Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 245 (Cy. 60)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Amaethyddiaeth, Cymru

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

28 Ionawr 2019

Gwnaed

13 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Chwefror 2019

Coming into force in accordance with regulation 1(2) and (3)

Bodlonwyd gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1) (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â’r gofyniad i gynnal asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd gan brosiectau sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd, i’r graddau y mae’n ymwneud â chynllunio gwlad a thref(3) ac mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â chynnal asesiad o effeithiau cynlluniau a rhaglenni penodol ar yr amgylchedd(4); ac mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â’r gofyniad i gynnal asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd gan brosiectau sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd, i’r graddau y mae’n ymwneud â defnyddio tir heb ei drin neu ardaloedd lled-naturiol at ddibenion amaethyddol dwys(5).

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

(3Daw rheoliadau 2(8)(a)(i), 3(2), 3(4)(a)(iii), 4(5)(b)(iv), 4(5)(c), 5(2)(c), 6(4)(b) a 6(12)(c) i rym 21 niwrnod ar ôl y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn.

(4Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004

2.—(1Mae Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5(3), yn lle “yn unol ag” rhodder “o dan ddeddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE(7) a wnaeth drosi”.

(3Yn rheoliad 12(4), yn lle “ddeddfwriaeth arall yr UE” rhodder “gyfraith yr UE a ddargedwir(8)”.

(4Yn rheoliad 13(2)(b), yn lle “sy’n ofynnol o dan” rhodder “fel y’u pennir yn”.

(5Yn rheoliad 14, ym mharagraffau (1) a (3)(a), ar ôl “Aelod-wladwriaeth” hepgorer “arall”.

(6Yn rheoliad 15—

(a)yn y pennawd, hepgorer “eraill”; a

(b)hepgorer y geiriau o “o dan” i “Rhaglenni”.

(7Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1(d), yn lle “deddfwriaeth yr UE” rhodder “cyfraith yr UE a ddargedwir”.

(8Yn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff 4—

(i)ar ôl “Chyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC ar gadwraeth adar gwyllt” mewnosoder “neu Gyfarwyddeb 2009/147/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gadwraeth adar gwyllt(9)”; a

(ii)yn lle “yn unol â” rhodder “o dan ddeddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE a wnaeth drosi”; a

(b)ym mharagraff 5, yn lle “Aelod-wladwriaethol” rhodder “genedlaethol”.

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009

3.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle “ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC” rhodder “ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd fel y’i mabwysiadwyd ar 13 Rhagfyr 2011(11);”; a

(ii)yn y diffiniad o “ardal sensitif”, ym mharagraff (f), yn lle “rheoliad 10 o Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol etc.) 1994” rhodder “rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017(12)”; a

(b)ym mharagraff (7), ar ôl “Gyfarwyddeb y Cyngor” mewnosoder “(ac eithrio’r Gyfarwyddeb)”.

(3Yn rheoliad 9(1)—

(a)yn lle “Caiff Gweinidogion Cymru”, rhodder “Heb ragfarnu rheoliad 52, caiff Gweinidogion Cymru”; a

(b)hepgorer y geiriau o “yn unol ag” hyd at y diwedd.

(4Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 2(c)(v)—

(i)ar ôl “ddeddfwriaeth Aelod-wladwriaethau” mewnosoder “neu ddeddfwriaeth unrhyw ran o’r DU”;

(ii)yn lle “gan Aelod-wladwriaethau yn unol â Chyfarwyddeb” rhodder “o dan ddeddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE a wnaeth drosi Cyfarwyddeb”; a

(iii)ar ôl “Chyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC ar gadwraeth adar gwyllt” mewnosoder “neu Gyfarwyddeb 2009/147/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gadwraeth adar gwyllt”; a

(b)ym mharagraff 2(c)(vi), yn lle “yn neddfwriaeth yr UE” rhodder “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir”.

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016

4.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016(13) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4(4), yn lle “yn unol ag Erthygl 2(4) o’r Gyfarwyddeb (ond heb iddo leihau effaith Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb)” rhodder “o dan amgylchiadau eithriadol, heb leihau effaith rheoliadau 56 a 57”.

(3Yn rheoliad 51(a), hepgorer “arall”.

(4Yn rheoliad 53—

(a)yn y pennawd ac ym mharagraff (1)(a) a (b), hepgorer “arall”;

(b)ym mharagraff (4)(a), yn lle “awdurdodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 6(1) o’r Gyfarwyddeb” rhodder “awdurdodau yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi eu dynodi yn awdurdodau sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb”; ac

(c)ym mharagraff (5), hepgorer “yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb”.

(5Yn rheoliad 54—

(a)yn y pennawd, hepgorer “arall”;

(b)ym mharagraff (1)—

(i)hepgorer “arall”, yn y ddau le y mae’n digwydd;

(ii)hepgorer “, yn unol ag Erthygl 7(1) neu 7(2) o’r Gyfarwyddeb,”;

(iii)hepgorer “, yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb,”; a

(iv)yn is-baragraff (b), yn lle “i’r awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE honno, yn unol ag Erthygl 7(3)(b) o’r Gyfarwyddeb” rhodder “i’r awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb”; ac

(c)ym mharagraff (2)—

(i)yn is-baragraff (b), yn lle “awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE berthnasol” rhodder “awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb”; a

(ii)yn is-baragraff (c), yn lle “awdurdod cymwys y Wladwriaeth AEE berthnasol” rhodder “awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb”.

(6Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 21 a 22, yn lle “yn unol â Chyfarwyddeb” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “yn unol â Phennod 3 o Ran 1 o Ddeddf Ynni 2008(14) ac unrhyw gyfraith a weithredodd Gyfarwyddeb”.

(7Yn Atodlen 2, yn y tabl ym mharagraff 2 yn eitem 3(j), yn lle “yn unol â Chyfarwyddeb” rhodder “yn unol â Phennod 3 o Ran 1 o Ddeddf Ynni 2008 ac unrhyw gyfraith a weithredodd Gyfarwyddeb”.

(8Yn Atodlen 3, ym mharagraff 2(c)—

(a)ym mharagraff (v)—

(i)ar ôl “o dan ddeddfwriaeth Aelod-wladwriaethau” mewnosoder “neu o dan ddeddfwriaeth unrhyw ran o’r DU,”;

(ii)hepgorer “gan Aelod-wladwriaethau”; a

(iii)yn lle “yn unol â Chyfarwyddeb” rhodder “o dan ddeddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE wnaeth drosi Cyfarwyddeb”; a

(b)ym mharagraff (vi), yn lle “yn neddfwriaeth yr UE” rhodder “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir”.

(9Yn Atodlen 5, ym mharagraff 12(a), hepgorer “arall”.

(10Yn Atodlen 6, ym mharagraff 15(b), hepgorer “arall”.

Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017

5.—(1Mae Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Cymru) 2017(15) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y mannau priodol, mewnosoder—

(a)

“ystyr “aelodau’r cyhoedd” (“public”) yw un neu ragor o bersonau naturiol neu bersonau cyfreithiol ac, yn unol â chyfraith unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig neu arfer unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig, eu cymdeithasau, eu sefydliadau neu eu grwpiau;;

(b)

ystyr “aelodau’r cyhoedd y mae a wnelo’r cais â hwy” (“public concerned”) yw’r aelodau hynny o’r cyhoedd y mae’r gweithdrefnau gwneud penderfyniadau amgylcheddol yn effeithio arnynt, neu’n debygol o effeithio arnynt, neu’r aelodau hynny o’r cyhoedd sydd â buddiant yn y gweithdrefnau hynny (at ddibenion y diffiniad hwn, bernir bod buddiant gan sefydliadau anllywodraethol sy’n hybu diogelu’r amgylchedd ac yn bodloni unrhyw ofynion o dan y gyfraith genedlaethol berthnasol);; ac

(c)

“mae i “Natura 2000” yr un ystyr ag a roddir i “Natura 2000” yn rheoliad 3(1) o’r Rheoliadau Cynefinoedd;.

(3Yn rheoliad 2(2)—

(a)hepgorer “y Gyfarwyddeb AEA neu yn”;

(b)yn lle “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” rhodder “y Rheoliadau Cynefinoedd”; ac

(c)yn lle “y Gyfarwyddeb berthnasol” rhodder “y Rheoliadau Cynefinoedd”.

(4Yn rheoliad 3—

(a)ym mharagraff (3)—

(i)hepgorer “, yn unol ag Erthygl 2(4) o’r Gyfarwyddeb AEA,”; a

(ii)ar ôl “Rheoliadau hyn” mewnosoder “, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (3A)”;

(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd o dan baragraff (3) oni bai—

(a)ei bod yn briodol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau eithriadol;

(b)y byddai cymhwyso’r Rheoliadau hyn yn cael effaith andwyol ar ddiben y prosiect;

(c)eu bod wedi ystyried pa un a fyddai dull asesu arall yn briodol;

(d)y bodlonir amcanion y Gyfarwyddeb er nad yw eu gofynion wedi eu cyflawni; ac

(e)nad yw’r prosiect yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE.

(3B) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y canlynol ar gael i aelodau’r cyhoedd y mae a wnelo’r cais â hwy—

(a)yr wybodaeth a geir o unrhyw ddull asesu arall sy’n ymwneud â’r penderfyniad o dan baragraff (3A) pa un ai i ganiatáu esemptiad; a

(b)y rhesymau dros ei ganiatáu.; ac

(c)ym mharagraff (4), yn lle “Gyfarwyddeb Cynefinoedd” rhodder “Rheoliadau Cynefinoedd”.

(5Yn rheoliad 11(3)(e), yn lle “ddeddfwriaeth yr UE” rhodder “gyfraith yr UE a ddargedwir”.

(6Yn rheoliad 13—

(a)yn y pennawd ac ym mharagraff (1), hepgorer “arall”;

(b)ym mharagraff (4)—

(i)hepgorer “Yn unol ag Erthygl 6 o’r Gyfarwyddeb AEA,”; a

(ii)yn is-baragraff (a), yn lle “cyfeirir atynt yn Erthygl 6(1) o’r Gyfarwyddeb AEA” rhodder “mae’r Wladwriaeth AEE wedi eu dynodi yn awdurdodau i ymgynghori â hwy ynghylch y prosiect”;ac

(c)ym mharagraff (5), hepgorer “Yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb AEA,”.

(7Yn rheoliad 14—

(a)yn y pennawd ac ym mharagraffau (1) a (3), hepgorer “arall”;

(b)ym mharagraff (1), hepgorer “yn unol ag Erthygl 7(1) o’r Gyfarwyddeb AEA”; ac

(c)ym mharagraff (2), hepgorer “Yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb AEA,”.

(8Yn rheoliad 15(2)(d), hepgorer “arall”.

(9Yn rheoliad 16—

(a)ym mharagraff (6)(b), yn lle “y Comisiwn Ewropeaidd” rhodder “Gweinidogion Cymru”; a

(b)ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

(6A) Cyn penderfynu pa un a yw’r rhesymau yn rhesymau hanfodol, sef bod hynny er budd cyhoeddus tra phwysig, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â—

(i)y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur;

(ii)yr Ysgrifennydd Gwladol a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill;

(iii)unrhyw berson arall y maent yn ystyried ei fod yn briodol; a

(b)rhoi sylw i’r buddiant cenedlaethol.

(10Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2(c)(vi), yn lle “yn neddfwriaeth yr UE” rhodder “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir”.

(11Yn Atodlen 3—

(a)ym mharagraff 4(1)—

(i)ym mharagraff (b)—

(aa)yn lle “a ddiogelir gan y” rhodder “a ddiogelir o dan ddeddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE a wnaeth drosi’r”; a

(bb)ar ôl “Gyfarwyddeb Adar” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”; a

(ii)yn lle’r geiriau ar ôl paragraff (d) rhodder—

Dylai’r disgrifiad hwn gymryd i ystyriaeth yr amcanion diogelu’r amgylchedd a bennwyd ar lefel yr Undeb Ewropeaidd fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod ymadael (gan gynnwys yn enwedig y rheini a bennwyd o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd a’r Gyfarwyddeb Adar) neu ar lefel genedlaethol.; a

(b)ym mharagraff 8—

(i)yn lle “deddfwriaeth yr UE megis Cyfarwyddeb” rhodder “chyfraith yr UE a ddargedwir megis unrhyw gyfraith a weithredodd Gyfarwyddeb”;

(ii)yn lle “yn unol â deddfwriaeth genedlaethol”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth genedlaethol arall”; a

(iii)ar ôl “bodlonir gofynion” mewnosoder “unrhyw gyfraith a weithredodd”.

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017

6.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017(16) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniad o “deddfwriaeth yr Undeb”.

(3Yn rheoliad 4(2)(b)—

(a)yn lle “a warchodir o dan Gyfarwyddeb” rhodder “a warchodir o dan ddeddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE a wnaeth drosi Cyfarwyddeb”; a

(b)ar y diwedd, mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.

(4Yn rheoliad 5—

(a)ym mharagraff (4)(a), yn lle “yn unol ag Erthygl 2(4) o’r Gyfarwyddeb (heb leihau effaith Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb) pan” rhodder “o dan amgylchiadau eithriadol, heb leihau effaith rheoliadau 56 a 57 a phan”;

(b)hepgorer paragraff (7); ac

(c)ym mharagraffau (8)(b) a (13)(b)(ii), yn lle “deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio deddfwriaeth sy’n gweithredu gofynion y Gyfarwyddeb” rhodder “chyfraith yr UE a ddargedwir (ac eithrio deddfiad a weithredodd y Gyfarwyddeb)”.

(5Yn rheoliad 6(4), yn lle “deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio deddfwriaeth o dan y Gyfarwyddeb” rhodder “chyfraith yr UE a ddargedwir (ac eithrio deddfiad a weithredodd y Gyfarwyddeb)”.

(6Yn rheoliad 17(4)(e), yn lle “ddeddfwriaeth yr Undeb” rhodder “gyfraith yr UE a ddargedwir”.

(7Yn rheoliad 25(3)(c), yn lle “ddeddfwriaeth yr Undeb (ac eithrio deddfwriaeth sy’n gweithredu gofynion y Gyfarwyddeb)” rhodder “gyfraith yr UE a ddargedwir (ac eithrio deddfiad a weithredodd y Gyfarwyddeb)”.

(8Yn rheoliad 31(3), yn lle “deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio o dan y Gyfarwyddeb” rhodder “cyfraith yr UE a ddargedwir (ac eithrio deddfiad a weithredodd y Gyfarwyddeb)”.

(9Yn rheoliad 43, yn lle “â gofynion ac amcanion y Gyfarwyddeb” rhodder “ag unrhyw gyfraith a weithredodd y Gyfarwyddeb a chydag amcanion y Gyfarwyddeb”.

(10Yn rheoliad 54(a), hepgorer “arall”.

(11Yn rheoliad 56—

(a)yn y pennawd ac ym mharagraffau (1)(a), (b) a (2)(a), hepgorer “arall”, ym mhob lle y mae’n digwydd; a

(b)ym mharagraff (5)—

(i)hepgorer “, yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb”; a

(ii)yn is-baragraff (b), hepgorer “arall”.

(12Yn rheoliad 57—

(a)yn y pennawd, hepgorer “arall”;

(b)ym mharagraff (1)—

(i)hepgorer “arall”, yn y ddau le y mae’n digwydd;

(ii)hepgorer “, yn unol ag Erthygl 7(1) neu (2) o’r Gyfarwyddeb,”;

(iii)hepgorer “, yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb”; a

(iv)yn is-baragraff (b), hepgorer “yn unol ag Erthygl 7(3)(b) o’r Gyfarwyddeb”; ac

(c)ym mharagraff (2)—

(i)yn is-baragraff (b), yn lle “awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE berthnasol” rhodder “awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb”; a

(ii)yn is-baragraff (c), yn lle’r geiriau o “awdurdod cymwys” hyd at y diwedd rhodder “awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb”.

(13Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 21 a 22, yn lle “yn unol â Chyfarwyddeb” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “yn unol â Phennod 3 o Ran 1 o Ddeddf Ynni 2008 ac unrhyw gyfraith a weithredodd Gyfarwyddeb”.

(14Yn Atodlen 2, yn y tabl ym mharagraff 2, yn eitem 3(j), yn lle “yn unol â Chyfarwyddeb” rhodder “yn unol â Phennod 3 o Ran 1 o Ddeddf Ynni 2008 ac unrhyw gyfraith a weithredodd Gyfarwyddeb”.

(15Yn Atodlen 3, ym mharagraff 2(c)(vi), yn lle “yn neddfwriaeth yr Undeb” rhodder “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir”.

(16Yn Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 5, yn lle’r geiriau o “ar lefel yr Undeb Ewropeaidd neu lefel yr Aelod Wladwriaeth” hyd at y diwedd rhodder “ar lefel yr Undeb Ewropeaidd fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod ymadael (gan gynnwys yn benodol y rheini a sefydlwyd o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC a Chyfarwyddeb 2009/147/EC) neu ar lefel genedlaethol,”; a

(b)ym mharagraff 8—

(i)yn lle “deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd megis Cyfarwyddeb” rhodder “chyfraith yr UE a ddargedwir megis unrhyw gyfraith a weithredodd Gyfarwyddeb”; a

(ii)yn lle “gofynion y” rhodder “gofynion unrhyw gyfraith a weithredodd y”.

(17Yn Atodlen 5, ym mharagraff 17(a), hepgorer “arall”.

(18Yn Atodlen 6, ym mharagraff 20(b), hepgorer “arall”.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

13 Chwefror 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) a chan baragraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16).

Gwneir rheoliadau 2(8)(a)(i), 3(2), 3(4)(a)(iii), 4(5)(b)(iv), 4(5)(c), 5(2)(c), (4)(b) a (12)(c) o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68). Mae rheoliadau 4(5)(b)(iv), 4(5)(c), 5(2)(c), (4)(b) a (12)(c) yn gwneud mân ddiwygiadau. Mae rheoliadau 2(8)(a)(i), 3(2) a 3(4)(a)(iii) yn diweddaru cyfeiriadau sydd wedi dyddio.

Mae’r rheoliadau sy’n weddill yn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i asesiadau amgylcheddol o gynlluniau a rhaglenni, ac i’r asesiad effaith amgylcheddol o ran materion cynllunio gwlad a thref ac amaethyddiaeth.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn oherwydd ni ragwelir unrhyw effaith ar y sector preifat neu wirfoddol, neu ni ragwelir unrhyw effaith sylweddol ar y sectorau hynny.

(1)

2018 p. 16. Gweler adran 20(1) o’r Ddeddf honno am ddiffiniad o “devolved authority”.

(2)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008.

(5)

O.S. 2001/2555. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n arferadwy o ganlyniad i ddynodiad a wneir o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru (p. 32).

(7)

Gweler adran 2(2) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 am y diffiniad o “EU-derived domestic legislation” (“deddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE”).

(8)

Gweler adran 6(7) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 am y diffiniad o “retained EU law” (“cyfraith yr UE a ddargedwir”).

(9)

O.J. L 20, 26.1.2010, t. 7.

(11)

O.J. L 26, 28.1.2012, t. 1.

(12)

O.S. 2017/1012, a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/1307.

(13)

O.S. 2016/58 (Cy. 28). Dirymwyd gan O.S. 2017/567 (Cy. 136) ond arbedwyd at ddibenion penodol gan reoliad 65 o’r Rheoliadau hynny.

(15)

O.S. 2017/565 (Cy. 134), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/1012.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill