- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
am 1.31 p.m. ar 25 Medi 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 5.30 p.m. ar 25 Medi 2020
Yn dod i rym
am 6.00 p.m. ar 26 Medi 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020 a deuant i rym am 6.00 p.m. ar 26 Medi 2020.
2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 12(6), yn lle “rheoliad 12ZA” rhodder “rheoliadau 12ZA a 12ZB”.
(3) Ar ôl rheoliad 12ZA mewnosoder—
12ZB. Mae rheoliadau 12(2B) i (2E) a 12ZA(2) i (4) yn gymwys i fangre agored nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, ond sy’n caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, fel y maent yn gymwys i fangre agored sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.”
(4) Yn Atodlen 4A, ym mharagraff 1, ar ôl paragraff (f) mewnosoder—
“(g)yr ardal sy’n cynnwys yr adrannau etholiadol(3) a ganlyn yn Sir Gaerfyrddin—
(i)Bigyn;
(ii)Bynea;
(iii)Dafen;
(iv)Elli;
(v)Felin-foel;
(vi)Glan-y-môr;
(vii)Yr Hendy;
(viii)Hengoed;
(ix)Llangennech;
(x)Lliedi;
(xi)Llwynhendy;
(xii)Tyisha;
(xiii)Swiss Valley.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 1.31 p.m. ar 25 Medi 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”). Mae’r diwygiadau—
(a)yn dynodi 13 o wardiau etholiadol (y cyfeirir atynt mewn deddfwriaeth fel adrannau etholiadol) yn ardal Llanelli yn ardal diogelu iechyd leol sy’n ddarostyngedig i gyfyngiadau a gofynion penodol;
(b)yn darparu, at ddibenion penodol (oriau agor a’r gofyniad i gwsmeriaid eistedd), fod mangre agored nad yw wedi ei thrwyddedu i werthu neu gyflenwi alcohol, ond sy’n caniatáu i bobl yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, i fod yn ddarostyngedig i’r un gofynion â mangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2020/725 (Cy. 162), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/752 (Cy. 169), O.S. 2020/803 (Cy. 176), O.S. 2020/820 (Cy. 180), O.S. 2020/843 (Cy. 186), O.S. 2020/867 (Cy. 189), O.S. 2020/884 (Cy. 195), O.S. 2020/912 (Cy. 204), O.S. 2020/961 (Cy. 215), O.S. 2020/985 (Cy. 222), O.S. 2020/1007 (Cy. 224), O.S. 2020/1011 (Cy. 225), O.S. 2020/1022 (Cy. 227) ac O.S. 2020/1035 (Cy. 229).
Pennwyd eu henwau a’u hardaloedd (ymhlith ardaloedd etholiadol eraill) gan Orchymyn Sir Gaerfyrddin (Trefniadau Etholiadol) 1998 (O.S. 1998/3136).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys