- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
11. Yn erthygl 5—
(a)yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Ni chaiff unrhyw berson ddod ag unrhyw un o’r pethau a ganlyn i Gymru—
(a)unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A, B neu D o’r rhestr o blâu planhigion gwaharddedig;
(b)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A, B neu D o’r rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig sy’n cario, neu wedi ei heintio â, phla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3;
(c)unrhyw bla planhigion, er nad yw wedi ei bennu yn Rhan A, B neu D o’r rhestr o blâu planhigion gwaharddedig, nac yng ngholofn 3 o Ran A, B neu D o’r rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;
(d)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A neu B o’r rhestr o ddeunydd gwaharddedig sy’n tarddu o drydedd wlad a bennir yn y cofnod cyfatebol mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3;
(e)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A neu D o’r rhestr o ddeunydd a reoleiddir, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion cyfatebol mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3;
(f)yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i ardal sy’n rhydd rhag plâu, unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran C o’r rhestr o blâu planhigion gwaharddedig sy’n ymwneud â’r ardal honno sy’n rhydd rhag plâu;
(g)yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i ardal sy’n rhydd rhag plâu a bennir yng ngholofn 4 o Ran C o’r rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o Ran C o’r rhestr honno sy’n cario neu wedi ei heigio â phla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3;
(h)yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i ardal sy’n rhydd rhag plâu a bennir yng ngholofn 4 o Ran C o’r rhestr o ddeunydd a reoleiddir, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Rhan honno, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion cyfatebol mewn cysylltiad â’r deunydd perthnasol hwnnw yng ngholofn 3.”;
(b)ym mharagraff (4), yn lle “ac (f)” rhodder “, (g) ac (h)”;
(c)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
“(5) Nid yw’r gwaharddiadau ym mharagraff (1)(b) i (h) yn gymwys i ddeunydd perthnasol sy’n cyrraedd man cyrraedd sydd wedi ei leoli yn un o diriogaethau eraill y DU ac a ollyngir yn y diriogaeth honno yn unol ag erthygl 12 o’r Gorchymyn Iechyd Planhigion perthnasol.”.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys