Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 370 (Cy. 91)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd

Pysgodfeydd Môr, Cymru

Rheoli Morol, Cymru

Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

18 Chwefror 2019

Gwnaed

25 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Chwefror 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol y Cynulliad ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

(3Mae i ddiwygiad a wneir gan y Rheoliadau hyn yr un cymhwysiad â’r deddfiad sy’n cael ei ddiwygio.

Rheoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 2006

2.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 2006(2), yn y diffiniad o “cwch pysgota trwyddedig”, hepgorer “gan Aelod-Wladwriaeth arall neu”.

Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011

3.—(1Mae Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl erthygl 3, mewnosoder—

3A    Addasu’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff

(1) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff i’w darllen yn unol â’r erthygl hon.

(2) Mae cyfeiriad at un Aelod-wladwriaeth neu ragor mewn darpariaeth sy’n gosod rhwymedigaeth ar Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau, neu sy’n rhoi disgresiwn iddi neu iddynt, i’w ddarllen fel cyfeiriad at yr awdurdod priodol neu’r awdurdod lleol a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn gyfrifol am gydymffurfedd y Deyrnas Unedig â’r rhwymedigaeth honno neu a oedd yn gallu arfer y disgresiwn hwnnw o ran Cymru.

(3) Mae Erthygl 2 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 2—

(i)yn y geiriau yn union cyn pwynt (a), “retained EU law” wedi ei roi yn lle “other Community legislation”;

(ii)ym mhwyntiau (b) ac (c), “Regulation (EC) No 1069/2009” wedi ei roi yn lle “Regulation (EC) No 1774/2002”;

(iii)ym mhwynt (d), “the Mining Waste Directive” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “Directive 2006/21/EC(4)” hyd at y diwedd;

(b)ym mharagraff 3, y geiriau o “Without prejudice” hyd at “Community legislation” wedi eu hepgor;

(c)paragraff 4 wedi ei hepgor.

(4) Mae Erthygl 5 i’w darllen fel pe bai paragraff 2 wedi ei hepgor.

(5) Mae Erthygl 6 i’w darllen fel pe bai—

(a)paragraffau 1 i 3 wedi eu hepgor;

(b)ym mharagraff 4—

(i)yn y frawddeg gyntaf, “Except where waste ceases to be waste in accordance with Council Regulation (EU) No 333/2011, Commission Regulation (EU) No 1179/2012 or Commission Regulation (EU) No 715/2013” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “Where criteria” hyd at “paragraphs 1 and 2”;

(ii)yr ail frawddeg wedi ei hepgor.

(6) Mae Erthygl 7 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 1—

(i)y frawddeg gyntaf a’r ail frawddeg wedi eu hepgor;

(ii)yn y drydedd frawddeg, “shall, subject to paragraph 1A, be binding” wedi ei roi yn lle “shall be binding”;

(b)ar ôl paragraff 1, y canlynol wedi ei fewnosod—

1A.  Paragraph 1 is subject to—

(a)a determination by the Welsh Ministers under regulation 8(1) of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005(5) that a specific batch of waste is to be treated as hazardous waste;

(b)a decision made by the Welsh Ministers under regulation 9(1) of the Hazardous Waste (England and Wales) Regulations 2005(6) that a specific batch of waste is to be treated as non-hazardous waste;

(c)the treating of a specific batch of waste as hazardous or, as the case may be, non-hazardous, in accordance with regulation 8(2) or 9(2) of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005;

(d)regulations (if any) made by the Welsh Ministers under section 62A(2) of the Environmental Protection Act 1990(7) (lists of waste displaying hazardous properties).;

(c)paragraffau 2, 3 a 5 wedi eu hepgor;

(d)ar ôl paragraff 6, y canlynol wedi ei fewnosod—

6A.  In this Article, the “list of waste” means the list established by Commission Decision 2000/532/EC.;

(e)paragraff 7 wedi ei hepgor.

(7) Mae Erthygl 23 i’w darllen fel pe bai—

(a)cyfeiriad at y “competent authority” yn gyfeiriad at yr “appropriate authority”;

(b)ym mharagraff 5, “or Community” wedi ei hepgor.

(8) Mae Atodiad 3 i’w ddarllen fel pe bai, yng nghofnod HP 9, yn yr ail frawddeg, “in the Member States” wedi ei hepgor.

(9) Wrth ddarllen y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yn unol â’r erthygl hon—

(a)ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw Gweinidogion Cymru neu Gorff Adnoddau Naturiol Cymru;

(b)ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

3B    Ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio”

(1) Wrth ddarllen Erthygl 2 o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yn unol ag erthygl 3A, ystyr y cyfeiriad at “the Mining Waste Directive” (fel y’i mewnosodir gan erthygl 3A(3)(a)(iii)) yw Cyfarwyddeb 2006/21/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli gwastraff o ddiwydiannau echdynnol, y’i darllenir yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2) Mae Erthygl 2 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 2(c), y cyfeiriad at Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC(8) yn gyfeiriad at yr Erthygl honno, y’i darllenir yn unol â pharagraff (4) o’r erthygl hon;

(b)paragraffau 3 a 4 wedi eu hepgor.

(3) Mae Erthygl 3(1) i’w darllen fel pe bai “Article 3(1) of the Waste Framework Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive” wedi ei roi yn lle “Article 1(a) of Directive 75/442/EEC”.

(4) Wrth ddarllen y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio yn unol â’r erthygl hon, mae i’r cyfeiriad at y “Waste Framework Directive” (fel y’i mewnosodir gan baragraff (3)) yr ystyr a roddir gan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn, y’i darllenir yn unol ag erthygl 3A.

(5) At ddibenion paragraff (2), mae Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC i’w darllen fel pe bai—

(a)y cyfeiriadau at “Member States” yn gyfeiriadau at “Weinidogion Cymru neu Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”;

(b)ar y diwedd, y canlynol wedi ei fewnosod—

and “environmental objective”, in relation to a river basin district (within the meaning of the Water Environment (Water Framework Directive) (England and Wales) Regulations 2017)(9), has the same meaning as in those Regulations.

(3Yn erthygl 33(2)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “(ac eithrio Gibraltar) nad yw’n Aelod-wladwriaeth; a” rhodder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig.”;

(b)hepgorer is-baragraff (b).

Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016

4.—(1Mae Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn y diffiniad o “gweithrediad a gymeradwywyd”, ar y diwedd, mewnosoder “(gweler paragraff 3)”;

(ii)yn y diffiniad o “person awdurdodedig”, hepgorer “, ac mae’n cynnwys unrhyw swyddog y Comisiwn a benodwyd yn briodol ac sy’n mynd gyda’r person awdurdodedig hwnnw”;

(iii)hepgorer y diffiniad o “y Comisiwn”;

(iv)hepgorer y diffiniad o “cymorth yr UE”;

(v)yn y diffiniad o “gweithrediad”, ym mharagraff (b), yn lle “cymorth yr UE” rhodder “cymorth yn unol â Rheoliad 508/2014”.

(b)ar ôl paragraff (2), mewnosoder—

(3) Er mwyn osgoi amheuaeth, mae “gweithrediad a gymeradwywyd” yn cynnwys gweithrediad a gymeradwywyd mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru i gael cymorth ariannol o dan reoliad 4 cyn y diwrnod ymadael.

(3Yn rheoliad 8(2)(d), yn lle “cymorth yr UE” rhodder “cymorth yn unol â Rheoliad 508/2014”.

(4Yn rheoliad 11—

(a)hepgorer paragraff (1)(j)(i);

(b)hepgorer paragraff (3).

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

25 Chwefror 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru a pharth Cymru, ym meysydd pysgodfeydd a rheoli morol.

Mae i ddiwygiad a wneir gan y Rheoliadau hyn yr un cymhwysiad â’r deddfiad sy’n cael ei ddiwygio.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(4)

OJ Rhif L 102, 11.4.2006, t. 15, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t. 14).

(8)

OJ Rhif L 327, 22.12.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EC (OJ Rhif L 311, 31.10.2014, t. 32).

(9)

O.S. 2017/407, y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill