Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 463 (Cy. 111)

Addysg, Cymru

Amaethyddiaeth, Cymru

Y Diwydiannau Da Byw

Anifeiliaid, Cymru

Iechyd Anifeiliaid

Lles Anifeiliaid

Bwyd, Cymru

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Dŵr, Cymru

Iechyd Planhigion, Cymru

Pysgodfeydd Môr, Cymru

Cadwraeth Pysgod Môr

Rheoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

Gwnaed

5 Mawrth 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Mawrth 2019

Yn dod i rym

28 Mawrth 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

(a)ac eithrio i’r graddau yr ymwneir â’r rheoliadau a grybwyllir ym mharagraff (b), adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”)(1), a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi; a

(b)i’r graddau yr ymwneir â rheoliadau 5, 6, 10 a 11, adrannau 1, 7(1), 8(1), 10, 14(1) a 23 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(2).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(3) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf 1972 o ran—

(a)mesurau yn y maes milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd pobl(4);

(b)y polisi amaethyddol cyffredin(5);

(c)mesurau ynglŷn â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys prosesau sylfaenol cynhyrchu bwyd a mesurau sy’n ymwneud â phorthiant a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd neu a fwydir iddynt(6);

(d)mesurau sy’n ymwneud ag atal ac adfer difrod amgylcheddol(7);

(e)mesurau sy’n ymwneud â rheoli a rheoleiddio achosion o ollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, gosod yr organeddau hynny ar y farchnad a’u symud ar draws ffiniau(8);

(f)mesurau sy’n ymwneud ag asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol a chydymffurfedd â gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed ac amcanion ansawdd aer(9);

(g)deunyddiau sy’n darparu maetholion i blanhigion neu a fwriedir i ddarparu maetholion i blanhigion(10);

(h)ansawdd dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu i’w ddefnyddio mewn menter cynhyrchu bwyd(11).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at offerynnau’r UE yn rheoliad 9 gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(12).

RHAN 1Darpariaethau cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mawrth 2019.

RHAN 2Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth

Rheoliadau Gwrteithiau’r CE (Cymru a Lloegr) 2006

2.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwrteithiau’r CE (Cymru a Lloegr) 2006(13), yn y diffiniad o “the Community Regulation” ar ôl “fertilisers” mewnosoder “, as last amended by Commission Regulation (EU) 2016/1618(14)”.

Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008

3.  Yn rheoliad 17(1)(c) o Reoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008(15), yn lle “erthyglau 3(2)(a) neu 3(2)(b) o Orchymyn Milfeddygaeth (Samplu Gwaed) 1983(16)” rhodder “erthyglau 5(2) a 5(3) o Orchymyn Milfeddygaeth (Esemptiadau) 2015(17)”.

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

4.—(1Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(18) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 3, ym mharagraff (a)—

(a)hepgorer is-baragraff (iii);

(b)yn lle is-baragraff (iv) rhodder—

(iv)cymhwyso rheolau ar gynlluniau ansawdd sy’n darparu’r sail ar gyfer adnabod a gwarchod enwau a thermau sy’n dynodi neu’n disgrifio cynhyrchion amaethyddol ac iddynt nodweddion sy’n ychwanegu gwerth a nodir yn Rheoliad (EU) Rhif 1151/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 21 Tachwedd 2012 ynghylch cynlluniau ansawdd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a bwydydd(19),.

RHAN 3Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anifeiliaid

Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 2006

5.—(1Mae Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 2006(20) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 3—

(a)yn y diffiniad o “the Directive”, ar y diwedd mewnosoder, “, as last amended by Commission Implementing Decision (EU) 2018/1099(21)”;

(b)yn y diffiniad o “Regulation EC No. 1069/2009”, ar y diwedd mewnosoder “, as last amended by Council Regulation (EU) 1385/2013(22)”;

(c)yn y diffiniad o “Regulation (EU) No. 142/2011”, ar y diwedd mewnosoder “, as last amended by Commission Regulation (EU) 2017/1262(23)”.

(3Yn erthygl 32, yn lle paragraff (5) rhodder —

(5) In this article, “border inspection post” means one that has been listed in Commission Decision 2009/821/EC(24) drawing up a list of approved border inspection posts..

Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006

6.  Yn erthygl 2(2) o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006(25), ar ôl “Directive 92/40/EEC” mewnosoder “, as last amended by Council Directive 2008/73/EC(26)”.

Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007

7.—(1Mae Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007(27) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)ar ôl y diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98(28)” mewnosoder—

ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004” (“Commission Regulation (EC) No 911/2004) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran tagiau clust, pasbortau a chofrestrau daliadau, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/949(29).;

(b)yn y diffiniad o “Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000(30)” (“Regulation (EC) No 1760/2000), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad (EU) 2016/429 Senedd Ewrop a’r Cyngor (31)”.

(3Yn rheoliad 2(2)(c), hepgorer y geiriau o “(sy’n” hyd at “daliadau)”.

(4Yn Atodlen 3, ym mharagraff 3(3)(a) o Ran 1, ar ôl “Cyngor” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 1385/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor(32)”.

Rheoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007

8.  Yn rheoliad 6(2) o Reoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007(33), yn lle “Gorchymyn Heidiau Bridio a Deorfeydd Dofednod (Cymru) 2007(34)” rhodder “Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Dofednod (Cymru) 2008(35)”.

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007

9.  Yn Atodlen 5A i Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007(36), ym mharagraff 1 o Ran 1—

(a)yn y diffiniad o “Rheoliad 853/2004(37)” (“Regulation 853/2004”), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/1981 dyddiedig 31 Hydref 2017(38)”;

(b)yn y diffiniad o “Rheoliad 854/2004(39)” (“Regulation 854/2004”), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/2285 dyddiedig 8 Rhagfyr 2015(40)”.

Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Dofednod (Cymru) 2008

10.  Yn erthygl 3 o Orchymyn Rheoli Salmonela mewn Dofednod (Cymru) 2008(41), cyn paragraff (a), mewnosoder —

(za)Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003;.

Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Dyrcwn (Cymru) 2010

11.  Yn erthygl 3 o Orchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Dyrcwn (Cymru) 2010(42), cyn paragraff (a), mewnosoder —

(za)Rheoliad (EU) Rhif 1190/2012;.

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

12.—(1Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(43) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “cynnyrch” (“product”), ar ôl “97/78/EC)” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196(44)”.

(3Yn rheoliad 9, ar ôl “2007/275/EC”, mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196(45)”.

(4Yn rheoliad 10(a) ar ôl “gwledydd” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 494/2014(46)”.

(5Yn rheoliad 11(4) ar ôl “trefnu” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196”.

(6Yn rheoliad 12(4), ar ôl “2007/275/EC” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196”.

(7Yn rheoliad 15(1)(a), ar ôl “trefnu” mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/20/EU(47)”.

(8Yn rheoliad 20 ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009” (“Regulation (EC) No 1069/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009(48) Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi rheolau ar iechyd o ran sgil-gynhyrchion anifeiliaid a sgil-gynhyrchion sy’n deillio ohonynt, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) Rhif 1385/2013(49);

(9Yn rheoliad 28 yn lle’r geiriau o “mewn parth rhydd” hyd at y diwedd rhodder—

gan dorri’r darpariaethau a ganlyn yn Rheoliad (EU) Rhif 952/2013(50) Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi Cod Tollau’r Undeb—

(a)

[Teitl 5, Pennod 3, yn adran 2,] ynghylch parthau rhydd, a

(b)

Theitl 7, Pennod 3, yn adran 2, ynghylch warysau.

(10Yn rheoliad 32(4) yn lle’r geiriau “Erthyglau 37” hyd at y diwedd rhodder “Erthyglau 135 i 137 o Reoliad (EU) Rhif 952/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi Cod Tollau’r Undeb”.

(11Yn rheoliad 35(2), yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC(51)” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2016/1012(52).”

(12Yn Atodlen 2—

(a)yn Rhan 1, ar ôl paragraff 7 mewnosoder —

Dehongli

8.  Yn y Rhan hon—

“ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC(53)” (“Council Directive 64/432/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid yn effeithio ar y fasnach o fewn y Gymuned mewn anifeiliaid buchol a moch, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/819(54);

ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC” (“Council Directive 91/68/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC(55) ar anhwylderau iechyd anifeiliaid sy’n llywodraethu’r fasnach o fewn y gymuned mewn anifeiliaid o deulu’r ddafad ac o deulu’r afr, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/2002(56).;;

(b)yn Rhan 2, yn lle paragraff 10, rhodder “Pan fo ceffyl yn cael ei fewnforio dros dro o drydedd wlad, mae’r darpariaethau yn Adran 7 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/659 yn gymwys.”.

Rheoliadau Clefyd Affricanaidd y Ceffylau (Cymru) 2013

13.  Yn rheoliad 20(1)(a) o Reoliadau Clefyd Affricanaidd y Ceffylau (Cymru) 2013(57), yn lle “y tu allan i Gymru,” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008//72/EC(58), y tu allan i Gymru”.

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014

14.  Yn Atodlen 1 i Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014(59), yng nghofnod 17 o’r tabl, yn y drydedd golofn, hepgorer “a 36(1)”.

RHAN 4Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag addysg

Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013

15.—(1Mae Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013(60) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “Rheoliadau Undeb Ewropeaidd perthnasol” (“relevant European Union Regulations”)—

(a)ar ôl y diffiniad o “Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;

(b)ar ôl y diffiniad o “Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.

RHAN 5Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â diogelu’r amgylchedd

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Asesiad Risg) (Cofnodion ac Esemptiadau) 1996

16.—(1Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Asesiad Risg) (Cofnodion ac Esemptiadau) 1996(61) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(3)—

(a)ar ôl y diffiniad o “the Act” hepgorer “and”;

(b)yn y diffiniad o “the Contained Use Regulations”, yn lle “the Genetically Modified Organisms (Contained Use) Regulations 2000(62)” rhodder “the Genetically Modified Organisms (Contained Use) Regulations 2014(63)”.

(3Yn rheoliad 3(2)—

(a)yn is-baragraff (b)(ii) yn lle “regulation 3(2)” rhodder “regulation 3(1)”;

(b)yn is-baragraff (d) yn lle “the Genetically Modified Organisms (Deliberate Release) Regulations 1992(64)” rhodder “the Genetically Modified Organisms (Deliberate Release) (Wales) Regulations 2002(65)”.

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002

17.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002, yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“the Deliberate Release Directive”) yn lle’r geiriau o “fel y’i diwygiwyd” hyd at y diwedd rhodder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb (EU) 2015/412 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y posibilrwydd i’r Aelod-wladwriaethau gyfyngu neu wahardd tyfu organeddau a addaswyd yn enetig yn eu tiriogaeth(66)”.

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Holrhain a’u Labelu) (Cymru) 2005

18.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Holrhain a’u Labelu) (Cymru) 2005(67), yn y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” (“Council Regulation”) ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1137/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n addasu nifer o offerynnau sy’n dod o dan y weithdrefn a nodir yn Erthygl 251 o’r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC, o ran y weithdrefn reoleiddio â gwaith craffu(68)”.

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

19.  Ym mharagraff 7 o Atodlen 2 i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009(69), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(ba)sylweddau peryglus fel y’u diffinnir yn Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 1272/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddosbarthu, labelu a phacio sylweddau a chymysgeddau(70);.

Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010

20.  Yn rheoliad 14 o Reoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010(71)

(a)yn is-baragraff (5)(b) yn lle “Chyfarwyddeb 2008/1/EC” rhodder “Chyfarwyddeb 2010/75/EU”;

(b)yn is-baragraff (7) yn lle’r diffiniad o “Cyfarwyddeb 2008/1/EC” (Directive 2008/1/EC) rhodder “ystyr “Cyfarwyddeb 2010/75/EU” (“Directive 2010/75/EU”) yw Cyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol i’r graddau y mae wedi ei throsi i’r gyfraith sy’n gymwys yng Nghymru”.

RHAN 6Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â bwyd

Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007

21.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007(72), yn y diffiniad o “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”), yn lle’r geiriau o “y mae Rhan” hyd at “ag ef” rhodder “y mae tâl yn daladwy mewn cysylltiad ag ef o dan Reoliad 882/2004”.

Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008

22.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008(73), yn y diffiniad o “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”), yn lle’r geiriau o “Rheoliad” hyd at “1234/2007” rhodder “Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer marchnadoedd cynhyrchion amaethyddol(74)”.

Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010

23.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010(75), yn y diffiniad o “Rhan IV” (“Part IV”) yn lle’r geiriau o “Rhan IV o” hyd at “1234/2007” rhodder “Rhan 4 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer marchnadoedd cynhyrchion amaethyddol”.

Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010

24.—(1Mae Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010(76) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1)—

(a)yn y diffiniad o “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”), yn lle’r geiriau o “Rheoliad Senedd” hyd at “1234/2007” rhodder “Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer marchnadoedd cynhyrchion amaethyddol”;

(b)ar ôl y diffiniad o “Rheoliad (EU) 2013” hepgorer “and”;

(c)ym mharagraff (6)(a) hepgorer “Rheoliad Sengl CMO neu”.

(3Yn Atodlen 2—

(a)yn Rhan 1, yng ngholofn gyntaf y tabl, yn y ddau gofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 75(2) a (3), hepgorer “o Reoliad (EU) 2013”;

(b)yn Rhan 2, yn ail golofn y tabl, yn lle’r cofnod sy’n ymwneud a’r is-baragraff cyntaf a’r ail is-baragraff yn Erthygl 12(2), yn lle’r geiriau o “Erthygl 2” hyd at “bwydydd” rhodder “Erthygl 23(1) o Reoliad (EU) 834/2007 ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig”.

Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011

25.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011(77), yn y diffiniad o “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yn lle’r geiriau o “Rheoliad (EU) 2013” hyd at “1234/2007” rhodder “Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer marchnadoedd cynhyrchion amaethyddol”.

RHAN 7Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag iechyd planhigion

Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurnol 1999

26.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurnol 1999(78) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 7(4) yn lle “regulation 15 of the Plant Health (Great Britain) Order 1993” rhodder “article 25 of the Plant Health (Wales) Order 2018(79)”.

(3Yn rheoliad 8(3)—

(a)yn lle’r geiriau o “plant pest” hyd at “1993” rhodder “notifiable plant pest as defined in article 42(3) of the Plant Health (Wales) Order 2018”;

(b)yn lle “article 20” rhodder “article 42”.

(4Yn rheoliad 12(3) yn lle’r geiriau o “article 12(5)” hyd at y diwedd rhodder “article 9(1) of the Plant Health (Wales) Order 2018”.

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

27.  Yn Rhan A of Atodlen 9 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018(80), ym mharagraff 8, yn lle is-baragraff 9(b) rhodder—

(b)Erthygl 5(2) Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/96/EU ar y gofynion ar gyfer labelu, selio a phecynnu deunydd lluosogi ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu ffrwythau sydd o fewn cwmpas Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC(81);.

RHAN 8Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â physgodfeydd môr

Gorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003

28.  Yn erthygl 2(1) o Orchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003, yn y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yn lle “fel y’i cywirwyd gan y Corigendwm i Atodiad XII i Reoliad y Cyngor ac fel y’i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 308/1999, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1459/1999, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2723/1999, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 812/2000 a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1298/2000;” rhodder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2015/812 Senedd Ewrop a’r Cyngor(82);”.

RHAN 9Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â dŵr

Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017

29.—(1Mae Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017(83) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 6(4)(c), ar ôl “Erthygl 7(1)” mewnosoder “ac Erthygl 8”.

(3Yn Atodlen 4, yn Rhan 3, yn lle paragraff 13(a) rhodder—

(a)y crynodiadau radioniwclid a fesurwyd a’r cyfernodau dos y cyfeirir atynt fel “standard values and relationships” yn Erthygl 13, ac a argymhellir ar gyfer amcangyfrif dosau yn sgil cysylltiad mewnol yn y diffiniad o “standard values and relationships” yn Erthygl 4(96), o Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/59/Euratom sy’n nodi safonau diogelwch sylfaenol ar gyfer diogelu rhag y peryglon sy’n codi o ddod i gysylltiad ag ymbelydredd ïoneiddio(84); neu.

Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018

30.—(1Mae Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018(85) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 8(1), yn lle “items 1 to 11” rhodder “items 1 to 12”.

(3Yn Nhabl 3 yn Rhan 1 o Atodlen 3—

(a)ym mhennawd y tabl, yn lle “supply points” rhodder “in water supply zones (or supply points)”;

(b)yn eitem 5, yn lle’r cofnod yng ngholofn 2 rhodder—

Colstridium perfringens (including spores)(1);

(c)yn eitem 11, yn lle’r cofnod yng ngholofn 2 rhodder—

Indicative dose(1);

(d)yn eitem 17, yn lle’r cofnod yng ngholofn 2 rhodder—

Tetrachloroethene/Trichloroethene(1);

(e)hepgorer y rhes sy’n ymwneud ag eitem 20.

RHAN 10Dirymiadau amrywiol

Dirymiadau amrywiol

31.  Mae’r canlynol wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Sefydliadau Cynhyrchwyr Pysgod (Grantiau Llunio) 1999(86);

(b)Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001(87);

(c)Rheoliadau Strwythurau Pysgodfeydd a Dyframaethu (Grantiau) (Cymru) 2002(88);

(d)Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014(89).

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

5 Mawrth 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ran Cymru i nifer o ddarnau o is-ddeddfwriaeth.

Mae’r diwygiadau’n diweddaru cyfeiriadau at amryw o ddarnau o ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig ac Ewrop yn y ddeddfwriaeth ddomestig sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth, iechyd anifeiliaid, lles anifeiliaid, addysg, diogelu’r amgylchedd, bwyd, iechyd planhigion, pysgodfeydd môr a dŵr.

Mae rheoliad 31 yn dirymu pedwar offeryn mewn perthynas ag amaethyddiaeth a physgodfeydd môr.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1972 p. 68 . Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) , a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 1 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 ac O.S. 2007/1388.

(2)

1981 p. 22. Mae swyddogaethau o dan y Ddeddf yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (o ran Cymru) yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044); ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 11 o Atodlen 11 iddi.

(3)

Yn rhinwedd adran 59(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, caiff Gweinidogion Cymru arfer y pwer a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran unrhyw fater, neu at unrhyw ddiben, os ydynt wedi eu dynodi o ran y mater hwnnw neu at y diben hwnnw.

(4)

O.S. 2008/1792, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

O.S. 2010/2690. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’r dynodiad hwn yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.

(6)

O.S. 2005/1971. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’r dynodiad hwn yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.

(8)

O.S. 2003/2901, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’r dynodiad hwn yn cael effaith fe pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.

(9)

O.S. 2000/2812. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’r dynodiad hwn yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.

(11)

O.S. 2004/3328. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’r dynodiad hwn yn cael effaith fe pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.

(12)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/228 (OJ Rhif L 35, 10.2.2017, t. 10).

(14)

OJ Rhif L 242, 9.9.2016, t. 24.

(19)

OJ Rhif L 343, 14.12.2012 t. 1, fel y’i cywirwyd gan gorigendwm (OJ Rhif L 55, 27.2.2013, t. 27).

(21)

OJ Rhif L 219, 14.8.2008, t. 40.

(22)

OJ Rhif L 35, 28.12.2013 t. 86.

(23)

OJ Rhif L 182, 13.7.2017, t. 34.

(24)

OJ Rhif L 296, 28.9.2001, t. 1.

(25)

O.S. 2006/2927 (Cy. 262), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(26)

OJ Rhif L 219, 14.8.2008, t. 40.

(28)

OJ Rhif L 60, 28.2.1998, t. 78.

(29)

OJ Rhif L 143, 3.6.2017, t. 1.

(30)

OJ Rhif L 204, 11.8.2000, t. 1.

(31)

OJ Rhif L 84, 31.3.2016, t. 1.

(32)

OJ Rhif 354, 28.12.2013, t. 86.

(37)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 55.

(38)

OJ Rhif L 285, 1.1.2017, t. 10.

(39)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 206.

(40)

OJ Rhif L 323, 9.12.2015, t. 2.

(44)

OJ Rhif L 197, 22.7.2016, t. 10.

(45)

OJ Rhif L 197, 22.7.2016, t. 10.

(46)

OJ Rhif L 139, 14.5.2014, t. 11.

(47)

OJ Rhif L 158, 10.6.2013, t. 234.

(48)

OJ Rhif L 300, 1.14.2009, t. 1.

(49)

OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t. 86.

(50)

OJ Rhif L 269, 10.10.2013, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2016/2339 (OJ Rhif L 354, 23.12.2016, t. 32).

(51)

OJ Rhif L 224, 18.8.1990, t. 29, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2016/1012 (OJ Rhif L 171, 29.6.2016, t. 66).

(52)

OJ Rhif L 171, 29.6.2016, t. 66.

(53)

OJ Rhif L 121, 29.7.1964, t. 1977.

(54)

OJ Rhif L 129, 27.5.2015, t. 28.

(55)

OJ Rhif L 46, 19.2.1991, t. 19.

(56)

OJ Rhif L 308, 12.11.2016, t. 29.

(58)

OJ Rhif L 219, 14.08.2008, t. 40.

(59)

O.S. 2014/517 (Cy. 60), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(61)

O.S. 1996/1106, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/2831; ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(62)

O.S. 2000/2831, a ddirymwyd gan O.S. 2014/1663.

(63)

O.S. 2014/1663, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(64)

O.S. 1992/3280, a ddirymwyd o ran Cymru gan O.S. 2002/3188 (Cy. 304).

(66)

OJ Rhif L 68, 13.3.2015, t. 1.

(68)

OJ Rhif L 311, 21.11.2008, t. 1.

(69)

O.S. 2009/995 (Cy. 81), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(70)

OJ Rhif L 353, 31.12.2008, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/776 (OJ Rhif L 116, 5.5.17, t. 1).

(71)

O.S. 2010/1433 (Cy. 126), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(74)

OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 671, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2017/2393 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 350, 29.12.2017, t. 15).

(75)

O.S. 2010/1492 (Cy. 135), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/3270 (Cy. 320); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(78)

O.S. 1999/1801, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2018/974.

(81)

OJ Rhif L 298, 16.10.2014, t. 12.

(82)

OJ Rhif L 133, 29.5.2015, t. 1, fel y’i cywirwyd gan gorigendwm (OJ Rhif L 319, 4.12.2015, t. 21).

(84)

OJ Rhif L 13, 17.1.2014, t. 1. O ran amcangyfrif dosau yn sgil cysylltiad mewnol, mae Erthygl 4(96) yn cyfeirio at bennod 1 o Gyhoeddiad 119 yr ICRP (Comisiwn Ryngwladol ar Ddiogelu Radiolegol). Gweler Tabl F.1 yn Atodiad F. Gellir cael copi o Gyhoeddiad 119 yr ICRP ar wefan yr ICRP (www.icrp.org) neu gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill