddygaeth (CAH02);

(ii)y gwyddorau biolegol a’r gwyddorau chwaraeon (CAH03);

(iii)seicoleg (CAH04);

(iv)milfeddygaeth (CAH05);

(v)amaethyddiaeth, bwyd ac astudiaethau cysylltiedig (CAH06);

(vi)y gwyddorau ffisegol (CAH07);

(vii)y gwyddorau mathemategol (CAH09);

(viii)peirianneg a thechnoleg (CAH10);

(ix)cyfrifiadura (CAH11); neu

(c)os yw’n gwrs y mae ei god a’i label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu rhestru yn Atodlen 7.

(29) Yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 7, ystyr “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yw’r Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau ac Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch(13).

Diwygiadau i reoliad 82

31.  Yn rheoliad 82 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd)—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “(b), (e)” rhodder “(b), (ba), (e)”;

(b)ym mharagraff (3), yn lle “(b), (e)” rhodder “(b), (ba), (e)”; ac

(c)ym mharagraff (4), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(ba)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;.

Diwygiadau i reoliad 83

32.  Yn rheoliad 83 (cyrsiau rhan-amser dynodedig)—

(a)yn lle paragraff (1)(d) rhodder—

(d)os yw’n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a ariennid yn gyhoeddus neu’n cael ei ddarparu gan sefydliad o’r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig;;

(b)yn lle paragraff (4)(c) rhodder—

(c)ni fernir bod sefydliad wedi cael ei ariannu’n gyhoeddus cyn 1 Awst 2019 dim ond am ei fod wedi cael arian o gronfeydd cyhoeddus cyn y dyddiad hwnnw gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;.

Diwygiadau i reoliad 88

33.  Yn rheoliad 88 (grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl), paragraff (3)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “£15,885” rhodder “£16,853”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “£5,332” rhodder “£5,657”;

(c)yn is-baragraff (d), yn lle “£1,338” rhodder “£1,420”.

Diwygiadau i reoliad 110

34.  Yn rheoliad 110 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys)—

(a)ym mharagraff (11A)(b), yn lle “person sydd â’r hawl i ddod i mewn neu i aros” rhodder “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth”;

(b)ar ôl paragraff (12) mewnosoder—

(12A) Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, neu fod yn blentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.;

(c)ym mharagraff (13), yn lle “paragraffau (11) a (12)” rhodder “paragraffau (11), (11A), (12) a (12A)”.

Diwygiad i reoliad 111

35.  Yn rheoliad 111 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd), ar ôl paragraff (2)(b) mewnosoder—

(ba)y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;.

Diwygiadau i reoliad 112

36.  Yn rheoliad 112 (cyrsiau ôl-radd dynodedig)—

(a)yn lle paragraff (1)(c) rhodder—

(c)os yw’n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a ariennid yn gyhoeddus neu’n cael ei ddarparu gan sefydliad o’r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig;;

(b)yn lle paragraff (2)(c) rhodder—

(c)ni fernir bod sefydliad wedi cael ei ariannu’n gyhoeddus cyn 1 Awst 2019 dim ond am ei fod wedi cael arian o gronfeydd cyhoeddus cyn y dyddiad hwnnw gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;.

Diwygiad i reoliad 117

37.  Yn rheoliad 117 (swm y grant), yn lle “£10,590” rhodder “£20,000”.

Diwygiadau i’r Atodlenni

38.  Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 5 (personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—

Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67

5A.(1) Person—

(a)sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(b)sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(c)sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd am y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.

39.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 6, ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;.

40.  Ar ôl Atodlen 6, mewnosoder yr atodlen newydd a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

RHAN 6DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

41.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(14) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 42 i 60.

Diwygiadau i reoliad 6

42.  Yn rheoliad 6 (cyrsiau dynodedig – amodau)—

(a)yn lle amod 4 rhodder—

(a) Amod 4

(a)Pan fo’r cwrs yn gwrs llawnamser sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu—

(i)gan sefydliad rheoleiddiedig Cymreig, darparwr Seisnig gwarchodedig, sefydliad a gyllidir gan yr Alban neu sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig),

(ii)gan elusen o fewn yr ystyr a roddir i “charity” gan adran 1 o Ddeddf Elusennau 2011 ar ran sefydliad rheoleiddiedig Cymreig, neu

(iii)ar ran darparwr Seisnig gwarchodedig gan sefydliad a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus.

(b)Pan fo’r cwrs yn gwrs rhan-amser sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig).

(c)Pan fo’r cwrs yn gwrs llawnamser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan—

(i)sefydliad rheoleiddiedig Cymreig, sefydliad rheoleiddiedig Seisnig, sefydliad a gyllidir gan yr Alban neu sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig),

(ii)elusen o fewn yr ystyr a roddir i “charity” gan adran 1 o Ddeddf Elusennau 2011 ar ran sefydliad rheoleiddiedig Cymreig, neu

(iii)sefydliad Seisnig cofrestredig ar ran darparwr cynllun Seisnig.

(d)Pan fo’r cwrs yn gwrs rhan-amser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan—

(i)sefydliad a gyllidir gan Gymru, sefydliad a gyllidir gan yr Alban, sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon neu sefydliad rheoleiddiedig Seisnig (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig), neu

(ii)sefydliad Seisnig cofrestredig ar ran darparwr cynllun Seisnig.;

(b)yn lle paragraff (2)(c) rhodder—

(c)ni fernir bod sefydliad yn sefydliad a gyllidir gan Gymru neu sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus dim ond oherwydd—

(i)pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig a gafodd daliad perthnasol cyn y dyddiad hwnnw, neu

(ii)pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig sy’n cael taliad perthnasol.;

(c)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) At ddiben paragraff (2)—

(a)ystyr “sefydliad cysylltiedig” yw sefydliad cysylltiedig o fewn ystyr “connected institution” yn adran 65(3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, a

(b)ystyr “taliad perthnasol” yw talu’r cyfan neu ran o unrhyw grant, benthyciad neu daliad arall gan gorff llywodraethu sefydliad a ddarperir i’r sefydliad cysylltiedig yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.

Diwygiad i reoliad 23

43.  Ar ôl rheoliad 23 (personau eraill y mae eu caniatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben) mewnosoder—

Personau y mae eu caniatâd i aros o dan adran 67 wedi dod i ben

23A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 3A (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,

(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu

(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

(i)P, neu

(ii)y person, oherwydd bod ganddo ganiatâd i aros o dan adran 67, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys Categori 3A,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).

(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

Diwygiadau i reoliad 25

44.  Yn rheoliad 25 (myfyrwyr rhan-amser – cyfyngiadau ar gymorth i raddedigion)—

(a)ym mharagraff (2), yn lle Achos 3 rhodder—

Achos 3

Mae’r cwrs presennol yn arwain at radd anrhydedd ac—

(a)yn ymwneud ag astudio hanes a gramadeg y Gymraeg a’r defnydd ohoni,

(b)wedi ei restru yn y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch yn un o’r meysydd pwnc a ganlyn—

(i)pynciau perthynol i feddygaeth (CAH02);

(ii)y gwyddorau biolegol a’r gwyddorau chwaraeon (CAH03);

(iii)seicoleg (CAH04);

(iv)milfeddygaeth (CAH05);

(v)amaethyddiaeth, bwyd ac astudiaethau cysylltiedig (CAH06);

(vi)y gwyddorau ffisegol (CAH07);

(vii)y gwyddorau mathemategol (CAH09);

(viii)peirianneg a thechnoleg (CAH10);

(ix)cyfrifiadura (CAH11), neu

(c)yn gwrs y mae ei god a’i label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu rhestru yn Atodlen 5A.;

(b)yn lle paragraff (3), rhodder—

Yn Achos 3 ac yn Atodlen 5A, ystyr “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yw’r Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.

Diwygiad i reoliad 40

45.  Yn rheoliad 40(3) (swm benthyciad at ffioedd dysgu), Tabl 2, yn lle “£5,535” rhodder “£5,785”.

Diwygiadau i reoliad 55

46.  Yn rheoliad 55 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser), Tabl 7, yn lle—

(a)“£6,650” rhodder “£6,840”;

(b)“£10,250” rhodder “£10,530”;

(c)“£8,000” rhodder “£8,225”;

(d)“£3,325” rhodder “£3,420”;

(e)“£5,125” rhodder “£5,265”;

(f)“£4,000” rhodder “£4,110”.

Diwygiadau i reoliad 56

47.  Yn rheoliad 56 (swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy: myfyrwyr llawnamser y mae taliad cymorth arbennig yn daladwy iddynt)—

(a)yn Nhabl 8, yn lle—

(i)“£7,650” rhodder “£7,840”;

(ii)“£11,250” rhodder “£11,530”;

(iii)“£9,000” rhodder “£9,225”;

(b)yn Nhabl 8A, yn lle—

(i)“£3,325” rhodder “£3,420”;

(ii)“£5,125” rhodder “£5,265”;

(iii)“£4,000” rhodder “£4,110”.

Diwygiadau i reoliad 57

48.  Yn rheoliad 57 (benthyciad cynhaliaeth wedi ei gynyddu ar gyfer myfyrwyr llawnamser yn ystod blynyddoedd estynedig), Tabl 9, yn lle—

(a)“£80” rhodder “£84”;

(b)“£153” rhodder “£162”;

(c)“£120” rhodder “£127”.

Diwygiad i reoliad 58

49.  Yn rheoliad 58 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser), Tabl 10, yn lle “£5,650” rhodder “£5,815”.

Diwygiad i reoliad 58A

50.  Yn rheoliad 58A (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig), Tabl 10A, yn lle “£6,650” rhodder “£6,815”.

Diwygiadau i reoliad 63

51.  Yn rheoliad 63 (swm y grant myfyriwr anabl), paragraff (2), yn lle—

(a)“£21,181” rhodder “£22,472”;

(b)“£15,885” rhodder “£16,853”;

(c)“£5,332” rhodder “£5,657”;

(d)“£1,785” rhodder “£1,894”;

(e)“£1,338” rhodder “£1,420”.

Diwygiadau i reoliad 80

52.  Yn rheoliad 80 (cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd)—

(a)ym mharagraff (2) ar ôl is-baragraff (b)(i) mewnosoder—

(ia)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;;

(b)ym mharagraff (3), yn y lle priodol mewnosoder—

“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”);.

Diwygiad i reoliad 81

53.  Yn rheoliad 81 (cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grantiau yn ystod y flwyddyn academaidd), ar ôl paragraff (3)(b)(i) mewnosoder—

(ia)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;.

Diwygiadau i’r Atodlenni

54.  Yn Atodlen 1, yn lle paragraff 2 rhodder—

Sefydliadau addysgol

2.  Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “sefydliad addysgol cydnabyddedig” yw—

(a)mewn perthynas â chwrs llawnamser sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019—

(i)sefydliad rheoleiddiedig Cymreig;

(ii)darparwr Seisnig gwarchodedig;

(iii)sefydliad a gyllidir gan yr Alban; neu

(iv)sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon;

(b)mewn perthynas â chwrs rhan-amser sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019, sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus;

(c)mewn perthynas â chwrs llawnamser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019—

(i)sefydliad rheoleiddiedig Cymreig;

(ii)sefydliad rheoleiddiedig Seisnig;

(iii)sefydliad a gyllidir gan yr Alban;

(iv)sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon;

(d)mewn perthynas â chwrs rhan-amser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019—

(i)sefydliad a gyllidir gan Gymru;

(ii)sefydliad rheoleiddiedig Seisnig;

(iii)sefydliad a gyllidir gan yr Alban;

(iv)sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon.

