Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2019

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 237 (Cy. 56)

Gofal Cymdeithasol, Cymru A Lloegr

Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2019

Gwnaed

12 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Chwefror 2019

Yn dod i rym

29 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 186 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.

Diwygiadau

2.  Mae Atodlen 1 (diwygiadau o ganlyniad i gychwyn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) yn cael effaith.

Dirymiadau

3.  Mae Atodlen 2 (dirymiadau) yn cael effaith.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

12 Chwefror 2019

Rheoliad 2

ATODLEN 1Diwygiadau o ganlyniad i gychwyn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975

1.—(1Mae Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2(1)—

(a)yn y lle priodol mewnosoder—

“the 2016 Act” means the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016;;

(b)yn lle’r diffiniad o “adoption service” rhodder—

“adoption service”—

(a)

in relation to England, means the discharge by a local authority in England of relevant adoption functions within the meaning of section 43(3)(a) of the Care Standards Act 2000(3), and

(b)

in relation to Wales, means the discharge by a local authority in Wales of functions under the Adoption and Children Act 2002(4) of making or participating in arrangements for the adoption of children or the provision of adoption support services as defined in section 2(6) of that Act;;

(c)yn y diffiniad o “children’s home”, yn lle paragraff (b) rhodder—

“(a)

in relation to Wales, means premises at which—

(i)

a care home service is provided wholly or mainly to persons under the age of 18, or

(ii)

a secure accommodation service is provided,

and in this paragraph “care home service” and “secure accommodation service” have the meaning given in Part 1 of the 2016 Act;;

(d)yn lle’r diffiniad o “fostering agency” rhodder—

“fostering agency”—

(a)

in relation to England, has the meaning given by section 4(4) of the Care Standards Act 2000, and

(b)

in relation to Wales, means a provider of a fostering service within the meaning of paragraph 5 of Schedule 1 to the 2016 Act;;

(e)yn lle’r diffiniad o “fostering service” rhodder—

“fostering service” means—

(a)

in relation to England, the discharge by a local authority in England of relevant fostering functions within the meaning of section 43(3)(b)(i) of the Care Standards Act 2000, and

(b)

in relation to Wales, the discharge by a local authority in Wales of functions under section 81 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014(5) (in connection with placements with local authority foster parents) or regulations made under or by virtue of any of sections 87, 92(1)(a), (b), (d) or 93 of that Act;;

(f)yn lle’r diffiniad o “voluntary adoption agency” rhodder—

“voluntary adoption agency”—

(a)

in relation to England, has the meaning given by section 4(7) of the Care Standards Act 2000, and

(b)

in relation to Wales, means a provider of an adoption service within the meaning of paragraph 4(a) of Schedule 1 to the 2016 Act;.

(3Yn erthygl 4(1), ar ôl is-baragraff (ja) mewnosoder—

(jb)any decision by the Welsh Ministers—

(i)to refuse an application for registration under section 7 of the 2016 Act,

(ii)to refuse (under section 12 of the 2016 Act) an application made by a person under section 11(1)(a)(i) or (ii) of the 2016 Act to vary their registration,

(iii)to cancel a person’s registration under section 15(1)(b) to (f) or 23(1) of the 2016 Act,

(iv)to vary a person’s registration under section 13(3)(b) or (4)(b) or 23(1) of the 2016 Act;.

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983

2.—(1Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, rhychwantu a dehongli), yn lle’r diffiniad o “registration authority” rhodder—

“registration authority”—

(a)

in relation to England, has the same meaning as in section 5 of the 2000 Act, and

(b)

in relation to Wales, means the Welsh Ministers;.

Rheoliadau Anghymhwyso rhag Gofalu am Blant (Lloegr) 2002

3.—(1Mae Rheoliadau Anghymhwyso rhag Gofalu am Blant (Lloegr) 2002(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(7A) (y seiliau dros anghymhwyso)—

(a)yn lle’r geiriau agoriadol rhodder—

In relation to the registration of a care home service, which is provided wholly or mainly for children, or a secure accommodation service (each have the meaning given in Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (“the 2016 Act”))— ;

(b)ym mharagraff (d), ar ôl “children” mewnosoder “, or a secure accommodation service,”.

(3Yn yr Atodlen (troseddau penodedig), ym mharagraff 1(3), ar ôl “children” mewnosoder “or a secure accommodation service”.

Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002

4.—(1Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn y diffiniad o “the Act”, hepgorer y geiriau o “or” hyd at y diwedd;

(ii)yn y diffiniad o “appropriate office of the National Assembly”, hepgorer paragraffau (e), (f), (i) a (j);

(iii)yn y diffiniad o “statement of purpose”, hepgorer paragraffau (e), (f), (g), (j) a (k);

(iv)hepgorer y diffiniadau a ganlyn—

(aa)“the 1976 Act”;

(bb)“adoption service”;

(cc)“Adoption Support Agency”;

(dd)“adult placement scheme”;

(ee)“fostering service”;

(ff)“local authority fostering service”;

(gg)“voluntary adoption service”;

(b)ym mharagraff (3), hepgorer is-baragraff (d).

(3Yn rheoliad 9 (cynnwys tystysgrif), ym mharagraff (e), yn lle’r geiriau o “section 4(8)(a)(iii)” hyd at y diwedd rhodder “section 4(8)(a)(iii), (iv) and (v) or 9(a)(i) of the Act”.

(4Yn Atodlen 1 (gwybodaeth sydd i’w chyflenwi mewn cais am gofrestriad fel person sy’n cynnal sefydliad neu asiantaeth), yn Rhan 2 (gwybodaeth am y sefydliad)—

(a)yn lle paragraff 5 rhodder—

5.  The description of the establishment or agency specified in section 4(8)(a)(iii), (iv) or (v) or (9)(a)(i) of the Act.;

(b)ym mharagraff 13, yn lle’r geiriau o “section 4(8)(a)(iii)” i “the Act” rhodder “section 4(8)(a)(iii), (iv) and (v) or (9)(a)(i) of the Act”.

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol ac Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygiadau Amrywiol) 2003

5.—(1Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol ac Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygiadau Amrywiol) 2003(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn a dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “adoption support services”, yn lle’r geiriau o “of that Act” hyd at y diwedd rhodder “of that Act by the Secretary of State;”;

(b)yn lle’r diffiniad o “registration authority” rhodder—

“registration authority” means the Chief Inspector;.

(3Yn rheoliad 3(2) (datganiad o ddiben), hepgorer y geiriau o “and” yn yr ail le y mae’n digwydd hyd at y diwedd.

(4Yn rheoliad 4 (adolygu’r datganiad o ddiben), yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)notify the registration authority,.

(5Yn lle rheoliad 24G(3) (cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau) rhodder—

(3) In this regulation “adoptive child” has the same meaning as in the Adoption Support Agencies (England) and Adoption Agencies (Miscellaneous Amendments) Regulations 2005.

Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004

6.—(1Mae Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn yr Atodlen—

(a)ym mharagraff 4A, ar ôl “18 oed” mewnosoder “neu wasanaeth llety diogel”;

(b)ym mharagraff 25A—

(i)yn lle’r geiriau agoriadol rhodder—

Mewn perthynas â chofrestru gwasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”))—;

(ii)yn is-baragraff (ch), ar ôl “18 oed,” mewnosoder “neu wasanaeth llety diogel,”.

Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu 2005

7.—(1Mae Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu 2005(11) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5 (trefniadau ar gyfer sicrhau y darperir gwasanaethau), yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) In paragraph (1) “registered adoption support agency” means an adoption support agency which is—

(a)in relation to England, an adoption support agency in respect of which a person is registered under Part 2 of the Care Standards Act 2000, or

(b)registered as a provider in Wales of an adoption service under Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.

Rheoliadau Datgelu Gwybodaeth Mabwysiadu (Mabwysiadau Ôl-gychwyn) 2005

8.—(1Mae Rheoliadau Datgelu Gwybodaeth Mabwysiadu (Mabwysiadau Ôl-gychwyn) 2005(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “registered adoption support agency” rhodder—

“registered adoption support agency” means an adoption support agency which is—

(a)

in relation to England, an adoption support agency in respect of which a person is registered under Part 2 of the Care Standards Act 2000, or

(b)

registered as a provider in Wales of an adoption service under Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016;.

Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) 2005

9.—(1Mae Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) 2005(13) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 10 (cwnsela), ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) In this regulation “registered adoption support agency” means—

(a)in relation to England, an adoption support agency in respect of which a person is registered under Part 2 of the Care Standards Act 2000, or

(b)in relation to Wales, an adoption support agency registered as an adoption service under Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.

Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig 2005

10.—(1Mae Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig 2005(14) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4(2) (trefniadau ar gyfer sicrhau y darperir gwasanaethau), yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)“adoption support agency” has the same meaning as in the Adoption and Children Act 2002;

(c)“fostering agency”—

(a)

in relation to England, means a fostering agency within the meaning of section 4(4) of the Care Standards Act 2000, and

(b)

in relation to Wales, means a fostering service within the meaning of paragraph 5 of Schedule 1 to the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016;

(d)“registered” in relation to any such agency means that a person is registered in respect of it under Part 2 of the Care Standards Act 2000 or Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.

Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005

11.—(1Mae Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005(15) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn lle’r diffiniad o “rhiant maeth” rhodder—

ystyr “rhiant maeth” (“foster parent”) yw—

(a)

person sydd wedi ei gymeradwyo’n rhiant maeth o dan Reoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018(16), a

(b)

mae’n cynnwys person y mae plentyn wedi ei leoli gydag ef o dan reoliad 26 o Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(17) (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad â’r plentyn) neu reoliad 28 o’r Rheoliadau hynny (cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol);.

(3Yn rheoliad 5 (darparu gwasanaethau), yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Ym mharagraff (1) ystyr “asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig” yw asiantaeth cymorth mabwysiadu sydd—

(a)o ran Lloegr, yn asiantaeth cymorth mabwysiadu y mae person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hi o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, neu

(b)wedi ei chofrestru’n ddarparwr gwasanaeth mabwysiadu yng Nghymru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016,

ond mewn perthynas â darparu unrhyw wasanaeth cymorth mabwysiadu, nid yw’n cynnwys asiantaeth cymorth mabwysiadu nad yw wedi ei chofrestru mewn cysylltiad â’r gwasanaeth penodol hwnnw.

Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005

12.—(1Mae Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005(18) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli)—

(a)yn lle’r diffiniad o “asiantaethau cymorth mabwysiadu” rhodder—

o ran “asiantaethau cymorth mabwysiadu” (“adoption support agencies”)—

(a)

o ran Cymru, ei ystyr yw darparwr gwasanaethau mabwysiadu o fewn ystyr paragraff 4(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a

(b)

o ran Lloegr, mae iddo yr un ystyr ag “adoption support agency” yn adran 4(7A) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;;

(b)yn lle’r diffiniad o “asiantaethau maethu annibynnol” rhodder—

o ran “asiantaethau maethu annibynnol” (“independent fostering agencies”)—

(a)

o ran Cymru, ei ystyr yw gwasanaeth maethu o fewn ystyr paragraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a

(b)

o ran Lloegr, ei ystyr yw asiantaeth faethu o fewn ystyr “fostering agency” yn adran 4(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;;

(c)yn lle’r diffiniad o “asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol” rhodder—

o ran “asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol” (“voluntary adoption agencies”)—

(a)

o ran Cymru, ei ystyr yw darparwr gwasanaeth mabwysiadu o fewn ystyr paragraff 4(a) o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a

(b)

o ran Lloegr, mae iddo yr un ystyr â “voluntary adoption agency” yn adran 4(7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;.

Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005

13.—(1Mae Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005(19) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig” rhodder—

ystyr “asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig” (“registered adoption support agency”) yw—

(a)

o ran Cymru, asiantaeth cefnogi mabwysiadu sydd wedi’i chofrestru’n wasanaeth mabwysiadu o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, neu

(b)

o ran Lloegr, asiantaeth cefnogi mabwysiadu y mae person wedi’i gofrestru mewn cysylltiad â hi o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;.

(3Yn rheoliad 15(3) (dyletswydd i sicrhau cwnsela), hepgorer y diffiniad o “asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig”.

Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005

14.—(1Mae Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005(20) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “asiantaeth cymorth mabwysiadu cofrestredig” rhodder—

ystyr “asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig” (“registered adoption support agency”) yw—

(a)

o ran Cymru, asiantaeth cymorth mabwysiadu sydd wedi’i chofrestru’n wasanaeth mabwysiadu o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, neu

(b)

o ran Lloegr, asiantaeth cymorth mabwysiadu y mae person wedi’i gofrestru mewn cysylltiad â hi o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;.

Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006

15.—(1Mae Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006(21) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4 (personau eraill yr ystyrir eu bod yn ffurfio aelwyd unigol at ddibenion adran 254 o’r Ddeddf)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle’r geiriau o “gofal o dan gytundeb lleoli oedolion” hyd at y diwedd rhodder “gofal a chymorth o dan gytundeb lleoli unigolyn yn unol â Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(22), a bod y person sy’n derbyn gwasanaethau gofal a chymorth yn cael y gofal hwnnw a’r cymorth hwnnw.”;

(b)ym mharagraff (2), yn lle’r geiriau o “y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” hyd at y diwedd rhodder “Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015.”;

(c)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Yn y rheoliad hwn mae i “cynllun lleoli unigolyn” yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.

Rheoliadau Gofal Plant (Cyflenwi a Datgelu Gwybodaeth) (Lloegr) 2007

16.—(1Mae Rheoliadau Gofal Plant (Cyflenwi a Datgelu Gwybodaeth) (Lloegr) 2007(23) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 9(2) (gofyniad i ddarparu gwybodaeth i bersonau rhagnodedig amrywiol)—

(a)ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)a provider of a fostering service within the meaning of paragraph 5 of Schedule 1 to the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016;;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “that Act” rhodder “the Care Standards Act 2000”;

(c)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(ba)a provider of an adoption service within the meaning of paragraph 4(a) of Schedule 1 to the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016;.

Rheoliadau Adolygu Penderfyniadauʼn Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010

17.—(1Mae Rheoliadau Adolygu Penderfyniadauʼn Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010(24) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “ceisydd”, ym mharagraff (c), yn lle “28(6)(a)” rhodder “8(6)(a)”;

(b)yn y diffiniad o “rhiant maeth”, yn lle “2(1)” rhodder “2”;

(c)yn y diffiniad o “panel maethu”, yn lle “24” rhodder “4”;

(d)yn lle’r diffiniad o “darparydd gwasanaeth maethu” rhodder—

mae i “darparydd gwasanaethau maethu” (“fostering services provider”) yr ystyr a roddir i “darparwr gwasanaethau maethu” yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Maethu;;

(e)yn y diffiniad o “y Rheoliadau Maethu”, yn lle “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018;

(f)yn y diffiniad o “sefydliad”, yn lle “ddarparydd gwasanaeth maethu” rhodder “ddarparydd gwasanaethau maethu”.

(3Yn rheoliad 4 (penderfyniad cymhwysol – disgrifiadau rhagnodedig at ddibenion adran 93(2)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014)—

(a)ym mharagraff (a)—

(i)yn lle “27(6)” rhodder “7(11)”;

(ii)yn lle “28(6)” rhodder “8(6)”;

(b)ym mharagraff (b)—

(i)yn lle “27(6)” rhodder “7(11)”;

(ii)yn lle “29(7)” rhodder “9(7)(a)”.

(4Yn rheoliad 14(3)(a) (swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar faethu), yn lle “29A” rhodder “10”.

(5Ym mhob un o’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (6), yn lle “darparydd gwasanaeth maethu” rhodder “darparydd gwasanaethau maethu”.

(6Y darpariaethau yw—

(a)rheoliad 4(a) a (b);

(b)rheoliad 14(2), (2)(b), (3)(b) a (4).

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010

18.—(1Mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010(25) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1 (gorchmynion etc sy’n ymwneud â gofalu am blant), ym mharagraff 16A—

(a)yn lle’r geiriau agoriadol rhodder—

Mewn perthynas â chofrestru gwasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”))—;

(b)yn is-baragraff (ch), ar ôl “18 oed” mewnosoder “, neu wasanaeth llety diogel,”.

(3Yn Atodlen 3 (tramgwyddau penodedig), ym mharagraff 1 (tramgwyddau yng Nghymru a Lloegr), yn lle geiriau agoriadol is-baragraff (5) rhodder—

Tramgwydd mewn perthynas â gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”)) o dan neu yn rhinwedd unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf 2016—.

Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010

19.—(1Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010(26) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl erthygl 11 mewnosoder—

11A.  Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal i blentyn sy’n cael gwasanaeth llety diogel (o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) mewn man lle y darperir gwasanaethau o’r fath ac y mae person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 1 o’r Ddeddf.

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011

20.—(1Mae Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011(27) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “gofalwr lleoliad oedolyn”, yn lle’r geiriau o “gytundeb lleoliad oedolyn” hyd at y diwedd rhodder “gytundeb lleoli unigolyn y mae’r gofalwr wedi ymrwymo iddo yn unol â rheoliad 12 o Reoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(28)”.

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig) (Lloegr) 2012

21.—(1Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig) (Lloegr) 2012(29) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1, ym mharagraff 25(8)—

(a)ym mharagraff (k), hepgorer “Fostering Services (Wales) Regulations 2003”;

(b)ar ôl paragraff (k) mewnosoder—

(ka)by a foster parent under the Fostering Panels (Establishment and Functions) (Wales) Regulations 2018(30) or a person with whom a child is placed under regulation 26 of the Care Planning, Placement and Case Review (Wales) Regulations 2015 (temporary approval of a relative, friend or other person connected with the child) or regulation 28 of those Regulations (temporary approval of a particular prospective adopter) in relation to a child other than one whom the foster parent is fostering or the person is looking after; or.

Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013

22.—(1Mae Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013(31) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5(1)(b) (sefydliadau busnes bwyd esempt), yn lle paragraff (ii) rhodder—

(ii)personau sy’n ofalwyr lleoli oedolion o fewn ystyr rheoliad 1(3) o Reoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(32);.

Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014

23.—(1Mae Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014(33) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer rheoliad 22 (trin sylwadau ynghylch safonau gofal).

Rheoliadau Gofal Plant (Asiantaethau Gwarchodwyr Plant) (Cofrestru, Arolygu a Chyflenwi a Datgelu Gwybodaeth) 2014

24.—(1Mae Rheoliadau Gofal Plant (Asiantaethau Gwarchodwyr Plant) (Cofrestru, Arolygu a Chyflenwi a Datgelu Gwybodaeth) 2014(34) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 19(2) (gofyniad i ddarparu gwybodaeth i bersonau rhagnodedig amrywiol)—

(a)ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)a provider of a fostering service (within the meaning of paragraph 5 of Schedule 1 to the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016);;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “that Act” rhodder “the Care Standards Act 2000”;

(c)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(ba)a provider of an adoption service (within the meaning of paragraph 4(a) of Schedule 1 to the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016;.

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

25.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(35) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “y Rheoliadau Maethu”, yn lle “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018”;

(b)yn y diffiniad o “darparwr gwasanaeth maethu”, ym mharagraff (a)—

(i)yn lle “darparwr gwasanaeth maethu” rhodder “darparwr gwasanaethau maethu”;

(ii)yn lle “2(1)” rhodder “2”.

(3Yn rheoliad 22(1) (dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniad o “person cofrestredig” a’r “ac” yn union o flaen hynny;

(b)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “darparwr cofrestredig” (“registered provider”) yw—

(a)

darparwr gwasanaethau maethu rheoleiddiedig o fewn yr ystyr yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Maethu, a

(b)

person cofrestredig o fewn yr ystyr a roddir i “registered person” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011;;

ystyr “gwasanaeth maethu annibynnol” (“independent fostering service”) yw—

(a)

gwasanaeth maethu o fewn yr ystyr ym mharagraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a

(b)

asiantaeth faethu o fewn yr ystyr a roddir i “fostering agency” yn adran 4(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

(4Yn rheoliad 23(2)(c) (amodau y mae’n rhaid eu bodloni cyn lleoli plentyn gyda rhiant maeth awdurdod lleol), yn lle “28(5)(b)” rhodder “8(5)(b)”.

(5Ym mhob un o’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (6), yn lle “berson cofrestredig” rhodder “ddarparwr cofrestredig” ac yn lle “person cofrestredig” rhodder “darparwr cofrestredig”.

(6Y darpariaethau yw—

(a)rheoliad 29(1), (2) a (3);

(b)Atodlen 6—

(i)paragraff 1(a), (b) ac (c);

(ii)paragraff 2(b) ac (e).

(7Yn rheoliad 29 (asiantaethau maethu annibynnol – cyflawni swyddogaethau awdurdod cyfrifol), yn y pennawd, yn lle “Asiantaethau maethu” rhodder “Gwasanaethau maethu”.

(8Yn rheoliad 63 (cofnodion – sefydlu cofnodion), ym mharagraff (2)(e), yn lle “gydag asiantaeth faethu” rhodder “gyda gwasanaeth maethu” ac yn lle “asiantaeth faethu annibynnol honno” rhodder “gwasanaeth maethu annibynnol hwnnw”.

(9Yn y pennawd i Atodlen 6, yn lle “gydag asiantaeth faethu” rhodder “gyda gwasanaeth maethu”.

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Methiant Busnes) (Cymru) 2015

26.—(1Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Methiant Busnes) (Cymru) 2015(36) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli), yn y diffiniad o “darparwr”, hepgorer y geiriau o “neu” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd hyd at y diwedd.

Rheoliadau Gofal Plant (Anghymhwyso) a Gofal Plant (Y Blynyddoedd Cynnar yn Ddi-dâl) (Hawlogaeth Estynedig) (Diwygio) 2018

27.—(1Mae Rheoliadau Gofal Plant (Anghymhwyso) a Gofal Plant (Y Blynyddoedd Cynnar yn Ddi-dâl) (Hawlogaeth Estynedig) (Diwygio) 2018(37) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1 (gorchmynion etc sy’n ymwneud â gofalu am blant), ym mharagraff 18—

(a)yn lle’r geiriau agoriadol rhodder—

In relation to the registration of a care home service, which is provided wholly or mainly to persons under the age of 18, or a secure accommodation service (each has the meaning given in Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (“the 2016 Act”))—;

(b)yn is-baragraff (d), ar ôl “age of 18” mewnosoder “, or a secure accommodation service,”.

(3Yn Atodlen 3 (troseddau penodedig), ym mharagraff 1, yn is-baragraff (14), yn lle’r geiriau agoriadol rhodder—

An offence in relation a care home service, which is provided wholly or mainly to persons under the age of 18, or a secure accommodation service (each has the meaning given in Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (“the 2016 Act”)) under or by virtue of any of the following provisions of the 2016 Act—.

Rheoliad 3

ATODLEN 2Dirymiadau

Mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu.

Y Rheoliadau sydd wedi eu dirymuY Cyfeirnod
Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003O.S. 2003/237 (Cy. 35)
Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) (Diwygio) 2003O.S. 2003/896 (Cy. 116)
Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003O.S. 2003/2527 (Cy. 242)
Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) (Diwygio) 2003O.S. 2003/3054 (Cy. 292)
Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004O.S. 2004/1756 (Cy. 188)
Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005O.S. 2005/1514 (Cy. 118)
Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007O.S. 2007/1357 (Cy. 128)
Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2010O.S. 2010/2585 (Cy. 217)
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Hysbysu) (Cymru) 2011O.S. 2011/105 (Cy. 24)

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 186 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn cyflwyno system newydd o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, gan ddisodli’r un a sefydlwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”).

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn disodli’r system gofrestru ar gyfer darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol, a nodir yn Rhannau 1 a 2 o Ddeddf 2000, sy’n ei gwneud yn ofynnol cofrestru sefydliadau ac asiantaethau ac yn golygu bod cofrestriad ar wahân yn angenrheidiol ar gyfer pob lleoliad lle yr oedd gwasanaeth yn cael ei ddarparu.

Mae’r Ddeddf yn gweithredu dull gwahanol sy’n seiliedig ar y gwasanaeth. Rhaid i ddarparwr gofrestru â Gweinidogion Cymru er mwyn darparu unrhyw wasanaeth gofal a chymorth sy’n cael ei reoleiddio o dan y Ddeddf a bydd y cofrestriad hwnnw yn cynnwys manylion pob un o’r lleoliadau y mae’r darparwr yn darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig ynddynt.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr sy’n cyfeirio, at ddibenion amrywiol, at un o’r categorïau o sefydliad neu asiantaeth a reoleiddid o dan Ddeddf 2000 er mwyn rhoi gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio o dan y Ddeddf yn lle cyfeiriadau o’r fath.

Cychwynnwyd Rhan 1 o’r Ddeddf ar 2 Ebrill 2018 mewn perthynas â’r gwasanaethau rheoleiddiedig a ganlyn—

(a)gwasanaethau cartrefi gofal;

(b)gwasanaethau llety diogel;

(c)gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd;

(d)gwasanaethau cymorth cartref.

Ar 29 Ebrill 2019, mae Rhan 1 o’r Ddeddf wedi ei chychwyn mewn perthynas â’r gwasanaethau rheoleiddiedig sy’n weddill—

(a)gwasanaethau mabwysiadu;

(b)gwasanaethau maethu;

(c)gwasanaethau lleoli oedolion;

(d)gwasanaethau eirioli.

Nid yw gwasanaethau eirioli yn cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2000 ar hyn o bryd.

Mae rheoliad 2 ac Atodlen 1 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth.

Mae rheoliad 3 ac Atodlen 2 yn pennu’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei dirymu gan y Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 1975/1023, a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/1707 a 2018/48; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(6)

O.S. 1983/1964. Diddymwyd adrannau 3 a 9(1) o Ddeddf Mabwysiadu 1976 (p. 36) (“Deddf 1976”) yn rhannol gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p. 14) (adran 117(2), Atodlen 5, paragraff 2). Diddymwyd adran 9 o Ddeddf 1976 yn llawn gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38) (adran 139(3) ac Atodlen 5). Er gwaethaf diddymu’r pŵer galluogi, mae’r Rheoliadau hyn yn parhau mewn grym i’r graddau y maent yn ymwneud â chadw, storio, trosglwyddo a datgelu gwybodaeth mewn perthynas â mabwysiadu person a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005.Gweler O.S. 2005/2897, erthygl 13.

(7)

O.S. 2002/635; mewnosodwyd paragraff (7A) yn rheoliad 2 a mewnosodwyd is-baragraff (3) ym mharagraff 1 o’r Atodlen gan O.S. 2018/48 (Cy. 15). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(9)

O.S. 2003/367; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2005/3341 a 2007/603.

(10)

O.S. 2004/2695 (Cy. 235), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/48 (Cy. 15), mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(11)

O.S. 2005/691, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(12)

O.S. 2005/888, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(13)

O.S. 2005/890, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(14)

O.S. 2005/1109, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(15)

O.S. 2005/1512 (Cy. 116), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(17)

O.S. 2015/1818 (Cy. 261), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(18)

O.S. 2005/1513 (Cy. 117), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(19)

O.S. 2005/2689 (Cy. 189), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(20)

O.S. 2005/2701 (Cy. 190), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(21)

O.S. 2006/1715 (Cy. 177), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/216 (Cy. 85); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(23)

O.S. 2007/722,y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(24)

O.S. 2010/746 (Cy. 75), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/211 (Cy. 84), mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(25)

O.S. 2010/1703 (Cy. 163); diwygiwyd gan O.S. 2018/48 (Cy. 15), mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(26)

O.S. 2010/2839 (Cy. 233); diwygiwyd gan O.S. 2018/48 (Cy. 15), mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(27)

O.S. 2011/2942 (Cy. 318), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(29)

O.S. 2012/2885,y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(32)

O.S. 2019/163 (Cy. 40), y mae rheoliad 1(3) ohono yn diffinio “gofalwr lleoli oedolion” yn berson sydd wedi ymrwymo i gytundeb gofalwr â darparwr gwasanaeth. Diffinnir “cytundeb gofalwr” ym mharagraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2).

(33)

O.S. 2014/1795 (Cy. 188), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(34)

O.S. 2014/1920, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(35)

O.S. 2015/1818 (Cy. 261), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill