- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae “arolygydd” (“inspector”) yn cynnwys arolygydd arweiniol ac arolygydd ychwanegol;
ystyr “arolygydd arweiniol” (“lead inspector”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad neu ymchwiliad a ailagorir;
ystyr “arolygydd ychwanegol” (“additional inspector”) yw arolygydd a benodir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 7(2)(a);
ystyr “asesydd” (“assessor”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru i eistedd gydag arolygydd mewn ymchwiliad neu ymchwiliad a ailagorir i gynghori’r arolygydd ynghylch unrhyw faterion sy’n codi a bennir gan Weinidogion Cymru;
ystyr “awdurdod â buddiant” (“interested authority”) yw unrhyw awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru y mae’r ceisydd wedi cyflwyno hysbysiad am y cais iddo yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad;
ystyr “awdurdod cynllunio cymwys” (“qualifying planning authority”) yw—
pan fo Gweinidogion Cymru wedi peri i ymchwiliad gael ei gynnal o dan reoliad 9(1) o’r Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad, unrhyw awdurdod cynllunio perthnasol sydd wedi gwrthwynebu’r cais yn unol â rheoliad 8(2) o’r Rheoliadau hynny ac nad yw ei wrthwynebiad wedi ei dynnu yn ôl;
pan fo Gweinidogion Cymru wedi peri i ymchwiliad gael ei gynnal o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau Amrywio Cydsyniadau, unrhyw awdurdod cynllunio perthnasol, os yw wedi cyflwyno sylwadau (nad ydynt wedi eu tynnu yn ôl) yn gwrthwynebu cais i amrywio;
mae i “awdurdod cynllunio lleol” yr un ystyr ag a roddir i “local planning authority” yn Rhan I o Ddeddf 1990;
mae i “awdurdod cynllunio perthnasol” (“relevant planning authority”) yn achos—
ymchwiliad i gais, yr un ystyr ag a roddir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad;
ymchwiliad i gais i amrywio, yr un ystyr ag a roddir yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Amrywio Cydsyniadau;
ystyr “cais” (“application”), ac eithrio pan fo ystyr arall yn ofynnol yn ôl y cyd-destun, yw cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad o dan adran 36(1) i adeiladu, estyn neu weithredu gorsaf gynhyrchu(2), ynghyd ag unrhyw gais o dan adran 36A(3) am ddatganiad sy’n ymwneud â hawliau mordwyo a wneir gyda’r cais o dan adran 36;
mae i “cais i amrywio” (“variation application”) yr un ystyr ag a roddir yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Amrywio Cydsyniadau;
ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw’r person sy’n gwneud cais neu gais i amrywio;
ystyr “cyfarfod rhagymchwiliad” (“pre-inquiry meeting”) yw cyfarfod a gynhelir cyn ymchwiliad i ystyried beth y gellir ei wneud gyda’r nod o sicrhau y cynhelir yr ymchwiliad yn effeithlon ac yn hwylus, a phan gynhelir dau neu ragor o’r cyfarfodydd hynny ynghylch yr un ymchwiliad, mae cyfeiriadau at gyfarfod rhagymchwiliad yn dod i ben yn gyfeiriadau at y cyfarfod rhagymchwiliad terfynol yn dod i ben;
mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr ag a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(4);
ystyr “cyfryngwr” (“mediator”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9;
ystyr “cynghorydd technegol” (“technical adviser”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8;
ystyr “datblygiad adran 90” (“section 90 development”) yw unrhyw ddatblygiad y mae’r ceisydd, wrth wneud cais neu gais i amrywio, yn gofyn i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan adran 90(2) neu (2ZA) o Ddeddf 1990(5) (caniatâd cynllunio tybiedig ar gyfer datblygu gydag awdurdodiad llywodraeth) mewn cysylltiad ag ef;
ystyr “datganiad achos” (“statement of case”) yw datganiad ysgrifenedig sy’n cynnwys—
manylion llawn yr achos y mae person yn bwriadu ei gyflwyno mewn ymchwiliad;
rhestr o unrhyw ddogfennau y mae’r person hwnnw yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;
rhestr o’r unigolion y mae’r person hwnnw yn bwriadu eu galw fel tystion; a
pwnc tystiolaeth pob un o’r tystion hynny;
ystyr “datganiad amlinellol” (“outline statement”) yw datganiad ysgrifenedig o’r prif sylwadau y mae person yn bwriadu eu cyflwyno mewn ymchwiliad;
ystyr “datganiad tir cyffredin” (“statement of common ground”) yw datganiad ysgrifenedig a lunnir ar y cyd gan yr awdurdod cynllunio perthnasol (pan fo’n awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru) a’r ceisydd, sy’n cynnwys gwybodaeth ffeithiol gytunedig am y cynnig sy’n destun y cais neu’r cais i amrywio;
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(6);
mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;
ystyr “drwy hysbyseb leol” (“by local advertisement”) mewn perthynas â hysbysiad, yw drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn un papur newydd o leiaf, fel bod yr hysbysiad yn debygol o ddod i sylw’r rheini sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y cydsyniad y gwneir cais amdano os y’i rhoddir;
ystyr “ffurflen gofrestru” (“registration form”) yw ffurflen i’w chwblhau gan bersonau sy’n dymuno cymryd rhan yn yr ymchwiliad;
ystyr “gwrthwynebydd cymwys” (“qualifying objector”) yw—
pan fo Gweinidogion Cymru wedi peri i ymchwiliad gael ei gynnal o dan reoliad 9(1) neu 10 o’r Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad, unrhyw un a wrthwynebodd y cais erbyn y dyddiad y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 8(1) o’r Rheoliadau hynny ac yn y dull y darperir ar ei gyfer yn y rheoliad hwnnw;
pan fo Gweinidogion Cymru wedi peri i ymchwiliad gael ei gynnal o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau Amrywio Cydsyniad, unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau yn gwrthwynebu’r cais i amrywio erbyn y dyddiad y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 5(6)(b)(iii) o’r Rheoliadau hynny,
ac nad yw ei wrthwynebiad wedi ei dynnu yn ôl;
ystyr “hysbysiad perthnasol” (“relevant notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru o dan reoliad 4(1);
ystyr “lle” (“place”), oni bai bod ystyr arall yn ofynnol yn unol â’r cyd-destun, yw’r lle y mae ymchwiliad yn ymwneud ag ef, hynny yw, y lle—
y bwriedir adeiladu’r orsaf gynhyrchu, y lle y bydd yr estyniad arfaethedig neu’r lle y mae’r orsaf y bwriedir ei gweithredu wedi ei lleoli; a
y bydd unrhyw ddatblygiad adran 90 wedi ei leoli.
ystyr “person sydd â hawl i ymddangos” (“person entitled to appear”) yw person a ddisgrifir yn rheoliad 17(1), ac mae ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny;
ystyr “y Rheoliadau Amrywio Cydsyniadau” (“the Variation of Consents Regulations”) yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru) 2019(7);
ystyr “y Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad” (“the Applications for Consent Regulations”) yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019(8);
ystyr “ymchwiliad” (“inquiry”) yw ymchwiliad y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ef; a phan fo ymchwiliad yn cael ei gynnal drwy sesiynau cydredol, mae’n cynnwys unrhyw sesiwn o’r fath.
(2) Oni nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran honno o Ddeddf Trydan 1989.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn ar Weinidogion Cymru neu’r arolygydd i gylchredeg dogfen wedi ei fodloni drwy anfon copi o’r ddogfen honno—
(a)i’r awdurdod cynllunio perthnasol;
(b)at y ceisydd; ac
(c)at bob gwrthwynebydd cymwys sydd wedi nodi yn unol â rheoliad 6(4)(b)(iv) ei fod yn debygol o fod eisiau cael ei gynrychioli yn ffurfiol a chwarae rhan sylweddol yn yr ymchwiliad.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn ar Weinidogion Cymru neu’r arolygydd i adneuo dogfen wedi ei fodloni drwy anfon copi ohoni—
(a)yn achos ymchwiliad i gais—
(i)pan fo rhan o’r man y mae’r cais yn ymwneud ag ef o fewn ardal awdurdod cynllunio perthnasol, i’r awdurdod cynllunio perthnasol; neu
(ii)pan na fo unrhyw ran o’r man y mae’r cais yn ymwneud ag ef o fewn ardal awdurdod cynllunio perthnasol, i’r awdurdod â buddiant; a
(b)yn achos ymchwiliad i gais i amrywio, i unrhyw awdurdod cynllunio perthnasol sy’n awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru.
(5) Nid oes dim ym mharagraff (3) neu (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru neu’r arolygydd anfon copi o ddogfen at y person y cafwyd y ddogfen oddi wrtho.
(6) Mae gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi hysbysiad ar wefan wedi ei fodloni—
(a)drwy gyhoeddi’r hysbysiad, neu’r manylion y mae’n ofynnol eu cynnwys yn yr hysbysiad hwnnw, ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru; neu
(b)drwy gyhoeddi dolen ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru i wefan arall lle y mae’r hysbysiad wedi ei gyhoeddi neu lle y mae’r manylion y mae’n ofynnol eu cynnwys yn yr hysbysiad hwnnw wedi eu cyhoeddi.
Diwygiwyd adran 36 gan adran 93 o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20) , paragraff 32 o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29), adran 12(7) ac (8) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) (“Deddf 2009”), adran 78 o Ddeddf Ynni 2016 (p. 20) ac adran 39(7) i (11) o Ddeddf 2017, a pharagraff 47 o Atodlen 6 iddi. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Gweler adran 64(1) o Ddeddf Trydan 1989 (p. 29) (“Deddf 1989”) am y diffiniad o “generating station” (“gorsaf gynhyrchu”).
Mewnosodwyd adran 36A yn Neddf 1989 gan adran 99(1) o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20) ac fe’i diwygiwyd gan adran 12(7) ac (8) o Ddeddf 2009 ac adran 40(1) i (5) o Ddeddf 2017.
2000 p. 7 . Diwygiwyd adran 15(1) gan baragraff 158 o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21) .
Amnewidiwyd adran 90(2) a (2ZA) gan adran 21(2) o Ddeddf 2013 (p. 27) ac fe’i diwygiwyd gan adran 39(13) o Ddeddf 2017.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys