- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Cyhoeddwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle’r OS o’r un rhif, nad oedd yn adlewyrchu’r fersiwn a lofnodwyd gan Weinidogion Cymru oherwydd camgymeriadau wrth rifo paragraffau a fformatio yn rheoliadau 2 a 4. Caiff ei ddosbarthu’n rhad ac am ddim, felly, i bob un y mae’n hysbys iddo dderbyn yr Offeryn Statudol hwnnw.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Gwnaed
26 Mawrth 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol â pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006(2), ac ym mhennawd yr Atodlen iddynt, yn lle “deddfwriaeth yr UE”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “deddfwriaeth yr UE a ddargedwir”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn y diffiniad o “gweithrediad a gymeradwywyd” (“approved operation”), ar y diwedd, mewnosoder “(gweler paragraff (3))”;
(ii)yn y diffiniad o “person awdurdodedig” (“authorised person”), hepgorer y geiriau o “, ac mae’n cynnwys” hyd at “person awdurdodedig hwnnw”;
(iii)hepgorer y diffiniad o “y Comisiwn” (“the Commission”);
(iv)hepgorer y diffiniad o “cymorth yr UE” (“EU assistance”);
(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(3) Er mwyn osgoi amheuaeth, mae “gweithrediad a gymeradwywyd” yn cynnwys gweithrediad a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru i gael cymorth ariannol o dan reoliad 4 cyn y diwrnod ymadael.”
(3) Yn rheoliad 4(2), yn lle “yr UE” rhodder “ariannol”.
(4) Yn rheoliad 7(2)(d), yn lle “yr UE” rhodder “ariannol”.
(5) Yn rheoliad 10—
(a)hepgorer paragraff (1)(j)(i);
(b)hepgorer paragraff (3).
4.—(1) Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5—
(a)ym mharagraff (2)(b), hepgorer “neu’r corff cydgysylltu”;
(b)hepgorer paragraff (3).
(3) Yn lle rheoliad 7(7) rhodder—
“(7) Caiff person awdurdodedig sy’n mynd i mewn ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd â pha bynnag bersonau eraill gydag ef a ystyrir gan y person awdurdodedig yn angenrheidiol at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (1).”
(4) Yn lle rheoliad 8(3) rhodder—
“(3) Mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â pherson y cyfeirir ato yn rheoliad 7(7) pan fo’r person hwnnw’n gweithredu o dan gyfarwyddyd person awdurdodedig, fel pe bai’r person hwnnw yn berson awdurdodedig.”
5.—(1) Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a)hepgorer “a (2)”;
(b)yn lle “Erthygl 10(1)(b)” rhodder “Erthygl 10(1)”.
(3) Yn rheoliad 11(1) a (2), ar ôl “Rheoliad Taliadau Uniongyrchol Dirprwyedig” mewnosoder “fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael”.
(4) Yn rheoliad 18(1), ar ôl “Rheoliad Taliadau Uniongyrchol” mewnosoder “fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn gwneud diwygiadau amrywiol i is-ddeddfwriaeth ynghylch y polisi amaethyddol cyffredin.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2006/3342 (Cy. 303), a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/1807 (Cy. 175); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2014/3223 (Cy. 328), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2015/1252 (Cy. 84), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/217 (Cy. 86).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys