Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Part
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
RHAN 5Diwygio DCRhT
Diwygio DCRhT yn deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd
5.—(1) Mae DCRhT wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 4 (anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredol), hepgorer paragraff (c).
(3) Yn adran 65(4)(a) (cyfoethogi anghyfiawn: darpariaeth bellach), yn lle “ddeddfwriaeth yr UE” rhodder “ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir”.
(4) Yn adran 67(11) (achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliad)—
(a)hepgorer y geiriau o “os yw’r dreth ddatganoledig” hyd at “yn groes i”;
(b)ym mharagraff (a), yn lle “y darpariaethau” rhodder “os yw’r dreth ddatganoledig a godir, yn yr amgylchiadau o dan sylw, yn groes i’r darpariaethau”;
(c)ar ôl paragraff (a), yn lle “neu” rhodder “a”;
(d)yn lle paragraff (b) rhodder—
“(b)os yw’r hawliau a roddir gan y darpariaethau hynny, ar yr adeg y codir y dreth, yn cael eu cydnabod ac ar gael mewn cyfraith ddomestig yn rhinwedd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y Ddeddf honno.”
Yn ôl i’r brig