- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Gwnaed
16 Hydref 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
20 Hydref 2020
Yn dod i rym
13 Tachwedd 2020
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) (“Deddf 1972”) mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin(2).
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, a chyda cysyniad y Trysorlys, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973(3) sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(4).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriadau at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd a grybwyllir yn rheoliad 2(3)(b) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 13 Tachwedd 2020.
2.—(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), ym mharagraff (c) o’r diffiniad o “pla planhigion a reolir”, ar y diwedd mewnosoder “, gan gynnwys pla planhigion cwarantin posibl o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 21(3)”.
(3) Yn rheoliad 3(1)—
(a)hepgorer y diffiniadau o—
(i)“Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/198”, a
(ii)“Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1615”;
(b)ar y diwedd mewnosoder—
“ystyr “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/885” (“Commission Implementing Regulation (EU) 2020/885”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/885 o ran mesurau i atal Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyumu & Goto(6) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;
ystyr “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1191” (“Commission Implementing Regulation (EU) 2020/1191”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1191 yn sefydlu mesurau i atal Firws ffrwythau crychlyd coch tomatos (ToBRFV)(7) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo.”
(4) Yn rheoliad 13(10)—
(a)hepgorer y diffiniad o “awr waith”;
(b)yn y lle priodol mewnosoder—
“mae i “diwrnod gwaith” (“working day”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7(4);”.
(5) Yn rheoliad 21—
(a)yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Caiff yr awdurdod priodol roi awdurdodiad i ganiatáu—
(a)cyflawni unrhyw weithgaredd a bennir mewn rhanddirymiad iechyd planhigion,
(b)cyflwyno pla planhigion cwarantin posibl i Gymru, symud pla planhigion cwarantin posibl o fewn Cymru, neu ddal neu luosogi pla planhigion cwarantin posibl yng Nghymru, at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau, neu
(c)cyflawni unrhyw weithgaredd arall y mae cymeradwyaeth yr awdurdod priodol yn ofynnol ar ei gyfer o dan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn.”;
(b)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Ym mharagraff (1)—
ystyr “pla planhigion cwarantin posibl” (“potential quarantine plant pest”) yw pla planhigion nad yw’n bla cwarantin yr Undeb, yn bla cwarantin parth gwarchodedig nac yn bla planhigion sy’n destun unrhyw fesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, ond sydd, ym marn yr awdurdod priodol, yn bodloni’r meini prawf a nodir yn Is-adran 1 o Adran 3 o Atodiad 1 i’r Rheoliad hwnnw neu y gallai fod yn bodloni’r meini prawf yn Is-adran 2 o’r Adran honno;
ystyr “rhanddirymiad iechyd planhigion” (“plant health derogation”) yw—
rhanddirymiad darpariaethau Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE a nodir mewn act weithredu neu act ddirprwyedig a fabwysiadwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, neu
rhanddirymiad unrhyw benderfyniad o fewn ystyr Erthygl 288 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, sy’n dal yn gymwys at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE ar neu ar ôl y dyddiad cychwyn ac sy’n caniatáu i’r Aelod-wladwriaethau awdurdodi gweithgaredd a fyddai fel arall wedi ei wahardd gan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE neu odano.”
(6) Yn Atodlen 3, yn y tabl yn Rhan 3, ar ôl y cofnod ar gyfer Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1602 mewnosoder—
“Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2123 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer yr achosion pan ganiateir cynnal gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar nwyddau penodol wrth bwyntiau rheoli a phan ganiateir cynnal gwiriadau dogfennol bellter oddi wrth safleoedd rheoli ar y ffin, ac o dan ba amodau y caniateir gwneud hynny(8) | |
---|---|
Erthygl 2(1)(d), (e), (f), (g)(i) ac (h) (fel y’u darllenir gydag Erthygl 2(2) a (3)), Erthygl 5(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 5(2), Erthygl 6(1) a (4) ac Erthygl 8(2)) | Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth gydymffurfio ag amodau penodol pan fo gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar y llwyth i’w cynnal wrth bwynt rheoli ac eithrio safle rheoli ar y ffin.” |
(7) Yn y tabl yn Atodlen 4—
(a)hepgorer y cofnodion sy’n ymwneud ag—
(i)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2017/198/EU, a
(ii)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1615;
(b)ar y diwedd mewnosoder—
“Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/885 | Erthygl 2 (gwahardd cyflwyno i diriogaeth yr Undeb a lledaenu o fewn tiriogaeth yr Undeb Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyumu & Goto) |
Erthygl 3 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd) | |
Erthygl 7 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sydd wedi treulio rhan o’u bywyd yn yr Undeb) | |
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1191 | Erthygl 2 (gwahardd cyflwyno i diriogaeth yr Undeb a lledaenu o fewn tiriogaeth yr Undeb Firws ffrwythau crychlyd coch tomatos) |
Erthygl 6 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig ar gyfer eu plannu o fewn yr Undeb) | |
Erthygl 7 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb hadau penodedig) | |
Erthygl 8 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig i’w plannu sy’n tarddu o drydydd gwledydd) | |
Erthygl 9 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb hadau penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd)”. |
3. Yn Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018(9), yn rheoliad 5(5), yn lle “at ddibenion unrhyw randdirymiad a ddisgrifir yn Erthygl 8(1) neu 48(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “a ddisgrifir yn rheoliad 20(1)(a) neu (b)(i) neu 21(1)(b) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020”.
4. Yn Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019(10), yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “trwydded”, ym mharagraff (b), ar ôl “21(1)(a)” mewnosoder “neu (b)”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
16 Hydref 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/206) (Cy. 48) (“Rheoliadau 2020”), sy’n rhoi effaith i—
(a)Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion (OJ Rhif L 317, 23.11.2016, t. 4), a
(b)Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion, i’r graddau y mae’n gymwys i’r rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2)(g) (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1).
Mae rheoliad 2(3) a (7) yn diweddaru’r cyfeiriadau yn Rheoliadau 2020 at—
(a)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/198 o ran mesurau i atal Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyumu & Goto (OJ Rhif L 31, 4.2.2017, t. 29) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo, sydd wedi ei ddiddymu a’i ddisodli gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/885 o ran mesurau i atal Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyumu & Goto (OJ Rhif L 205, 29.6.2020, t. 9) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo, a
(b)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1615 yn sefydlu mesurau brys i atal Firws ffrwythau crychlyd coch tomatos (OJ Rhif L 250, 30.9.2015, t. 91) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo, sydd wedi ei ddiddymu a’i ddisodli gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1191 yn sefydlu mesurau i atal Firws ffrwythau crychlyd coch tomatos (OJ Rhif L 262, 12.8.2020, t. 6) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo.
Mae rheoliad 2(5) yn diwygio rheoliad 21 o Reoliadau 2020 er mwyn caniatáu i’r awdurdod priodol awdurdodi defnyddio plâu planhigion cwarantin posibl at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau.
Mae rheoliad 2(6) yn diwygio Atodlen 3 i Reoliadau 2020 er mwyn galluogi Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2123 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer yr achosion pan ganiateir cynnal gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar nwyddau penodol wrth bwyntiau rheoli a phan ganiateir cynnal gwiriadau dogfennol bellter oddi wrth safleoedd rheoli ar y ffin, ac o dan ba amodau y caniateir gwneud hynny, (OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 64) i gael ei orfodi o 14 Rhagfyr 2020 (y dyddiad y bydd y darpariaethau yn y Rheoliad hwnnw yn gymwys i blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill penodol).
Mae rheoliadau 2(2) a (4), 3 a 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol a mân ddiwygiadau eraill.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1972 p. 68. Diddymwyd Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”) gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (“Deddf 2018”) ac mae hynny’n cael effaith o’r diwrnod ymadael. Mae “exit day” wedi ei ddiffinio yn adran 20 o Ddeddf 2018 fel 31 Ionawr 2020 am 11pm. Er gwaethaf y diddymiad hwnnw mae Deddf 1972 yn parhau i gael effaith gydag addasiadau tan ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn rhinwedd adran 1A o Ddeddf 2018. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) (“Deddf 2020”). Mae “IP completion day” wedi ei ddiffinio yn adran 1A fel 31 Rhagfyr 2020 am 11pm (yr ystyr a roddir yn adran 39 o Ddeddf 2020). Diwygiwyd adran 2(2) o Ddeddf 1972 yn flaenorol gan adran 27(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.
O.S. 2010/2690, sydd wedi ei ddirymu’n rhagolygol gan O.S. 2018/1011 o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
1973 p. 51; diwygiwyd adran 56(1) gan O.S. 2011/1043, ac mae wedi ei diwygio yn rhagolygol gan baragraff 17 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) o ddyddiad ac amser sydd i’w bennu.
Yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
OJ Rhif L 205, 29.6.2020, t. 9.
OJ Rhif L 262, 12.8.2020, t. 6.
OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 64.
O.S. 2018/1179 (Cy. 238), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/44 (Cy. 5); mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2019/497 (Cy. 114), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/44 (Cy. 5) ac O.S. 2020/206 (Cy. 48).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys