Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 895 (Cy. 161)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

Gwnaed

29 Ebrill 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Ebrill 2019

Yn dod i rym

27 Mai 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Mai 2019.

Cymhwyso

2.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019 pa un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Awst 2019.

(3Ond nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs o’r fath os yw’r cwrs yn un y mae statws y myfyriwr wedi trosglwyddo mewn perthynas ag ef o dan reoliad 6 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017(3) (“Rheoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017”).

(4Am ddarpariaeth ynghylch cymorth a ddarperir i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs—

(a)y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, neu

(b)sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019,

gweler Rheoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017.

RHAN 2Trosolwg

Trosolwg

3.—(1Mae’r Rhannau sy’n weddill o’r Rheoliadau hyn wedi eu trefnu fel a ganlyn.

(2Mae Rhan 3 yn cyflwyno 2 Atodlen—

(a)Atodlen 1, sy’n cynnwys darpariaethau ynghylch dehongli termau allweddol penodol;

(b)Atodlen 4, sy’n cynnwys mynegai o’r termau sydd wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn.

(3Mae 2 Bennod i Ran 4, sy’n cynnwys darpariaeth ynghylch y cysyniadau allweddol sy’n penderfynu ar gymhwystra i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn—

(a)mae Pennod 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch penderfynu a yw cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn ac felly yn gwrs y caiff myfyriwr fod yn gymwys i gael cymorth mewn cysylltiad ag ef;

(b)mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y caiff myfyriwr sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig fod yn gymwys i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn.

(4Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth weinyddol ynghylch—

(a)ceisiadau am gymorth o dan y Rheoliadau hyn;

(b)gofynion a osodir ar geiswyr a myfyrwyr cymwys i ddarparu gwybodaeth;

(c)contractau ar gyfer benthyciadau y gwneir cais amdanynt o dan y Rheoliadau hyn.

(5Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cymorth grant sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)yr amodau cymhwyso y mae rhaid i fyfyriwr eu bodloni er mwyn cymhwyso i gael grant;

(b)swm y grant sydd ar gael.

(6Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cymorth benthyciad sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)yr amodau cymhwyso y mae rhaid i fyfyriwr eu bodloni er mwyn cymhwyso i gael benthyciad;

(b)swm y benthyciad sydd ar gael.

(7Mae 3 Pennod i Ran 8 ynghylch taliadau, gordaliadau ac adennill gordaliadau, yn benodol—

(a)mae Pennod 1 yn gwneud darpariaeth sy’n caniatáu i daliadau gael eu gwneud ar sail penderfyniadau dros dro;

(b)mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch talu grantiau a benthyciadau, gan gynnwys darpariaeth ynghylch pryd y caniateir i daliadau gael eu gwneud a’r gofynion sydd i’w bodloni cyn y gwneir taliadau;

(c)mae Pennod 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch gordaliadau, gan gynnwys darpariaeth sy’n pennu’r hyn sy’n ordaliad a sut y caniateir i ordaliad gael ei adennill.

(8Mae Rhan 9 yn nodi cyfyngiadau ar dalu benthyciadau, gan gynnwys darpariaeth sy’n—

(a)cyfyngu ar dalu benthyciad os yw’r myfyriwr yn methu â darparu rhif Yswiriant Gwladol;

(b)cadw taliad benthyciad yn ôl os yw’r myfyriwr yn methu â darparu gwybodaeth benodol y gofynnir amdani.

(9Mae Rhan 10 yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017.

RHAN 3Dehongli a’r mynegai

Dehongli a’r mynegai

4.—(1Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli termau allweddol penodol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2Mae Atodlen 4, sef yr Atodlen olaf i’r Rheoliadau hyn, yn cynnwys y mynegai o dermau wedi eu diffinio.

RHAN 4Cysyniadau allweddol

PENNOD 1Cyrsiau dynodedig

Cyrsiau dynodedig

5.  Yn y Rheoliadau hyn (ac at ddibenion adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (“Deddf 1998”)), mae cwrs yn gwrs dynodedig—

(a)os yw’n bodloni pob un o’r amodau yn rheoliad 6, a

(b)os nad yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau yn rheoliad 7.

Cyrsiau dynodedig – amodau

6.—(1Yr amodau yw—

Amod 1

Mae’r cwrs yn un—

(a)sy’n arwain at ddyfarndal sydd wedi ei roi neu sydd i’w roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(4), a

(b)y mae’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs wedi eu cymeradwyo gan y corff hwnnw.

Amod 2

Mae’r cwrs yn un o’r canlynol—

(a)cwrs llawnamser sy’n para un flwyddyn academaidd neu ddwy flynedd academaidd, neu

(b)cwrs rhan-amser y mae fel arfer yn bosibl ei gwblhau ymhen pedair blynedd academaidd.

Amod 3

Mae’r cwrs wedi ei ddarparu gan—

(a)sefydliad a gyllidir gan Gymru, sefydliad a gyllidir gan yr Alban, sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon neu sefydliad rheoleiddiedig Seisnig (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd o fewn neu y tu allan i’r Deyrnas Unedig), neu

(b)sefydliad Seisnig cofrestredig ar ran darparwr cynllun Seisnig.

Amod 4

Mae o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs yn cael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig.

(2At ddibenion Amod 3—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn—

(i)sefydliad a gyllidir gan Gymru,

(ii)sefydliad a gyllidir gan yr Alban,

(iii)sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon,

(iv)sefydliad rheoleiddiedig Seisnig,

(v)sefydliad Seisnig cofrestredig, neu

(vi)darparwr cynllun Seisnig,

os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn sefydliad o’r fath;

(c)ni fernir bod sefydliad yn sefydliad a gyllidir gan Gymru dim ond am ei fod yn cael arian oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch fel sefydliad cysylltiedig yn unol ag adran 65(3A) a (3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(5).

Cyrsiau dynodedig – eithriadau

7.  Nid yw cwrs yn gwrs dynodedig os yw’n cael ei gydnabod yn gwrs dynodedig at ddibenion—

(a)rheoliad 5 neu 83 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(6) (“Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2017”);

(b)rheoliad 5 neu 8 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(7) (“Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2018”);

(c)rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(8) (“Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol 2018”).

Dynodi cyrsiau eraill

8.—(1Caiff Gweinidogion Cymru bennu bod cwrs i’w drin fel pe bai’n gwrs dynodedig er gwaethaf y ffaith na fyddai fel arall yn gwrs dynodedig, oni bai am y pennu.

(2Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu pennu cwrs a wneir o dan baragraff (1).

PENNOD 2Cymhwystra

Myfyrwyr cymwys

9.—(1Mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’r person yn ymgymryd ag ef—

(a)os yw’r person yn dod o fewn un o’r categorïau o bersonau a nodir yn Atodlen 2, a

(b)os nad yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau a nodir yn rheoliad 10 yn gymwys i’r person.

(2Dim ond mewn cysylltiad ag un cwrs dynodedig y caiff person fod yn fyfyriwr cymwys ar unrhyw un adeg.

Myfyrwyr cymwys – eithriadau

10.—(1Nid yw person (“P”) yn fyfyriwr cymwys os yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—

Eithriad 1

Mae P wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad.

Eithriad 2

Mae P wedi cyrraedd 18 oed ac nid yw wedi cadarnhau unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad a wnaed gyda P pan oedd P o dan 18 oed.

Eithriad 3

Mae Gweinidogion Cymru yn meddwl bod ymddygiad P o’r fath fel nad yw P yn addas i gael cymorth.

Eithriad 4

Mae P yn garcharor, oni bai bod P yn garcharor cymwys.

Eithriad 5

Mae P wedi ymrestru ar gwrs sy’n gwrs dynodedig o dan—

(a)rheoliad 5, 66 neu 83 o Reoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2017 ac yn cael cymorth o dan y Rheoliadau hynny ar gyfer y cwrs hwnnw;

(b)rheoliad 5 o Reoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2018 ac yn cael cymorth o dan y Rheoliadau hynny ar gyfer y cwrs hwnnw;

(c)rheoliad 4 o Reoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017 ac yn cael cymorth o dan y Rheoliadau hynny ar gyfer y cwrs hwnnw;

(d)rheoliad 4 o Reoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol 2018 ac yn cael cymorth o dan y Rheoliadau hynny ar gyfer y cwrs hwnnw.

Eithriad 6

Mae P eisoes wedi cael cymhwyster cyfatebol neu uwch.

Eithriad 7

Mae P eisoes wedi ymrestru ar gwrs dynodedig ac yn cael cymorth o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer y cwrs hwnnw.

Eithriad 8

Mae P wedi cael cymorth yn flaenorol mewn cysylltiad â chwrs—

(a)o dan y Rheoliadau hyn,

(b)o dan Reoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017, neu

(c)ar ffurf benthyciad a ddarparwyd o gronfeydd a ddarperir gan awdurdod llywodraeth o fewn y Deyrnas Unedig.

Ond caiff P fod yn fyfyriwr cymwys er gwaethaf yr eithriad hwn os yw Gweinidogion Cymru o’r farn nad oedd P wedi gallu cwblhau’r cwrs yr oedd y benthyciad blaenorol yn ymwneud ag ef o ganlyniad i resymau personol anorchfygol.

Eithriad 9

Mewn cysylltiad â P yn ymgymryd â’r cwrs dynodedig, rhoddwyd i P neu talwyd iddo—

(a)bwrsari gofal iechyd;

(b)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007(9);

(c)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wneir o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(10) ac eithrio i’r graddau y mae P yn gymwys i gael y taliad hwnnw mewn cysylltiad â threuliau teithio;

(d)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wneir o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(11) ac eithrio i’r graddau y mae P yn gymwys i gael y taliad hwnnw mewn cysylltiad â threuliau teithio;

(e)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal a wneir o dan Gynllun KESS 2.

Eithriad 10

Mae’r cwrs dynodedig yn gwrs dysgu o bell ac nid yw P yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—

(a)bo P neu berthynas agos i P yn aelod o’r lluoedd arfog,

(b)na fo P yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac

(c)na fo P yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod P neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.

Eithriad 11

Mae P yn 60 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig.

(2Yn Eithriadau 1 a 2, ystyr “benthyciad” yw benthyciad a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth o’r ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(3Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond arfer eu disgresiwn o dan Eithriad 8 unwaith mewn cysylltiad â myfyriwr penodol.

Cyfnod cymhwystra – y rheol gyffredinol

11.—(1Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig tan ddiwedd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr oni bai bod ei statws wedi ei derfynu yn unol â rheoliad 12 neu 13.

(2Daw cyfnod cymhwystra myfyriwr i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi.

Terfynu cymhwystra yn gynnar

12.—(1Mae cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys (“P”) yn terfynu ar ddiwedd y diwrnod—

(a)pan fydd P yn tynnu’n ôl o’i gwrs dynodedig ac nad yw Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws P fel myfyriwr cymwys o dan reoliad 17, neu

(b)pan fydd P yn cefnu ar ei gwrs dynodedig neu’n cael ei ddiarddel ohono.

(2Pan—

(a)bo cwrs dynodedig myfyriwr cymwys (“P”) yn gwrs dysgu o bell, a

(b)bo P yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig,

mae cyfnod cymhwystra P yn terfynu ar ddechrau’r diwrnod cyntaf pan fydd P yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo P yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd bod P neu berthynas agos i P yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog.

Camymddwyn a methu â darparu gwybodaeth gywir

13.—(1Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys os ydynt wedi eu bodloni bod ymddygiad y myfyriwr o’r fath fel nad yw’r myfyriwr yn addas mwyach i gael cymorth.

(2Mae paragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys—

(a)wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth o dan y Rheoliadau hyn, neu

(b)wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth a oedd yn sylweddol anghywir.

(3Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)terfynu cyfnod cymhwystra’r myfyriwr;

(b)penderfynu nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael categori penodol o gymorth neu swm y cymorth hwnnw.

Adfer cymhwystra ar ôl terfynu

14.  Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr yn terfynu o dan reoliad 12 neu 13 yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi, caiff Gweinidogion Cymru adfer cyfnod cymhwystra’r myfyriwr am unrhyw gyfnod y maent yn meddwl ei fod yn briodol.

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod cwrs

15.  Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 16(1) yn digwydd yn ystod cwrs myfyriwr, caiff myfyriwr gymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn, ar yr amod bod y myfyriwr yn cydymffurfio â’r darpariaethau gwneud cais a nodir yn Rhan 5.

16.—(1Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys ar y sail—

(i)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(ii)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r UE pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

(iii)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu gwladolyn UE;

(iv)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(v)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(vi)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 2;

(vii)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd;

(viii)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(c)bod y myfyriwr yn cychwyn cwrs dynodedig ar ôl dyddiad dechrau’r cwrs dynodedig am fod yr awdurdod academaidd perthnasol wedi caniatáu i’r myfyriwr gychwyn y cwrs ar y dyddiad dechrau diweddarach hwn.

(2Yn y rheoliad hwn, mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—

“aelod o deulu” (“family member”) (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 8(5) o Atodlen 2);

“ffoadur” (“refugee”);

“gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”);

“hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”);

“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”);

“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”);

“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”);

“plentyn” (“child”);

“rhiant” (“parent”).

Trosglwyddo statws

17.—(1Pan fo myfyriwr cymwys (“P”) yn trosglwyddo o gwrs dynodedig i gwrs dynodedig arall (“y cwrs newydd”), rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i’r cwrs newydd—

(a)os ydynt yn cael cais oddi wrth y myfyriwr i wneud hynny,

(b)os ydynt wedi eu bodloni bod un o’r seiliau trosglwyddo yn gymwys (gweler paragraff (2)), ac

(c)os nad yw cyfnod cymhwystra’r myfyriwr wedi terfynu.

(2Y seiliau dros drosglwyddo yw—

(a)bod P, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn rhoi’r gorau i un cwrs dynodedig ac yn dechrau ymgymryd â chwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad; neu

(b)bod P yn dechrau ymgymryd â chwrs dynodedig mewn sefydliad arall.

(3Pan fo P yn trosglwyddo o dan baragraff (1), mae hawlogaeth gan P, mewn cysylltiad â’r cwrs y mae P yn trosglwyddo iddo, i gael gweddill y cymorth, os oes unrhyw swm yn weddill, yn unol â rheoliad 33 a, phan fo’n berthnasol, reoliad 36, mewn cysylltiad â’r cwrs y mae P yn trosglwyddo ohono.

RHAN 5Ceisiadau, darparu gwybodaeth a chontractau benthyciadau

Gofyniad i wneud cais am gymorth

18.—(1Nid yw person yn cymhwyso i gael cymorth fel myfyriwr cymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig oni bai bod y person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â’r cwrs hwnnw.

(2Rhaid i gais o dan baragraff (1)—

(a)bod ar y ffurf honno a chynnwys yr wybodaeth honno sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru,

(b)dod gydag unrhyw ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru,

(c)cyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a bennir yn rheoliad 19, a

(d)datgan a yw’r person yn gwneud cais am—

(i)grant sylfaenol,

(ii)grant cyfrannu at gostau,

(iii)benthyciad cyfrannu at gostau, neu

(iv)unrhyw gyfuniad o’r uchod.

Terfynau amser

19.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i gais o dan reoliad 18(1) neu gais i ddiwygio swm y benthyciad o dan reoliad 31(4) gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o flwyddyn academaidd olaf y cwrs.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, na ddylai’r terfyn amser fod yn gymwys ac, yn yr achos hwnnw, rhaid i’r cais i ddiwygio’r swm gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag unrhyw ddyddiad a bennir ganddynt yn ysgrifenedig.

Penderfyniad Gweinidogion Cymru ar gais

20.—(1Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn meddwl eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniad ar gais o dan reoliad 18.

(2Caiff y camau hynny gynnwys ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth bellach.

(3Caiff Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad dros dro ar gais o dan reoliad 18 (gweler rheoliad 32 am ddarpariaeth ynghylch taliadau a wneir ar sail penderfyniad dros dro).

(4Caniateir i benderfyniad ar gais a wneir gan Weinidogion Cymru ar ôl i benderfyniad dros dro gael ei wneud—

(a)cadarnhau’r penderfyniad dros dro, neu

(b)rhoi penderfyniad gwahanol yn ei le.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am benderfyniad (gan gynnwys penderfyniad dros dro) ar gais o dan reoliad 18.

(6Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—

(a)a yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y ceisydd yn fyfyriwr cymwys,

(b)os felly, a yw’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael cymorth mewn perthynas â’r cwrs dynodedig,

(c)os yw’r myfyriwr yn cymhwyso, gategori’r cymorth y mae’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael a’r swm sy’n daladwy,

(d)yn achos penderfyniad dros dro, y ffaith bod y penderfyniad yn un dros dro a chanlyniadau’r ffaith honno.

21.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo person (“P”) yn gwneud cais am gymorth yn unol â rheoliad 18,

(b)pan na fo unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth a ddarperir gan P yn y cais, neu mewn cysylltiad ag ef, yn sylweddol anghywir, ac

(c)pan fo P yn cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 20(5) sy’n datgan yn anghywir fod P yn fyfyriwr cymwys.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, er bod yr hysbysiad yn datgan yn anghywir fod P yn fyfyriwr cymwys, caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion y Rheoliadau hyn, drin P fel pe bai’n fyfyriwr cymwys.

Gofynion ar fyfyrwyr cymwys i ddarparu gwybodaeth

22.—(1Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, rhaid i fyfyriwr cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru—

(a)at ddibenion penderfynu—

(i)cymhwystra myfyriwr;

(ii)a yw myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth;

(iii)y math o gymorth a swm y cymorth sy’n daladwy i fyfyriwr;

(iv)a yw gordaliad wedi cael ei wneud i fyfyriwr;

(b)at unrhyw ddiben sy’n ymwneud ag adennill gordaliad;

(c)at unrhyw ddiben sy’n ymwneud ag ad-dalu benthyciad;

(d)at unrhyw ddiben arall sy’n ymwneud â’r Rheoliadau hyn y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol.

(2Caniateir i gais o dan baragraff (1) gynnwys gofyn i fyfyriwr cymwys am gael gweld—

(a)ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae’r myfyriwr hwnnw yn wladolyn ohoni,

(b)ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, neu

(c)ei dystysgrif geni.

(3Pan fo digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (4) yn digwydd mewn cysylltiad â myfyriwr cymwys, rhaid i’r myfyriwr roi gwybod i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad.

(4Y digwyddiadau yw—

(a)bod y myfyriwr yn tynnu’n ôl o’i gwrs, yn cael ei atal dros dro ohono, yn cefnu arno neu’n cael ei ddiarddel ohono;

(b)bod y myfyriwr yn trosglwyddo i gwrs arall (pa un ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol);

(c)bod y myfyriwr fel arall yn peidio ag ymgymryd â’i gwrs ac nad yw’n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu na chaniateir iddo barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;

(d)bod y myfyriwr yn absennol o’r cwrs—

(i)am fwy na 60 niwrnod oherwydd salwch, neu

(ii)am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;

(e)bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs neu ei gwblhau yn newid;

(f)bod y manylion a ganlyn, sef—

(i)cyfeiriad cartref y ceisydd neu ei gyfeiriad yn ystod y tymor,

(ii)rhif ffôn cartref y ceisydd neu ei rif ffôn yn ystod y tymor, neu

(iii)cyfeiriad e-bost cartref y ceisydd neu ei gyfeiriad e-bost yn ystod y tymor,

yn newid;

(g)bod y ceisydd yn dod yn garcharor neu’n peidio â bod yn garcharor.

(5Rhaid darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei darparu i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn ar y ffurf honno a bennir gan Weinidogion Cymru.

(6Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod rhaid llofnodi—

(a)cais o dan reoliad 18;

(b)unrhyw ddogfennaeth arall a ddarperir iddynt o dan y Rheoliadau hyn,

yn y modd (gan gynnwys ar ffurf electronig) a bennir ganddynt.

(7Mae’r cyfeiriad at fyfyriwr cymwys ym mharagraff (1) i’w drin fel pe bai’n cynnwys person sy’n gwneud cais o dan reoliad 18 hyd yn oed os penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais yw nad yw’r person yn fyfyriwr cymwys.

(8Gweler rheoliad 13 am ddarpariaeth ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliad hwn.

Gofyniad i ymrwymo i gontract ar gyfer benthyciad

23.—(1Ni chaiff myfyriwr cymwys gael benthyciad cyfrannu at gostau o dan y Rheoliadau hyn oni bai bod y myfyriwr yn ymrwymo i gontract ar gyfer y benthyciad â Gweinidogion Cymru.

(2O ran y contract—

(a)rhaid iddo fod ar y ffurf ac ar y telerau, a

(b)caiff fod yn ofynnol iddo gael ei lofnodi yn y modd (gan gynnwys ar ffurf electronig),

a bennir gan Weinidogion Cymru.

RHAN 6Y grant sylfaenol a’r grant cyfrannu at gostau

PENNOD 1Amodau cymhwyso

Y grant sylfaenol a’r grant cyfrannu at gostau

24.  Grantiau sy’n cael eu rhoi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig yw’r grant sylfaenol a’r grant cyfrannu at gostau.

PENNOD 2Y grant sylfaenol

Swm y grant sylfaenol

25.  Swm y grant sylfaenol sydd ar gael i fyfyriwr cymwys yw £1,000.

PENNOD 3Grant cyfrannu at gostau

Amodau cymhwyso i gael grant cyfrannu at gostau

26.  Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant cyfrannu at gostau mewn perthynas â chwrs dynodedig oni bai bod y myfyriwr cymwys yn garcharor cymwys.

Swm y grant cyfrannu at gostau

27.—(1Uchafswm y grant cyfrannu at gostau sydd ar gael i fyfyriwr cymwys yw £5,885.

(2Pan—

(a)na fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370, neu

(b)bo’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal,

swm y grant cyfrannu at gostau yw £5,885.

(3Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370 ond yn llai na £59,200, swm y grant cyfrannu at gostau sy’n daladwy i’r myfyriwr yw uchafswm y grant cyfrannu at gostau, wedi ei ostwng £1 am bob £6.937 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370.

(4Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr cymwys yn £59,200 neu ragor, swm y grant cyfrannau at gostau sy’n daladwy yw £0.

Incwm yr aelwyd

28.  Gweler Atodlen 3 am ddarpariaeth ynghylch cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys.

Ystyr person sy’n ymadael â gofal

29.  Mae myfyriwr cymwys yn “person sy’n ymadael â gofal”—

(a)os yw’r myfyriwr o dan 25 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig,

(b)os yw’r myfyriwr yn gategori o berson ifanc, neu wedi bod yn gategori o berson ifanc, a ddiffinnir yn adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(12), neu yn rhinwedd yr adran honno, ac

(c)os, rhwng pen-blwydd y myfyriwr yn 14 oed a diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(i)oedd y myfyriwr yn derbyn gofal, wedi ei faethu neu wedi ei letya (o fewn ystyr adrannau 74 a 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) am gyfnod cyfanredol o 13 wythnos neu ragor, neu

(ii)oedd y myfyriwr yn berson yr oedd gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig (o fewn yr ystyr a roddir i “special guardianship order” gan adran 14A o Ddeddf Plant 1989(13)) mewn grym mewn cysylltiad ag ef am gyfnod o 13 wythnos neu ragor.

RHAN 7Benthyciad cyfrannu at gostau

Benthyciad cyfrannu at gostau

30.  Mae benthyciad cyfrannu at gostau yn fenthyciad sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig.

Swm y benthyciad cyfrannu at gostau

31.—(1Cyfrifir swm y benthyciad cyfrannu at gostau sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys fel a ganlyn—

  • Uchafswm y benthyciad cyfrannu at gostau sydd ar gael i’r myfyriwr mewn cysylltiad â chwrs dynodedig.

  • Minws

  • Swm y grant cyfrannu at gostau sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 27.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), uchafswm y benthyciad cyfrannu at gostau yw £16,000.

(3Pan fo carcharor cymwys yn gwneud cais am fenthyciad cyfrannu at gostau, ni chaiff swm y benthyciad fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(a)y ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig minws swm y grant sylfaenol sy’n daladwy i’r carcharor cymwys o dan reoliad 25, a

(b)£16,000.

(4Ac eithrio pan fo rheoliad 36(5) i (10) yn gymwys, caiff myfyriwr cymwys wneud cais i Weinidogion Cymru i ddiwygio swm y benthyciad cyfrannu at gostau y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, ar yr amod—

(a)nad yw cyfanred symiau’r benthyciad cyfrannu at gostau y gwneir cais amdanynt yn fwy na’r symiau cymwys a nodir ym mharagraffau (2) a (3);

(b)bod cais o’r fath yn cael ei wneud yn unol â rheoliad 18(2).

RHAN 8Taliadau, Gordaliadau ac Adennill

PENNOD 1Taliad yn dilyn penderfyniad dros dro

Taliad ar sail asesiad dros dro

32.  Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad dros dro ar gais a wneir o dan reoliad 18, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad sy’n seiliedig ar y penderfyniad hwnnw.

PENNOD 2Talu grantiau a benthyciadau

Talu grantiau a benthyciadau

33.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru dalu swm y grant sylfaenol, y grant cyfrannu at gostau neu’r benthyciad cyfrannu at gostau i fyfyriwr cymwys pan fo’n daladwy i’r myfyriwr.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff Gweinidogion Cymru dalu’r swm hwnnw—

(a)naill ai fel cyfandaliad neu mewn rhandaliadau, a

(b)ar unrhyw adegau, ac mewn unrhyw fodd, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn amod o’r hawlogaeth i gael taliad bod yn rhaid i’r myfyriwr cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy drosglwyddiad electronig.

(4Yn achos carcharor cymwys, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant sylfaenol a’r benthyciad cyfrannu at gostau y mae carcharor cymwys yn cymhwyso i’w cael i’r sefydliad y mae’r carcharor cymwys yn atebol i wneud taliad o’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig iddo neu i unrhyw drydydd parti y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol at ddiben sicrhau y telir y ffioedd hynny i’r sefydliad perthnasol.

Cadarnhad o bresenoldeb

34.—(1Ni chaiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant neu’r benthyciad neu unrhyw randaliad o’r grant neu’r benthyciad y mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael oni bai eu bod wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol gadarnhad (ar y ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru) o bresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs dynodedig.

(2Rhaid i’r awdurdod academaidd roi gwybod i Weinidogion Cymru ar unwaith a darparu manylion i Weinidogion Cymru os yw’r myfyriwr yn tynnu’n ôl o’r cwrs dynodedig, yn cael ei atal dros dro neu ei ddiarddel ohono, neu os yw fel arall yn absennol.

(3Nid yw myfyriwr cymwys i’w ystyried yn absennol o’i gwrs os nad yw’n gallu bod yn bresennol oherwydd salwch ac nad yw’r myfyriwr cymwys wedi bod yn absennol am fwy na 60 niwrnod.

Absenoldeb o’r cwrs

35.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), os yw Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan reoliad 34(2) neu o dan reoliad 22(3) mewn perthynas â digwyddiad a restrir yn rheoliad 22(4)(a) i (d), ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad pellach o’r grant sylfaenol, y grant cyfrannu at gostau neu’r benthyciad cyfrannu at gostau mewn cysylltiad â’r myfyriwr cymwys y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(2Caniateir gwneud taliadau pellach er gwaethaf diffyg presenoldeb y myfyriwr os, ym marn Gweinidogion Cymru, byddai’r taliadau hynny yn briodol o dan yr holl amgylchiadau yn ystod absenoldeb y myfyriwr.

(3Os yw’r myfyriwr cymwys yn ailgychwyn y cwrs dynodedig, rhaid i’r myfyriwr hysbysu Gweinidogion Cymru a rhoi manylion llawn am hyd ac achos yr absenoldeb blaenorol.

(4Ar ôl ystyried hysbysiad y myfyriwr o dan baragraff (3), caiff Gweinidogion Cymru ailgychwyn unrhyw daliadau sy’n weddill o’r grant sylfaenol, y grant cyfrannu at gostau neu’r benthyciad cyfrannu at gostau o dan reoliad 33 os, ym marn Gweinidogion Cymru, byddai’n briodol o dan yr holl amgylchiadau i’r taliad hwnnw gael ei wneud.

Effaith dod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys

36.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo myfyriwr cymwys sy’n cael grant sylfaenol, grant cyfrannu at gostau neu fenthyciad cyfrannu at gostau yn dod yn garcharor cymwys ac yn parhau i ymgymryd â chwrs dynodedig.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)peidio â gwneud unrhyw daliad yn y dyfodol o’r grant cyfrannu at gostau,

(b)addasu taliad o’r grant sylfaenol a’r benthyciad cyfrannu at gostau yn y dyfodol neu daliadau yn y dyfodol o randaliadau’r grant sylfaenol a’r benthyciad cyfrannu at gostau, fel nad yw cyfanswm y cymorth a geir gan y myfyriwr cymwys yn fwy na’r swm y mae hawlogaeth gan y myfyriwr, fel carcharor cymwys, i’w gael o dan reoliad 31(3), ac

(c)gwneud unrhyw daliadau yn y dyfodol o’r grant sylfaenol neu’r benthyciad cyfrannu at gostau, yn unol â rheoliad 33(4).

(3Mae paragraffau (4) i (10) yn gymwys pan fo carcharor cymwys sy’n cael grant sylfaenol neu fenthyciad cyfrannu at gostau yn peidio â bod yn garcharor cymwys ac yn aros yn fyfyriwr cymwys, ac yn parhau i ymgymryd â chwrs dynodedig.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru wneud unrhyw daliadau o’r grant sylfaenol, y benthyciad cyfrannu at gostau a’r grant cyfrannu at gostau yn y dyfodol, os oes rhai, yn unol â rheoliad 33(2).

(5Pan fo myfyriwr cymwys (“P”) yn peidio â bod yn garcharor cymwys caiff P, yn ddarostyngedig i baragraffau (6) i (8) wneud cais am grant cyfrannu at gostau.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (8), cyfrifir swm y grant cyfrannu at gostau sy’n daladwy i P drwy gyfeirio at y fformiwla a ganlyn—

pan fo—

  • G yn gyfwerth ag uchafswm y grant cyfrannu at gostau sy’n daladwy i P yn unol â pharagraff (7);

  • T yn gyfwerth â chyfanswm nifer y diwrnodau y mae’r cwrs dynodedig yn para;

  • R yn gyfwerth â nifer y diwrnodau o’r cwrs dynodedig sy’n weddill pan fydd P yn peidio â bod yn garcharor cymwys.

(7Uchafswm y grant cyfrannu at gostau sy’n daladwy i P yw—

(a)£5,885 pan na fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370;

(b)£5,885 wedi ei ostwng £1 am bob £6.937 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370;

(c)£0 pan fo incwm aelwyd y myfyriwr yn £59,200 neu ragor.

(8Ni chaiff swm y grant cyfrannu at gostau sy’n daladwy i fyfyriwr o dan baragraff (6) fod yn fwy nag £16,000 minws A, pan A yw swm y benthyciad cyfrannu at gostau y mae’r myfyriwr eisoes wedi ei gael pan fydd yn peidio â bod yn garcharor cymwys.

(9Pan fo P yn peidio â bod yn garcharor cymwys caiff P, yn ddarostyngedig i baragraff (10), wneud cais i swm y benthyciad cyfrannu at gostau gael ei gynyddu.

(10Cyfrifir yr uchafswm cynnydd ym menthyciad cyfrannu at gostau P y caiff P wneud cais amdano o dan baragraff (9) drwy gyfeirio at y fformiwla a ganlyn—

pan fo—

  • J yn gyfwerth ag £16,000 minws uchafswm y grant cyfrannu at gostau sy’n daladwy i P o dan baragraff (7);

  • F yn gyfwerth â swm y benthyciad cyfrannu at gostau y mae P yn cymhwyso i’w gael fel carcharor cymwys;

  • T yn gyfwerth â chyfanswm nifer y diwrnodau y mae’r cwrs dynodedig yn para;

  • R yn gyfwerth â nifer y diwrnodau o’r cwrs dynodedig sy’n weddill pan fydd P yn peidio â bod yn garcharor cymwys.

PENNOD 3Gordaliadau ac adennill

Gordaliadau – cyffredinol

37.—(1Pan fo myfyriwr cymwys wedi cael swm unrhyw grant neu unrhyw fenthyciad cyfrannu at gostau sy’n fwy na’r swm y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i’w gael o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r myfyriwr ad-dalu’r swm dros ben os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.

(2Yn y Bennod hon, mae cyfeiriadau at fyfyriwr cymwys i’w trin fel pe baent yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth ond nad yw’n fyfyriwr cymwys neu nad yw’n fyfyriwr cymwys mwyach.

Adennill grantiau sydd wedi cael eu gordalu

38.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o grant oni bai eu bod yn meddwl nad yw’n briodol gwneud hynny.

(2Mae taliad o grant sydd wedi ei wneud cyn y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau arno yn ordaliad os yw’r myfyriwr yn tynnu’n ôl o’r cwrs cyn y diwrnod hwnnw.

(3Caniateir adennill gordaliad o grant drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw grant sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.

(4Nid yw paragraff (3) yn rhwystro Gweinidogion Cymru rhag adennill gordaliad drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.

Adennill gordaliad o’r benthyciad cyfrannu at gostau

39.—(1Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad cyfrannu at gostau oddi wrth—

(a)y sefydliad neu’r trydydd parti a gafodd arian y benthyciad cyfrannu at gostau pan wnaed taliad i’r sefydliad hwnnw neu’r trydydd parti hwnnw, neu

(b)y myfyriwr a gafodd y benthyciad cyfrannu at gostau.

(2Caniateir adennill gordaliad o fenthyciad cyfrannu at gostau oddi wrth fyfyriwr o dan baragraff (1)(b) ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o’r ffyrdd a ganlyn y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau—

(a)drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw swm o’r benthyciad cyfrannu at gostau sy’n weddill i’w dalu;

(b)drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant neu fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(c)drwy ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr ad-dalu’r benthyciad cyfrannu at gostau yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(d)drwy gymryd unrhyw gamau gweithredu eraill i adennill y gordaliad sydd ar gael iddynt.

Ad-dalu

40.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i geisydd neu fyfyriwr cymwys ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad cyfrannu at gostau drwy ddull penodol.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud yn ofynnol cael cytundeb ynghylch y dull ad-dalu o dan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru gadw’n ôl unrhyw daliad o fenthyciad cyfrannu at gostau hyd nes bod y ceisydd neu’r myfyriwr cymwys yn darparu’r hyn a wnaed yn ofynnol.

RHAN 9Cyfyngiadau sy’n ymwneud â benthyciadau cyfrannu at gostau

Gofyniad i ddarparu rhif yswiriant gwladol

41.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn amod o’r hawlogaeth i gael taliad o’r benthyciad cyfrannu at gostau neu unrhyw randaliad o’r benthyciad fod yn rhaid i fyfyriwr cymwys ddarparu iddynt ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.

(2Os yw’r amod hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad cyfrannu at gostau hyd nes bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio ag ef, oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai’n briodol gwneud taliad er na chydymffurfiwyd â’r amod.

Gofynion gwybodaeth sy’n ymwneud â benthyciadau

42.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth o dan reoliad 22(1), at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir ym mharagraff (2) o’r rheoliad hwn, cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad cyfrannu at gostau neu grant cyfrannu at gostau hyd nes bod y myfyriwr yn cydymffurfio â’r gofyniad neu’n darparu esboniad boddhaol dros beidio â gwneud hynny.

(2Y dibenion yw—

(a)penderfynu a yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys sy’n cymhwyso i gael benthyciad;

(b)penderfynu ar swm y benthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr;

(c)unrhyw fater sy’n ymwneud â thalu benthyciad gan y myfyriwr.

RHAN 10Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017

43.  Mae Rheoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

44.  Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddarparu benthyciadau at radd feistr ôl-raddedig i fyfyrwyr mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019 oni bai bod rheoliad 2(3) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 yn gymwys i’r cwrs.

45.  Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—

(a)yn lle’r diffiniad o “ffioedd” rhodder—

mae i “ffioedd” (“fees”) yr ystyr a roddir yn adran 57(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(14);;

(b)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”) yw person—

(a)

y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016(15) ac yn unol â’r rheolau mewnfudo(16); a

(b)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;.

46.  Yn rheoliad 4—

(a)yn lle paragraff (1)(b) rhodder—

(b)os yw’n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a oedd yn cael ei gyllido’n gyhoeddus (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad arall o’r fath neu â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig);;

(b)yn lle paragraff (3)(d) rhodder—

(d)ni fernir bod sefydliad wedi cael ei gyllido’n gyhoeddus cyn 1 Awst 2019 dim ond am ei fod wedi cael arian o gronfeydd cyhoeddus cyn y dyddiad hwnnw gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992; ac.

47.  Yn rheoliad 8 (digwyddiadau), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;.

48.  Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 5 (personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—

Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67

5A.(1) Person—

(a)sy’n berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

29 Ebrill 2019

YR ATODLENNI

Rheoliad 4(1)

ATODLEN 1Dehongli

Ystyr blwyddyn academaidd

1.—(1Penderfynir ar “blwyddyn academaidd”, mewn cysylltiad â chwrs, fel a ganlyn—

(a)nodi’r cyfnod yng Ngholofn 2 o Dabl 1 y mae’r flwyddyn academaidd yn dechrau ynddo mewn gwirionedd;

(b)y flwyddyn academaidd yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y dyddiad a bennir yn y cofnod yng Ngholofn 1 o’r Tabl sy’n cyfateb i’r cyfnod a nodir yng Ngholofn 2.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “blwyddyn academaidd” yn gyfeiriad at flwyddyn y penderfynir arni yn unol ag is-baragraff (1).

Tabl 1

Colofn 1

Dyddiad dechrau’r flwyddyn academaidd at ddibenion y Rheoliadau hyn

Colofn 2

Y cyfnod y mae’r flwyddyn academaidd yn dechrau ynddo

1 MediAr neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr
1 IonawrAr neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill
1 EbrillAr neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf
1 GorffennafAr neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst

Sefydliadau addysgol

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “sefydliad a gyllidir gan Gymru” yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion Cymru;

(b)ystyr “sefydliad a gyllidir gan yr Alban” yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion yr Alban;

(c)ystyr “sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon” yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon;

(d)ystyr “sefydliad rheoleiddiedig Seisnig” yw sefydliad Seisnig cofrestredig sy’n ddarostyngedig i amod terfyn ffioedd o dan adran 10 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017(17);

(e)ystyr “sefydliad Seisnig cofrestredig” yw sefydliad sydd wedi ei gofrestru gan y Swyddfa Fyfyrwyr(18) yn y gofrestr;

(f)ystyr “darparwr cynllun Seisnig” yw sefydliad Seisnig cofrestredig sydd â chynllun mynediad a chyfranogiad a gymeradwywyd gan y Swyddfa Fyfyrwyr o dan adran 29 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 ac sy’n parhau mewn grym.

(2Yn y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at y gofrestr yn gyfeiriad at y gofrestr a sefydlwyd ac a gynhelir gan y Swyddfa Fyfyrwyr o dan adran 3 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017.

Dehongli termau allweddol eraill

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod o’r lluoedd arfog” (“member of the armed forces”) yw aelod o lynges, byddin neu lu awyr rheolaidd y Goron;

ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw’r corff llywodraethu neu gorff arall a chanddo swyddogaethau corff llywodraethu ac mae’n cynnwys person sy’n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;

ystyr “blwyddyn academaidd gyfredol” (“current academic year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth ynddi;

ystyr “bwrsari gofal iechyd” (“healthcare bursary”) yw bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63(6) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(19) neu Erthygl 44 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(20);

ystyr “carcharor” (“prisoner”) yw person sy’n bwrw dedfryd mewn carchar yn y Deyrnas Unedig gan gynnwys person sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad troseddwyr ifanc (ac mae “carchar” i’w ddehongli yn unol â hynny);

ystyr “carcharor cymwys” (“eligible prisoner”) yw carcharor—

(a)

sy’n dechrau cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Awst 2019,

(b)

sydd wedi ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu gan awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs dynodedig, ac

(c)

y mae ei ddyddiad rhyddhau cynharaf o fewn 4 blynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig;

ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“public funds”) yw arian a ddarperir gan Senedd y Deyrnas Unedig gan gynnwys cronfeydd a ddarperir gan Weinidogion Cymru;

ystyr “cwrs” (“course”), oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw rhaglen astudio a gaiff ei haddysgu, rhaglen ymchwil, neu gyfuniad o’r ddwy, ac a gaiff gynnwys un neu ragor o gyfnodau o brofiad gwaith, ac sy’n arwain, ar ôl eu cwblhau’n llwyddiannus, at ddyfarnu gradd feistr ôl-raddedig;

ystyr “cwrs dysgu o bell” (“distance learning course”) yw cwrs nad yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr sy’n ymgymryd â’r cwrs fod yn bresennol mewn perthynas ag ef, ac eithrio i fodloni unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad—

(a)

at ddiben cofrestru, ymrestru neu unrhyw arholiad, neu

(b)

ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;

ystyr “cyfnodau o brofiad gwaith” (“periods of work experience”) yw—

(a)

cyfnodau o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol sy’n gysylltiedig â’r cwrs dynodedig mewn sefydliad, ond mewn man y tu allan i’r sefydliad hwnnw;

(b)

cyfnodau pan fydd myfyriwr yn cael ei gyflogi ac yn preswylio mewn gwlad y mae ei hiaith yn un y mae’r myfyriwr yn ei hastudio ar gyfer cwrs dynodedig y myfyriwr hwnnw (ar yr amod bod y cyfnod preswylio yn y wlad honno yn un o ofynion cwrs y myfyriwr hwnnw a bod astudio un neu ragor o ieithoedd modern yn cyfrif am ddim llai na hanner cyfanswm yr amser a dreulir yn astudio ar y cwrs);

ystyr “cymhwyster cyfatebol neu uwch” (“equivalent or higher qualification”) yw cymhwyster y penderfynir yn unol â pharagraff (2) ei fod yn gymhwyster cyfatebol neu uwch;

ystyr “cymorth” (“support”), ac eithrio pan nodir fel arall, yw cymorth ariannol ar ffurf grant neu fenthyciad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan—

(a)

y Rheoliadau hyn, neu

(b)

unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

ystyr “Cynllun KESS 2” (“KESS 2 Scheme”) yw Cynllun Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth 2 a gyllidir, yn rhannol, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop(21);

ystyr “dyfarndal statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarndal a roddir, unrhyw grant a delir, neu unrhyw gymorth arall a ddarperir, yn rhinwedd Deddf 1998 neu Ddeddf Addysg 1962(22), neu unrhyw ddyfarndal, grant neu gymorth arall cyffelyb, mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs sy’n cael ei dalu o gronfeydd cyhoeddus;

ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(23), Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(24), Deddf Addysg (Yr Alban) 1980(25) a rheoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny neu’r Gorchymyn hwnnw, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(26) a rheoliadau a wneir o dan y Gorchymyn hwnnw neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wneir o dan Ddeddf 1998;

mae i “ffioedd” (“fees”) yr ystyr a roddir yn adran 57(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(27);

ystyr “gwladolyn UE” (“EU national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o’r UE;

mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys dogfennau;

ystyr “perthynas agos” (“close relative”) (mewn perthynas â pherson (“P”)) yw—

(a)

priod neu bartner sifil P;

(b)

person sy’n byw fel arfer gyda P fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil i P;

(c)

rhiant P, pan fo P o dan 25 oed;

(d)

plentyn P, pan fo P yn ddibynnol ar y plentyn hwnnw.

(2Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu bod cymhwyster yn gymhwyster cyfatebol neu uwch—

(a)os oes gan fyfyriwr cymwys gymhwyster uwch o unrhyw sefydliad pa un a yw yn y Deyrnas Unedig ai peidio, a

(b)os yw’r cymhwyster y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn radd feistr ôl-raddedig o sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu os yw o lefel academaidd sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn cyfateb i gymhwyster y mae’r cwrs dynodedig yn arwain ato neu’n uwch na’r cymhwyster hwnnw.

Rheoliad 9(1)(a)

ATODLEN 2Categorïau o fyfyrwyr cymwys

Categori 1 – Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

1.—(1Person—

(a)sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol, a

(ii)yn preswylio fel arfer yng Nghymru,

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)na fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (b), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 11(2)).

(2Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ennill yr hawl i breswylio’n barhaol,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Categori 2 – Ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd

2.—(1Person—

(a)sy’n ffoadur,

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r person gael ei gydnabod yn ffoadur, ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i ffoadur,

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches,

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, a

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy’n blentyn i ffoadur neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur,

(b)ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches, a oedd yn blentyn i’r ffoadur neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad hwnnw,

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches,

(d)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, ac

(e)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Categori 3 – Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd

3.—(1Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—

(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)(i)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth,

(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros,

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” yw person—

(i)y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo, a

(ii)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;

(b)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo.

Categori 4 – Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd

4.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros,

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy’n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw,

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4Yn y paragraff hwn, ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw person (“P”)—

(a)sydd—

(i)wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn cymhwyso i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny,

(ii)heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny,

(iii)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo,

(iv)wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn cymhwyso i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod P wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau(28) ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol,

(b)nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben, neu y mae’r cyfnod hwnnw wedi ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben, neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(29)) mewn cysylltiad â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros, ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i P gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros.

(5Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.

Categori 5 – Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67

5.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67,

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67,

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” yw person—

(i)y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016(30) ac yn unol â’r rheolau mewnfudo, a

(ii)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;

(b)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.

Categori 6 – Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd

6.—(1Person—

(a)sy’n un o’r canlynol—

(i)gweithiwr mudol AEE neu berson hunangyflogedig AEE, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ii)person cyflogedig Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(iii)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(iv)gweithiwr trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig trawsffiniol AEE;

(v)person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd;

(vi)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v), a

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ryddid gweithwyr i symud o fewn yr Undeb, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE(31).

(3Yn is-baragraff (1)—

ystyr “aelod o deulu” (“family member”) yw—

(a)

mewn perthynas â gweithiwr trawsffiniol AEE, gweithiwr mudol AEE, person hunangyflogedig trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig AEE—

(i)

priod y person neu ei bartner sifil,

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd o dan 21 oed neu sy’n 21 oed a throsodd ac sy’n ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person, neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;

(b)

mewn perthynas â pherson cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, person cyflogedig Swisaidd, person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd—

(i)

priod y person neu ei bartner sifil, neu

(ii)

plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;

ystyr “gweithiwr mudol AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gweithiwr trawsffiniol AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn AEE sydd—

(a)

yn weithiwr yng Nghymru, a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

(a)

yn berson cyflogedig yng Nghymru, a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn AEE sydd—

(a)

yn berson hunangyflogedig yng Nghymru, a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

(a)

yn berson hunangyflogedig yng Nghymru, a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos.

(4At ddibenion is-baragraff (3)—

ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

ystyr “gwladolyn AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig;

ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—

(a)

mewn perthynas â gwladolyn AEE, person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd, neu

(b)

mewn perthynas â gwladolyn Swisaidd, person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir.

Categori 7 – Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall

7.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig,

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio,

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau,

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(e)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (d), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (d).

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw is-baragraff (3) neu (4) yn gymwys i’r person.

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson sydd—

(a)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig,

(b)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir), neu

(c)yn berson sydd wedi arfer hawl i breswylio’n barhaol,

sydd wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson (“P”)—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig a chanddo hawl i breswylio’n barhaol, a

(b)sy’n mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir y mae P yn wladolyn ohoni neu y mae’r person y mae P yn aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.

(5At ddibenion is-baragraff (4), mae P yn aelod o deulu person arall (“Q”) os yw P—

(a)yn briod neu’n bartner sifil i Q,

(b)yn ddisgynnydd uniongyrchol Q neu’n ddisgynnydd uniongyrchol priod neu bartner sifil Q a bod P—

(i)o dan 21 oed, neu

(ii)yn 21 oed neu drosodd ac yn ddibynnydd Q neu’n ddibynnydd priod neu bartner sifil Q, neu

(c)pan fo Q yn wladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38, yn berthynas uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol Q neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil Q.

Categori 8 – Gwladolion UE

8.—(1Person—

(a)sydd naill ai—

(i)yn wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac eithrio person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig nad yw wedi arfer hawl i breswylio, neu

(ii)yn aelod o deulu person o’r fath,

(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 11(2)).

(2Person—

(a)sy’n wladolyn UE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(3Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad yn is-baragraff (1)(a) neu (2)(a) fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.

(4At ddibenion is-baragraff (1)(a), nid yw gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os nad yw’r person hwnnw wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

(5At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae person (“P”) yn aelod o deulu person arall (“Q”) os yw—

(a)P yn briod neu’n bartner sifil i Q,

(b)P yn ddisgynnydd uniongyrchol Q neu’n ddisgynnydd uniongyrchol priod neu bartner sifil Q a bod P—

(i)o dan 21 oed, neu

(ii)yn 21 oed neu drosodd ac yn ddibynnydd Q neu’n ddibynnydd priod neu bartner sifil Q, neu

(c)mewn achos pan fo Q yn wladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38, P yn berthynas uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol Q neu yn llinell esgynnol priod neu bartner sifil Q.

Categori 9 – Plant gwladolion Swisaidd

9.  Person—

(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Categori 10 – Plant gweithwyr Twrcaidd

10.—(1Person—

(a)sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Yn y paragraff hwn, ystyr “gweithiwr Twrcaidd” yw gwladolyn Twrcaidd—

(a)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, a

(b)sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.

Preswylio fel arfer – darpariaeth ychwanegol

11.—(1At ddiben yr Atodlen hon, mae person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu’r Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd—

(a)â’r cwrs dynodedig, neu

(b)gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, â chwrs yr ymgymerodd y person ag ef yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig,

i’w ystyried yn berson sy’n preswylio fel arfer yn y lle y mae’r person wedi symud ohono.

(2At ddiben yr Atodlen hon, mae person (“P”) i’w drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

(a)P,

(b)priod neu bartner sifil P,

(c)rhiant P, neu

(d)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci.

(3At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o’r lluoedd arfog, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath.

(4At ddibenion yr Atodlen hon, mae myfyriwr cymwys sy’n garcharor i’w ystyried fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y rhan o’r Deyrnas Unedig lle yr oedd y carcharor yn preswylio cyn cael ei ddedfrydu.

(5At ddibenion yr Atodlen hon, mae ardal—

(a)nad oedd gynt yn rhan o’r UE neu’r AEE, ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn dod yn rhan o’r naill neu’r llall, neu o’r ddwy, o’r tiriogaethau hyn,

i’w hystyried fel pe bai bob amser wedi bod yn rhan o’r AEE.

Darpariaeth bellach ar breswylio fel arfer: personau sy’n ymadael â gofal

12.—(1Caiff person sy’n ymadael â gofal ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig hyd yn oed os yw’r person sy’n ymadael â gofal, ar y diwrnod hwnnw—

(a)yn derbyn gofal y tu allan i Gymru (mewn achos pan fo rheoliad 29(c)(i) yn gymwys i’r myfyriwr), neu

(b)yn preswylio y tu allan i Gymru o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig (mewn achos pan fo rheoliad 29(c)(ii) yn gymwys i’r myfyriwr),

o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol Cymreig.

(2Ym mharagraff (1)—

ystyr “awdurdod lleol Cymreig” (“Welsh local authority”) yw awdurdod lleol o fewn yr ystyr a roddir gan adran 197(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

mae i “derbyn gofal” (“looked after”) yr ystyr a roddir yn adran 74 o’r Ddeddf honno;

mae i “person sy’n ymadael â gofal” (“care leaver”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 29.

Dehongli

13.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “AEE” (“EEA”) yw’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, sef y diriogaeth a ffurfir gan y Gwladwriaethau AEE;

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ddyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o’u teuluoedd i symud a phreswylio’n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau(32);

ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng yr UE a’i Aelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o’r rhan arall, ar Symudiad Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(33) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi yn ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(34) fel y’i hestynnwyd gan ei Brotocol 1967(35);

ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy’n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971(36);

mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal am blentyn ac mae “plentyn” i’w ddehongli yn unol â hynny;

mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(37);

ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Rheoliad 28

ATODLEN 3Cyfrifo incwm

RHAN 1Cyflwyniad

Trosolwg o’r Atodlen

1.—(1Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn.

(2Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys at ddibenion penderfynu ar swm y grant cyfrannu at gostau sy’n daladwy i’r myfyriwr.

(3Mae Rhan 3 yn nodi ystyr “incwm trethadwy”, sy’n ofynnol er mwyn cyfrifo incwm gweddilliol person.

(4Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm gweddilliol pan fo—

(a)Pennod 1 yn nodi sut i gyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo incwm aelwyd y myfyriwr, a

(b)Pennod 2 yn nodi sut i gyfrifo incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys, partner myfyriwr cymwys neu bartner rhiant myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo incwm aelwyd y myfyriwr.

(5Mae Rhan 5 yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn yr Atodlen hon.

RHAN 2Incwm yr aelwyd

Incwm aelwyd myfyriwr cymwys

2.  Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys.

Cyfrifo incwm yr aelwyd

3.—(1Mae incwm aelwyd myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—

Cam 1

Os nad yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys annibynnol (gweler paragraff 4), cyfrifo cyfanred incwm gweddilliol y personau a restrir yn Rhestr A.

Os yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys annibynnol, cyfrifo cyfanred incwm y personau a restrir yn Rhestr B.

  • Rhestr A

  • Y personau yw—

    (a)

    y myfyriwr cymwys, plws

    (b)

    naill ai—

    (i)

    pob un o rieni’r myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i baragraff 5), neu

    (ii)

    pan fo rhieni’r myfyriwr wedi gwahanu, y rhiant a ddewisir o dan baragraff 6(3) a phartner y rhiant hwnnw (os oes un gan y rhiant hwnnw), (yn ddarostyngedig i baragraff 7).

  • Rhestr B

    (a)

    y myfyriwr cymwys annibynnol, plws

    (b)

    partner y myfyriwr (os oes un gan y myfyriwr), (yn ddarostyngedig i baragraffau 7 ac 8).

Cam 2

Cyfrifo swm cymwys didyniad plentyn dibynnol (gweler is-baragraffau (2) i (4)) a didynnu hynny o’r cyfanswm cyfanredol a gyfrifir o dan Gam 1.

Y canlyniad yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys.

(2Mae didyniad plentyn dibynnol yn ddidyniad a wneir mewn cysylltiad â phob plentyn sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar—

(a)y myfyriwr cymwys,

(b)partner y myfyriwr cymwys,

(c)rhiant y myfyriwr cymwys, neu

(d)partner rhiant y myfyriwr cymwys,

pan fo incwm y person hwnnw yn cael ei ystyried at ddiben cyfrifo incwm yr aelwyd.

(3Ond nid oes didyniad i’w wneud mewn cysylltiad â phlentyn—

(a)rhiant y myfyriwr cymwys, neu

(b)partner rhiant y myfyriwr cymwys,

os y myfyriwr cymwys yw’r plentyn.

(4Yn Nhabl 2, mae Colofn 2 yn nodi swm y didyniad plentyn dibynnol mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

Tabl 2

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Swm y didyniad plentyn dibynnol

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019£1,130

Myfyrwyr cymwys annibynnol

4.—(1Mae myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys annibynnol os yw un o’r achosion a ganlyn yn gymwys—

Achos 1

Mae’r myfyriwr yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol.

Achos 2

Mae’r myfyriwr yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn dechrau diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol, pa un a yw’r briodas neu’r bartneriaeth sifil yn parhau i fod ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio.

Achos 3

Nid oes gan y myfyriwr riant sy’n fyw.

Achos 4

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)na ellir dod o hyd i’r naill na’r llall o rieni’r myfyriwr, neu

(b)nad yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r naill na’r llall o rieni’r myfyriwr.

Achos 5

Naill ai—

(a)nid yw’r myfyriwr wedi cyfathrebu â’r naill na’r llall o’i rieni am gyfnod o flwyddyn neu fwy sy’n dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol, neu

(b)ym marn Gweinidogion Cymru, mae’r myfyriwr wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni ar seiliau eraill fel nad oes modd cymodi.

Achos 6

Mae rhieni’r myfyriwr yn preswylio y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ac mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at incwm y rhieni yn gosod y rhieni hynny mewn perygl, neu

(b)na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r rhieni anfon arian i’r Deyrnas Unedig at ddibenion rhoi cymorth i’r myfyriwr.

Achos 7

Pan fo paragraff 6 (rhieni yn gwahanu) yn gymwys, mae’r rhiant a ddewisir gan Weinidogion Cymru o dan is-baragraff (3) o’r paragraff hwnnw wedi marw, ni waeth a oedd gan y rhiant hwnnw bartner ai peidio.

Achos 8

Ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol, mae gan y myfyriwr ofal dros berson sydd o dan 18 oed.

Achos 9

Mae’r myfyriwr wedi cael ei gefnogi gan enillion y myfyriwr am unrhyw gyfnod o dair blynedd (neu gyfnodau sydd, gyda’i gilydd, yn dod i gyfanred o dair blynedd o leiaf) sy’n dod i ben cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig.

Achos 10

Mae’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 29.

(2At ddibenion Achos 9, mae myfyriwr cymwys yn cael ei drin fel pe bai’n cael ei gefnogi gan enillion y myfyriwr os, yn ystod y cyfnod neu’r cyfnodau y cyfeirir ato neu atynt yn Achos 9, yw un o’r seiliau a ganlyn yn gymwys—

Sail 1

Roedd y myfyriwr cymwys yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi personau di-waith o dan gynllun a weithredir, a noddir neu a gyllidir gan gorff cyhoeddus.

Sail 2

Roedd y myfyriwr cymwys yn cael budd-dal sy’n daladwy gan gorff cyhoeddus mewn cysylltiad â pherson sydd ar gael ar gyfer cyflogaeth ond sy’n ddi-waith.

Sail 3

Roedd y myfyriwr cymwys ar gael ar gyfer cyflogaeth ac wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad cofrestru gan gorff cyhoeddus fel amod o hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddiant neu i gael budd-daliadau.

Sail 4

Roedd gan y myfyriwr cymwys efrydiaeth wladol neu ddyfarndal cyffelyb.

Sail 5

Roedd y myfyriwr cymwys yn cael pensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd, anaf neu salwch y myfyriwr neu am reswm sy’n gysylltiedig â geni plentyn.

Rhiant myfyriwr cymwys yn marw gan adael rhiant sydd wedi goroesi

5.—(1Pan fo—

(a)rhiant myfyriwr cymwys yn marw cyn y flwyddyn academaidd gyfredol, a

(b)incwm y rhiant wedi, neu y byddai incwm y rhiant wedi, cael ei ystyried at ddibenion penderfynu ar incwm yr aelwyd,

dim ond incwm gweddilliol y rhiant sydd wedi goroesi a gyfrifir yn gyfanred at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1).

(2Pan fo’r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, incwm gweddilliol rhieni’r myfyriwr cymwys, at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1), yw cyfanred—

(a)incwm gweddilliol y ddau riant ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi ag X/52, a

(b)incwm gweddilliol y rhiant sydd wedi goroesi ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi ag Y/52,

pan—

  • X yw nifer yr wythnosau yn y flwyddyn academaidd gyfredol pan oedd y ddau riant yn fyw, ac

  • Y yw nifer yr wythnosau sy’n weddill yn y flwyddyn academaidd gyfredol.

Rhieni myfyriwr cymwys yn gwahanu

6.—(1Pan fo rhieni’r myfyriwr cymwys wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn academaidd gyfredol, dim ond incwm gweddilliol y rhiant a ddewisir o dan is-baragraff (3) sy’n cael ei gyfrifo’n gyfanred at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1).

(2Pan fo rhieni’r myfyriwr wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, incwm gweddilliol rhieni’r myfyriwr cymwys, at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1), yw cyfanred—

(a)incwm gweddilliol y ddau riant ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi ag X/52, a

(b)incwm gweddilliol y rhiant a ddewisir o dan is-baragraff (3) ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi ag Y/52,

pan—

  • X yw nifer yr wythnosau yn y flwyddyn academaidd gyfredol pan nad oedd y rhieni wedi gwahanu, ac

  • Y yw nifer yr wythnosau yn y flwyddyn academaidd gyfredol pan oedd y rhieni wedi gwahanu.

(3Pan fo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddewis y rhiant a chanddo’r incwm gweddilliol sydd fwyaf priodol ei ystyried o dan yr amgylchiadau.

Rhiant myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymwys annibynnol yn gwahanu o’i bartner

7.—(1Pan fo—

(a)rhiant myfyriwr cymwys, neu

(b)myfyriwr cymwys annibynnol,

wedi gwahanu o’i bartner drwy gydol y flwyddyn academaidd gyfredol, nid yw incwm y partner yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 ym mharagraff 3(1).

(2Pan fo—

(a)rhiant y myfyriwr cymwys, neu

(b)myfyriwr cymwys annibynnol,

wedi gwahanu o’i bartner yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, cyfrifir swm incwm gweddilliol y partner sydd i’w gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 drwy gymhwyso’r fformiwla yn is-baragraff (3).

(3Y fformiwla sydd i’w chymhwyso yw—

Pan—

  • X yw incwm gweddilliol—

    (a)

    partner rhiant y myfyriwr cymwys, pan fo Rhestr A o Gam 1 yn gymwys, neu

    (b)

    partner y myfyriwr cymwys annibynnol, pan fo Rhestr B o Gam 1 yn gymwys,

  • ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys;

  • C yw nifer wythnosau cyflawn y flwyddyn academaidd gyfredol pan nad oedd—

    (a)

    rhiant y myfyriwr cymwys a’i bartner, neu

    (b)

    y myfyriwr cymwys annibynnol a phartner y myfyriwr,

  • wedi gwahanu.

(4Pan fo gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae’r paragraff hwn a Cham 1 o baragraff 3(1) yn gymwys mewn perthynas â phob partner.

Myfyriwr cymwys annibynnol neu bartner yn rhiant i fyfyriwr cymwys

8.  Pan fo—

(a)myfyriwr cymwys annibynnol (“A”) neu bartner y myfyriwr cymwys annibynnol (“PA”) yn rhiant i fyfyriwr cymwys (“M”), a

(b)dyfarndal statudol sy’n daladwy i M wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm gweddilliol A neu PA, neu’r ddau,

nid yw incwm gweddilliol PA yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Restr B o Gam 1 ym mharagraff 3(1) at ddibenion cyfrifo incwm aelwyd A.

RHAN 3Incwm trethadwy

Incwm trethadwy

9.—(1Yn yr Atodlen hon, ystyr incwm trethadwy person yw—

(a)cyfanred—

(i)cyfanswm yr incwm y codir treth incwm ar y person amdano o dan Gam 1 o adran 23 o Ddeddf Treth Incwm 2007(38), a

(ii)os nad ydynt eisoes yn elfen o gyfanswm yr incwm o dan is-baragraff (i), daliadau a budd-daliadau eraill a bennir yn adran 401(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003(39) a geir gan y person neu sy’n cael eu trin fel pe baent wedi eu cael gan y person (ond diystyrir adran 401(2) o’r Ddeddf honno at ddibenion yr is-baragraff hwn), neu

(b)pan fo deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall yn gymwys i incwm y person, gyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell fel y’i penderfynir at ddibenion deddfwriaeth treth incwm yr Aelod-wladwriaeth honno.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan fo deddfwriaeth treth incwm mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r person mewn cysylltiad â’r flwyddyn sydd o dan ystyriaeth, cyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell yw’r swm sy’n deillio o’r penderfyniad sy’n arwain at swm mwyaf cyfanswm yr incwm, gan gynnwys unrhyw incwm y mae’n ofynnol ei ystyried o dan baragraff 18.

(3Ond nid yw incwm trethadwy person yn cynnwys incwm a delir i berson arall o dan orchymyn trefniadau pensiwn.

RHAN 4Incwm gweddilliol

PENNOD 1Incwm gweddilliol myfyriwr cymwys

Cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys

10.  At ddibenion cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys o dan Ran 2, cyfrifir incwm gweddilliol y myfyriwr fel a ganlyn—

  • Incwm trethadwy’r myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol.

  • Plws

  • Incwm sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o dan orchymyn trefniadau pensiwn yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, ar ôl didynnu treth incwm.

  • Minws

  • Cyfanred y didyniadau a nodir ym mharagraff 11 (oni bai eu bod eisoes wedi eu didynnu at ddibenion penderfynu ar incwm trethadwy’r myfyriwr).

Didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys

11.  At ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, y didyniadau yw—

Didyniad A

Tâl a roddir i’r myfyriwr cymwys yn y flwyddyn academaidd gyfredol am waith a wneir yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd o’r cwrs, ond nid tâl mewn cysylltiad ag—

(a)unrhyw gyfnod o absenoldeb a gymerir gan y myfyriwr, neu

(b)unrhyw gyfnod arall pan fydd y myfyriwr wedi ei ryddhau o ddyletswydd i fod yn bresennol yn y gwaith,

fel y caiff y myfyriwr ymgymryd â’r cwrs.

Didyniad B

Swm gros unrhyw bremiwm neu swm a delir gan y myfyriwr cymwys yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol mewn perthynas â phensiwn—

(a)y rhoddir rhyddhad mewn cysylltiad ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(40), neu

(b)pan fo incwm y myfyriwr yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth yn y Deddfau Treth Incwm,

ond nid yw’n cynnwys unrhyw swm a delir fel premiwm o dan bolisi aswiriant bywyd.

Incwm myfyriwr cymwys a geir mewn arian cyfred ac eithrio sterling

12.—(1Pan fo’r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfred ac eithrio sterling, gwerth yr incwm yw—

(a)swm y sterling y mae’r myfyriwr cymwys yn ei gael ar gyfer yr incwm, neu

(b)pan na fo’r myfyriwr yn troi’r incwm yn sterling, gwerth y sterling y byddai’r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio cyfradd gyfnewid CThEM.

(2Cyfradd gyfnewid CThEM(41) yw’r gyfradd a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer y mis sy’n cyfateb i’r mis y ceir yr incwm ynddo.

PENNOD 2Incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys

Personau y mae’r bennod hon yn gymwys iddynt

13.  Mae’r Bennod hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo incwm gweddilliol person (“P”) pan fo P yn golygu’r canlynol—

(a)rhiant y myfyriwr cymwys,

(b)partner y myfyriwr cymwys, neu

(c)partner rhiant y myfyriwr cymwys,

yn ôl y digwydd, a phan fo incwm P yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 ym mharagraff 3(1) at ddiben cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys.

Cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys

14.  Cyfrifir incwm gweddilliol P fel a ganlyn—

Incwm trethadwy P ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys.

Plws

Incwm sy’n daladwy i P o dan orchymyn trefniadau pensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys, ar ôl didynnu treth incwm.

Minws

Cyfanred y didyniadau a nodir ym mharagraff 15 (oni bai eu bod eisoes wedi eu didynnu at ddibenion penderfynu ar incwm trethadwy P).

Didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys

15.—(1At ddiben cyfrifo incwm gweddilliol P, y didyniadau yw—

Didyniad A

Swm gros unrhyw bremiwm neu swm a delir gan P mewn cysylltiad â phensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys—

(a)y rhoddir rhyddhad mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu

(b)pan fo incwm P yn cael ei gyfrifiannu at ddiben deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, y byddai rhyddhad wedi cael ei roi mewn perthynas ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth yn y Deddfau Treth Incwm,

ond nid yw’n cynnwys unrhyw swm a delir fel premiwm o dan bolisi aswiriant bywyd.

Didyniad B

Pan fo paragraff 18 yn gymwys, swm sy’n cyfateb i Ddidyniad A ar yr amod nad yw’r swm hwn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai holl incwm P yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm mewn gwirionedd.

Didyniad C

£1,130, pan fo P—

(a)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol ond hefyd yn rhiant myfyriwr cymwys, neu

(b)wedi cael dyfarndal statudol mewn cysylltiad â’r un cyfnod.

Blynyddoedd ariannol cymwys: cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys

16.—(1Mae’r paragraff hwn yn pennu’r flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P.

(2Oni bai bod is-baragraff (3) yn gymwys, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF-1.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF-1, y flwyddyn ariannol gymwys yw BG.

Incwm o fusnes neu broffesiwn

17.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan—

(a)y flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P yw BF-1, a

(b)bo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm P yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes neu broffesiwn a gynhelir gan P.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, incwm gweddilliol P yw ei incwm ar gyfer y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n dod i ben yn BF-1 y cedwir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â busnes neu broffesiwn P.

Trin incwm nas trinnir fel incwm at ddibenion treth incwm

18.—(1Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan fo P yn cael unrhyw incwm nad yw, am unrhyw un neu ragor o’r rhesymau a nodir yn is-baragraff (2), yn ffurfio rhan o incwm P at ddiben y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall.

(2Y rhesymau yw—

Rheswm 1

(a)nid yw P yn preswylio nac wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu

(b)cyfrifiennir incwm P at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall ac nid yw P yn preswylio nac wedi ymgartrefu yn yr Aelod-wladwriaeth honno.

Rheswm 2

(a)nid yw incwm P yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu

(b)nid yw incwm P yn codi yn yr Aelod-wladwriaeth y cyfrifiennir incwm P ynddi at ddibenion deddfwriaeth treth incwm y Wladwriaeth honno.

Rheswm 3

Mae’r incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae’r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth.

(3Mae incwm trethadwy P i’w gymryd i gynnwys yr incwm a ddisgrifir yn is-baragraff (1) fel pe bai’n rhan o incwm P at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.

Incwm P mewn arian cyfred ac eithrio sterling

19.—(1Pan fo incwm P wedi ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, mae incwm gweddilliol P i’w gyfrifo yn unol â’r Rhan hon yn arian cyfred yr Aelod-wladwriaeth honno ac i’w gymryd fel gwerth sterling yr incwm hwnnw a benderfynir yn unol â chyfradd berthnasol CThEM.

(2Cyfradd berthnasol CThEM yw’r gyfradd gyfnewid ar gyfartaledd a ddyroddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer y flwyddyn galendr sy’n dod i ben yn union cyn diwedd BF-1.

RHAN 5Dehongli

Dehongli

20.—(1Yn yr Atodlen hon, ystyr unrhyw gyfeiriad at bartner person (“A”) yw—

(a)priod neu bartner sifil A, neu

(b)person sy’n byw fel arfer gydag A fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil A.

(2Yn yr Atodlen hon—

ystyr “BF” (“PY”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn BG;

ystyr “BF-1” (“PY-1”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn BF;

ystyr “BG” (“CY”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol;

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y cyfrifiennir incwm person mewn cysylltiad ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;

ystyr “blwyddyn ariannol gymwys” (“applicable financial year”) yw’r flwyddyn ariannol y penderfynir arni yn unol â pharagraff 16;

ystyr “corff cyhoeddus” (“public body”) yw awdurdod neu asiantaeth i’r wladwriaeth, boed yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu’n lleol;

ystyr “gorchymyn trefniadau pensiwn” (“pension arrangements order”) yw gorchymyn y mae person yn talu odano fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn i berson arall o dan—

(a)

adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973(42) sy’n cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 25B(4) (a chan gynnwys gorchymyn o’r fath fel y caiff effaith yn rhinwedd adran 25E(3) o’r Ddeddf honno)(43), neu

(b)

Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(44) sy’n cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd Rhan 6 o’r Atodlen honno (a chan gynnwys gorchymyn o’r fath fel y caiff effaith yn rhinwedd Rhan 7 o’r Atodlen honno).

Rheoliad 4(2)

ATODLEN 4Mynegai o dermau wedi eu diffinio

1.  Mae Tabl 3 yn rhestru ymadroddion sydd wedi eu diffinio neu sydd wedi eu hesbonio fel arall yn y Rheoliadau hyn.

Tabl 3

YmadroddWedi ei ddiffinio, neu y cyfeirir ato, yn...
“AEE”Atodlen 2, paragraff 13
“aelod o deulu”Atodlen 2, paragraff 6(3)
“aelod o’r lluoedd arfog”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“awdurdod academaidd”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“awdurdod lleol Cymreig”Atodlen 2, paragraff 12(2)
“benthyciad” (at ddibenion Eithriadau 1 a 2 yn rheoliad 10(1))Rheoliad 10(2)
“benthyciad cyfrannu at gostau”Rheoliad 30
“BF”Atodlen 3, paragraff 20(2)
“BF–1”Atodlen 3, paragraff 20(2)
“BG”Atodlen 3, paragraff 20(2)
“blwyddyn academaidd”Atodlen 1, paragraff 1
“blwyddyn academaidd gyfredol”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“blwyddyn ariannol”Atodlen 3, paragraff 20(2)
“blwyddyn ariannol gymwys”Atodlen 3, paragraff 20(2)
“bwrsari gofal iechyd”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“carcharor” a “carchar”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“carcharor cymwys”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“cofrestr”Atodlen 1, paragraff 2(2)
“corff cyhoeddus”Atodlen 3, paragraff 20(2)
“cronfeydd cyhoeddus”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“cwrs”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“cwrs dynodedig”Pennod 1 o Ran 4
“cwrs dysgu o bell”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“cwrs newydd”Rheoliad 17(1)
“Cyfarwyddeb 2004/38”Atodlen 2, paragraff 13
“cyfnod cymhwystra”Rheoliad 11
“cyfnodau o brofiad gwaith”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“cymhwyster cyfatebol neu uwch”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“cymorth”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“Cynllun KESS 2”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“Cytundeb y Swistir”Atodlen 2, paragraff 13
“darparwr cynllun Seisnig”Atodlen 1, paragraff 2(1)(f)
“Deddf 1998”Rheoliad 5
“derbyn gofal”Atodlen 2, paragraff 12(2)
“dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” (at ddiben penderfynu a yw person yn aelod o deulu person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth)Atodlen 2, paragraff 3(4)(b)
“dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” (at ddiben penderfynu a yw person yn blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67)Atodlen 2, paragraff 5(3)(b)
“dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” (at ddiben penderfynu a yw person yn aelod o deulu person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros)Atodlen 2, paragraff 4(5)
“dyfarndal statudol”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“ffioedd”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“ffoadur”Atodlen 2, paragraff 13
“gorchymyn trefniadau pensiwn”Atodlen 3, paragraff 20(2)
“grant cyfrannu at gostau”Rheoliad 24
“grant sylfaenol”Rheoliad 24
“gweithiwr”Atodlen 2, paragraff 6(4)
“gweithiwr mudol AEE”Atodlen 2, paragraff 6(3)
“gweithiwr trawsffiniol AEE”Atodlen 2, paragraff 6(3)
“gweithiwr Twrcaidd”Atodlen 2, paragraff 10(2)
“gwladolyn AEE”Atodlen 2, paragraff 6(4)
“gwladolyn UE”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“gwybodaeth”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“hawl i breswylio’n barhaol”Atodlen 2, paragraff 13
“incwm aelwyd”Atodlen 3, Rhan 2
“incwm gweddilliol”Atodlen 3, Rhan 4
“incwm trethadwy”Atodlen 3, paragraff 9
“myfyriwr cymwys”Rheoliad 9(1)
“myfyriwr cymwys annibynnol”Atodlen 3, paragraff 4
“partner”Atodlen 3, paragraff 20(1)
“person cyflogedig”Atodlen 2, paragraff 6(4)
“person cyflogedig Swisaidd”Atodlen 2, paragraff 6(3)
“person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd”Atodlen 2, paragraff 6(3)
“person hunangyflogedig”Atodlen 2, paragraff 6(4)
“person hunangyflogedig AEE”Atodlen 2, paragraff 6(3)
“person hunangyflogedig Swisaidd”Atodlen 2, paragraff 6(3)
“person hunangyflogedig trawsffiniol AEE”Atodlen 2, paragraff 6(3)
“person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd”Atodlen 2, paragraff 6(3)
“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67”Atodlen 2, paragraff 5(3)(a)
“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”Atodlen 2, paragraff 4(4)
“person sy’n ymadael â gofal”Rheoliad 29
“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth”Atodlen 2, paragraff 3(4)(a)
“perthynas agos”Atodlen 1, paragraff 3(1)
“rheolau mewnfudo”Atodlen 2, paragraff 13
“Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol 2018”Rheoliad 7(c)
“Rheoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017”Rheoliad 2(3)
“Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2017”Rheoliad 7(a)
“Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2018”Rheoliad 7(b)
“rhiant” a “plentyn” (at ddibenion penderfynu ar gategori person o dan Atodlen 2)Atodlen 2, paragraff 13
“sefydliad a gyllidir gan yr Alban”Atodlen 1, paragraff 2(1)(b)
“sefydliad a gyllidir gan Gymru”Atodlen 1, paragraff 2(1)(a)
“sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon”Atodlen 1, paragraff 2(1)(c)
“sefydliad rheoleiddiedig Seisnig”Atodlen 1, paragraff 2(1)(d)
“sefydliad Seisnig cofrestredig”Atodlen 1, paragraff 2(1)(e)
“wedi setlo”Atodlen 2, paragraff 13
“Ynysoedd”Atodlen 2, paragraff 13

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gwneud grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar gyfer cyrsiau gradd feistr ôl-raddedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019.

Er mwyn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i fyfyriwr fod yn “myfyriwr cymwys”. I fod yn fyfyriwr cymwys, rhaid i berson fodloni’r darpariaethau cymhwystra ym Mhennod 2 o Ran 4 ac unrhyw ofynion cymhwystra eraill mewn mannau eraill yn y Rheoliadau. Rhaid i fyfyriwr cymwys fodloni hefyd y gofynion penodol sy’n gymwys i bob math o gymorth ariannol.

I fod yn fyfyriwr cymwys, rhaid i berson ddod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Atodlen 2. Mae’r rhan fwyaf o’r categorïau hynny yn ei gwneud yn ofynnol i’r person breswylio fel arfer yng Nghymru. At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyrir bod person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, o ganlyniad i symud o un o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd â chwrs dynodedig, yn preswylio fel arfer yn y lle y symudodd y person hwnnw ohono (Atodlen 2, paragraff 11(1)). Nid yw person yn fyfyriwr cymwys os, ymhlith pethau eraill, yw’r person hwnnw eisoes wedi ennill cymhwyster sy’n cyfateb i radd feistr neu’n uwch na gradd feistr.

Penderfynir ar y cyfnod y mae myfyriwr yn gymwys i gael cymorth ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn yn unol â rheoliadau 11 i 14. O dan amgylchiadau penodol, caiff myfyriwr cymwys drosglwyddo o un cwrs dynodedig i gwrs dynodedig arall.

Nid yw cymorth ond ar gael o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chyrsiau “dynodedig” o fewn ystyr rheoliadau 5 ac 8. Darperir cymorth i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig ble bynnag y bônt yn astudio yn y Deyrnas Unedig. Mae rheoliadau 15 ac 16 yn nodi’r amgylchiadau y caiff myfyriwr gymhwyso i gael cymorth odanynt o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i’r cwrs dynodedig ddechrau.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau am gymorth (rheoliad 18), terfynau amser ar gyfer ceisiadau (rheoliad 19) ac mae rheoliad 20 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud unrhyw ymholiadau y maent yn meddwl eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniad ar gais ac er mwyn hysbysu ceisydd am benderfyniad. Mae’r Rhan hon hefyd yn gosod rhwymedigaethau ar fyfyrwyr cymwys i ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru (rheoliad 22) ac i ymrwymo i gontract ar gyfer benthyciad (rheoliad 23).

Mae cymorth o dan y Rheoliadau hyn ar gael ar ffurf y grantiau a’r benthyciadau a ganlyn—

(a)grant sylfaenol a grant cyfrannu at gostau (Rhan 6);

(b)benthyciad cyfrannu at gostau (Rhan 7).

Swm y grant sylfaenol sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys yw £1,000 (rheoliad 25). Penderfynir ar swm y grant cyfrannu at gostau sy’n daladwy i fyfyriwr drwy gyfeirio at incwm aelwyd y myfyriwr a pha un a yw’n berson sy’n ymadael â gofal (rheoliad 27). Cyfrifir incwm aelwyd myfyriwr cymwys yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3. Diffinnir “person sy’n ymadael â gofal” yn rheoliad 29.

Mae benthyciadau cyfrannu ar gostau yn daladwy i fyfyrwyr cymwys yn unol â Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn. Cyfrifir swm y benthyciad cyfrannu at gostau yn unol â rheoliad 31.

Mae Rhan 8 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â thaliadau, gordaliadau ac adennill taliadau. Mae rheoliad 33 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i dalu cymorth mewn rhandaliadau.

Mae rheoliad 34 yn darparu na chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad cymorth hyd nes eu bod wedi cael cadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol o bresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs dynodedig. Mae rheoliad 35 yn galluogi Gweinidogion Cymru i beidio â thalu rhagor o daliadau cymorth os ydynt yn cael hysbysiad ynghylch diffyg presenoldeb myfyriwr ar y cwrs, ac eithrio pan fônt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud y taliadau hynny yn ystod absenoldeb y myfyriwr.

Mae rheoliad 36 yn nodi sut y mae hawlogaeth i gael cymorth yn newid pan fydd myfyriwr cymwys yn dod yn garcharor cymwys neu’n peidio â bod yn garcharor cymwys.

Mae Pennod 3 o Ran 8 yn nodi sut y gall Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o gymorth o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 9 yn nodi’r gofynion gwybodaeth mewn perthynas â benthyciadau cyfrannu at gostau.

Mae Rhan 10 yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017.

Atodlen 4 yw’r atodlen olaf i’r Rheoliadau hyn ac mae’n cynnwys y mynegai o dermau wedi eu diffinio.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6; Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147; Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7; Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257; Deddf Addysg 2011 (p. 21), adran 76; O.S. 2013/1181 a Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 88. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(2)(a) i (i) a (k) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), ac mae is-adrannau (a), (c) a (k) yn arferadwy ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(4)

1998 p. 40; diwygiwyd adran 214(2) gan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), adran 93 ac Atodlen 8 a chan Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 53.

(5)

1992 p. 13; mewnosodwyd is-adrannau (3A) a (3B) o adran 65 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

(10)

2000 p. 14; a ddiwygiwyd gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2), Atodlen 3(2), paragraff 43.

(13)

1989 p. 41; mewnosodwyd adran 14A gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) a Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23).

(16)

Gweler paragraffau 352ZG i 352ZS.

(18)

Mae’r Swyddfa Fyfyrwyr yn gorff corfforedig a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017.

(21)

Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi ei sefydlu o dan Erthygl 162 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

(22)

1962 p. 12 (a ddiddymwyd bellach).

(23)

Fe’i diddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), Atodlen 4, gydag arbedion gweler Gorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/2004) (C. 46).

(24)

O.S. 1990/1506 (G.I. 11), a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/274 (G.I. 1), Atodlen 5 Rhan 2, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a’r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 6 ac a ddirymwyd, gydag arbedion, gan Rh.St. (G.I.) 1998 Rhif 306.

(26)

O.S. 1998/1760 (G.I. 14) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(28)

Mae paragraff 276BE(2) o’r Rheolau Mewnfudo yn cyfeirio at hyn.

(29)

2002 p. 41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr etc.) 2004 (p. 19), Atodlenni 2 a 4, Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p. 13), adran 9, O.S. 2010/21, Deddf Mewnfudo 2014 (p. 22), Atodlen 9.

(31)

OJ Rhif L141, 27.05.2011, t. 1.

(32)

OJ Rhif L158, 30.04.2004, t. 77-123.

(33)

Gorch. 4904 ac OJ Rhif L114, 30.04.02, t. 6.

(34)

Gorchmn. 9171.

(35)

Gorchmn. 3906, daeth y Protocol i rym ar 4 Hydref 1967.

(37)

1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).

(38)

2007 p. 3; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Cyllid 2009 (p. 10), Atodlen 1, paragraff 6(o)(i), Deddf Cyllid 2013 (p. 29), Atodlen 3, paragraff 2(2) a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), Atodlen 17, paragraff 19.

(39)

2003 p. 1; diwygiwyd adran 401 gan O.S. 2005/3229, O.S. 2011/1037 ac O.S. 2014/211.

(40)

2004 p. 12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007 (p. 11), adrannau 68 a 114 ac Atodlenni 18, 19 a 27, Deddf Cyllid 2013 (p. 29), adran 52 a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), Atodlen 7.

(41)

Gweler https://www.gov.uk/government/collections/exchange-rates-for-customs-and-vat.

(42)

1973 p. 18; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1982 (p. 53), adran 16.

(43)

Mewnosodwyd adran 25B gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 20), adran 166(1) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 4. Mewnosodwyd adran 25E gan Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35), adran 319(1), Atodlen 12, paragraff 3 ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Pensiynau 2008 (p. 30), Atodlen 6, paragraffau 1 a 6 ac Atodlen 11, Rhan 4.

(44)

2004 p. 33; addaswyd paragraff 25 o Atodlen 5 gan O.S. 2006/1934 a diwygiwyd paragraff 30 o Atodlen 5 gan Ddeddf Pensiynau 2008 (p. 30), Atodlenni 6 ac 11.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill