Rhagolygol
Diwygiadau i’r AtodlenLL+C
4.—(1) Mae’r Atodlen wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1—
(a)hepgorer y diffiniad o “gwladolyn o’r GE”;
(b)hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(c)ar ôl y diffiniad o “gwladolyn o’r AEE”, mewnosoder—
“ystyr “gwladolyn o’r UE” (“EU national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd;”;
(d)yn y diffiniad o “aelod o’r teulu”, yn lle “gwladolyn o’r GE” rhodder “gwladolyn o’r UE” ym mhob lle y mae’n digwydd.
(3) Yn y paragraffau a ganlyn—
(a)ym mharagraff 3(ch) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”;
(b)ym mharagraff 6(1)(c) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunan-gyflogedig ac aelodau o’u teulu), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”;
(c)ym mharagraff 7(b) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunan-gyflogedig ac aelodau o’u teulu), yn lle “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd”.
(4) Ym mharagraff 8 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall)—
(a)yn is-baragraff (1)(ch), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”;
(b)yn is-baragraff (1)(d), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig, Gibraltar,”.
(5) Ym mharagraff 9 (gwladolion o’r GE)—
(a)yn y pennawd, yn lle “Gwladolion o’r GE” rhodder “Gwladolion o’r UE”;
(b)yn is-baragraff (1)—
(i)ym mharagraff (a)(i), yn lle “yn wladolyn o’r GE” rhodder “yn wladolyn o’r UE”;
(ii)ym mharagraff (c), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”;
(c)yn lle is-baragraff (1A), rhodder—
“(1A) Nid yw paragraff (c) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu person—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio yn nhiriogaeth Aelod-wladwriaeth o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38; neu
(ii)yn wladolyn o’r UE; a
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”
(d)ar ôl is-baragraff (2), mewnosoder—
“(3) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn y diwrnod ymadael i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.”
(6) Ym mharagraff 10 (gwladolion o’r GE)—
(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r GE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sy’n wladolyn o’r UE”;
(b)yn is-baragraff (1)(ch), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”;
(c)yn is-baragraff (2), yn lle “yn wladolyn o’r GE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”, rhodder “yn wladolyn o’r UE”.
(7) Yn lle paragraff 11 (plant gwladolion o’r Swistir), rhodder—
“11.—(1) Person—
(a)sy’n blentyn i wladolyn o’r Swistir y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch)mewn achos pan oedd preswyliad arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf er mwyn cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn y diwrnod ymadael i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.”
(8) Ym mharagraff 12(c) (plant gweithwyr o Dwrci), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”.