55.  Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

2A.(1) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “sefydliad a gyllidir gan Gymru” yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion Cymru;

(b)ystyr “sefydliad rheoleiddiedig Cymreig” yw sefydliad sydd â chynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan adran 7 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 tra bo’r cynllun hwnnw yn parhau mewn grym;

(c)ystyr “darparwr Seisnig gwarchodedig” yw sefydliad a oedd, ar neu ar ôl 1 Awst 2018 ond cyn 1 Awst 2019, yn cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd yn unol ag adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac eithrio sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd a wneir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;

(d)ystyr “sefydliad Seisnig cofrestredig” yw sefydliad sydd wedi ei gofrestru gan y Swyddfa Fyfyrwyr yn y gofrestr;

(e)ystyr “sefydliad rheoleiddiedig Seisnig” yw sefydliad Seisnig cofrestredig sy’n ddarostyngedig i amod terfyn ffioedd o dan adran 10 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017(15);

(f)ystyr “darparwr cynllun Seisnig” yw sefydliad Seisnig cofrestredig sydd â chynllun mynediad a chyfranogiad a gymeradwywyd gan y Swyddfa Fyfyrwyr(16) o dan adran 29 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 ac sy’n parhau mewn grym;

(g)ystyr “sefydliad a gyllidir gan yr Alban” yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion yr Alban;

(h)ystyr “sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon” yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon.

(2) Yn is-baragraff (1) mae cyfeiriad at y gofrestr yn cyfeirio at y gofrestr a sefydlwyd ac a gynhelir gan y Swyddfa Fyfyrwyr o dan adran 3 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017.

56.  Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 3 (categori 3 – personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—

Categori 3A – Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67

3A.(1) Person—

(a)sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67,

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67,

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Yn y paragraff hwn—

ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” (“leave application date”) yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.

ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”) yw person—

(a)

y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo, a

(b)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person.

57.  Yn Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 2(1), yn lle amod 4 rhodder—

(a) Amod 4

(a)pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus;

(b)pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir gan Gymru, sefydliad a gyllidir gan yr Alban, sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon neu sefydliad rheoleiddiedig Seisnig;;

(b)yn lle paragraff (2)(2)(c) rhodder—

(c)ni fernir bod sefydliad yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus neu’n sefydliad a gyllidir gan Gymru dim ond oherwydd—

(i)pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig a gafodd daliad perthnasol cyn y dyddiad hwnnw, neu

(ii)pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig sy’n cael taliad perthnasol.;

(c)ar ôl paragraff 2(2) mewnosoder—

(3) At ddibenion is-baragraff (2)—

(a)ystyr “sefydliad cysylltiedig” yw sefydliad cysylltiedig o fewn ystyr “connected institution” yn adran 65(3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992; a

(b)ystyr “taliad perthnasol” yw talu’r cyfan neu ran o unrhyw grant, benthyciad neu daliad arall gan gorff llywodraethu sefydliad a ddarperir i’r sefydliad cysylltiedig yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.;

(d)ar ôl paragraff 13 mewnosoder—

Personau y mae eu caniatâd i aros o dan adran 67 wedi dod i ben

13A.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 3A (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu

(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

(i)P, neu

(ii)y person, oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 3A,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).

(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.;

(e)ym mharagraff 14, ar ôl is-baragraff (3)(b)(i) mewnosoder—

(ia)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;;

(f)ym mharagraff 14, is-baragraff (4), yn y lle priodol mewnosoder—

“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”);;

(g)ym mharagraff (20), yn lle “£10,590” rhodder “£20,000”.

58.  Yn Atodlen 5, paragraff 4—

(a)ar ôl is-baragraff (2)(a) mewnosoder—

(aa)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;;

(b)yn is-baragraff (3), yn y lle priodol mewnosoder—

“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”);.

59.  Ar ôl Atodlen 5, mewnosoder yr atodlen newydd a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

60.  Yn Atodlen 7 (mynegai o dermau wedi eu diffinio), Tabl 16, mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y lleoedd priodol—

“darparwr cynllun Seisnig”Atodlen 1, paragraff 2(1)
“darparwr Seisnig gwarchodedig”Atodlen 1, paragraff 2(1)
“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67”Atodlen 2, paragraff 3A(3)
“sefydliad a gyllidir gan yr Alban”Atodlen 1, paragraff 2(1)
“sefydliad a gyllidir gan Gymru”Atodlen 1, paragraff 2(1)
“sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon”Atodlen 1, paragraff 2(1)
“sefydliad rheoleiddiedig Cymreig”Atodlen 1, paragraff 2(1)
“sefydliad rheoleiddiedig Seisnig”Atodlen 1, paragraff 2(1)
“sefydliad Seisnig cofrestredig”Atodlen 1, paragraff 2(1)

RHAN 7DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (BENTHYCIADAU AT RADD DDOETHUROL ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2018

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

61.  Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(17) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 62 i 66.

Diwygiadau i reoliad 2

62.  Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1) yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “darparwr cynllun Seisnig” (“English plan provider”) yw sefydliad Seisnig cofrestredig sydd â chynllun mynediad a chyfranogiad a gymeradwywyd gan y Swyddfa Fyfyrwyr o dan adran 29 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 ac sy’n parhau mewn grym;;

ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”) yw person—

(a)

y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo; a

(b)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;;

ystyr “sefydliad a gyllidir gan yr Alban” (“Scottish funded institution”) yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion yr Alban;;

ystyr “sefydliad a gyllidir gan Gymru” (“Welsh funded institution”) yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion Cymru;;

ystyr “sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon” (“Northern Irish funded institution”) yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon;;

ystyr “sefydliad rheoleiddiedig Seisnig” (“English regulated institution”) yw sefydliad Seisnig cofrestredig sy’n ddarostyngedig i amod terfyn ffioedd o dan adran 10 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017;; ac

ystyr “sefydliad Seisnig cofrestredig” (“registered English institution”) yw sefydliad sydd wedi ei gofrestru gan y Swyddfa Fyfyrwyr yn y gofrestr;.

Diwygiadau i reoliad 4

63.  Yn rheoliad 4 (cyrsiau dynodedig)—

(a)yn lle paragraff (1)(b) rhodder—

(b)os yw’n un o’r canlynol—

(i)pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad arall o’r fath a gyllidir yn gyhoeddus neu â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig);

(ii)pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan—

(aa)sefydliad a gyllidir gan Gymru, sefydliad a gyllidir gan yr Alban, sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon neu sefydliad rheoleiddiedig Seisnig (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd o fewn neu y tu allan i’r Deyrnas Unedig); neu

(ab)sefydliad Seisnig cofrestredig ar ran darparwr cynllun Seisnig;.

(b)yn lle paragraff (2)(d) rhodder—

(d)ni fernir bod sefydliad yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus neu’n sefydliad a gyllidir gan Gymru dim ond oherwydd—

(i)pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig a gafodd daliad perthnasol cyn y dyddiad hwnnw; neu

(ii)pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig sy’n cael taliad perthnasol;

(c)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) At ddiben paragraff (2)—

(a)ystyr “sefydliad cysylltiedig” yw sefydliad cysylltiedig o fewn ystyr “connected institution” yn adran 65(3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992; a

(b)ystyr “taliad perthnasol” yw talu’r cyfan neu ran o unrhyw grant, benthyciad neu daliad arall gan gorff llywodraethu sefydliad a ddarperir i’r sefydliad cysylltiedig yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.

Diwygiad i reoliad 8

64.  Yn rheoliad 8 (digwyddiadau), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;.

Diwygiadau i reoliad 13

65.  Yn rheoliad 13 (swm benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “£25,000” rhodder “£25,700”;

(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “£25,000” rhodder “25,700”.

Diwygiad i Atodlen 1

66.  Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 6 (personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—

Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67

6A.(1) Person—

(a)sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Yn y paragraff hwn—

ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

12 Chwefror 2019

YR ATODLENNI

Rheoliad 40

ATODLEN 1

(Rheoliad 81(28))

Atodlen 77Codau a Labeli Cwrs y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch

  • (Rheoliad 81(28))

Mae Tabl 1 yn nodi codau a labeli cwrs y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch (DPAU) at ddibenion paragraff (28)(c) o reoliad 81.

Tabl 1

Cod DPAULabel DPAU
100706Gwallt a cholur
101374Gwasanaethau trin gwallt
100131Radioleg
100456Astudiaethau plentyndod
100302Hanes
100337Athroniaeth
100621Astudiaethau rhywedd
101233Astudiaethau diwylliannol
100986Rheoli adnoddau dŵr
100807Rheoli treftadaeth
101091Astudiaethau cwaternaidd
101078Y gwyddorau amgylcheddol cymhwysol
101079Hydroleg
101072Rheoli llygredd
100381Y gwyddorau amgylcheddol
101070Newid hinsawdd
101067Priddeg
101394Rhewlifeg a systemau cryosfferig
100408Daearyddiaeth amgylcheddol
101352Bioddaearyddiaeth
101065Daearyddiaeth arforol
101064Geomorffoleg
100410Daearyddiaeth ffisegol
101058Y gwyddorau mapio
101056Synhwyro o bell
100369Systemau gwybodaeth ddaearyddol
100052Ergonomeg

Rheoliad 59

ATODLEN 2

(Rheoliad 25(2))

Atodlen 5ACodau a Labeli Cwrs y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch

Mae Tabl 15 yn nodi codau a labeli cwrs y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch (DPAU) at ddibenion is-baragraff (c) o Achos 3 yn rheoliad 25(2).

Tabl 15A

Cod DPAULabel DPAU
100706Gwallt a cholur
101374Gwasanaethau trin gwallt
100131Radioleg
100456Astudiaethau plentyndod
100302Hanes
100337Athroniaeth
100621Astudiaethau rhywedd
101233Astudiaethau diwylliannol
100986Rheoli adnoddau dŵr
100807Rheoli treftadaeth
101091Astudiaethau cwaternaidd
101078Y gwyddorau amgylcheddol cymhwysol
101079Hydroleg
101072Rheoli llygredd
100381Y gwyddorau amgylcheddol
101070Newid hinsawdd
101067Priddeg
101394Rhewlifeg a systemau cryosfferig
100408Daearyddiaeth amgylcheddol
101352Bioddaearyddiaeth
101065Daearyddiaeth arforol
101064Geomorffoleg
100410Daearyddiaeth ffisegol
101058Y gwyddorau mapio
101056Synhwyro o bell
100369Systemau gwybodaeth ddaearyddol
100052Ergonomeg

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

(a)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“y Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau”);

(b)Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd”);

(c)Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol”);

(d)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”);

(e)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”); ac

(f)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Graddau Doethurol”).

Mae’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau yn darparu, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn y Rheoliadau, ei bod yn gyfreithlon i sefydliadau wahaniaethu rhwng rhai neu bob un o’r personau hynny a grybwyllir yn yr Atodlen ac unrhyw berson arall drwy godi ffioedd uwch ar bersonau nas crybwyllir yn yr Atodlen, na’r ffioedd a godir ar bersonau a grybwyllir felly. Mae rheoliadau 3, 4 a 6(b) o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau technegol i’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau er mwyn diweddaru a chywiro’r iaith a ddefnyddir. Mae rheoliadau 5 a 6(a) a (c) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 5 o’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau a’r Atodlen iddynt i greu categori newydd o bersonau: personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67.

Mae Rheoliadau’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn darparu ar gyfer cymorth i un myfyriwr cymwys sy’n dilyn cwrs addysg uwch dynodedig yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd. Mae rheoliadau 8 i 10 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd i fewnosod diffiniadau ac i greu categori newydd o fyfyriwr cymwys: personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67.

Mae’r Rheoliadau Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol yn rhagnodi’r cyrsiau cymhwysol a’r personau cymhwysol at ddibenion adran 5 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, sy’n nodi bod rhaid i gynlluniau ffioedd a mynediad bennu terfynau ffioedd (neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfynau ffioedd) mewn perthynas â chyrsiau cymhwysol a phersonau cymhwysol bob blwyddyn academaidd. Mae rheoliadau 12 a 13(b) o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau technegol i’r Rheoliadau Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol er mwyn diweddaru a chywiro’r iaith a ddefnyddir. Mae rheoliad 13(a) ac (c) o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i’r Rheoliadau Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol i ychwanegu categori newydd at y rhestr o bersonau y caniateir iddynt fod yn bersonau cymhwysol: personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67.

Mae Rheoliadau 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2018. Mae Rheoliadau 2018 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018.

Mae rheoliad 15 yn diwygio rheoliad 2(1) o Reoliadau 2017. Mae’n gwneud diwygiadau i’r diffiniadau presennol ac yn mewnosod diffiniad o “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67”. Mae rheoliad 38 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 1 i Reoliadau 2017 er mwyn creu categori newydd o fyfyriwr cymwys: personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67.

Mae rheoliadau 16, 18, 22, 26, 28, 29, 30(a) a (b), 31, 34, 35 a 39 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 2017 sy’n ganlyniadol i’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 15 a 38.

Mae rheoliadau 21 a 34(a) yn cywiro gwallau yn Rheoliadau 2017.

Mae rheoliad 17 yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 2017. Mae’n darparu sail newydd ar gyfer dynodi cyrsiau llawnamser gan Reoliadau 2017.

Mae rheoliadau 19, 20, 23, 24, 25, 27, 33 ac 37 yn amnewid ffigurau yn rheoliadau 16, 19, 24, 43, 45, 50, 88 a 117 o Reoliadau 2017, ynghylch grantiau a benthyciadau at ffioedd dysgu a chostau byw ar gyfer myfyrwyr llawnamser, grantiau ar gyfer costau byw myfyrwyr rhan-amser anabl a chymorth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig sydd ag anableddau.

Mae rheoliad 30(c) yn diwygio paragraffau (28) a (29) o reoliad 81 o Reoliadau 2017. Mae’r diwygiad hwn yn rhoi cyfeiriadau at y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (“UCAS”) a chan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn lle cyfeiriadau at y System Cyd-godio Pynciau Academaidd fel y’i cynhelir gan UCAS.

Mae rheoliad 32 yn diwygio rheoliad 83 o Reoliadau 2017. Mae’n darparu sail newydd ar gyfer dynodi cyrsiau rhan-amser gan Reoliadau 2017.

Mae rheoliad 36 yn diwygio rheoliad 112 o Reoliadau 2017. Mae’n darparu sail newydd ar gyfer dynodi cyrsiau ôl-radd gan Reoliadau 2017.

Mae rheoliad 40 yn cyflwyno Atodlen 1, sy’n darparu ar gyfer Atodlen newydd 7 i Reoliadau 2017. Mae hyn yn ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan reoliad 30(c).

Mae rheoliad 42 yn diwygio rheoliad 6 o Reoliadau 2018. Mae’n darparu sail newydd ar gyfer dynodi cyrsiau llawnamser a rhan-amser gan Reoliadau 2018.

Mae rheoliad 45 yn cywiro gwall yn Rheoliadau 2018.

Mae rheoliad 56 yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 2018 er mwyn creu categori newydd o fyfyriwr cymwys: personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67.

Mae rheoliadau 43, 52, 53, 57(d) a 58 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 2018 sy’n ganlyniadol i’r diwygiadau a wneir gan reoliad 56.

Mae rheoliad 44 yn diwygio rheoliad 25 o Reoliadau 2018. Mae’r diwygiad hwn yn rhoi cyfeiriadau at y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch yn lle cyfeiriadau at y System Cyd-godio Pynciau Academaidd.

Mae rheoliadau 46, 47, 48, 49, 50 a 51 yn amnewid ffigurau yn rheoliadau 55, 56, 57, 58, 58A a 63 o Reoliadau 2018 yn y drefn honno, sy’n ymwneud â benthyciadau cynhaliaeth ar gyfer myfyrwyr llawnamser a rhan-amser a’r grant myfyriwr anabl.

Mae rheoliadau 54 a 55 yn diwygio paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2018. Mae’r diwygiadau yn cyflwyno diffiniadau newydd o sefydliadau addysgol.

Mae rheoliad 57(a), (b) ac (c) yn diwygio paragraff 2 o Atodlen 4 i Reoliadau 2018. Mae’n darparu sail newydd ar gyfer dynodi cyrsiau at ddibenion y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl gan Reoliadau 2018.

Mae rheoliad 59 yn cyflwyno Atodlen 2, sy’n darparu ar gyfer Atodlen newydd 5A i Reoliadau 2018. Mae hyn yn ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan reoliad 44.

Mae rheoliad 60 yn diwygio’r mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio yn Atodlen 7 i Reoliadau 2018.

Mae’r Rheoliadau Graddau Doethurol yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd ddoethurol ôl-raddedig dynodedig.

Mae rheoliad 62 yn diwygio rheoliad 2 o’r Rheoliadau Graddau Doethurol. Mae’n darparu ar gyfer diffiniadau newydd a diffiniadau diwygiedig sy’n ymwneud â diwygiadau eraill a wneir gan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 63 yn diwygio rheoliad 4 o’r Rheoliadau Graddau Doethurol. Mae’n darparu sail newydd ar gyfer dynodi cyrsiau gradd ddoethurol ôl-raddedig gan y Rheoliadau Graddau Doethurol.

Mae rheoliad 65 yn amnewid ffigurau yn rheoliad 13 o’r Rheoliadau Graddau Doethurol, ynghylch swm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig.

Mae rheoliad 66 yn diwygio Atodlen 1 i’r Rheoliadau Graddau Doethurol er mwyn creu categori newydd o fyfyriwr cymwys: personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67. Mae rheoliad 64 yn gwneud diwygiad i reoliad 8 o’r Rheoliadau Graddau Doethurol sy’n ganlyniadol i’r diwygiadau a wneir gan reoliad 66.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1983 p. 40; diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p. 56), Atodlen 37, paragraff 57; Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 21, paragraff 5 ac Atodlen 22; Deddf Addysg 2005 (p. 18), Atodlen 14, paragraff 9; O.S. 2005/3238, Atodlen 1, paragraff 9; O.S. 2010/1158, Atodlen 2, paragraff 1; Deddf Addysg 2011 (p. 21), Atodlen 5, paragraff 5 ac Atodlen 16, paragraff 5; a Deddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), Atodlen 14, paragraff 33. Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44 ac Atodlen 4.

(2)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6; Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147; Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7; Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257; Deddf Addysg 2011 (p. 21) adran 76; O.S. 2013/1181 a Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 88. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 1 o Ddeddf 1983 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 2006/1458 gydag effaith o 8 Mehefin 2006. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 2 o Ddeddf 1983 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(2)(a) i (i) a (k) o Ddeddf 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), ac mae is-adrannau (a), (c) a (k) yn arferadwy ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd holl swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru uchod i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(5)

O.S. 2007/2310 (Cy. 181) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy. 101), O.S. 2011/1978 (Cy. 218) ac O.S. 2018/814 (Cy. 165); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(7)

Gweler paragraffau 352ZG i 352ZS.

(11)

1992 p. 13 fel y’i diwygiwyd gan adran 27 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), O.S. 2010/1158 ac adran 122 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29) ac Atodlen 11 iddi. Er gwaethaf y diwygiad a wnaed gan Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017, mae O.S. 2018/245 yn darparu, ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau 1 Ebrill 2018 ac yn gorffen 31 Gorffennaf 2019, fod adran 65(1) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn parhau i fod yn gymwys fel pe na bai paragraff 15 o Atodlen 11 i Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 wedi cael ei gychwyn ond fel pe bai’r cyfeiriad at “matters within the responsibility of the Higher Education Funding Council for England” yn adran 62(6)(a) o’r Ddeddf 1992 honno yn gyfeiriad at “matters within the responsibility of the Office for Students and, where applicable, United Kingdom Research and Innovation”. Mae’r Swyddfa Fyfyrwyr yn gorff corfforaethol a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017.

(12)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27 ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 122(1) ac Atodlen 11, paragraff 15(1) a (6). Er gwaethaf y diwygiad hwnnw, mae O.S. 2018/245 yn darparu, ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau 1 Ebrill 2018 ac yn gorffen 31 Gorffennaf 2019, fod adran 65(1) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn parhau i fod yn gymwys fel pe na bai paragraff 15 o Atodlen 11 i Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 wedi cael ei gychwyn ond fel pe bai’r cyfeiriad at “matters within the responsibility of the Higher Education Funding Council for England” yn adran 62(6)(a) o’r Ddeddf 1992 honno yn gyfeiriad at “matters within the responsibility of the Office for Students and, where applicable, United Kingdom Research and Innovation”. Mae’r Swyddfa Fyfyrwyr yn gorff corfforaethol a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017.

(16)

Mae’r Swyddfa Fyfyrwyr yn gorff corfforaethol a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017.

(17)

O.S. 2018/656 (Cy. 124), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2018/814 (Cy. 165).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill