- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
13 Hydref 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
15 Hydref 2020
Yn dod i rym
6 Tachwedd 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1), 123 a 124 o Ddeddf Addysg 2002(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru yn unol ag adran 126(3) o’r Ddeddf honno wedi ymgynghori â’r personau hynny a’r cyrff hynny y cyfeirir atynt yn yr adran honno yr oedd yn ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn briodol.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2020 a daw i rym ar 6 Tachwedd 2020.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i athrawon ysgol yng Nghymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “athro neu athrawes ysgol” yr ystyr a roddir i “school teacher” gan adran 122(3) i (6) o Ddeddf Addysg 2002;
ystyr “y Ddogfen” (“the Document”) yw’r ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2020 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” ac a gyhoeddir ar wefan llyw.cymru(4).
2. Mae’r darpariaethau a nodir yn adran 2 o’r Ddogfen yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2020 at ddibenion penderfynu—
(a)y tâl ar gyfer athrawon ysgol, a
(b)amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol sy’n ymwneud â’u dyletswyddau proffesiynol a’u hamser gweithio.
3. Mae Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019(5) a Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2020(6) wedi eu dirymu.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
13 Hydref 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer penderfynu’r tâl ar gyfer athrawon ysgol (o fewn ystyr adran 122 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32)) yng Nghymru ac amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol yng Nghymru sy’n ymwneud â’u dyletswyddau proffesiynol a’u hamser gweithio.
Mae’r Gorchymyn yn gwneud y ddarpariaeth hon drwy gyfeirio at adran 2 o ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2020 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” (“y Ddogfen”). Gellir canfod y Ddogfen ar wefan Llywodraeth Cymru: www.llyw.cymru.
Mae’r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth ôl-weithredol, o dan adran 123(3) o Ddeddf Addysg 2002, er mwyn darparu bod y darpariaethau a nodir yn adran 2 o’r Ddogfen yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2020 er bod y Gorchymyn yn dod i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (erthygl 2).
Mae’r Gorchymyn yn dirymu Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019 a Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2020 (erthygl 3).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Lles Disgyblion, Yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2002 p. 32. Diwygiwyd adrannau 122 a 123 gan erthygl 5(1) o O.S. 2010/1158 a chan baragraff 11 o Ran 1 o Atodlen 2 iddo.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru gan erthygl 39 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644).
Trosglwyddwyd y swyddogaeth hon o’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru gan erthygl 39 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644).
O.S. 2019/1363 (Cy. 236), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/292 (Cy. 66).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys