- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
7 Ionawr 2019
Gwnaed
11 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymrut
13 Chwefror 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.
2.—(1) Mae Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)ym mharagraff (2), yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb”, yn lle “ac fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/996;” rhodder “, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn y diwrnod ymadael”; a
(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae’r Gyfarwyddeb i’w ddarllen fel pe bai unrhyw gyfeiriad at un neu ragor o Aelod-wladwriaethau yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru.”.
(3) Yn rheoliad 4, ar ôl paragraff (6) mewnosoder—
“(7) At ddibenion paragraff (2)(a), mae cyfeiriad at Atodiad I i’r Gyfarwyddeb i’w ddarllen fel pe bai, ym mharagraff 1, yn y pedwerydd mewnoliad sydd yn cychwyn “the day is 12 hours”, y geiriau o “The Member States” hyd at y diwedd wedi eu hepgor.”.
(4) Yn lle rheoliad 15(1)(a) rhodder—
“(a)amcanu i atal a lleihau sŵn amgylcheddol pan fo’n angenrheidiol ac yn benodol pan fo lefelau bod o fewn clyw sŵn yn gallu achosi effeithiau niweidiol ar iechyd dynol;
(aa)amcanu i ddiogelu ansawdd sŵn amgylcheddol pan fo’n dda;”.
(5) Yn rheoliad 22—
(a)ym mharagraff (2)(b), yn lle “y Gyfarwyddeb” rhodder “gyfraith berthnasol yr UE a ddargedwir(3)”; a
(b)ym mharagraff (3), yn lle “Erthygl 4 o’r Gyfarwyddeb” rhodder “cyfraith berthnasol yr UE a ddargedwir;”.
(6) Yn rheoliad 26(4)(b)—
(a)ym mharagraff (i) hepgorer “neu”; a
(b)hepgorer paragraff (ii).
(7) Yn Atodlen 1—
(a)ym mharagraff 1—
(i)ailrifer y testun presennol yn is-baragraff (1); a
(ii)ar ôl yr is-baragraff (1) newydd mewnosoder—
“(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae’r cyfeiriad at baragraffau 1.5, 1.6 a 2.6 o Atodiad VI i’r Gyfarwyddeb i’w ddarllen yn unol â’r addasiadau a ganlyn—
(a)ym mharagraff 1.5, fel pe bai’r cyfeiriad yn y paragraff hwnnw at “major roads”, “major railways” a “major airports” fel y’u diffinnir yn Erthygl 3 o’r Gyfarwyddeb yn gyfeiriad at “major road” (“prif ffordd”), “major railway” (“prif reilffordd”) a “major airport” (“prif faes awyr”) fel y’u diffinnir yn rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn; a
(b)ym mharagraffau 1.6 a 2.6, fel pe bai’r geiriau o “These data” hyd at y diwedd wedi eu hepgor.”;
(b)ym mharagraff 2, ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
“(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae cyfeiriad at Atodiad IV i’r Gyfarwyddeb i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi eu hepgor—
(a)ym mharagraff 4, y mewnoliad cyntaf;
(b)ym mharagraff 5, y geiriau o “concerning” hyd at “Commission”; ac
(c)paragraff 9”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
11 Chwefror 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2006/2629 (Cy. 225), a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/47 (Cy. 15).
Mae cyfraith berthnasol yr UE a ddargedwir yn cynnwys Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Lloegr) 2006 (O.S. 2006/2629), Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (yr Alban) 2006 (O.S.A. 2006/465) a Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Gogledd Iwerddon) 2006 (Rh.S. 2006, Rhif 387).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys