Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 434 (Cy. 102)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Amaethyddiaeth, Cymru

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

11 Chwefror 2019

Gwnaed

4 Mawrth 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Mawrth 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004

2.—(1Mae Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol, mewnosoder—

“third country” means a country or state other than the United Kingdom.

(3Yn rheoliad 6A—

(a)ym mharagraff (a), yn lle “country that is not a member State” rhodder “third country”;

(b)hepgorer paragraff (b) a’r “or” yn union o flaen hynny.

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007

3.—(1Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 6, hepgorer “ac i Aelod-wladwriaethau eraill”.

(3Yn Rhan 3, yn y pennawd, yn lle “rheolaethau’r Gymuned” rhodder “rheolaethau”.

(4Yn rheoliad 10—

(a)yn y pennawd, yn lle “Rheolaethau’r Gymuned” rhodder “Arbenigwyr sy’n ymwneud â rheolaethau”;

(b)yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “ei gwneud yn hwylus i archwiliadau gael eu cynnal gan arbenigwyr y Comisiwn yn unol ag Erthygl 45” rhodder “hwyluso archwiliadau”.

(5Hepgorer rheoliad 12.

(6Yn rheoliad 13, hepgorer paragraff (1).

(7Yn rheoliad 14(1)—

(a)yn is-baragraff (b), yn y testun Cymraeg, yn lle “rheoliadau 10 neu 12” rhodder “rheoliad 10”;

(b)yn is-baragraff (d), yn y testun Saesneg, yn lle “regulations 10 or 12” rhodder “regulation 10”.

(8Yn rheoliad 17(1)(c), yn lle “, 10, neu 12” rhodder “neu 10”.

Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007

4.—(1Mae Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2—

(a)ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 89/108”;

(b)ym mharagraff (2), yn lle “yng Nghyfarwyddeb 89/108, Cyfarwyddeb 92/2” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “yng Nghyfarwyddeb 92/2”.

(3Yn rheoliad 5—

(a)ym mharagraff (2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “neu unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/108” rhodder “neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall”;

(b)ym mharagraff (3), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/108” rhodder “yr hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall”;

(c)ym mharagraff (4), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/108” rhodder “yr hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall”.

Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009

5.  Yn y Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009(6), yn lle’r pennawd i Atodlen 1 rhodder “Diffiniadau o gyfraith yr UE a ddargedwir”.

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

6.—(1Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, hepgorer yr “ac” terfynol;

(b)yn y lle priodol, mewnosoder—

ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad neu wladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

(3Yn rheoliad 4—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “, awdurdodau OFFC eraill ac Aelod-wladwriaethau” rhodder “ac awdurdodau OFFC eraill”;

(b)ym mharagraff (4), yn lle “ddeddfwriaeth yr UE” rhodder “gyfraith yr UE a ddargedwir”.

(4Yn rheoliad 5(1), hepgorer “ac Aelod-wladwriaethau”.

(5Yn rheoliad 10(2), hepgorer “ond nid yw’n cynnwys y Comisiwn Ewropeaidd”.

(6Hepgorer rheoliadau 14, 15 ac 16.

(7Yn rheoliad 17—

(a)hepgorer paragraff (3);

(b)ym mharagraff (5), hepgorer is-baragraffau (a) a (b).

(8Yn rheoliad 19(1)—

(a)yn y ddau le y mae’n digwydd, hepgorer “14, 15 neu”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “rheoliadau hynny” rhodder “rheoliad hwnnw”.

(9Yn rheoliad 20(2), yn lle “, neu reoliad 11 neu reoliad 16” rhodder “neu reoliad 11”.

(10Yn rheoliad 22, hepgorer y diffiniad o “y tiriogaethau perthnasol” a’r “ac” yn union o flaen hynny.

(11Yn rheoliad 28(1), hepgorer is-baragraffau (b) ac (ch).

(12Hepgorer rheoliad 44.

Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011

7.—(1Mae Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”.

(3Yn rheoliad 8(3)(a)(i), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”.

(4Hepgorer rheoliad 12(2).

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

4 Mawrth 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys yng Nghymru ym maes hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

O.S. 2004/3279, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/3254 (Cy. 247) ac O.S. 2011/1043; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(4)

O.S. 2007/196 (Cy. 15), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

O.S. 2007/389 (Cy. 40), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043 ac O.S. 2018/806 (Cy. 162); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

O.S. 2009/1557 (Cy. 152), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043 ac O.S. 2018/806 (Cy. 162); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

O.S. 2009/3376 (Cy. 298), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

O.S. 2011/1605 (Cy. 186), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill