Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Cymru) 2019

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Cymru) 2019.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mawrth 2019.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae “anifail” (“animal”) yn cynnwys anifeiliaid dyframaethu;

mae “archwiliad” ac “archwilio” (“examination”) yn cynnwys archwiliad ffisegol ar anifail neu gynnyrch anifeiliaid neu eitem neu sylwedd arall a chymryd sampl swyddogol a’i dadansoddi;

ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw Gweinidogion Cymru ac—

(a)

pan fo’r gorfodi’n ymwneud â bwyd neu ffynonellau bwyd, awdurdod bwyd o fewn ei ardal; a

(b)

pan fo’r gorfodi’n ymwneud â rhywbeth heblaw bwyd neu ffynonellau bwyd, awdurdod lleol o fewn ei ardal;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag ardal yw’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

mae i “awdurdodiad marchnata” yr un ystyr ag sydd i "marketing authorisation" yn Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2001/82/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar God y Gymuned sy’n ymwneud â chynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol(1);

ystyr “carcas” (“carcase”) yw—

(a)

corff cyfan anifail a gigyddwyd (heblaw aderyn heb ei ddiberfeddu) ar ôl ei waedu a’i drin; neu

(b)

corff cyfan aderyn a gigyddwyd ac sydd heb ei ddiberfeddu ar ôl ei waedu;

ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 96/22” (“Council Directive 96/22”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 96/22/EC ynghylch gwahardd defnyddio sylweddau penodol ac iddynt effaith hormonaidd neu thyrostatig a beta-agonistiaid wrth ffermio da byw, ac yn diddymu Cyfarwyddebau 81/602/EEC, 88/146/EEC ac 88/299/EEC(2);

ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23” (“Council Directive 96/23”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC ar fesurau i fonitro sylweddau penodol a’u gweddillion mewn anifeiliaid byw ac mewn cynhyrchion anifeiliaid, ac yn diddymu Cyfarwyddebau 85/358/EEC ac 86/469/EEC, a Phenderfyniadau 89/187/EEC a 91/664/EEC(3);

ystyr “cyfnod cadw’n ôl” (“withdrawal period”), mewn perthynas â chynnyrch meddyginiaethol milfeddygol a roddwyd i anifail neu lwyth o anifeiliaid, yw’r cyfnod, a bennir mewn trwydded cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol neu awdurdodiad marchnad cyfredol sy’n ymwneud â’r cynnyrch neu (yn niffyg manyleb o’r fath) a bennir mewn presgripsiwn a roddwyd gan filfeddyg mewn cysylltiad â rhoi’r cynnyrch, y mae’n rhaid iddo fynd heibio rhwng rhoi’r gorau i roi’r cynnyrch i’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid a chigydda’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid i’w bwyta gan bobl neu gymryd cynhyrchion anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid i’w bwyta gan bobl;

mae “cynnyrch anifeiliaid” (“animal product”) yn cynnwys cig, cynhyrchion cig, cynhyrchion wedi eu prosesu sy’n deillio o anifeiliaid, llaeth, mêl ac wyau;

mae “dadansoddi” (“analysis”) yn cynnwys unrhyw dechneg ar gyfer darganfod cyfansoddiad sampl swyddogol;

ystyr “dadansoddiad cyfeirio” (“reference analysis”) yw dadansoddiad a gyflawnir gan labordy a gymeradwywyd i wirio canfyddiad dadansoddiad sylfaenol;

ystyr “dadansoddiad sylfaenol” (“primary analysis”) yw dadansoddiad ar sampl swyddogol a gyflawnir gan labordy a gymeradwywyd;

ystyr “dadansoddydd” (“analyst”) yw’r person sy’n rheoli, neu sydd â rheolaeth, labordy a gymeradwywyd;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “fferm wreiddiol” (“farm of origin”), o ran sampl swyddogol a gymerwyd o unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid yw—

(a)

pan gymerwyd y sampl swyddogol ar fferm, y fferm honno;

(b)

pan gymerwyd y sampl swyddogol unrhyw le arall, y fferm ddiwethaf lle cedwid yr anifail y cymerwyd y sampl ohono neu y deilliodd y sampl ohono cyn mynd ag ef i’r lle hwnnw;

ystyr “gweithrediad masnachol” (“commercial operation”), o ran anifail neu lwyth o anifeiliaid, yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)

ei werthu, meddu arno i’w werthu a’i gynnig, ei ddangos neu ei hysbysebu i’w werthu;

(b)

ei anfon neu ei draddodi ar ffurf ei werthu;

(c)

ei storio neu ei gludo er mwyn ei werthu;

(d)

ei gigydda neu gaffael bwyd ohono er mwyn ei werthu neu at ddibenion yn gysylltiedig â’i werthu; ac

(e)

ei fewnforio a’i allforio;

mae “gwerthu” (“sell”, “sale”, “sold”) yn cynnwys meddu er mwyn gwerthu, a chynnig, dangos neu hysbysebu i werthu;

ystyr “labordy a gymeradwywyd” (“approved laboratory”) yw—

(a)

labordy a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23; neu

(b)

unrhyw labordy sydd o dan gyfarwyddyd neu reolaeth dadansoddydd cyhoeddus a benodir yn unol ag adran 27(4) o’r Ddeddf;

nid yw “meddu” (“possession”) mewn perthynas ag unrhyw anifail fferm neu anifail dyframaethu yn cynnwys meddu arno o dan reolaeth swyddogol;

ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr milfeddygon neu yn y gofrestr filfeddygol atodol;

ystyr “offal” (“offal”) yw cig heblaw cig y carcas p’un a yw wedi ei gysylltu’n naturiol â’r carcas neu beidio;

mae “perchennog” (“owner”) yn cynnwys, mewn perthynas ag unrhyw anifail, llwyth o anifeiliaid neu fangre, y person sy’n gyfrifol am yr anifail hwnnw, y llwyth hwnnw o anifeiliaid neu’r fangre honno, ac mewn perthynas ag unrhyw gynnyrch anifeiliaid y person sy’n meddu ar y cynnyrch hwnnw;

ystyr “Rheoliad 470/2009” (“Regulation 470/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 470/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor yn gosod gweithdrefnau’r Gymuned ar gyfer sefydlu’r terfynau uchaf o ran gweddillion sylweddau sy’n ffarmacolegol weithredol mewn bwydydd sy’n deillio o anifeiliaid, yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 ac yn diwygio Cyfarwyddeb 2001/82/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 726/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor(5);

ystyr “sampl swyddogol” (“official sample”) yw sampl a gymerir gan swyddog awdurdodedig i’w dadansoddi at ddibenion y Rheoliadau hyn ac sy’n dwyn cyfeiriad at y math, y swm neu’r nifer o dan sylw a’r dull casglu ac, yn achos anifail neu gynnyrch anifeiliaid, y rhywogaeth a, pan fo’n briodol, manylion sy’n nodi rhyw’r anifail a’i fferm wreiddiol;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson (p’un a yw’n swyddog i awdurdod gorfodi ai peidio) a awdurdodwyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod hwnnw, naill ai’n gyffredinol neu’n benodol, i weithredu mewn materion sy’n codi o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “sylwedd diawdurdod” (“unauthorised substance”) yw sylwedd Tabl 2, sylwedd gwaharddedig ac unrhyw sylwedd neu gynnyrch arall y gwaherddir ei roi i anifeiliaid gan ddeddfwriaeth yr UE neu odani;

ystyr “sylwedd didrwydded” (“unlicensed substance”) yw sylwedd—

(a)

y mae terfyn gweddillion uchaf wedi ei sefydlu ar ei gyfer o dan Reoliad 470/2009, a

(b)

sydd—

(i)

wedi ei roi (neu wedi ei fwriadu i’w roi) yn y Deyrnas Unedig i anifail neu i lwyth o anifeiliaid, neu

(ii)

wedi ei roi i anifail y tu allan i’r Deyrnas Unedig,

a’r sylwedd hwnnw, ac unrhyw gynnyrch sy’n ei gynnwys, adeg ei roi, heb ei awdurdodi i’w ddefnyddio yn yr anifail hwnnw yn y wlad lle’r oedd yn cael ei roi;

ystyr “sylwedd gwaharddedig” (“prohibited substance”) yw unrhyw feta-agonist neu sylwedd hormonaidd a roddir i anifail yn groes i’r gwaharddiad yn rheoliad 5;

ystyr “sylwedd hormonaidd” (“hormonal substance”) yw unrhyw sylwedd yn y naill neu’r llall o’r categorïau a ganlyn—

(a)

stilbenau a sylweddau thyrostatig;

(b)

sylweddau ac iddynt effaith estrogenaidd, androgenaidd neu gestagenaidd;

ystyr “sylwedd rhestr A” (“list A substance”) yw sylwedd a enwir yn Rhestr A o Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/22;

ystyr “sylwedd rhestr B” (“list B substance”) yw sylwedd a enwir yn Rhestr B o Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/22;

ystyr “sylwedd Tabl 1” (“Table 1 substance”) yw sylwedd a ddosbarthwyd o dan Erthygl 14(2)(a), (b) neu (c) o Reoliad 470/2009;

ystyr “sylwedd Tabl 2” (“Table 2 substance”) yw sylwedd a ddosbarthwyd o dan Erthygl 14(2)(d) o Reoliad 470/2009;

ystyr “terfyn gweddillion uchaf” (“maximum residue limit”) yw’r crynodiad uchaf o weddill, neu weddillion, o ganlyniad i ddefnyddio cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol (a fynegir mewn µg/kg neu µg/L ar sail pwysau ffres) y mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi ei sefydlu mewn perthynas â sylwedd a ddosbarthwyd o dan Erthygl 14 o Reoliad 470/2009 fel sy’n angenrheidiol neu’n briodol ar gyfer diogelu iechyd dynol;

ystyr “tystysgrif dadansoddiad cyfeirio” (“reference analysis certificate”) yw tystysgrif dadansoddydd yn pennu canfyddiad dadansoddiad cyfeirio;

ystyr “tystysgrif dadansoddiad sylfaenol” (“primary analysis certificate”) yw tystysgrif dadansoddydd yn pennu canfyddiad dadansoddiad sylfaenol.

(2Er mwyn darganfod a aed y tu hwnt i’r terfyn gweddillion uchaf a sefydlwyd ar gyfer sylwedd sy’n ffarmacolegol weithredol at ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)rhaid cymryd bod presenoldeb y cyffur neu fetabolit y cyffur (neu gyfuniad ohonynt) fel y’i pennir yn y gweddill sy’n dynodi’r sylwedd ffarmacolegol weithredol hwnnw yn dynodi presenoldeb y sylwedd hwnnw yn y rhan honno o anifail neu mewn llwyth o anifeiliaid, neu mewn unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r rhan honno o anifail neu o lwyth o anifeiliaid, fel y’i pennir yn y meinweoedd targed ar gyfer y sylwedd hwnnw;

(b)mae’r terfyn gweddillion uchaf (os oes un) sy’n cyfateb i’r sylwedd hwnnw i’w gymhwyso mewn cysylltiad â phresenoldeb unrhyw gyffur neu fetabolit cyffur o’r fath (neu gyfuniad ohonynt) yn y rhan honno o anifail neu mewn llwyth o anifeiliaid, neu mewn unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r rhan honno o anifail neu o lwyth o anifeiliaid fel pe bai’n gyfystyr â’r sylwedd hwnnw.

(3Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 96/22, Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23 neu Reoliad 470/2009 yr un ystyr, i’r graddau y mae’r cyd-destun yn caniatáu hynny, ag sydd i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Cyfarwyddebau hynny neu yn y Rheoliad hwnnw, fel y bo’n briodol.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/22 neu Gyfarwyddeb y Cyngor 96/23 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

RHAN 2Gwaharddiadau ac Eithriadau

Gwahardd gwerthu sylweddau rhestr A a rhestr B

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb werthu i’w roi i unrhyw anifail unrhyw gynnyrch sy’n sylwedd rhestr A neu’n sylwedd rhestr B, neu sy’n cynnwys sylwedd rhestr A neu sylwedd rhestr B, os yw’r anifail neu unrhyw gynnyrch o’r anifail hwnnw wedi eu bwriadu i’w bwyta gan bobl.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i werthu cynnyrch sy’n cydymffurfio â gofynion rheoliad 26 ac sydd i’w roi yn unol â rheoliad 28.

(3Rhagdybir, oni phrofir i’r gwrthwyneb, fod unrhyw gynnyrch a werthir ac sy’n sylwedd rhestr A neu’n sylwedd rhestr B, neu sy’n cynnwys sylwedd rhestr A neu sylwedd rhestr B, wedi ei werthu i’w roi i anifail a fwriedir, neu y bwriedir unrhyw gynnyrch sy’n deillio ohono, i’w bwyta gan bobl.

Gwahardd meddu ar feta-agonistiaid

4.  Ni chaiff neb, heblaw milfeddyg, feddu, ar fferm, ar unrhyw gynnyrch meddyginiaethol milfeddygol sy’n cynnwys beta-agonist a awdurdodwyd i’w ddefnyddio at ddibenion ysgogi wrth drin tocolysis.

Gwahardd rhoi beta-agonistiaid neu sylweddau hormonaidd

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb roi i unrhyw anifail unrhyw gynnyrch sy’n sylwedd a restrir yn Atodiad II neu III i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/22, neu sy’n cynnwys sylwedd o’r fath, na pheri neu ganiatáu yn fwriadol iddo gael ei roi.

(2Nid yw’r gwaharddiad ym mharagraff (1) yn gymwys i roi cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol sy’n cydymffurfio â’r gofynion—

(a)sy’n cynnwys testosteron, progesteron neu ddeilliad o’r sylweddau hynny sy’n ildio’n rhwydd y rhiant-gyfansoddyn drwy hydrolysis ar ôl iddynt gael eu hamsugno ar y safle lle y’i rhoddwyd, o’i roi yn unol â rheoliad 27;

(b)sy’n cynnwys alyl trenbolon neu feta-agonist, o’i roi yn unol â rheoliad 28; neu

(c)sydd ag effaith estrogenaidd (ond nad yw’n cynnwys oestradiol 17b neu ei ddeilliadau esteraidd), effaith adrogenaidd neu effaith gestagenaidd, o’i roi yn unol â rheoliad 29.

(3Ym mharagraff (2), ystyr “cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol sy’n cydymffurfio â’r gofynion” yw cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol sy’n cydymffurfio â gofynion rheoliad 26.

Gwahardd rhoi sylweddau neu gynhyrchion didrwydded i anifeiliaid

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb roi unrhyw sylwedd didrwydded i anifail na pheri neu ganiatáu yn fwriadol iddo gael ei roi.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) yn gwahardd rhoi unrhyw gynnyrch meddyginiaethol milfeddygol yn unol ag esemptiad a bennir ym mharagraffau 1, 5 a 9 o Atodlen 4 i Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013(6).

Gwahardd rhoi sylweddau Tabl 2

7.  Mae’n drosedd torri Erthygl 14(6) o Reoliad 470/2009 (gwahardd rhoi sylweddau i anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd o dan amgylchiadau penodol).

Gwahardd meddu ar anifeiliaid neu eu cigydda a gwahardd prosesu

8.—(1Ni chaiff neb gigydda anifail a fwriedir i’w ddefnyddio i’w fwyta gan bobl y mae unrhyw sylwedd a restrir yn Atodiad II neu Atodiad III i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/22 wedi ei roi iddo, sy’n cynnwys sylwedd o’r fath, neu y cadarnhawyd presenoldeb sylwedd o’r fath ynddo, na meddu mewn modd arall ar anifail o’r fath ar fferm.

(2Ni chaiff neb brosesu cig anifail a fwriedir i’w fwyta gan bobl—

(a)pan fo’r anifail hwnnw’n cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Atodiad II neu Atodiad III i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/22, neu

(b)pan fo presenoldeb sylwedd o’r fath wedi ei gadarnhau ynddo, neu

(c)y rhoddwyd sylwedd o’r fath iddo.

(3Rhagdybir, hyd nes y profir i’r gwrthwyneb, fod unrhyw anifail sydd wedi ei gigydda, neu y mae person yn meddu arno, ar fferm ac y mae’n gyffredin ei gigydda neu feddu arno i’w ddefnyddio i’w fwyta gan bobl, wedi ei gigydda neu yn cael ei feddu er mwyn cael ei ddefnyddio felly a rhagdybir, hyd nes y profir i’r gwrthwyneb, fod anifail a ddefnyddir yn gyffredin i’w fwyta gan bobl ac y prosesir cig ohono, yn anifail sydd i’w ddefnyddio felly.

Gwahardd gwerthu anifeiliaid

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb werthu na chyflenwi, i’w gigydda i’w fwyta gan bobl, unrhyw anifail—

(a)sy’n cynnwys sylwedd diawdurdod neu y rhoddwyd sylwedd diawdurdod iddo;

(b)y rhoddwyd sylwedd iddo yn groes i reoliad 5;

(c)sy’n anifail dyframaethu y rhoddwyd sylwedd a restrir yn Atodiad II neu III i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/22 iddo;

(d)y rhoddwyd sylwedd rhestr A neu sylwedd a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/22 iddo;

(e)sy’n cynnwys sylwedd Tabl 1 yn ôl crynodiad sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf; neu

(f)y rhoddwyd cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol iddo os nad yw’r cyfnod cadw’n ôl ar gyfer y cynnyrch hwnnw wedi dod i ben.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1)(f) yn gwahardd gwerthu cyn diwedd y cyfnod cadw’n ôl unrhyw geffyl uchel ei werth y rhoddwyd alyl trenbolon neu feta-agonist iddo yn unol â rheoliad 5, ar yr amod bod math a dyddiad y driniaeth wedi eu cofnodi ar basbort y ceffyl gan y milfeddyg a fu’n uniongyrchol gyfrifol am y driniaeth.

Gwahardd gwerthu cynhyrchion anifeiliaid

10.—(1Ni chaiff neb werthu i’w fwyta gan bobl unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o anifail y gwaherddir ei werthu neu ei gyflenwi i’w gigydda o dan reoliad 9.

(2Ni chaiff neb werthu i’w fwyta gan bobl unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n cynnwys—

(a)sylwedd diawdurdod; neu

(b)sylwedd awdurdodedig yn ôl crynodiad sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf perthnasol.

Gwahardd gwaredu anifail neu lwyth o anifeiliaid a gigyddwyd

11.  Pan gigyddwyd anifail neu lwyth o anifeiliaid yn sgil hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 22(3), ni chaiff neb waredu carcas neu offal yr anifail hwnnw neu garcas neu offal unrhyw anifail o’r llwyth hwnnw o anifeiliaid, nac unrhyw ran o garcas neu offal o’r fath, i’w bwyta gan bobl neu anifeiliaid.

Eithriad i’r gwaharddiad ar gigydda

12.—(1Er gwaethaf y gwaharddiad ar gigydda anifail neu lwyth o anifeiliaid drwy hysbysiad a roddir yn unol â rheoliad 22(4), caniateir cigydda’r anifail hwnnw neu’r llwyth hwnnw o anifeiliaid cyn i’r hysbysiad hwnnw gael ei dynnu’n ôl os bydd perchennog yr anifail hwnnw neu’r llwyth hwnnw o anifeiliaid yn cydymffurfio â’r paragraffau a ganlyn yn y rheoliad hwn.

(2Rhaid rhoi hysbysiad ynglŷn â dyddiad a lle arfaethedig y cigydda i swyddog awdurdodedig cyn y dyddiad hwnnw.

(3Rhaid i’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid, a farciwyd gan swyddog awdurdodedig, neu y parwyd iddynt gael eu marcio gan swyddog awdurdodedig, o dan reoliad 21(2)(c), fynd i’r lle cigydda gyda thystysgrif a ddyroddwyd gan swyddog awdurdodedig yn nodi’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid a’r fferm wreiddiol.

(4Ar ôl cigydda, rhaid i unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail hwnnw neu o anifail o’r llwyth hwnnw o anifeiliaid gael ei gadw mewn unrhyw le a modd a bennir gan swyddog awdurdodedig, wrth iddo fynd drwy unrhyw archwiliad y mae’n rhesymol i swyddog awdurdodedig ystyried ei fod yn angenrheidiol.

(5Pan fo’r archwiliad (y mae’n rhaid i swyddog awdurdodedig roi ei ganlyniad i’r perchennog drwy hysbysiad ysgrifenedig) yn cadarnhau bod unrhyw gynnyrch anifeiliaid y cyfeirir ato ym mharagraff (4) yn cynnwys sylwedd awdurdodedig yn ôl crynodiad sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf perthnasol, rhaid gwaredu’r cynnyrch anifeiliaid at ddiben heblaw ei fwyta gan bobl.

RHAN 3Samplu a Dadansoddi

Caffael samplau

13.  Caiff swyddog awdurdodedig—

(a)cymryd sampl o unrhyw eitem neu sylwedd a ganfyddir gan y swyddog hwnnw ar unrhyw fangre neu mewn unrhyw fangre y mae gan y swyddog awdurdod i fynd i mewn iddi ac y mae gan y swyddog reswm dros gredu y gall fod yn ofynnol fel tystiolaeth mewn achos o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Rheoliadau hyn; a

(b)cymryd sampl o unrhyw anifail, p’un a yw wedi ei fwriadu i’w fwyta gan bobl ai peidio, a ganfyddir gan y swyddog hwnnw ar unrhyw fangre o’r fath neu mewn unrhyw fangre o’r fath.

Dadansoddiad sylfaenol samplau swyddogol

14.—(1Rhaid i sampl swyddogol gael ei chyflwyno i’w dadansoddi mewn labordy a gymeradwywyd a’i thrin yn unol â pharagraff (2) neu (3).

(2Ac eithrio pan fo’r sampl swyddogol o fath a ddisgrifir ym mharagraff (3), rhaid i ran o’r sampl honno gael ei rhoi drwy ddadansoddiad sylfaenol a rhaid cadw’r gweddill ar gyfer unrhyw ddadansoddiad cyfeirio.

(3Pan fo’r sampl swyddogol yn cynnwys gweddillion safle unrhyw fewnblaniad solet neu bigiad, rhaid i’r dadansoddydd baratoi echdynnyn o safle’r mewnblaniad neu’r pigiad hwnnw a rhoi rhan o’r echdynnyn hwnnw drwy ddadansoddiad sylfaenol a chadw gweddill yr echdynnyn ar gyfer unrhyw ddadansoddiad cyfeirio.

Canlyniadau dadansoddiad sylfaenol

15.—(1Pan fo’r dadansoddiad sylfaenol yn dangos bod sampl swyddogol, neu yn achos sampl o’r fath sy’n cynnwys gweddillion safle mewnblaniad solet neu bigiad, y gweddillion hynny o safle mewnblaniad solet neu bigiad, yn cynnwys—

(a)sylwedd diawdurdod;

(b)sylwedd y mae gan ddadansoddydd amheuaeth resymol mai sylwedd diawdurdod ydyw;

(c)yn achos sampl a gymerwyd o anifail neu lwyth o anifeiliaid, eu hysgarthiad neu eu hylifau corff neu eu meinweoedd, sylwedd awdurdodedig yn ôl crynodiad y mae swyddog awdurdodedig yn hysbysu’r dadansoddydd ei fod yn peri ei bod yn rhesymol i’r swyddog amau y gallai cynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail hwnnw neu o’r llwyth hwnnw o anifeiliaid gynnwys sylwedd awdurdodedig yn ôl crynodiad sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf perthnasol; neu

(d)yn achos sampl a gymerwyd o unrhyw gynnyrch anifeiliaid, sylwedd awdurdodedig yn ôl crynodiad sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf perthnasol,

rhaid i’r dadansoddydd gofnodi’r wybodaeth honno mewn tystysgrif dadansoddiad sylfaenol a darparu copi o’r dystysgrif honno i swyddog awdurdodedig y mae’n rhaid wedyn iddo roi’r copi hwnnw i’r person perthnasol.

(2Pan nad yw’r dadansoddiad sylfaenol yn dangos dim sy’n ei gwneud yn ofynnol bod tystysgrif dadansoddiad sylfaenol yn cael ei rhoi o dan baragraff (1), rhaid i’r dadansoddydd hysbysu swyddog awdurdodedig am y ffaith honno a rhaid wedyn i’r swyddog awdurdodedig hysbysu’r person perthnasol.

(3At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau 16 a 17, ystyr “person perthnasol” yw perchennog y fangre lle cymerwyd y sampl neu, os person arall yw perchennog yr anifail, y cynnyrch anifeiliaid neu’r eitem neu’r sylwedd arall y cymerwyd y sampl ohonynt, p’un bynnag ohonynt y mae’r swyddog awdurdodedig yn ystyried sy’n briodol.

Dadansoddiad cyfeirio

16.—(1Rhaid i’r canfyddiad a bennir yn y dystysgrif dadansoddiad sylfaenol gael ei gyfeirio gan swyddog awdurdodedig at labordy a gymeradwywyd ar gyfer dadansoddiad cyfeirio ynghyd â gweddill y sampl swyddogol a gadwyd gan y dadansoddydd yn unol â rheoliad 14(2) neu 14(3), fel y bo’n briodol—

(a)os yw’r canfyddiad yn dangos bod y sampl swyddogol, p’un a yw’n echdynnyn o safle unrhyw fewnblaniad solet neu bigiad neu beidio, yn cynnwys sylwedd a bennir o dan y pennawd “Group A” yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/23; neu

(b)os bydd swyddog awdurdodedig yn penderfynu gwneud hynny beth bynnag.

(2Rhaid i’r dadansoddydd gofnodi canlyniadau’r dadansoddiad cyfeirio mewn tystysgrif dadansoddiad cyfeirio a darparu copi o’r dystysgrif honno i swyddog awdurdodedig y mae’n rhaid wedyn iddo roi copi i’r person perthnasol.

(3Caiff y person perthnasol, ar sail dadansoddiad croes a thrwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i swyddog awdurdodedig, herio’r canfyddiad a bennir mewn tystysgrif dadansoddiad sylfaenol mewn perthynas â sampl swyddogol unrhyw bryd cyn i’r sampl honno, neu ran ohoni, gael ei chyfeirio ar gyfer dadansoddiad cyfeirio.

(4Pan fo’r person perthnasol, yn unol â pharagraff (3), yn herio’r canfyddiad a bennir mewn tystysgrif dadansoddiad sylfaenol, y person hwnnw sy’n atebol i dalu costau unrhyw ddadansoddiad cyfeirio sy’n cadarnhau’r canfyddiad a bennir yn y dystysgrif honno.

Hysbysu dadansoddydd

17.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig sy’n cyflwyno sampl i labordy a gymeradwywyd ar gyfer dadansoddiad sylfaenol hysbysu dadansoddydd y labordy a gymeradwywyd hwnnw am enw a chyfeiriad y person perthnasol.

(2Rhaid i swyddog awdurdodedig sy’n cyfeirio canfyddiad a bennwyd mewn dadansoddiad sylfaenol at labordy a gymeradwywyd hysbysu dadansoddydd y labordy a gymeradwywyd hwnnw am enw a chyfeiriad y person perthnasol.

Dulliau dadansoddi

18.  Rhaid i ddadansoddiad ar sampl swyddogol gael ei gyflawni yn unol â’r dulliau a awdurdodir gan Benderfyniad y Comisiwn 2002/657/EC yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC ynglŷn â chyflawni dulliau dadansoddi a dehongli canlyniadau(7).

Tystysgrifau dadansoddiadau

19.—(1Rhaid i unrhyw dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd o dan y Rheoliadau hyn—

(a)cael ei llofnodi gan y dadansoddydd; a

(b)pennu enw’r swyddog awdurdodedig a gyflwynodd y sampl i gael ei dadansoddi ac—

(i)os yw’r swyddog hwnnw’n swyddog i awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad yr awdurdod gorfodi y mae’r person hwnnw’n swyddog iddo, neu

(ii)os nad yw’r swyddog hwnnw’n swyddog i awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad y sefydliad y mae’r swyddog hwnnw’n gweithio iddo.

(2Mewn unrhyw achos o dan y Rheoliadau hyn, os bydd un o’r partïon yn dangos—

(a)dogfen sy’n honni bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddydd o dan baragraff (1); neu

(b)dogfen a roddwyd i’r parti hwnnw gan y parti arall fel copi o dystysgrif o’r fath,

bydd hynny’n dystiolaeth ddigonol o’r ffeithiau a ddatgenir ynddi oni bai, mewn achos sy’n syrthio o fewn is-baragraff (a), fod y parti arall yn ei gwneud yn ofynnol i’r dadansoddydd gael ei alw fel tyst.

Arolygu anifeiliaid

20.—(1Caiff swyddog awdurdodedig, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol—

(a)i anifail neu lwyth o anifeiliaid gael eu cadw’n gaeth yn y fan lle y lleolir yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid; neu

(b)i anifail neu lwyth o anifeiliaid gael eu symud i fan arall, a’u cadw’n gaeth yno,

er mwyn i arolygiad gael ei gynnal.

(2Rhaid i arolygiad o dan baragraff (1) gael ei gynnal er mwyn darganfod—

(a)a oes unrhyw anifail yn cynnwys unrhyw sylwedd diawdurdod neu weddillion unrhyw sylwedd arall y mae gan y swyddog awdurdodedig amheuaeth resymol y gallai olygu bod unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail yn cynnwys sylwedd diawdurdod neu sylwedd Tabl 1 yn ôl crynodiad sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf; neu

(b)a yw unrhyw gyfnod cadw’n ôl wedi dod i ben.

(3Pan nad yw ond yn ofynnol cadw’n gaeth anifail neu lwyth o anifeiliaid, rhaid i’r hysbysiad gael ei gyflwyno i berchennog y fangre lle y lleolir yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid.

(4Pan fo’n ofynnol symud anifail neu lwyth o anifeiliaid a’u cadw’n gaeth mewn man arall rhaid i’r hysbysiad gael ei gyflwyno i berchennog y fangre lle y lleolir yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid oni bai mai person arall yw perchennog yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid, pryd y mae’n rhaid i’r swyddog awdurdodedig gyflwyno’r hysbysiad i ba un bynnag ohonynt y mae’r swyddog yn ystyried sy’n briodol.

Archwilio anifail neu lwyth o anifeiliaid

21.—(1Os yw’n ymddangos i swyddog awdurdodedig, o ganlyniad i arolygiad a gyflawnir at y dibenion y cyfeirir atynt yn rheoliad 20, y gallai unrhyw anifail neu lwyth o anifeilaidd gynnwys sylwedd diawdurdod neu weddillion sylwedd awdurdodedig y mae gan y swyddog amheuaeth resymol y gallai olygu bod unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail hwnnw neu o’r llwyth hwnnw o anifeiliaid yn cynnwys sylwedd awdurdodedig yn ôl crynodiad sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf neu nad yw’r cyfnod cadw’n ôl mewn perthynas ag unrhyw anifail wedi dod i ben, mae gan swyddog awdurdodedig y pwerau a bennir ym mharagraff (2) mewn perthynas â’r anifail hwnnw neu’r llwyth hwnnw o anifeiliaid.

(2Caiff swyddog awdurdodedig—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i berchennog yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid i ddweud, hyd nes y tynnir yr hysbysiad yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig arall—

(i)na chaniateir cyflawni gweithrediadau masnachol mewn cysylltiad â’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid;

(ii)na chaniateir symud yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid o’r fan lle y maent y pryd hwnnw neu na chaniateir eu symud felly ac eithrio i fan a bennir yn yr hysbysiad; a

(iii)na chaniateir i anifail, heblaw fel y caniateir gan baragraff (ii), gael ei symud oddi ar y fferm wreiddiol ac eithrio fel y pennir yn yr hysbysiad;

(b)rhoi’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid drwy unrhyw archwiliadau i ganfod presenoldeb sylweddau neu weddillion y mae’n rhesymol i’r swyddog awdurdodedig ystyried eu bod yn angenrheidiol;

(c)peintio, stampio, clipio, tagio’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid neu eu marcio fel arall, neu beri iddynt gael eu marcio, i’w hadnabod at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Hysbysiad pan gwblheir archwiliad

22.—(1Pan gwblheir archwiliad a bennir yn rheoliad 21(2)(b), rhaid i swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i berchennog yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid yn unol â’r paragraffau a ganlyn yn y rheoliad hwn.

(2Pan fo archwiliad o’r fath yn dangos nad yw anifail neu lwyth o anifeiliaid yn cynnwys unrhyw sylwedd diawdurdod na gweddillion unrhyw sylwedd awdurdodedig yn ôl crynodiad sy’n debyg o olygu bod unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail hwnnw neu o’r llwyth hwnnw o anifeiliaid yn cynnwys crynodiad o’r sylwedd sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf perthnasol neu pan fo swyddog awdurdodedig yn ystyried nad oes angen archwiliad o’r fath, rhaid i’r hysbysiad ddatgan hynny a darparu ar gyfer tynnu unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd i berchennog yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid o dan reoliad 21(2)(a) yn ôl i’r graddau y mae’n ymwneud â’r anifail hwnnw neu’r llwyth hwnnw o anifeiliaid.

(3Pan fo’r archwiliad yn dangos bod anifail neu lwyth o anifeiliaid yn cynnwys sylwedd gwaharddedig, sylwedd didrwydded neu sylwedd Tabl 2 rhaid i’r hysbysiad ddatgan hynny, pennu canlyniad yr archwiliad a’i gwneud yn ofynnol i berchennog yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid gigydda’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid, neu beri iddynt gael eu cigydda, o fewn unrhyw gyfnod ac yn unol ag unrhyw ofynion a bennir yn yr hysbysiad.

(4Pan fo’r archwiliad yn dangos bod anifail neu lwyth o anifeiliaid yn cynnwys crynodiad o sylwedd awdurdodedig y mae gan swyddog awdurdodedig amheuaeth resymol y gallai olygu y bydd unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail hwnnw neu o’r llwyth hwnnw o anifeiliaid yn cynnwys crynodiad o’r sylwedd hwnnw sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf perthnasol, rhaid i’r hysbysiad ddatgan hynny, pennu canlyniad yr archwiliad ac, yn ddarostyngedig i reoliad 12, wahardd cigydda’r anifail hwnnw neu’r llwyth hwnnw o anifeiliaid i’w bwyta gan bobl.

(5Caniateir i hysbysiad a roddir yn unol a pharagraff (4) sy’n gwahardd cigydda unrhyw anifail neu lwyth o anifeiliaid gael ei dynnu’n ôl unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig arall a roddir gan swyddog awdurdodedig i berchennog yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid; a rhaid i hysbysiad a roddir yn unol â pharagraff (4) gael ei dynnu’n ôl fel hyn cyn gynted ag y bydd swyddog awdurdodedig wedi ei fodloni nad yw’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid yn cynnwys crynodiad o sylwedd awdurdodedig a allai olygu bod unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail hwnnw neu o’r llwyth hwnnw o anifeiliaid yn cynnwys crynodiad o’r sylwedd hwnnw sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf perthnasol.

(6Os bydd unrhyw berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan baragraff (3) yn methu cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad ynglŷn â chigydda anifail neu lwyth o anifeiliaid, caiff swyddog awdurdodedig, heb ragfarnu unrhyw achos a fydd yn codi o’r methiant hwnnw, gigydda’r anifail hwnnw neu’r llwyth hwnnw o anifeiliaid, neu beri eu cigydda.

(7Caiff yr awdurdod gorfodi godi tâl sy’n hafal i swm y costau a ysgwyddwyd yn rhesymol gan y swyddog awdurdodedig wrth arfer y pwerau a roddir i’r swyddog o dan—

(a)rheoliad 21(2), os yw paragraff (3) neu (4) yn gymwys; neu

(b)paragraff (6).

(8Mae’r tâl y cyfeirir ato ym mharagraff (7) yn daladwy gan y person sydd wedi methu ac i’w adennill gan yr awdurdod gorfodi.

RHAN 4Troseddau a Chosbi

Troseddau, cosbi a gorfodi

23.—(1Mae person sydd—

(a)yn torri rheoliad 3, 4, 5, 6, 8, 9, 10, 11, 32(1), (2), (3) neu (4) neu unrhyw ddarpariaeth mewn hysbysiad a roddir i’r person hwnnw o dan y Rheoliadau hyn; neu

(b)heb gydsyniad ysgrifenedig swyddog awdurdodedig, yn difwyno, yn difodi neu’n dileu unrhyw farc a wnaed o dan reoliad 21(2)(c) neu’n ceisio gwneud hynny,

yn euog o drosedd.

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) neu reoliad 7 yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod neu o’i gollfarnu ar dditiad i ddirwy.

(3Rhaid i bob awdurdod gorfodi orfodi’r Rheoliadau hyn a rhoi unrhyw gymorth a gwybodaeth i bob awdurdod gorfodi arall ag y mae’n rhesymol i’r awdurdod gorfodi arall hwnnw ei gwneud yn ofynnol at ddiben ei ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn.

Troseddau corfforaethol

24.—(1Os dangosir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—

(a)wedi ei chyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog,

mae’r swyddog yn ogystal â’r corff corfforaethol yn agored i’w erlyn.

(2Os yw materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd ac anweithredoedd aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau’r aelod hwnnw o reoli fel pe bai’r aelod hwnnw’n gyfarwyddwr i’r corff.

(3Os dangosir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth—

(a)wedi ei chyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad partner; neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner,

mae’r partner yn ogystal â’r bartneriaeth yn agored i’w erlyn.

(4Os dangosir bod unrhyw drosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig, heblaw partneriaeth—

(a)wedi ei chyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r gymdeithas neu aelod o’i chorff llywodraethu; neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog neu aelod o’r fath,

mae’r swyddog neu’r aelod hwnnw yn ogystal â’r gymdeithas yn agored i’w erlyn.

(5Yn y rheoliad hwn—

mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel partner; ac

ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig yw cyfarwyddwr, aelod o’r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i’r corff, neu berson sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swydd o’r fath.

Amddiffyniadau ac eithriadau

25.—(1Mewn unrhyw achos ynglŷn â throsedd sy’n honni bod rheoliad 4 wedi ei dorri mae’n amddiffyniad i’r person a gyhuddir brofi bod y cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol y mae’r honiad yn ymwneud ag ef wedi ei fwriadu at ddibenion heblaw ei roi i anifail.

(2Mewn unrhyw achos ynglŷn â throsedd sy’n honni bod rheoliad 8 wedi ei dorri mae’n amddiffyniad i’r person a gyhuddir brofi bod y sylwedd a restrir yn Atodiad II neu Atodiad III i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/22 ac a gynhwysir yn yr anifail neu sy’n bresennol yn yr anifail neu a roddwyd i’r anifail wedi ei roi yn unol â rheoliad 5.

Cynhyrchion sy’n cydymffurfio â’r gofynion

26.—(1Mae cynnyrch sy’n sylwedd a restrir yn Atodiad II neu Atodiad III i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/22 neu sy’n cynnwys sylwedd o’r fath yn cydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn—

(a)os oes awdurdodiad marchnata wedi ei ddyroddi mewn perthynas ag ef;

(b)yn achos cynnyrch sy’n feta-agonist, neu sy’n cynnwys beta-agonist, os oes iddo gyfnod cadw’n ôl o lai nag 28 niwrnod ar ôl diwedd y driniaeth; ac

(c)yn achos cynnyrch sy’n sylwedd hormonaidd, neu sy’n cynnwys sylwedd hormonaidd, os nad yw’n gynnyrch sy’n syrthio o fewn paragraff (2).

(2Mae cynnyrch yn syrthio o fewn y paragraff hwn—

(a)os yw’n gweithredu fel dyddodyn;

(b)os oes iddo gyfnod cadw’n ôl o fwy na 15 niwrnod ar ôl diwedd y driniaeth; neu

(c)os cafodd ei awdurdodi cyn 1 Ionawr 1995, os nad oes iddo amodau defnyddio sy’n hysbys ac nad oes adweithyddion nac offer ar ei gyfer yn bodoli i’w defnyddio mewn technegau dadansoddi i ganfod presenoldeb gweddillion sy’n uwch na’r terfynau rhagnodedig.

Eithriad i’r gwaharddiad ar roi testosteron a phrogesteron

27.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae unrhyw gynnyrch sy’n destosteron neu brogesteron, neu sy’n cynnwys y rhain, yn cael ei roi yn unol â’r rheoliad hwn os yw’n cael ei roi gan filfeddyg at ddiben therapiwtig i anifail fferm drwy bigiad.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i driniaeth ar gyfer camweithrediad yr ofarïau, ac yn yr achos hwnnw y bydd y cynnyrch yn cael ei roi yn unol â’r rheoliad hwn os yw’n cael ei roi gan filfeddyg sy’n defnyddio cynnyrch ar ffurf sbiralau i’r wain.

Eithriad i’r gwaharddiad ar roi alyl trenbolon a beta-agonistiaid

28.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae unrhyw gynnyrch sy’n alyl trenbolon neu feta-agonistiaid, neu sy’n cynnwys y rhain, yn cael ei roi yn unol â’r paragraff hwn os yw’n cael ei roi at ddiben therapiwtig ac yn cael ei roi gan filfeddyg neu o dan gyfrifoldeb uniongyrchol y milfeddyg hwnnw.

(2Mae paragraff (1) yn gymwys i gynnyrch meddyginiaethol milfeddygol sy’n alyl trenbolon, neu sy’n cynnwys alyl trenbolon, dim ond os yw wedi ei awdurdodi i’w roi drwy’r geg, os yw’n cael ei roi yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd ac yn cael ei roi i anifail nad yw’n anifail cynhyrchu.

(3Mae paragraff (1) yn gymwys i gynnyrch meddyginiaethol milfeddygol sy’n feta-agonist, neu sy’n cynnwys beta-agonist, dim ond os yw’n cael ei roi—

(a)i aelod o deulu’r equidae; neu

(b)i fuwch sy’n lloia, drwy bigiad gan filfeddyg, i ysgogi tocolysis yn ystod esgor.

Eithriad i’r gwaharddiad ar roi cynhyrchion sydd ag effaith estrogenaidd, androgenaidd neu gestagenaidd

29.—(1Mae cynhyrchion yn cael eu rhoi yn unol â’r rheoliad hwn, yn achos anifeiliaid fferm heblaw anifeiliaid cynhyrchu—

(a)os ydynt yn cael eu rhoi at ddiben triniaeth sootechnegol;

(b)os ydynt yn cael eu rhoi—

(i)yn achos cydamseru estrws neu baratoi rhoddwyr neu dderbynwyr ar gyfer mewnblannu embryonau gan filfeddyg, neu o dan gyfrifoldeb uniongyrchol milfeddyg, a

(ii)mewn unrhyw achos arall, gan filfeddyg; ac

(c)os yw’r milfeddyg sy’n gyfrifol am y driniaeth yn rhoi presgripsiwn am y cynhyrchion sydd i’w rhoi, p’un a fydd y milfeddyg yn eu cyflenwi ai peidio.

(2Mae cynhyrchion yn cael eu rhoi yn unol â’r rheoliad hwn, yn achos pysgod tri mis oed neu lai, os rhoddir cynhyrchion sydd ag effaith androgenaidd er mwyn gwrth-droi eu rhyw.

RHAN 5Amrywiol

Cyfrifoldebau proseswyr

30.  Rhaid i berchennog sefydliad prosesu cychwynnol ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid, mewn cysylltiad â phob anifail neu gynnyrch anifeiliaid y deuir â hwy i’r sefydliad hwnnw, sicrhau—

(a)nad ydynt yn cynnwys—

(i)lefel gweddillion sy’n uwch na’r terfyn uchaf a ganiateir;

(ii)unrhyw sylwedd neu gynnyrch diawdurdod; a

(b)bod unrhyw gyfnod cadw’n ôl priodol wedi ei gadw.

Diffyg amddiffyniad

31.  Nid oes gan neb hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad a ddarperir gan adran 21(1), (5) a (6) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir gan reoliad 33, mewn unrhyw achos sy’n honni bod rheoliad 8 neu 10 wedi eu torri os yw’r person hwnnw wedi torri rheoliad 30.

Cadw cofnodion a’u dal

32.—(1Rhaid i berchennog sefydliad prosesu cychwynnol ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid gadw unrhyw gofnodion sy’n ddigonol, naill ai ar eu pen eu hunain neu mewn cyfuniad â chofnodion neu wybodaeth a ddelir gan ryw berson arall, i alluogi adnabod yr anifeiliaid y deilliodd y cynhyrchion anifeiliaid hynny ohonynt, a fferm wreiddiol yr anifeiliaid hynny neu’r fferm yr ymadawsant â hi.

(2Rhaid i bersonau sydd ag awdurdodiad gweithgynhyrchu neu awdurdodiad deliwr cyfanwerthol a roddwyd o dan Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013, at ddibenion sy’n ymwneud ag awdurdodiad marchnata ar gyfer cynnyrch y mae rheoliad 4 yn gymwys iddo, mewn perthynas â sylweddau hormonaidd a beta-agonistiaid, gadw cofnod mewn trefn gronolegol o’r canlynol—

(a)y symiau a gynhyrchwyd;

(b)y symiau a brynwyd neu a gaffaelwyd fel arall ac oddi wrth bwy y prynwyd neu y caffaelwyd pob swm;

(c)y symiau a werthwyd ac i bwy y gwerthwyd pob swm; a

(d)y symiau a ddefnyddiwyd wrth gynhyrchu cynhyrchion fferyllol neu gynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol.

(3Rhaid i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo gadw cofnod o dan baragraff (1) neu (2) gadw’r cofnod hwnnw ar ffurf barhaol a darllenadwy a dal y cofnod hwnnw am gyfnod o dair blynedd o ddiwedd y flwyddyn galendr y mae’r cofnod hwnnw yn ymwneud â hi ac eithrio yn achos presgripsiwn y bwriedir iddo ddangos bod cyfnodau cadw’n ôl wedi eu cadw, y mae’n rhaid ei ddal am gyfnod o bum mlynedd o ddyddiad dechrau’r cyfnod cadw’n ôl y mae’n ymwneud ag ef.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os bydd swyddog awdurdodedig yn cyfarwyddo person i ddangos, fel y gall edrych arno, gofnod y mae paragraff (1) neu (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gadw, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

(5Ni chaniateir rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (4) ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (3).

(6Rhaid peidio â chymryd y gofyniad ym mharagraff (3) i gadw cofnodion ar ffurf ddarllenadwy fe pe bai’n eu hatal rhag cael eu cadw drwy gyfrwng cyfrifiadur.

(7Pan gedwir cofnod fel hyn, mae’r ddyletswydd o dan baragraff (4) i’w ddangos fel y gellir edrych arno, yn ddyletswydd i’w ddangos ar ffurf y gellir mynd â hi i ffwrdd.

Cymhwyso ac addasu darpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990

33.—(1Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad ynddynt at y Ddeddf honno at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi ei fwriadu i’w fwyta gan bobl);

(c)adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);

(d)adran 21(1), (5) a (6) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy);

(e)adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes);

(f)adran 33 (rhwystro etc. swyddogion); ac

(g)adran 35(1) i (3) (cosbi troseddau) i’r graddau y mae’n ymwneud â throseddau o dan adran 33(1) a (2).

(2Mae adran 9 o’r Ddeddf (arolygu bwyd a amheuir ac ymafael ynddo) yn gymwys, yn ddarostyngedig i baragraff (3), at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai cynnyrch anifeiliaid y mae’n drosedd ei werthu o dan y Rheoliadau hyn yn fwyd a fyddai’n methu cydymffurfio â’r gofynion ynglŷn â diogelwch bwyd.

(3Mae adran 9 o’r Ddeddf yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)yn lle’r geiriau “food authority” ym mhob lle y maent yn digwydd rhodder y geiriau “enforcement authority”; a

(b)mae’r cyfeiriad yn is-adran (5)(a) at adran 7 o’r Ddeddf i’w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn.

(4Mae adran 29 o’r Ddeddf (caffael samplau) yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiad bod y geiriau “section 32 of the Act as applied by this regulation” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau “section 32 below” ym mharagraff (b)(ii).

(5Mae adran 30 o’r Ddeddf (dadansoddi etc. samplau) yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiad bod y geiriau “, other than an official sample,” wedi eu mewnosod ar ôl y geiriau “section 29 above”.

(6Mae adran 32 o’r Ddeddf (pwerau mynediad) yn gymwys gan hepgor y gair “food” yn is-adran (5) ac mae’r cyfeiriadau at “regulations” yn is-adran (1), at ddibenion y Rheoliadau hyn, i’w dehongli fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at Erthyglau 14(6) ac 16 o Reoliad 470/2009.

(7Mae adran 44 o’r Ddeddf (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll) yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiad bod y geiriau “enforcement authority” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau “food authority” ym mhob lle y maent yn digwydd.

Dirymiadau

34.  Mae’r offerynnau a bennir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen wedi eu dirymu i’r graddau a bennir yn nhrydedd golofn yr Atodlen.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

13 Mawrth 2019

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill