Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (Atodlenni yn unig)

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Rhagolygol

Rheoliadau 2(1) a 23

ATODLEN 1LL+C

RHAN 1LL+CGwybodaeth a dogfennaeth sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau sy’n gweithio mewn gwasanaethau rheoleiddiedig

1.  Prawf o bwy ywʼr person gan gynnwys ffotograff diweddar.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

2.  Pan foʼn ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997(1), copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys a ddyroddir o dan adran 113A oʼr Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan foʼn gymwys, âʼr wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(2) (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

3.  Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â gwybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

4.  Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diwethaf, os oes un.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

5.  Pan fo person wedi gweithioʼn flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, iʼr graddau y boʼn rhesymol ymarferol, oʼr rheswm pam y daeth y gyflogaeth neuʼr swydd i ben.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

6.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

7.  Pan foʼn berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â GCC.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

8.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

9.  Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu cymorth i’r unigolion hynny y mae’r gweithiwr i ddarparu cymorth ar eu cyfer.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

10.  Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff oʼr fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CDehongli Rhan 1

11.  At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 oʼr Atodlen hon—LL+C

(a)os nad ywʼr person y maeʼr dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—

(i)os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 23(3) neu (6) (addasrwydd staff), a

(ii)os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers iʼr dystysgrif gael ei dyroddi;

(b)os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau 2(1) a 30

ATODLEN 2LL+CY cofnodion sydd i’w cadw

1.  Mewn cysylltiad â phob unigolyn—LL+C

(a)enw llawn;

(b)dyddiad geni;

(c)a yw’r person—

(i)yn blentyn a all gael ei fabwysiadu, ei riant neu ei warcheidwad;

(ii)yn berson sy’n dymuno mabwysiadu plentyn;

(iii)yn berson mabwysiedig, ei riant, ei riant geni, ei gyn-warcheidwad neu berson perthynol;

(d)disgrifiad o’r cymorth y gofynnir amdano;

(e)disgrifiad o’r angen am gymorth ynghyd ag unrhyw asesiad o’r angen hwnnw;

(f)disgrifiad o’r cymorth a ddarperir;

(g)a ddarperir y cymorth ar ran awdurdod lleol o dan reoliadau a wneir o dan adran 3(4)(b) o Ddeddf 2002;

(h)cynlluniau gan gynnwys—

(i)cynlluniau cymorth mabwysiadu;

(ii)cynlluniau gofal a chymorth;

(iii)cynlluniau lleoliadau;

(i)adolygiadau o’r cynlluniau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (h).

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

2.  Cofnod o unrhyw ffioedd gan y darparwr gwasanaeth i unigolion am ddarparu cymorth ac unrhyw wasanaethau ychwanegol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

3.  Cofnod o’r holl gwynion a wneir gan unigolion neu eu cynrychiolwyr neu gan bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gŵyn o’r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

4.  Cofnod o’r holl bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a hwnnw’n gofnod y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—LL+C

(a)enw llawn a chyfeiriad cartref;

(b)dyddiad geni;

(c)cymwysterau sy’n berthnasol i weithio gydag unigolion a phrofiad o wneud gwaith o’r fath;

(d)y dyddiadau y maeʼr person yn dechrau cael ei gyflogi felly ac yn peidio â chael ei gyflogi felly;

(e)a ywʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau, neu ac eithrio o dan gontract, neu a yw wedi ei gyflogi gan rywun ac eithrioʼr darparwr gwasanaeth;

(f)y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth, y gwaith y mae’r person yn ei wneud a nifer yr oriau y mae’r person wedi ei gyflogi amdanynt bob wythnos;

(g)copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) y person;

(h)copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad â’r person;

(i)hyfforddiant y mae’r person wedi ymgymryd ag ef, goruchwyliaeth ohono a’i arfarnu;

(j)cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person;

(k)cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ddiweddaraf y person ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 31

ATODLEN 3LL+CHysbysiadau gan y darparwr gwasanaeth

RHAN 1LL+CHysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau

1.  Unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, 28 o ddiwrnodau cyn i’r datganiad o ddiben diwygiedig gymryd effaith.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

2.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth (unigolyn neu sefydliad) yn newid ei enw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

3.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gwmni, unrhyw newid i gyfarwyddwyr y cwmni.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

4.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad mewn perthynas â’r unigolyn hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

5.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth, penodi derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro mewn perthynas â’r cwmni hwnnw neu’r bartneriaeth honno.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

6.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, marwolaeth un o’r partneriaid.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

7.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, unrhyw newid i’r partneriaid.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

8.  Absenoldeb disgwyliedig yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

9.  Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

10.  Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

11.  Bod yr unigolyn cyfrifol yn dychwelyd o fod yn absennol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

12.  Bod yr unigolyn cyfrifol yn peidio â bod, neu’n bwriadu peidio â bod, yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

13.  Unrhyw gam-drin neu honiad o gam-drin mewn perthynas ag unigolyn sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth a/neu aelod o staff neu wirfoddolwr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

14.  Bod y darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei euogfarnu o drosedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

15.  Unrhyw honiad o gamymddwyn gan aelod o staff.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

16.  Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

17.  Unrhyw ddigwyddiadau sy’n atal, neu a allai atal, y darparwr rhag parhau i ddarparu’r gwasanaeth yn ddiogel.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

18.  Unrhyw gynnig i newid cyfeiriad y brif swyddfa, 28 o ddiwrnodau cyn i’r newid ddigwydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

19.  Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

20.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Meini Prawf Rhagnodedig a Darpariaethau Amrywiol) 2009(3), hysbysiad o’r drosedd a gyhuddir a’r man cyhuddo.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

21.  Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

22.  Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

23.  Cychwyn a chanlyniad unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CHysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol/grŵp comisiynu clinigol a Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan ddarparwr cymdeithas fabwysiadu

24.  Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 3 para. 24 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

25.  Unrhyw ddamwain neu anaf difrifol a ddioddefir gan blentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 3 para. 25 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CHysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol/grŵp comisiynu clinigol a Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan ddarparwr asiantaeth cymorth mabwysiadu neu ddarparwr cymdeithas fabwysiadu sy’n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu

26.  Marwolaeth, damwain neu anaf difrifol plentyn wrth gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 3 para. 26 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CHysbysiad i’r asiantaeth leoli

27.  Unrhyw gŵyn ddifrifol ynghylch darpar fabwysiadydd a gymeradwywyd gan y gwasanaeth pan fo plentyn wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r darpar fabwysiadydd hwnnw gan asiantaeth fabwysiadu arall.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 3 para. 27 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5LL+CHysbysiadau i’r awdurdod ardal

28.  Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 3 para. 28 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

29.  Unrhyw ddamwain neu anaf difrifol a ddioddefir gan blentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 3 para. 29 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

30.  Unrhyw gŵyn ddifrifol ynghylch darpar fabwysiadydd a gymeradwywyd gan y gwasanaeth pan fo plentyn wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r darpar fabwysiadydd hwnnw gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 3 para. 30 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

31.  Unrhyw gŵyn ddifrifol ynghylch darpar fabwysiadydd a gymeradwywyd gan y gwasanaeth pan fo plentyn wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r darpar fabwysiadydd hwnnw gan asiantaeth fabwysiadu arall (os nas hysbyswyd fel yr asiantaeth leoli).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 3 para. 31 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

32.  Cychwyn a chanlyniad unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 3 para. 32 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

RHAN 6LL+CHysbysiadau i’r awdurdod lleoli gan ddarparwr cymdeithas fabwysiadu

33.  Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 3 para. 33 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

34.  Unrhyw ddamwain neu anaf difrifol a ddioddefir gan blentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 3 para. 34 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

35.  Unrhyw gŵyn ddifrifol ynghylch darpar fabwysiadydd a gymeradwywyd gan y gwasanaeth pan fo plentyn wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r darpar fabwysiadydd hwnnw gan asiantaeth fabwysiadu arall.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 3 para. 35 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

36.  Cychwyn a chanlyniad unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 3 para. 36 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

RHAN 7LL+CHysbysiadau i’r awdurdod lleoli gan ddarparwr asiantaeth cymorth mabwysiadu neu gymdeithas fabwysiadu sy’n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu

37.  Marwolaeth plentyn wrth gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 3 para. 37 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

38.  Unrhyw ddamwain neu anaf difrifol a ddioddefir gan blentyn wrth gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 3 para. 38 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

39.  Cychwyn a chanlyniad unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sy’n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 3 para. 39 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

RHAN 8LL+CHysbysiad i’r awdurdod perthnasol

40.  Marwolaeth neu unrhyw ddamwain neu anaf difrifol a ddioddefir gan blentyn wrth gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 3 para. 40 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

RHAN 9LL+CHysbysiad i’r heddlu

41.  Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 3 para. 41 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 53

ATODLEN 4LL+CHysbysiadau gan yr unigolyn cyfrifol

1.  Penodi rheolwr (gweler rheoliad 37(1)).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

2.  Absenoldeb disgwyliedig y rheolwr a benodir, am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

3.  Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl iʼr absenoldeb ddechrau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

4.  Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth iʼr 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrauʼr absenoldeb ddod i ben.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

5.  Bod y rheolwr a benodir yn dychwelyd o fod yn absennol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

6.  Trefniadau interim pan foʼr rheolwr yn absennol am fwy nag 28 o ddiwrnodau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

7.  Bod rhywun ac eithrio’r rheolwr a benodir yn bwriadu rheoli neu yn rheoli’r gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

8.  Bod y rheolwr a benodir yn peidio, neuʼn bwriadu peidio, â rheoliʼr gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

(2)

2006 p. 47. Mae adrannau newydd 30A a 30B i’w rhoi yn lle adrannau 30 i 32 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 fel y’u deddfwyd yn wreiddiol o ganlyniad i amnewidiadau a wnaed gan adran 72(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012. Mae adran 72(1) i’w chychwyn ar ddiwrnod i’w benodi.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill