- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rheoliadau 11 i 15
1. Unrhyw fusnes sy’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu hurio mewn siop, gan gynnwys—LL+C
(a)siopau nwyddau i’r cartref;
(b)salonau ewinedd a harddwch;
(c)sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, gwasanaethau tylino, tyllu’r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo;
(d)tai arwerthiant;
(e)delwriaethau ceir;
(f)marchnadoedd;
(g)siopau betio;
(h)salonau gwallt a barbwyr;
(i)canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
2. Canolfannau siopa ac arcedau siopa.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
3. Sinemâu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
4. Theatrau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
5. Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
6. Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982(1)).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
7. Neuaddau bingo.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
8. Neuaddau cyngerdd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
9. Casinos.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
10. Canolfannau sglefrio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
11. Pyllau nofio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
12. Canolfannau hamdden a chyfleusterau hamdden gan gynnwys stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd a sbaon.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
13. Cyrtiau chwaraeon, parciau sglefrio, lawntiau bowlio, cyrsiau golff a meysydd neu leiniau chwaraeon amgaeedig (boed yn yr awyr agored neu o dan do).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
14. Alïau bowlio, arcedau diddanu a mannau chwarae o dan do.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
15. Amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
16. Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
17. Atyniadau i ymwelwyr a busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
18. Canolfannau ailgylchu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
19. Llyfrgelloedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
20. Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
21. Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau heblaw am fannau addoli a swyddfeydd cofrestru).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
22. Bwytai, gan gynnwys bwytai ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau ac ym mangreoedd busnesau a restrir ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
23. Caffis, gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle a chaffis ym mangreoedd busnesau a restrir ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
24. Bariau, gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau ac ym mangreoedd busnesau a restrir ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
25. Tafarndai.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
26. Safleoedd gwyliau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
27. Safleoedd gwersylla.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
28. Gwestai a llety gwely a brecwast.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
29. Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
30. Mannau addoli.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
31. Canolfannau cymunedol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
32. Amlosgfeydd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
33. Manwerthwyr bwyd, gan gynnwys marchnadoedd bwyd, archfarchnadoedd, siopau cyfleustra, siopau cornel a sefydliadau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre (gan gynnwys mangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed oddi ar y fangre).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
34. Caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
35. Ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
36. Llyfrgelloedd ysbytai a llyfrgelloedd mewn sefydliadau addysgol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
37. Siopau papurau newydd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 1 para. 37 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
38. Siopau cyflenwadau adeiladu ac offer.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 1 para. 38 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
39. Fferyllfeydd (yn cynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 1 para. 39 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
40. Siopau beiciau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 1 para. 40 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
41. Gorsafoedd petrol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. 1 para. 41 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
42. Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 1 para. 42 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
43. Busnesau tacsi neu logi cerbydau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. 1 para. 43 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
44. Banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, darparwyr benthyciadau tymor byr, clybiau cynilo, peiriannau arian parod ac ymgymeriadau sydd, o ran eu busnes, yn gweithredu swyddfeydd cyfnewid arian cyfred, yn trawsyrru arian (neu unrhyw gynrychiolaeth o arian) drwy unrhyw ddull neu sieciau arian parod sydd wedi eu gwneud yn daladwy i gwsmeriaid.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I44Atod. 1 para. 44 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
45. Swyddfeydd post.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I45Atod. 1 para. 45 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
46. Golchdai a siopau glanhau dillad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I46Atod. 1 para. 46 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
47. Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I47Atod. 1 para. 47 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
48. Milfeddygon a siopau anifeiliaid anwes.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I48Atod. 1 para. 48 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
49. Siopau cyflenwadau amaethyddol neu ddyframaethu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I49Atod. 1 para. 49 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
50. Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I50Atod. 1 para. 50 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
51. Trefnwyr angladdau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I51Atod. 1 para. 51 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
52.—(1) At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—LL+C
(a)wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu
(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.
(2) At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—
(a)y person sy’n berchennog ar y safle, neu
(b)person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(2) yn gymwys iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I52Atod. 1 para. 52 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
Rheoliad 22
1.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwella mangre”) i berson cyfrifol os yw’r swyddog yn ystyried—
(a)nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 17(2), a
(b)bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.
(2) Rhaid i hysbysiad gwella mangre—
(a)pennu’r fangre y mae’n ymwneud â hi;
(b)pennu’r mesurau y mae’n ei gwneud yn ofynnol eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 17(2);
(c)pennu terfyn amser y mae rhaid cymryd y mesurau oddi mewn iddo (na chaniateir iddo fod yn llai nag 48 awr sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad);
(d)rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.
(3) Yn yr Atodlen hon, mae i “person cyfrifol” yr ystyr a roddir gan reoliad 17(1)(b).
Gwybodaeth Cychwyn
I53Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
2.—(1) Os yw naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni, caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau mangre”) i berson cyfrifol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r fangre, neu ran o’r fangre, gael ei chau.
(2) Amod 1 yw—
(a)bod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi i’r person,
(b)bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried bod y person wedi methu â chymryd y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre o fewn y terfyn amser penodedig, ac
(c)bod y swyddog yn ystyried bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(3) Amod 2 yw bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried—
(a)nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 17(2), a
(b)bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, (heb fod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi) yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(4) Rhaid i hysbysiad cau mangre—
(a)cynnwys disgrifiad o’r fangre sydd i’w chau,
(b)pan fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r mesurau y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried—
(i)nad ydynt wedi eu cymryd, a
(ii)y mae rhaid eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person cyfrifol yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 17(2),
(c)pan na fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 17(2),
(d)yn y naill achos neu’r llall, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried bod cau’r fangre yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws,
(e)pennu’r cyfnod y mae’r hysbysiad yn cael effaith amdano, ac
(f)rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.
(5) Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (4)(e) fod yn hwy na 336 o oriau (14 o ddiwrnodau) sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad.
(6) Mae hysbysiad cau mangre yn cael effaith o’r amser y’i dyroddir neu o amser diweddarach a bennir yn yr hysbysiad.
(7) Ni chaniateir dyroddi hysbysiad cau mangre mewn perthynas â mangre sy’n rhan o seilwaith hollbwysig (er enghraifft, mangre a ddefnyddir i gynhyrchu trydan neu gyflenwi dŵr) neu a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I54Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
3.—(1) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad cau mangre gymryd effaith, rhaid i’r person y’i dyroddir iddo sicrhau—
(a)bod y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi yn cael ei chau, a
(b)na chynhelir unrhyw fusnes neu na ddarperir unrhyw wasanaeth yn y fangre neu ohoni.
(2) Ni chaiff unrhyw berson fynd i’r fangre, neu fod yn y fangre, sydd wedi ei chau o dan is-baragraff (1) heb esgus rhesymol.
(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae’r amgylchiadau pan fo gan berson esgus rhesymol yn cynnwys—
(a)pan fo’r person yn byw yn y fangre;
(b)pan fo’r person yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio hanfodol;
(c)pan fo’r person yn gwneud pethau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 17(2) pan ganiateir i’r fangre fod ar agor;
(d)pan fo’r person yn swyddog gorfodaeth neu berson sy’n cynorthwyo swyddog gorfodaeth;
(e)pan fo’n angenrheidiol i’r person fod yn y fangre er mwyn osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.
Gwybodaeth Cychwyn
I55Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
4.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad sy’n terfynu hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre os yw wedi ei fodloni—
(a)bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre (os dyroddwyd un) wedi eu cymryd, neu
(b)bod mesurau eraill wedi eu cymryd i sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 17(2) yn y fangre o dan sylw.
(2) Mae hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre yn peidio â chael effaith ar yr amser y dyroddir hysbysiad o’r terfyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I56Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
5.—(1) Caiff person y dyroddir hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre iddo apelio i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad.
(2) Rhaid i apêl gael ei gwneud—
(a)drwy gŵyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980, a
(b)o fewn 7 niwrnod ar ôl i’r hysbysiad gael ei ddyroddi.
(3) Ond caiff llys ynadon ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio y tu allan i amser).
(4) Caiff llys ynadon atal dros dro effaith hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre wrth aros am y penderfyniad ar yr apêl.
(5) Ar apêl yn erbyn hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre, caiff llys ynadon—
(a)cadarnhau’r penderfyniad i ddyroddi’r hysbysiad;
(b)cyfarwyddo bod yr hysbysiad i beidio â chael effaith;
(c)addasu’r hysbysiad;
(d)gwneud unrhyw orchymyn arall y mae’r llys yn ystyried ei fod yn briodol.
(6) Os yw’r llys ynadon yn cyfarwyddo bod hysbysiad i beidio â chael effaith neu’n addasu hysbysiad, caiff orchymyn i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre o dan sylw ddigolledu’r person sy’n gyfrifol am y fangre am golled a ddioddefir o ganlyniad i ddyroddi’r hysbysiad.
(7) Caiff y naill parti neu’r llall ddwyn apêl yn erbyn penderfyniad llys ynadon ar apêl o dan yr adran hon i Lys y Goron.
(8) Ar apêl i Lys y Goron, caiff y Llys—
(a)cadarnhau, amrywio neu wrthdroi penderfyniad y llys ynadon;
(b)anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.
Gwybodaeth Cychwyn
I57Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
6.—(1) Caiff hysbysiad gwella mangre, hysbysiad cau mangre neu derfyniad o’r naill neu’r llall o’r mathau hynny o hysbysiad ei ddyroddi i berson drwy roi copi ohono yn ysgrifenedig i’r person hwnnw.
(2) Ond pan na fo’r person sy’n gyfrifol am y fangre y mae’r hysbysiad neu’r terfyniad yn ymwneud â hi yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddyroddi i’r person hwnnw—
(a)os rhoddir copi ohono i unrhyw berson arall yn y fangre yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am unrhyw fusnes neu wasanaeth a gynhelir yn y fangre, neu
(b)os nad oes unrhyw berson o’r fath yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, os gosodir copi o’r hysbysiad mewn lle amlwg yn y fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I58Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth wedi dyroddi hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre.
(2) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dyroddi’r hysbysiad, rhaid i’r swyddog gorfodaeth—
(a)arddangos copi o’r hysbysiad, ac arwydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3, mewn man amlwg yn agos i bob mynedfa i’r fangre;
(b)trefnu i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre.
(3) Rhaid i hysbysiad neu arwydd a arddangosir o dan is-baragraff (2)(a) fod o faint A4 o leiaf.
(4) Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei arddangos a’i gyhoeddi o dan is-baragraff (2) barhau i gael ei arddangos a’i gyhoeddi, a rhaid i arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan yr is-baragraff hwnnw barhau i gael ei arddangos, am gyhyd ag y mae’r hysbysiad yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I59Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
8.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth, er mwyn hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan yr Atodlen hon—
(a)ei wneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu ateb unrhyw gwestiwn y mae’r swyddog yn ystyried ei bod neu ei fod yn berthnasol i arfer y pŵer;
(b)ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion electronig, edrych ar y dogfennau hynny neu’r cofnodion electronig hynny neu gymryd copïau ohonynt.
(2) Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan is-baragraff (1) i berson ddarparu dogfen, cofnod neu wybodaeth arall y gellid maentumio hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hi neu ag ef mewn achos cyfreithiol.
(3) Nid yw unrhyw wybodaeth neu ateb a roddir gan berson mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan is-baragraff (1)(a) yn dderbyniadwy mewn tystiolaeth yn erbyn y person hwnnw, neu briod neu bartner sifil y person, mewn unrhyw achos ac eithrio achos o dan y Rheoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I60Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
Rheoliad 22
1.—(1) Rhaid i arwydd a arddangosir gyda hysbysiad gwella mangre o dan baragraff 7(2)(a) o Atodlen 2 fod ar y ffurf a nodir isod.
(2) Rhaid defnyddio’r lliwiau gwyn, du ac ambr C0 M60 Y100 K0 yn yr arwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I61Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
2.—(1) Rhaid i arwydd a arddangosir gyda hysbysiad cau mangre o dan baragraff 7(2)(a) o Atodlen 2 fod ar y ffurf a nodir isod.
(2) Rhaid defnyddio’r lliwiau gwyn, du a choch C15 M100 Y100 K0 yn yr arwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I62Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)
Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 3 gan adran 27(3) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26).
2013 dccc 6, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys