Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) (Diwygio) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1118 (Cy. 253)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) (Diwygio) 2020

Gwnaed

am 12.21 a.m. ar 14 Hydref 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 3.00 p.m. ar 14 Hydref 2020

Yn dod i rym

4 Tachwedd 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) (Diwygio) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Tachwedd 2020.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “gofyniad i ddarparu gwybodaeth” (“requirement to provide information”) yw’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â Rhan 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(3);;

ystyr “gofyniad i ynysu” (“requirement to isolate”) yw’r gofyniad i ynysu yn unol â Rhan 3 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;.

(3Yn lle rheoliad 3(2) (darparu gwybodaeth cyn archebu ac wrth gofrestru) rhodder—

(2) Yr wybodaeth a grybwyllir ym mharagraff (1) yw—

(a)yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn archebu taith ar-lein—

(i)yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen y mae rhaid iddi fod wedi ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn archebu,

(ii)dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen), a

(iii)dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk;

(b)yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn cofrestru ar gyfer taith ar-lein—

(i)yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen y mae rhaid iddi fod wedi ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn cofrestru,

(ii)dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(iii)dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, a

(iv)dolen i https://llyw.cymru/eithriadau-rhag-hunanynysu-coronafeirws-covid-19-html;

(c)yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn archebu taith neu gofrestru ar gyfer taith dros y ffôn neu wyneb yn wyneb—

(i)pan ddarperir yr wybodaeth ar lafar, yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen;

(ii)pan ddarperir yr wybodaeth yn ysgrifenedig, hysbysiad ysgrifenedig sy’n nodi’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth a’r gofyniad i ynysu;

(d)yn unrhyw un o’r achosion uchod, cais i drosglwyddo’r wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (a), (b) neu (c) (yn ôl y digwydd) i unrhyw berson—

(i)yr archebir taith ar ei ran, neu

(ii)y cofrestrir ar gyfer taith ar ei ran.

(4Ar ôl rheoliad 3 mewnosoder—

Darparu gwybodaeth cyn i daith ymadael

3A.(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan archebir taith, o leiaf 48 o oriau cyn yr amser y disgwylir i wasanaeth teithwyr rhyngwladol ymadael, ar gyfer teithiwr (“P”) ar y gwasanaeth hwnnw.

(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i weithredwr y gwasanaeth sicrhau, rhwng 24 a 48 o oriau cyn yr amser y disgwylir i’r gwasanaeth ymadael, bod yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (4) (“yr wybodaeth ofynnol”) wedi ei darparu i P.

(3) Rhaid i’r wybodaeth ofynnol gael ei darparu drwy neges destun neu hysbysiad gwthio, drwy’r e-bost neu ar lafar.

(4) Yr wybodaeth ofynnol a grybwyllir ym mharagraff (2) yw—

(a)pan ddarperir yr wybodaeth drwy neges destun neu hysbysiad gwthio, testun sydd—

(i)yn hysbysu P am y gofyniad i ddarparu gwybodaeth,

(ii)yn hysbysu P bod cosbau yn gymwys am fethu â chydymffurfio â’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth,

(iii)yn cynnwys dolen i https://www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, a

(iv)os yw’r gwasanaeth teithwyr rhyngwladol yn un y dyrennir arno rif sedd i P, yn cynghori P i ddarparu rhif y sedd fel rhan o’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth;

(b)pan ddarperir yr wybodaeth drwy’r e-bost—

(i)yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen,

(ii)dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),

(iii)dolen i https://www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, a

(iv)dolen i https://llyw.cymru/eithriadau-rhag-hunanynysu-coronafeirws-covid-19-html;

(c)pan ddarperir yr wybodaeth ar lafar, yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen.

(5) Pan fo person arall (“A”) yn archebu taith ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol ar ran teithiwr arall (pa un a yw A hefyd yn deithiwr ar y gwasanaeth hwnnw ai peidio), rhaid trin y gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â’r rheoliad hwn fel gofyniad y cydymffurfiwyd ag ef, o ran yr amser a nodir ym mharagraff (1), os darparwyd yr wybodaeth ofynnol i A yn y dull sy’n ofynnol rhwng 24 a 48 o oriau cyn yr amser y disgwylir i’r gwasanaeth hwnnw ymadael, ynghyd â chais ysgrifenedig i A ddarparu’r wybodaeth honno i’r teithiwr.

(5Yn rheoliad 4(1) (darparu gwybodaeth yn ystod taith), yn lle “yr Atodlen” rhodder “Rhan 2 o’r Atodlen”.

(6Yn rheoliad 5 (eithriad o ofynion rheoliadau 3 a 4)—

(a)yn y pennawd, ar ôl “3” mewnosoder “, 3A”;

(b)yn y rheoliad, ar ôl “3” mewnosoder “, 3A”.

(7Yn rheoliad 6(1) (troseddau), ar ôl “(3)” mewnosoder “, rheoliad 3A(2)”.

(8Yn lle’r Atodlen rhodder—

Rheoliadau 3, 3A a 4

YR ATODLEN

RHAN 1

Yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), 3(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c) yw—

ESSENTIAL INFORMATION TO ENTER THE UK

The United Kingdom is taking steps to help stop the spread of COVID-19.

1)

To protect your health and others’, everyone must complete an online Passenger Locator Form before arrival in the United Kingdom.

2)

You may be required to self-isolate for 14 days on arrival. Check the exempt countries list immediately before you travel as this list can change at short notice.

3)

It is a legal requirement that you wear a face covering on public transport in the UK.

Failure to comply with the above measures is a criminal offence and you could be fined. Please visit www.gov.uk/uk-border-control for detailed public health advice and requirements for entering the UK.

RHAN 2

Y datganiad sydd i’w ddarparu at ddibenion rheoliad 4 yw—

(a)y fersiwn Gymraeg—

Dyma neges iechyd y cyhoedd ar ran asiantaethau iechyd y cyhoedd y Deyrnas Unedig.

Cyn cael mynediad i’r Deyrnas Unedig, rhaid i chi lenwi Ffurflen Lleoli Teithwyr ar-lein, ni waeth o ble yr ydych yn cyrraedd. Rhaid i chi hefyd hunanynysu am y 14 o ddiwrnodau cyntaf ar ôl i chi gyrraedd, oni bai eich bod mewn categori esempt. Mae hyn er mwyn eich diogelu chi ac eraill.

Ewch i gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Symptomau’r coronafeirws yw peswch cyson newydd, tymheredd uchel neu golli eich synnwyr blasu neu arogli arferol, neu newid yn eich synnwyr blasu neu arogli arferol. Os ydych yn profi unrhyw un o’r symptomau hyn, ni waeth pa mor ysgafn ydynt, fe’ch cynghorir i wneud eich hunan yn hysbys i’r criw.

Camau syml y gallwch eu cymryd i helpu i’ch diogelu chi a’ch teulu yw:

Golchi eich dwylo

Osgoi cyffwrdd â’ch wyneb â’ch dwylo

Dal peswch a thisian mewn hances bapur a’i gwaredu ar unwaith.;

(b)y fersiwn Saesneg—

The following is a public health message on behalf of the UK’s public health agencies.

Before entering the UK, you must complete a Passenger Locator Form online, regardless of where you are arriving from. You must also self-isolate for the first 14 days after you arrive, unless you are in an exempt category. This is to protect yourself and others.

Visit gov.uk for more information.

The symptoms of coronavirus are a new continuous cough, a high temperature or a loss of, or change in, normal sense of taste or smell. If you experience any of these symptoms, however mild, you are advised to make yourself known to the crew.

Simple measures you can take to help protect yourself and family are:

Wash your hands

Avoid touching your face with your hands

Catch coughs and sneezes in a tissue and dispose of it immediately.;

(c)y datganiad sydd ym mharagraff (a) neu (b) wedi ei gyfieithu i iaith a gydnabyddir yn swyddogol yn y wlad yr ymadawyd â hi.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 12.21 a.m. ar 14 Hydref 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (“y Rheoliadau Gwybodaeth”) yn gosod gofyniad ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru (“gweithredwyr”) i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodol i deithwyr.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth er mwyn—

(a)ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr ddarparu’r wybodaeth yn ystod cam ychwanegol, sef 24 i 48 o oriau cyn yr amser y disgwylir i wasanaeth teithwyr rhyngwladol ymadael, a

(b)diweddaru’r wybodaeth sydd i’w darparu cyn yr archebir taith a chyn y cofrestrir ar gyfer taith, ac yn ystod y daith i’r porthladd yng Nghymru.

Mae rheoliad 2(3) yn diwygio rheoliad 3 o’r Rheoliadau Gwybodaeth er mwyn pennu’r wybodaeth wedi ei diweddaru sydd i’w darparu cyn yr archebir taith a chyn y cofrestrir ar gyfer taith.

Mae rheoliad 2(4) yn mewnosod rheoliad 3A newydd yn y Rheoliadau Gwybodaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr ddarparu’r wybodaeth 24 i 48 o oriau cyn yr amser y disgwylir i wasanaeth teithwyr rhyngwladol ymadael.

Mae rheoliad 2(5), (6) a (7) yn gwneud diwygiadau canlyniadol, ac mae rheoliad 2(8) yn amnewid yr Atodlen i’r Rheoliadau Gwybodaeth.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill