- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
3.—(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn lle “ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC” rhodder “ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd fel y’i mabwysiadwyd ar 13 Rhagfyr 2011(2);”; a
(ii)yn y diffiniad o “ardal sensitif”, ym mharagraff (f), yn lle “rheoliad 10 o Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol etc.) 1994” rhodder “rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017(3)”; a
(b)ym mharagraff (7), ar ôl “Gyfarwyddeb y Cyngor” mewnosoder “(ac eithrio’r Gyfarwyddeb)”.
(3) Yn rheoliad 9(1)—
(a)yn lle “Caiff Gweinidogion Cymru”, rhodder “Heb ragfarnu rheoliad 52, caiff Gweinidogion Cymru”; a
(b)hepgorer y geiriau o “yn unol ag” hyd at y diwedd.
(4) Yn Atodlen 1—
(a)ym mharagraff 2(c)(v)—
(i)ar ôl “ddeddfwriaeth Aelod-wladwriaethau” mewnosoder “neu ddeddfwriaeth unrhyw ran o’r DU”;
(ii)yn lle “gan Aelod-wladwriaethau yn unol â Chyfarwyddeb” rhodder “o dan ddeddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE a wnaeth drosi Cyfarwyddeb”; a
(iii)ar ôl “Chyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC ar gadwraeth adar gwyllt” mewnosoder “neu Gyfarwyddeb 2009/147/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gadwraeth adar gwyllt”; a
(b)ym mharagraff 2(c)(vi), yn lle “yn neddfwriaeth yr UE” rhodder “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir”.
O.S. 2009/3342 (Cy. 293), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/755 (Cy. 90) ac O.S. 2016/58 (Cy. 28).
O.J. L 26, 28.1.2012, t. 1.
O.S. 2017/1012, a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/1307.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys