Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2019

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 460 (Cy. 110)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru A Lloegr

Amaethyddiaeth, Cymru

Diogelu’r Arfordir, Cymru

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoli Perygl Llifogydd, Cymru

Dŵr, Cymru A Lloegr

Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

21 Ionawr 2019

Gwnaed

5 Mawrth 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Mawrth 2019

Coming into force in accordance with regulation 1(1)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.

(2Mae i ddiwygiad a wneir gan y Rheoliadau hyn yr un rhychwant a chymhwysiad â’r ddarpariaeth sy’n cael ei diwygio.

Diwygio Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006

2.  Yn rheoliad 3 o Reoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006(2)

(a)ailrifer y paragraff presennol yn baragraff (1) o’r rheoliad hwnnw;

(b)yn is-baragraff (b)(ii) o baragraff (1) (fel y’i hailrifwyd), yn lle’r geiriau o “ardaloedd gwarchodedig” hyd at y diwedd (ond nid y “neu” terfynol), rhodder “ardaloedd gwarchodedig dyfroedd pysgod cregyn neu ddyfroedd ymdrochi, nid yw’r dyfroedd hynny yn bodloni’r amcanion amgylcheddol sy’n gymwys iddynt fel y nodir yn y cynllun rheoli basn afon perthnasol o dan Ran 6 o Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017(3)”.

(c)ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifwyd), mewnosoder—

(2) Yn y rheoliad hwn—

(a)mae i “dŵr ymdrochi” yr un ystyr ag a roddir i “bathing water” yn Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013(4);

(b)ystyr “ardal warchodedig dyfroedd pysgod cregyn” yw crynofa ddŵr a ddynodir o dan reoliad 9 o Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017.

Diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010

3.  Yn rheoliad 2(3) o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010(5), hepgorer y geiriau o “ac sy’n cael ei chydnabod” hyd at y diwedd.

Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011

4.  Yn erthygl 3 o Orchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011(6)

(a)ym mharagraff (3), yn lle “alluogi’r Deyrnas Unedig i gydymffurfio â’i rhwymedigaethau o dan y canlynol” rhodder “alluogi cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth(7) a weithredai”;

(b)yn lle paragraff (4)(a) rhodder—

(a)mae i “amcanion amgylcheddol” yr un ystyr ag a roddir i “environmental objectives” yn Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017;.

Diwygio Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013

5.—(1Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 6—

(a)ailrifer y paragraff presennol yn baragraff (1) o’r rheoliad hwnnw;

(b)ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifwyd), mewnosoder—

(2) Ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “rhanddirymiad” (“derogation”) mae’r cyfeiriad at baragraff 2(b) o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC(9) i’w ddarllen fel pe bai’r trydydd is-baragraff wedi ei hepgor.

(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at Gyfarwyddeb yr UE i’w ddarllen fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y Gyfarwyddeb honno at aelod-wladwriaeth mewn darpariaeth sy’n gosod rhwymedigaeth ar aelod-wladwriaeth, neu sy’n rhoi disgresiwn iddi, yn gyfeiriad at yr awdurdod a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn gyfrifol am gydymffurfiaeth â’r rhwymedigaeth honno, neu am arfer y disgresiwn hwnnw, yng Nghymru.

(4) Ym mharagraff (3), ystyr yr “awdurdod” yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru.

(3Yn rheoliad 11—

(a)ym mharagraff (2)(b), yn lle “Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl”, rhodder “Reoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017(10) a Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018(11)”;

(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Ym mharagraff (3)(a), mae’r cyfeiriad at Atodiad 1 i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC i’w ddarllen fel pe bai—

(a)pob cyfeiriad ynddo at Erthygl 5 o’r Gyfarwyddeb honno yn gyfeiriadau at reoliadau 12, 13 a 14 i 46 o’r Rheoliadau hyn;

(b)ym mhwynt A, paragraff 1, “a concentration of nitrates greater than 50mg/l” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “more than” hyd at “Directive 75/440/EEC”.

(4Yn rheoliad 47, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Fel rhan o’r adolygiad a gynhelir o dan y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu sefyllfa gyffredinol rhanddirymiadau a roddir o dan reoliad 13A yn erbyn—

(a)meini prawf gwrthrychol, gan gynnwys—

(i)presenoldeb, mewn parthau perygl nitradau dynodedig—

(aa)tymhorau tyfu hir,

(bb)cnydau sy’n amsugno lefel uchel o nitrogen, a

(cc)priddoedd sydd â gallu eithriadol o uchel i ddadnitreiddio, a

(ii)y dŵr glaw net mewn parthau perygl nitradau dynodedig;

(b)yr amcanion a ganlyn—

(i)lleihau llygredd dŵr a achosir neu a ysgogir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol, a

(ii)atal llygredd pellach o’r fath.

(5Ar ôl rheoliad 48, mewnosoder—

Adroddiad gweithredu

48A.(1) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad ar weithredu’r Rheoliadau hyn ar gyfer pob cyfnod perthnasol.

(2) Rhaid i adroddiad o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)manylion unrhyw gamau a gymerwyd i hybu arfer amaethyddol da;

(b)y map a adneuwyd o dan reoliad 7(2), gyda datganiad sy’n rhoi manylion natur unrhyw ddiwygiadau i’r parth perygl nitradau dynodedig ers diwedd y cyfnod adrodd blaenorol, a’r rhesymau dros y diwygiadau hynny;

(c)crynodeb o’r canlyniadau monitro o dan reoliad 11;

(d)crynodeb o’r adolygiad diweddaraf a gynhaliwyd o dan reoliad 47.

(3) Rhaid cyhoeddi unrhyw adroddiad o dan baragraff (1)—

(a)mewn unrhyw fodd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol;

(b)erbyn diwrnod olaf y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r cyfnod perthnasol i ben.

(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod o bedair blynedd sy’n dechrau ag 1 Ionawr 2016 a phob cyfnod dilynol o bedair blynedd.

Diwygio Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017

6.—(1Mae Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2—

(a)ailrifer y paragraff presennol yn baragraff (1) o’r rheoliad hwnnw;

(b)ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifwyd), mewnosoder—

(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at Gyfarwyddeb yr UE neu Gyfarwyddeb Euratom i’w ddarllen fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y Gyfarwyddeb honno at aelod-wladwriaeth mewn darpariaeth sy’n gosod rhwymedigaeth ar aelod-wladwriaeth, neu sy’n rhoi disgresiwn iddi, yn gyfeiriad naill ai at Weinidogion Cymru neu at yr awdurdod lleol gan ddibynnu ar ba un oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn gyfrifol am gydymffurfiaeth â’r rhwymedigaeth honno, neu am arfer y disgresiwn hwnnw, o ran Cymru.

(3Yn rheoliad 6, ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) At ddibenion paragraff (4)(c), mae cyfeiriad at Erthyglau 7(1) ac 8 o Gyfarwyddeb 2000/60/EC(13) i’w ddarllen yn unol â’r addasiadau a ganlyn—

(a)fel pe bai unrhyw gyfeiriad at Atodiad 5 o’r Gyfarwyddeb honno yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygiwyd gan Ran 1 o Atodlen 5 i Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017(14);

(b)yn Erthygl 8, fel pe bai—

(i)ym mharagraff 1, y mewnoliad olaf wedi ei hepgor;

(ii)ym mharagraff 2, y frawddeg gyntaf wedi ei hepgor;

(iii)paragraff 3 wedi ei hepgor.

(4Yn lle rheoliad 12(6), rhodder —

(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi, mewn unrhyw fodd y maent yn ystyried ei fod yn briodol, sail unrhyw benderfyniad o dan baragraff (3) a’r ddogfennaeth a ddarperir o dan baragraff (5) sy’n ategu’r penderfyniad.

(5Ar ôl rheoliad 23, mewnosoder—

Cyflwyno Adroddiad

23A.(1) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiad ar ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl, gyda’r nod o hysbysu defnyddwyr.

(2) Rhaid i adroddiad o dan baragraff (1)—

(a)cael ei gyhoeddi mewn unrhyw fodd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol;

(b)cynnwys, o leiaf, wybodaeth am yr holl gyflenwadau dŵr unigol sy’n—

(i)mwy na 1,000m³ y diwrnod ar gyfartaledd, neu

(ii)gwasanaethu mwy na 5,000 o bersonau;

(c)cwmpasu cyfnod o dair blwyddyn galendr.

(3) Rhaid i’r adroddiad cyntaf o dan y rheoliad hwn gwmpasu’r blynyddoedd 2017, 2018 a 2019 a rhaid iddo gael ei gyhoeddi erbyn 31 Rhagfyr 2021.

(4) Rhaid i adroddiadau dilynol o dan y rheoliad hwn gael eu cyhoeddi fesul ysbeidiau nad ydynt yn fwy na thair blynedd.

(5) Rhaid i unrhyw adroddiad a gyhoeddir o dan baragraff (1) hefyd fod ar gael ar wefan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed.

Diwygio Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018

7.—(1Mae Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018(15) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) In these Regulations, a reference to an EU or Euratom Directive is to be read as if any reference in that Directive to a member State in a provision imposing an obligation on, or providing a discretion to, a member State were to either the Welsh Ministers or local authority depending on which, immediately before exit day, was responsible for compliance with that obligation, or exercise of that discretion, in respect of England or Wales..

(3Yn rheoliad 6(15), yn lle “communicate the grounds for the notification to the European Commission” rhodder “publish, in such manner as the Welsh Ministers consider appropriate, the grounds for the notification”.

(4Yn rheoliad 9, ar ôl paragraff (12) mewnosoder—

(13) For the purposes of paragraph (11)(c), a reference to Articles 7(1) and 8 of Directive 2000/60/EC is to be read with the following modifications—

(a)as if any reference to Annex 5 of that Directive were a reference to that Annex as modified by Part 1 of Schedule 5 to the Water Environment (Water Framework Directive) (England and Wales) Regulations 2017(16);

(b)in Article 8, as if—

(i)in paragraph 1, the final indent were omitted;

(ii)in paragraph 2, the first sentence were omitted;

(iii)paragraph 3 were omitted.

(5Yn rheoliad 23—

(a)ym mharagraff (7) yn lle “further departure” rhodder “further two departures”;

(b)hepgorer paragraffau (9) a (10).

(6Yn rheoliad 31—

(a)hepgorer paragraff 2(a);

(b)ym mharagraff (2)(b), hepgorer “of an EEA state or Turkey”;

(c)hepgorer paragraff (3)(b);

(d)hepgorer paragraff (15).

(7Yn rheoliad 39(1)(h), hepgorer “and (9) respectively”.

(8Ar ôl rheoliad 39 mewnosoder—

Reporting

39A.(1) The Welsh Ministers must publish a report on the quality of water intended for human consumption, with the objective of informing consumers.

(2) A report under paragraph (1) must—

(a)be published in such manner as the Welsh Ministers consider appropriate;

(b)include, as a minimum, information on all individual supplies of water that—

(i)exceed 1,000m³ a day as an average, or

(ii)serve more than 5,000 persons;

(c)cover a period of three calendar years.

(4) The first report under this regulation must cover the years 2017, 2018 and 2019 and be published by 31st December 2021.

(5) Subsequent reports under this regulation must be published at intervals not exceeding three years.

(6) Any report published under paragraph (1) must also be made available on the Drinking Water Inspectorate’s website.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

5 Mawrth 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir ym mharagraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill yng nghyfraith yr UE a ddargedwir sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth ym maes diogelu’r amgylchedd, dŵr a llifogydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 2006/2989 (Cy. 278), a ddiwygiwyd gan O.S. 2012/283 (Cy. 47). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(4)

O.S. 2013/1675, a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/575. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(5)

O.S. 2010/1493 (Cy. 136), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

O.S. 2011/2829 (Cy. 302), yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2013/755 (Cy. 90) a 2018/1216 (Cy. 249).

(7)

Mae’r ddeddfwriaeth a weithredai’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn cynnwys O.S. 2017/1012. Mae’r ddeddfwriaeth a weithredai’r Gyfarwyddeb Adar Gwyllt yn cynnwys Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69) ac O.S. 2017/1012. Mae’r ddeddfwriaeth a weithredai’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn cynnwys O.S. 2003/3245, 2004/99 a 2017/407.

(9)

OJ Rhif L 375, 31.12.1991, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1137/2008 (OJ Rhif L 311, 21.11.2008, t. 1).

(12)

O.S. 2017/1041 (Cy. 270), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(13)

O.J. Rhif L 327, 22.12.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU (OJ Rhif L 311, 31.10.2014, t.32).

(14)

O.S. 2017/407, a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/942.

(16)

O.S. 2017/407, a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/942.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill