Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 14/11/2020
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 09/11/2020.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
am 1.14 p.m. ar 5 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 4.45 p.m. ar 5 Tachwedd 2020
Yn dod i rym
9 Tachwedd 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45B, 45C(1) a (3), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Tachwedd 2020.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
2. Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, a pha un a yw’r cyfyngiadau a’r gofynion hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—
(a)erbyn 19 Tachwedd 2020;
(b)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 20 Tachwedd 2020 i 3 Rhagfyr 2020;
(c)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 4 Rhagfyr 2020 i 17 Rhagfyr 2020;
(d)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â 18 Rhagfyr 2020;
(e)o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 o ddiwrnodau.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
3.—(1) Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar 19 Chwefror 2021.
(2) Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
4.—(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat gydag unrhyw berson arall ac eithrio aelodau o’i aelwyd neu ei aelwyd estynedig.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
(b)os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys.
(3) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol ymarferol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;
(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(2), pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)symud cartref;
(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
(4) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw bod y person yn—
(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—
(i)yn byw yn yr un fangre, a
(ii)yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.
(5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
5.—(1) Caiff 2 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig at ddibenion rheoliad 4 neu 6(2)(b).
(2) Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i bob oedolyn ar y 2 aelwyd gytuno.
(3) Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig.
(4) Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw oedolion yn yr aelwyd yn peidio â chytuno i gael eu trin fel pe baent yn rhan o’r aelwyd estynedig.
(5) Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
6.—(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad—
(a)sy’n digwydd yn unman ac eithrio—
(i)mewn annedd breifat, neu
(ii)mewn llety gwyliau neu lety teithio, a
(b)sy’n cynnwys mwy na 4 o bobl, heb gynnwys—
(i)unrhyw blant o dan 11 oed, na
(ii)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.
(2) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath—
(a)sy’n digwydd o dan do neu mewn unrhyw ran o fangre reoleiddiedig sydd yn yr awyr agored, os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu
(b)sy’n digwydd yn yr awyr agored ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig, os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad—
(i)yn aelodau o’r un aelwyd, neu
(ii)yn aelodau o’r un aelwyd estynedig.
(3) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.
(4) At ddibenion paragraffau (1) a (3), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
(b)os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (6) yn gymwys.
(5) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)symud cartref;
(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(i)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
(6) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b) yw bod y person yn—
(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—
(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;
(d)mynd i angladd—
(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(e)cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 15 o bobl, heb gynnwys personau o dan 11 oed, mewn mangre reoleiddiedig i—
(i)dathlu gweinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil sy’n digwydd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;
(ii)dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;
(f)mynd i addoldy;
(g)athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;
(h)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon nad yw ond athletwyr elît yn cystadlu ynddo;
(i)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—
(i)lle nad yw mwy na 15 o bobl yn bresennol heb gynnwys personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau elusennol ynddo, a
(ii)lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;
(j)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—
(i)lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gynnwys personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau elusennol ynddo, a
(ii)lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;
(k)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).
(7) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
7.—(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—
(a)digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu
(b)digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,
heb gynnwys personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau elusennol ynddo.
(2) At ddibenion paragraff (1)—
(a)nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;
(b)mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad yw mwy na 15 neu 30 yn bresennol, yn ôl y digwydd;
(c)nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—
(i)arddangos ffilm;
(ii)marchnad;
(iii)gwasanaeth crefyddol;
(iv)digwyddiad chwaraeon nad yw ond athletwyr elît yn cystadlu ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
8.—(1) Ni chaiff unrhyw berson ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu” yw digwyddiad—
(a)y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol ynddo,
(b)lle y mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae neu ei pherfformio at ddiben adloniant, neu at ddibenion sy’n cynnwys y diben hwnnw, a
(c)lle o ran chwarae neu berfformio cerddoriaeth—
(i)y mae’n weithgaredd trwyddedadwy (o fewn ystyr Deddf Trwyddedu 2003(3)), a
(ii)nas cynhelir o dan awdurdodiad nac yn unol ag awdurdodiad (o fewn yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno).
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
9.—(1) Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw y tu allan i Gymru fynd i Gymru neu aros yng Nghymru heb esgus rhesymol.
(2) Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw yng Nghymru ymadael â Chymru heb esgus rhesymol.
(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)os yw’r person yn ymadael â Chymru neu’n mynd i Gymru at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;
(b)os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys.
(4) Mae enghreifftiau o ddibenion y gall fod yn rhesymol ymarferol i berson fynd i Gymru neu ymadael â Chymru atynt yn cynnwys—
(a)ceisio neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos llys;
(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)symud cartref;
(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(i)cael gafael ar wasanaethau addysgol;
(j)cael—
(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;
(k)cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 3 neu 4 o Ran 1 o Atodlen 2 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
(l)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).
(5) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(b) yw bod y person yn—
(a)darparu neu gael cynhorthwy brys;
(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—
(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;
(d)mynd i angladd—
(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(e)athletwr elît ac yn hyfforddi ac yn cystadlu;
(f)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon nad yw ond athletwyr elît yn cystadlu ynddo;
(g)teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ar daith sy’n dechrau yng Nghymru ac yn gorffen yng Nghymru;
(h)teithio i gymryd rhan mewn cynulliad gydag aelwyd estynedig y person yn unol â rheoliad 4 neu 6(2)(b).
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
10.—(1) Yn y Rhan hon ystyr “cysylltiad agos” yw cysylltiad y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ystyried y gall arwain at risg o haint neu halogiad â’r coronafeirws, gan gynnwys—
(a)dod i gysylltiad wyneb yn wyneb â pherson o bellter o lai nag 1 metr;
(b)treulio mwy na 15 munud o fewn 2 fetr i berson;
(c)teithio mewn car neu gerbyd bach arall gyda pherson neu’n agos i berson ar awyren neu yn yr un cerbyd mewn trên.
(2) Yn rheoliadau 11 a 13, mae cyfeiriadau at “oedolyn” (“O”) yn cynnwys cyfeiriadau at blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed.
(3) At ddibenion y Rhan hon, mae gan berson gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan y person—
(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu
(b)cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw hysbysiad drwy ap ffôn clyfar Covid 19 y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
11.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod O wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ar neu ar ôl 9 Tachwedd 2020.
(2) Ni chaiff O ymadael â’r man lle y mae O yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad O oni bai bod rheoliad 15 yn gymwys.
(3) Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i O hysbysu’r swyddog—
(a)am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae O yn byw, a
(b)am gyfeiriad y man hwnnw.
(4) Diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
(5) Ond pan fo O yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd symptomau gyntaf, diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae O yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd y symptomau gyntaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
12.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod plentyn (“P”) y mae O yn gyfrifol amdano wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ar neu ar ôl 9 Tachwedd 2020.
(2) Ni chaiff P ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P oni bai bod rheoliad 15 yn gymwys.
(3) Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i O hysbysu’r swyddog—
(a)am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a
(b)am gyfeiriad y man hwnnw.
(4) Diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
(5) Ond mewn achos pan fo O yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd P symptomau gyntaf, diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae O yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd P symptomau gyntaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
13.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod O wedi dod i gysylltiad agos ar neu ar ôl 9 Tachwedd 2020 â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws (“C”).
(2) Ni chaiff O ymadael â’r man lle y mae O yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad O oni bai bod rheoliad 15 yn gymwys.
(3) Rhaid i O hysbysu swyddog olrhain cysylltiadau, os yw’n gofyn am hynny, am gyfeiriad y man lle y mae O yn byw.
(4) Diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth O i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
(5) Ond pan fo O yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad O yw—
(a)pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf;
(b)pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 13 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
14.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod plentyn (“P”) y mae O yn gyfrifol amdano wedi dod i gysylltiad agos ar neu ar ôl 9 Tachwedd 2020 â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws (“C”).
(2) Ni chaiff P ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P oni bai bod rheoliad 15 yn gymwys.
(3) Rhaid i O hysbysu swyddog olrhain cysylltiadau, os yw’n gofyn am hynny, am gyfeiriad y man lle y mae P yn byw.
(4) Diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth P i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
(5) Ond pan fo P yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad P yw—
(a)pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, neu
(b)pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 14 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
15.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn rhinwedd rheoliad 11(2), 12(2), 13(2) neu 14(2).
(2) Caiff y person ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw a bod y tu allan iddo am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol i—
(a)ceisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen hyn ar frys neu ar gais ymarferydd meddygol cofrestredig;
(b)cael gafael ar wasanaethau milfeddygol—
(i)pan fo eu hangen ar frys, neu
(ii)pan na fo’n bosibl i berson arall yn y man lle y mae’r person yn byw gael gafael ar y gwasanaethau hynny;
(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol, pan na fo’n bosibl nac yn ymarferol gwneud hynny heb ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw;
(d)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(e)am resymau tosturiol, gan gynnwys mynd i angladd—
(i)aelod o’r teulu;
(ii)ffrind agos;
(f)cael angenrheidiau sylfaenol (gan gynnwys ar gyfer personau eraill yn y man lle y mae’r person yn byw neu unrhyw anifeiliaid anwes yn y man hwnnw) pan na fo’n bosibl nac yn ymarferol—
(i)i berson arall yn y man lle y mae’r person yn byw eu cael, neu
(ii)eu cael drwy eu danfon i’r man hwnnw gan drydydd parti;
(g)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau i ddioddefwyr)—
(i)pan fo cael gafael ar y gwasanaeth yn hanfodol i lesiant y person, a
(ii)pan na fo’r gwasanaeth yn gallu cael ei ddarparu os yw’r person yn aros yn y man lle y mae’r person yn byw;
(h)symud i fan gwahanol i fyw pan fo’n mynd yn anymarferol aros yn y man lle y mae’r person yn byw.
(3) Nid yw rheoliadau 11(2), 12(2), 13(2) a 14(2) yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
(4) Nid yw rheoliad 11(2) yn gymwys i berson—
(a)sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws yn ystod astudiaeth ymchwil (y “prawf blaenorol”), a
(b)sy’n cael canlyniad positif am y coronafeirws yn ystod yr un astudiaeth o fewn y cyfnod o 90 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad y prawf blaenorol.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 15 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
16. Pan fo gofyniad wedi ei osod o dan reoliad 12(2) neu 14(2) ar blentyn, rhaid i berson a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Rhl. 16 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
17.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau—
(a)wedi rhoi hysbysiad o dan reoliad 11(1), 12(1), 13(1) neu 14(1) (“yr hysbysiad gwreiddiol”), ond
(b)yn hysbysu derbynnydd yr hysbysiad gwreiddiol wedi hynny fod yr hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.
(2) Mae’r hysbysiad gwreiddiol i’w drin fel pe na bai wedi ei roi.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 17 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
18.—(1) Ni chaiff swyddog olrhain cysylltiadau ond datgelu gwybodaeth berthnasol i berson (“deiliad yr wybodaeth”) y mae’n angenrheidiol i ddeiliad yr wybodaeth ei chael—
(a)at ddibenion—
(i)cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn,
(ii)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu
(iii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu
(b)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.
(2) Gwybodaeth berthnasol yw—
(a)pan fo’n ofynnol i berson ynysu yn unol â rheoliad 11(2), 12(2), 13(2) neu 14(2)—
(i)gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person;
(ii)y dyddiad y cafodd y person hysbysiad o dan reoliad 11(1), 12(1), 13(1) neu 14(1), neu, pan fo’r person yn blentyn, y person a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn;
(iii)y cyfnod penodol y mae’n ofynnol i’r person beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw neu fod y tu allan iddo mewn cysylltiad ag ef, wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 11, 12, 13 neu 14;
(iv)manylion unrhyw hysbysiadau cosb benodedig sydd wedi eu dyroddi, neu achosion sydd wedi eu dwyn, mewn perthynas â throsedd o dorri rheoliad 11, 12, 13 neu 14 yr honnir bod y person wedi ei chyflawni;
(b)cadarnhad na chafodd person ganlyniad positif mewn prawf am y coronafeirws (gan gynnwys enw, gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person).
(3) Ni chaiff deiliad yr wybodaeth ddefnyddio gwybodaeth berthnasol a ddatgelir o dan baragraff (1) ond i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol—
(a)at ddibenion—
(i)cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn,
(ii)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu
(iii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu
(b)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir ym is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), ni chaiff deiliad yr wybodaeth ond datgelu gwybodaeth berthnasol i berson arall (y “derbynnydd”) y mae’n angenrheidiol i’r derbynnydd ei chael—
(a)at ddibenion—
(i)cyflawni un o swyddogaethau’r derbynnydd o dan y Rheoliadau hyn,
(ii)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu
(iii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu
(b)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), nid yw datgeliad sydd wedi ei awdurdodi gan y rheoliad hwn yn torri—
(a)rhwymedigaeth o safbwynt cyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, na
(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y’i gorfodir).
(6) Nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu ar yr amgylchiadau pan ganiateir i wybodaeth gael ei datgelu’n gyfreithlon fel arall o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol.
(7) Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi defnyddio neu ddatgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.
(8) At ddibenion y rheoliad hwn, mae i “deddfwriaeth diogelu data” a “data personol” yr un ystyron â “data protection legislation” a “personal data” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(4).
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 18 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
Diwygiadau Testunol
F1Rhn. 4 Pnd. 3 wedi ei fewnosod (7.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1237), rhlau. 1(2), 4(2)
18A.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)yng Nghymru am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020,
(b)wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben yn union cyn 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020, ac
(c)wedi bod yn Nenmarc o fewn y cyfnod hwnnw.
(2) Nid yw rheoliadau 4, 6 a 9 yn gymwys i P nac i unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P.
(3) Ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw tan ddiwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyrhaeddodd P Cymru.
(4) Ond gall P, neu berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw—
(a)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol;
(b)os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny;
(c)er mwyn osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol.]
19.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir yn Atodlen 1—
(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a
(b)ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Nid yw paragraff (1) yn atal—
(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan na fydd paragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(c)defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer ar gyfer darllediad o’r fath;
(d)defnyddio mangre ar gyfer darparu gwasanaethau neu wybodaeth (gan gynnwys gwerthu, llogi neu ddanfon nwyddau neu wasanaethau)—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post.
(3) Pan—
(a)bo’n ofynnol, yn rhinwedd y rheoliad hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y rheoliad hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Rhl. 19 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
20.—(1) Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.
(2) Pan fo’r fangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, o ran y person sy’n gyfrifol am y fangre—
(a)rhaid iddo gau’r fangre (i gwsmeriaid) am neu cyn 10.20 p.m. bob dydd, a
(b)ni chaiff agor y fangre cyn 6.00 a.m. bob dydd.
(3) Er gwaethaf paragraff (2), caiff sinema gau’n hwyrach na 10.20 p.m. dim ond at ddiben gorffen dangos ffilm sy’n dechrau cyn 10.00 p.m.
(4) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i—
(a)mangre mewn—
(i)porthladd môr;
(ii)maes awyr;
(iii)sefydliad addysgol;
(b)ffreuturau yn y gweithle.
(5) O ran ei gymhwysiad i fangre llety gwyliau neu lety teithio, nid yw paragraff (2) ond yn gymwys i’r rhannau hynny o’r fangre lle y gwerthir neu y cyflenwir alcohol i’w yfed yn y fangre.
(6) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn caniatáu i’r fangre fod ar agor, nac i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi, yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.
(7) Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae paragraffau (2) i (4) yn gymwys i’r mangreoedd hynny fel y maent yn gymwys i fangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Rhl. 20 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
21.—(1) At ddibenion paragraff (2)—
(a)ystyr “mangre reoleiddiedig” yw—
(i)mangre busnesau neu wasanaethau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 2;
(ii)cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus;
(iii)mangre arall lle y mae gwaith yn cael ei wneud;
(b)ystyr y “person cyfrifol” yw—
(i)mewn perthynas â mangre reoleiddiedig y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)(i) neu (ii), y person sy’n gyfrifol am y fangre,
(ii)mewn perthynas â mangre reoleiddiedig o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(iii), y person sy’n gyfrifol am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y fangre.
(2) At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre reoleiddiedig, neu ledaenu’r coronafeirws gan y rheini sydd wedi bod mewn mangre reoleiddiedig, rhaid i’r person cyfrifol—
(a)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
(i)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr);
(ii)pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr),
(b)cymryd unrhyw fesurau rhesymol eraill at y diben hwnnw, er enghraifft mesurau sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac yn cynnal hylendid megis—
(i)newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;
(ii)rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;
(iii)rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;
(iv)rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi fel arall;
(v)gosod rhwystrau neu sgriniau;
(vi)darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac
(c)darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(3) Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (2) hefyd yn cynnwys—
(a)peidio â gwneud gweithgareddau penodol;
(b)cau rhan o’r fangre;
(c)caniatáu i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu am gyfnod penodedig, a’i alluogi i wneud hynny, oherwydd profi’n bositif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, pan fo—
(i)Gweinidogion Cymru wedi gofyn i’r person hwnnw wneud hynny;
(ii)hysbysiad a roddir gan swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw wneud hynny;
(d)casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—
(i)Gweinidogion Cymru;
(ii)swyddog olrhain cysylltiadau;
(e)cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth gyswllt o’r fath yn gywir.
(4) Pan fo paragraff (2) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, rhaid gwerthu neu gyflenwi bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre yn unol â’r mesurau rhesymol a bennir ym mharagraff (5) (yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7)).
(5) Y mesurau rhesymol yw—
(a)bod rhaid bod person sy’n rheoli mynediad i’r fangre ac sy’n dyrannu cyfnod amser cyfyngedig y caiff cwsmeriaid aros yn y fangre ar ei gyfer;
(b)bod rhaid i gwsmeriaid fod yn eistedd yn y fangre yn unrhyw le ac eithrio wrth far—
(i)pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod,
(ii)pan weinir bwyd neu ddiod iddynt, a
(iii)pan fyddant yn bwyta neu’n yfed.
(6) Ond pan fo bwyd yn cael ei ddarparu yn y fangre ar sail bwffe, caiff cwsmeriaid ddewis bwyd o’r bwffe a dychwelyd i’r man lle y maent yn eistedd ar yr amod y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau wrth y bwffe (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr).
(7) Nid yw is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (5) yn gymwys i—
(a)ffreuturau yn y gweithle, neu
(b)mangreoedd mewn sefydliad addysgol.
(8) At ddibenion paragraff (4)—
(a)nid yw bwyd neu ddiod a werthir mewn llety gwyliau neu lety teithio fel rhan o wasanaeth ystafell i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre;
(b)mae bwyd neu ddiod a werthir i’w fwyta neu i’w hyfed mewn ardal sy’n gyfagos i’r fangre lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre.
(9) Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae paragraffau (4) i (7) yn gymwys i’r mangreoedd hynny fel y maent yn gymwys i fangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Rhl. 21 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
22.—(1) Rhaid i berson (“P”) sy’n teithio fel teithiwr mewn cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb.
(2) Ond nid yw hyn yn ofynnol—
(a)pan fo esemptiad yn gymwys o dan baragraff (3);
(b)pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (4).
(3) Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—
(a)pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;
(b)mewn cerbyd sy’n darparu gwasanaeth cludiant i’r ysgol;
(c)ar fferi—
(i)pan fo’r rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr yn yr awyr agored yn gyfan gwbl, neu
(ii)pan ellir cynnal pellter o 2 fetr o leiaf rhwng personau ar y rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr;
(d)ar long fordeithio;
(e)pan ddyrennir caban, man cysgu neu lety tebyg arall i P yn y cerbyd, ar unrhyw adeg pan yw P yn y llety hwnnw—
(i)ar ei ben ei hunan, neu
(ii)gydag aelodau o aelwyd P neu ofalwr i aelod o’r aelwyd yn unig;
(f)pan—
(i)caniateir i P, neu pan fo’n ofynnol fel arfer i P, fynd i gerbyd ac aros ynddo wrth ddefnyddio’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,
(ii)na fo’r cerbyd ei hunan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a
(iii)bo P yn aros yn y cerbyd hwnnw;
(g)ar gerbyd awyr na chychwynnodd o fan yng Nghymru, ac nad yw i lanio mewn man yng Nghymru;
(h)ar lestr nad yw’n docio mewn porthladd yng Nghymru.
(4) Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—
(a)pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(5));
(b)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);
(c)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;
(d)pan fo P yn teithio i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;
(e)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—
(i)cymryd meddyginiaeth;
(ii)bwyta neu yfed, os caniateir gwneud hyn yn y cerbyd a bod hynny’n rhesymol angenrheidiol (er enghraifft oherwydd hyd y daith);
(f)pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan—
(i)swyddog gorfodaeth, neu
(ii)gweithredwr y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr.
(5) Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ddarparu gwybodaeth i deithwyr am y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb yn ei gerbydau.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “gwasanaeth cludiant i’r ysgol” yw unrhyw wasanaeth cludiant nad yw ond yn cael ei ddarparu at ddiben—
(a)cludo person i’r ysgol ac o’r ysgol neu’r man arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo, neu
(b)hwyluso fel arall bresenoldeb person mewn ysgol neu fan arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Rhl. 22 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
23.—(1) Rhaid i berson (“P”) wisgo gorchudd wyneb yn ardaloedd cyhoeddus o dan do mangreoedd y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddynt, pa un ai drwy dalu neu fel arall.
(2) Ond nid yw hyn yn ofynnol—
(a)pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;
(b)pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (3).
(3) Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—
(a)pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010);
(b)pan fo P yn ymgymryd â gweithgaredd ac y gellir ystyried yn rhesymol fod gwisgo gorchudd wyneb yn ystod y gweithgaredd hwnnw yn peri risg i iechyd P;
(c)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);
(d)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;
(e)pan fo P yn y fangre i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;
(f)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—
(i)cymryd meddyginiaeth;
(ii)bwyta neu yfed, pan fo’n rhesymol angenrheidiol;
(g)pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan swyddog gorfodaeth;
(h)pan fo P yn eistedd mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y’i darperir fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Rhl. 23 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
24.—(1) Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo gymryd mesurau rhesymol o dan reoliad 21(2) roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y mesurau hynny.
(2) Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae rheoliad 22 yn gymwys iddo roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch—
(a)y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn unol â pharagraffau (1) i (4) o reoliad 22 a gorfodi’r gofyniad hwnnw o dan reoliad 30;
(b)darparu gwybodaeth i deithwyr yn unol â pharagraff (5) o reoliad 22.
(3) O ran Gweinidogion Cymru—
(a)cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) neu (2), a
(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).
(4) Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).
(5) Mae canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (1) neu (2) o reoliad 20 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020(6) i’w trin fel pe baent yn ganllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) neu (2) o’r rheoliad hwn, yn ôl y digwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Rhl. 24 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
25.—(1) At ddibenion rheoliad 26 ac Atodlen 3, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) At ddibenion rheoliadau 22, 23, 27 i 35, a 37, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw—
(a)cwnstabl,
(b)swyddog cymorth cymunedol yr heddlu,
(c)person sydd wedi ei ddynodi gan—
(i)Gweinidogion Cymru, neu
(ii)awdurdod lleol,
at ddibenion y Rheoliadau hyn (ond gweler paragraff (3)), neu
(d)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol o dan—
(i)rheoliad 10(11)(c) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(7) yn berson perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir gan y rheoliad hwnnw),
(ii)rheoliad 17(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(8) at ddibenion y Rheoliadau hynny, neu
(iii)rheoliad 21(2) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 at ddibenion y Rheoliadau hynny,
(ond gweler paragraff (3)).
(3) Ni chaiff person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol arfer swyddogaethau swyddog gorfodaeth ond mewn perthynas â thorri gofyniad yn rheoliad 19(1), 20(1) neu (2), neu 21(2), neu Atodlen 3 (neu achos honedig o’i dorri).
Gwybodaeth Cychwyn
I25Rhl. 25 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
26. Mae Atodlenni 3 a 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi swyddogaethau i swyddogion gorfodaeth at ddiben gorfodi rheoliad 21(2) ac mewn cysylltiad â rhoi’r swyddogaethau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Rhl. 26 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
27.—(1) Caiff swyddog gorfodi roi hysbysiad cydymffurfio i berson os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod y person yn torri gofyniad yn rheoliad 19(1) neu 22(5).
(2) Caiff hysbysiad cydymffurfio bennu mesurau y mae rhaid i’r person y’i rhoddir iddo eu cymryd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn atal y person hwnnw rhag parhau i dorri’r gofyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Rhl. 27 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
28.—(1) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri rheoliad 4(1) [F2neu 18A(3)], caiff y swyddog—
(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;
(b)cyfarwyddo unrhyw berson nad yw’n byw yn yr annedd lle y mae’r toriad o dan amheuaeth yn digwydd i ymadael â’r annedd;
(c)symud unrhyw berson o’r fath o’r annedd.
(2) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod pobl wedi ymgynnull yn groes i reoliad 6(1) neu (3), caiff y swyddog—
(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;
(b)cyfarwyddo unrhyw berson yn y cynulliad i ddychwelyd i’r man lle y mae’n byw;
(c)symud unrhyw berson yn y cynulliad i’r man lle y mae’n byw.
(3) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 9, caiff y swyddog gyfarwyddo P—
(a)mewn achos honedig o dorri rheoliad 9(1), i ymadael â Chymru, neu
(b)mewn achos honedig o dorri rheoliad 9(2), i beidio ag ymadael â Chymru neu i ddychwelyd i Gymru.
(4) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) i ffwrdd o’r man lle y mae’n byw yn groes i reoliad 11(2), 12(2), 13(2) neu 14(2), caiff y swyddog—
(a)cyfarwyddo P i ddychwelyd i’r man lle y mae P yn byw;
(b)symud P i’r man hwnnw.
(5) Wrth arfer pŵer ym mharagraffau (1) i (3), caiff swyddog gorfodaeth gyfarwyddo person i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn rhl. 28(1) wedi eu mewnosod (7.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1237), rhlau. 1(2), 4(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I28Rhl. 28 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
29.—(1) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn ymwneud â threfnu digwyddiad yn groes i reoliad 7(1) neu 8(1), caiff y swyddog—
(a)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;
(b)symud P o leoliad y digwyddiad;
(c)cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad (neu pan fo’r person yn blentyn sydd gydag oedolyn a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn, cyfarwyddo’r unigolyn i symud y plentyn o’r digwyddiad);
(d)symud unrhyw berson o’r digwyddiad.
(2) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn ymwneud â threfnu digwyddiad y mae’r swyddog yn ystyried ei fod yn debygol o dorri rheoliad 7(1) neu 8(1), caiff y swyddog—
(a)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal y digwyddiad rhag digwydd;
(b)symud P o leoliad arfaethedig y digwyddiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Rhl. 29 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
30.—(1) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 22(1), caiff y swyddog—
(a)cyfarwyddo P i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw;
(b)symud P o’r cerbyd.
(2) Pan fo gan—
(a)gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,
(b)cyflogai i’r gweithredwr, neu
(c)person sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr,
sail resymol dros amau bod person (“P”) ar fin torri rheoliad 22(1), caiff y gweithredwr, y cyflogai neu’r person awdurdodedig gyfarwyddo P i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw.
(3) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 23(1), caiff y swyddog—
(a)cyfarwyddo P i beidio â mynd i’r fangre;
(b)symud P o’r fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Rhl. 30 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
31.—(1) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 4(1) [F3neu 18A(3)], a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)os nad yw P yn byw yn yr annedd lle y mae’r toriad honedig yn digwydd, caiff y swyddog gyfarwyddo U i symud P o’r annedd, a
(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.
(2) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) mewn cynulliad yn groes i reoliad 6(1) neu (3) a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)caiff y swyddog gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a
(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.
(3) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 9 a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)caiff y swyddog gyfarwyddo U—
(i)mewn achos honedig o dorri rheoliad 9(1), i fynd â P i fan y tu allan i Gymru,
(ii)mewn achos honedig o dorri rheoliad 9(2), i atal P rhag ymadael â Chymru neu i fynd â P yn ôl i Gymru, a
(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.
(4) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) i ffwrdd o’r man lle y mae’n byw yn groes i reoliad 12(2) neu 14(2) a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)caiff y swyddog gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a
(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.
(5) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod plentyn yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn rheoliad 22(1) neu 23(1), caiff y swyddog gyfarwyddo unrhyw unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn i sicrhau, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, fod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.
(6) At ddibenion paragraffau (1) i (4), mae gan U gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan U—
(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu
(b)cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn rhl. 31(1) wedi eu mewnosod (7.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1237), rhlau. 1(2), 4(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I31Rhl. 31 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
32.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre—
(a)os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri yn y fangre, a
(b)os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r gofyniad yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri.
(2) Caiff swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1) gymryd unrhyw bersonau eraill, cyfarpar a deunyddiau i’r fangre y mae’n ymddangos i’r swyddog eu bod yn briodol.
(3) Rhaid i swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)—
(a)os gofynnir iddo gan berson yn y fangre, ddangos tystiolaeth o bwy yw’r swyddog ac amlinellu’r diben yr arferir y pŵer ato;
(b)os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Rhl. 32 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
33.—(1) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “archwiliad ar y ffordd” yw arfer y pŵer a roddir gan adran 163 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(9) mewn ardal yn y fath fodd i stopio, yn ystod y cyfnod pan fydd y pŵer hwnnw yn parhau i gael ei arfer yn yr ardal honno, bob cerbyd neu gerbydau sydd wedi eu dethol yn ôl unrhyw faen prawf.
(2) Caiff cwnstabl gynnal archwiliad ar y ffordd at ddiben canfod a yw cerbyd yn cario person sydd wedi cyflawni, neu berson y mae’r cwnstabl yn credu’n rhesymol ei fod yn bwriadu cyflawni, trosedd o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Rhaid i archwiliad ar y ffordd gael ei awdurdodi gan gwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch.
(4) Ond caiff cwnstabl o dan y rheng honno awdurdodi archwiliad ar y ffordd os yw’r cwnstabl yn ystyried ei fod yn angenrheidiol fel mater o frys.
(5) Caiff cwnstabl awdurdodi archwiliad ar y ffordd os oes gan y cwnstabl sail resymol dros gredu bod personau yn yr ardal y byddai cerbydau’n cael eu stopio ynddi, neu sydd ar fin bod yn yr ardal honno, yn cyflawni, neu’n bwriadu cyflawni, trosedd o dan y Rheoliadau hyn.
(6) Rhaid i awdurdodiad fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu—
(a)yr ardal y mae cerbydau i’w stopio ynddi;
(b)y cyfnod, nad yw’n hwy na 7 niwrnod, pan ganiateir cynnal yr archwiliad ar y ffordd;
(c)a yw’r archwiliad ar y ffordd i’w gynnal—
(i)yn barhaus drwy gydol y cyfnod, neu
(ii)ar adegau penodol yn ystod y cyfnod (ac yn yr achos hwnnw rhaid i’r awdurdodiad bennu’r adegau hynny);
(d)enw’r cwnstabl sy’n rhoi’r awdurdodiad.
(7) Pan fo archwiliad ar y ffordd wedi ei awdurdodi o dan baragraff (4)—
(a)ni chaiff y cyfnod a bennir ym mharagraff (6)(b) fod yn hwy na 2 ddiwrnod;
(b)rhaid i’r cwnstabl sy’n rhoi’r awdurdodiad, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi’r awdurdodiad, roi gwybod i gwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch ei fod wedi ei roi.
(8) Caiff cwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch roi awdurdodiad yn ysgrifenedig i archwiliad ar y ffordd barhau am gyfnod pellach, nad yw’n hwy na 7 niwrnod, y tu hwnt i’r cyfnod yr awdurdodwyd yr archwiliad ar y ffordd amdano yn wreiddiol.
(9) Pan fo cerbyd yn cael ei stopio yn ystod archwiliad ar y ffordd, mae gan y person sy’n gyfrifol am y cerbyd ar yr adeg pan yw’n cael ei stopio hawlogaeth i gael datganiad ysgrifenedig am ddiben yr archwiliad ar y ffordd drwy gyflwyno cais yn ysgrifenedig—
(a)i’r heddlu sy’n gyfrifol am yr ardal lle y cynhelir yr archwiliad ar y ffordd, a
(b)heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o 12 mis o’r diwrnod pan stopiwyd y cerbyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Rhl. 33 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
34.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth gymryd camau gweithredu eraill i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y Rhan hon, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu ateb unrhyw gwestiwn y mae’r swyddog yn ystyried ei bod neu ei fod yn berthnasol i arfer y pŵer.
(2) Caiff swyddog gorfodaeth ddefnyddio grym rhesymol wrth arfer pŵer o dan—
(a)rheoliad 28(1)(c), (2)(c) neu (4)(b),
(b)rheoliad 29(1)(b) neu (d) neu (2)(b),
(c)rheoliad 30(1)(b) neu (3)(b), neu
(d)rheoliad 32(1).
(3) Ni chaiff swyddog gorfodaeth ond arfer pŵer o dan y Rhan hon os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.
(4) Yn y Rhan hon mae cyfeiriadau at ofyniad yn cynnwys cyfeiriadau at gyfyngiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Rhl. 34 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
35.—(1) Mae person sydd—
(a)yn torri gofyniad yn rheoliad 4(1), 6(1) neu (3), 7(1), 9(1) neu (2), 11(2), 12(2), 13(2), 14(2), 16, 22(1) neu 23(1), neu
(b)heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn rheoliad 8(1), 11(3), 12(3), 13(3), 14(3), 19(1), 20(1) neu (2), neu 22(5),
yn cyflawni trosedd.
(2) Mae’n drosedd i berson (“P”) roi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i swyddog olrhain cysylltiadau—
(a)o dan reoliad 11(3), 12(3), 13(3) neu 14(3), neu
(b)ynghylch—
(i)gwybodaeth gyswllt P, neu
(ii)personau y gall P fod wedi dod i gysylltiad agos â hwy,
pan fo P yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu pan fo P yn ddi-hid o ran a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.
(3) Mae person sy’n cymryd rhan mewn cynulliad—
(a)sy’n digwydd mewn annedd breifat,
(b)lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, ac
(c)lle y mae pobl yn ymgynnull yn groes i reoliad 4(1),
yn cyflawni trosedd.
(4) Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.
(5) Mae person sydd—
(a)heb esgus rhesymol, yn torri paragraff 3(1) o Atodlen 3,
(b)yn torri paragraff 3(2) o’r Atodlen honno, neu
(c)heb esgus rhesymol, yn tynnu, yn cuddio neu’n difrodi hysbysiad neu arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan baragraff 7(2)(a) o’r Atodlen honno,
yn cyflawni trosedd.
(6) Mae person sydd, heb esgus rhesymol—
(a)yn torri cyfarwyddyd a roddir—
(i)gan swyddog gorfodaeth o dan Ran 7, neu
(ii)gan weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr, neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr, o dan reoliad 30(2), neu
(b)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 28(1),
yn cyflawni trosedd.
(7) Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.
(8) Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(10) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—
(a)cynnal iechyd y cyhoedd;
(b)cynnal trefn gyhoeddus.
(9) Yn y rheoliad hwn, mae i “cysylltiad agos” yr un ystyr ag yn Rhan 4.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Rhl. 35 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
36.—(1) Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforedig—
(a)wedi ei chyflawni â chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath,
mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.
(3) Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.
(4) Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.
(5) Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(11) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(12) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.
(6) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o asedau’r bartneriaeth.
(7) Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y gymdeithas.
Gwybodaeth Cychwyn
I36Rhl. 36 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
37.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw un y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol—
(a)ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a
(b)ei fod yn 18 oed neu drosodd.
(2) Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—
(a)awdurdod lleol, neu
(b)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn,
a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).
(4) Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan—
(a)rheoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,
(b)rheoliad 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, neu
(c)rheoliad 31 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020,
i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.
(5) Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo fod yn awdurdod (neu yn ôl y digwydd, unrhyw un o’r awdurdodau) yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni yn ei ardal.
(6) Pan fo hysbysiad wedi ei ddyroddi i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—
(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;
(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I37Rhl. 37 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
38.—(1) Oni bai bod rheoliad 39, 40, 41 neu 42 yn gymwys, swm cosb benodedig yw £60.
(2) Ond caiff hysbysiad cosb benodedig bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad, mai dyna swm y gosb benodedig.
(3) Ac os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig iddo eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—
(a)nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys, a
(b)y swm a bennir fel y gosb benodedig yw—
(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £120;
(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £240;
(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £480;
(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £960;
(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir wedi hynny, £1,920.
(4) Ym mharagraff (3), ystyr “hysbysiad cosb benodedig” yw—
(a)hysbysiad cosb benodedig pan fo swm y gosb benodedig wedi ei bennu o dan y rheoliad hwn;
(b)hysbysiad cosb benodedig o dan—
(i)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,
(ii)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,
(iii)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, a
(iv)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020(13).
(5) Wrth gyfrifo nifer yr hysbysiadau cosb benodedig sydd wedi eu dyroddi i berson, nid yw unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i hysbysiad sydd wedi ei ddyroddi i’r person mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri—
(a)rheoliad 14B(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, neu
(b)rheoliad 9 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020.
Gwybodaeth Cychwyn
I38Rhl. 38 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
39. Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 35(3), swm y gosb benodedig yw £60.
Gwybodaeth Cychwyn
I39Rhl. 39 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
40.—(1) Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri rheoliad 7(1), swm y gosb benodedig yw £200.
(2) Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri rheoliad 7(1) eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd honedig o’r fath—
(a)nid yw paragraff (1) yn gymwys, a
(b)swm y gosb benodedig yw—
(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £400;
(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £800;
(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £1,600;
(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £3,200;
(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir wedi hynny, £6,400.
Gwybodaeth Cychwyn
I40Rhl. 40 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
41. Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri rheoliad 8(1), swm y gosb benodedig yw £10,000.
Gwybodaeth Cychwyn
I41Rhl. 41 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
42.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri—
(a)rheoliad 19(1),
(b)rheoliad 20(1) neu (2), neu
(c)paragraff 3(1) o Atodlen 3,
(y cyfeirir ati yn y rheoliad hwn fel “trosedd busnes honedig”).
(2) Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig, swm y gosb benodedig yw £1,000.
(3) Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd honedig o’r fath—
(a)nid yw paragraff (2) yn gymwys, a
(b)swm y gosb benodedig yw—
(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £2,000;
(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £4,000;
(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir wedi hynny, £10,000.
Gwybodaeth Cychwyn
I42Rhl. 42 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
43.—(1) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd;
(b)datgan y cyfnod pryd (oherwydd rheoliad 37(6)(a)) na ddygir achos am y drosedd;
(c)pennu swm y gosb benodedig a bennir o dan reoliad 38, 39, 40, 41 neu 42 (yn ôl y digwydd);
(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;
(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.
(2) Pa ddull bynnag arall a bennir o dan baragraff (1)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (1)(d) i’r cyfeiriad a nodir.
(3) Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel a grybwyllir ym mharagraff (2), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.
(4) Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—
(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person a chanddo gyfrifoldeb am faterion ariannol—
(i)yr awdurdod lleol, neu
(ii)y person sydd wedi ei ddynodi o dan reoliad 37(2)(b),
a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a
(b)sy’n datgan bod y taliad am gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a nodwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I43Rhl. 43 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
44.—(1) Pan fo’r un weithred neu anweithred, neu fwy neu lai yr un weithred neu anweithred, gan berson yn gallu arwain at gred resymol bod y person wedi cyflawni mwy nag un drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ni chaniateir dyroddi cosb benodedig i’r person ond mewn cysylltiad ag un o’r troseddau honedig.
(2) Ond caniateir dyroddi hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad—
(a)â’r drosedd honedig o dorri rheoliad 4(1), yn ogystal
(b)â throsedd o dan reoliad 35(3),
pan fo’r un weithred, neu fwy neu lai yr un weithred, gan berson yn arwain at gred resymol bod y person wedi cyflawni’r naill drosedd a’r llall.
Gwybodaeth Cychwyn
I44Rhl. 44 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
45.—(1) Caniateir i wybodaeth berthnasol gael ei defnyddio fel tystiolaeth yn erbyn y person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef mewn achos troseddol.
(2) Pan ddefnyddir yr wybodaeth mewn achos ac eithrio am drosedd o dan y Rheoliadau hyn neu adran 5 o Ddeddf Anudon 1911(14) (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw)—
(a)ni chaniateir i unrhyw dystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei rhoi gan yr erlyniad nac ar ei ran, a
(b)ni chaniateir i unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei ofyn gan yr erlyniad nac ar ei ran.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys—
(a)os rhoddir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person a’i darparodd, neu ar ei ran, yn ystod yr achos, neu
(b)os gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person hwnnw, neu ar ei ran, yn ystod yr achos.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw—
(a)gwybodaeth sy’n wybodaeth berthnasol at ddibenion rheoliad 18;
(b)gwybodaeth, neu’r ateb i gwestiwn, a roddir mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan reoliad 34(1);
(c)unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys mewn dogfen neu gofnodion electronig a ddangosir mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan baragraff 8(1) o Atodlen 3.
Gwybodaeth Cychwyn
I45Rhl. 45 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
46.—(1) Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan—
(a)y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus,
(b)unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru, neu
(c)mewn perthynas ag achos am drosedd—
(i)o dorri gofyniad yn rheoliad 19(1) neu 20(1) neu (2), neu Atodlen 3, neu
(ii)o dan reoliad 35(4) neu (6),
awdurdod lleol;
(2) Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan—
(a)rheoliad 14 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,
(b)rheoliad 22 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, neu
(c)rheoliad 32 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020,
i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi o dan y rheoliad hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I46Rhl. 46 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
47.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu gofal ar gyfer y person a gynorthwyir pan fo—
(i)hawlogaeth gan y gofalwr i asesiad o dan adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(15),
(ii)y gofal yn rhan o ddarparu gwasanaethau gofal cymunedol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu
(iii)y gofal wedi ei ddarparu gan ddarparwr gofal sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(16);
(b)ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed;
(c)ystyr “gwybodaeth gyswllt”, mewn perthynas â pherson, yw enw’r person a gwybodaeth sy’n ddigon i alluogi cysylltiad â’r person, (gan gynnwys rhif ffôn, ac, mewn perthynas â pherson mewn mangre reoleiddiedig, y dyddiad a’r amser yr oedd y person yn y fangre);
(d)ystyr “swyddog olrhain cysylltiadau” yw—
(i)person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen at ddibenion y gwasanaeth iechyd (o fewn ystyr “the health service” yn adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(17) neu adran 108 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(18));
(ii)person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan awdurdod lleol,
sydd wedi ei ddynodi at ddibenion Rhan 4 gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru(19) neu awdurdod lleol.
(e)ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);
(f)ystyr “athletwr elît” yw unigolyn sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru;
(g)ystyr “gorchudd wyneb” yw gorchudd o unrhyw fath sy’n gorchuddio trwyn a cheg person;
(h)ystyr “llety gwyliau neu lety teithio” yw llety mewn mangre o fath a restrir ym mharagraffau 8 i 11 o Ran 1 o Atodlen 2;
(i)ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(j)mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag a roddir i “parental responsibility” yn Neddf Plant 1989(20);
(k)mae “person sy’n gyfrifol am gynnal busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;
(l)mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;
(m)ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus” yw gwasanaeth a ddarperir ar gyfer cludo teithwyr ar ffordd, ar reilffordd, ar dramffordd, yn yr awyr neu ar y dŵr;
(n)mae i “mangre reoleiddiedig” yr ystyr a roddir gan reoliad 21(1);
(o)mae “cerbyd” yn cynnwys awyren, car cebl, trên, tram a llestr;
(p)mae “person hyglwyf” yn cynnwys—
(i)unrhyw berson sy’n 70 oed neu’n hŷn;
(ii)unrhyw berson o dan 70 oed sydd â chyflwr iechyd isorweddol;
(iii)unrhyw berson sy’n feichiog;
(iv)unrhyw blentyn;
(v)unrhyw berson sy’n oedolyn hyglwyf o fewn yr ystyr a roddir i “vulnerable adult” gan adran 60(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(21).
(2) Yn y Rheoliadau hyn, o ran cyfeiriadau at “annedd breifat”—
(a)maent yn cynnwys cwch preswyl ac unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, tŷ allan neu unrhyw atodyn arall i’r annedd;
(b)nid ydynt yn cynnwys y canlynol—
(i)llety gwyliau neu lety teithio;
(ii)llety mewn gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, o fewn yr ystyr a roddir i’r termau hynny gan Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
(iii)llety cyfiawnder troseddol.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)mae cynulliad pan fydd dau neu ragor o bobl yn yr un man er mwyn gwneud rhywbeth gyda’i gilydd;
(b)mae digwyddiad yn achlysur—
(i)sydd wedi ei gynllunio a’i amserlennu at ddiben penodol, a
(ii)pan fo unrhyw nifer o bobl yn yr un lle at y diben hwnnw, pa un a ydynt yn cymryd rhan mewn cynulliad ai peidio.
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)mae mangre o dan do os yw’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 2 o Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007(22);
(b)mae mangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol pan fo awdurdodiad wedi ei ganiatáu neu ei roi i’r fangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, ac mae i “awdurdodiad” yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno.
(5) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gweithgaredd “wedi ei drefnu”—
(a)os yw wedi ei drefnu gan—
(i)busnes,
(ii)corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, llesiannol, addysgol neu ddyngarol,
(iii)clwb neu sefydliad gwleidyddol, neu
(iv)corff llywodraethu cenedlaethol camp neu weithgaredd arall, a
(b)os yw’r person sy’n ei drefnu wedi—
(i)cynnal asesiad risg a fyddai’n bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999(23), pa un a yw’r person yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hynny ai peidio, a
(ii)cydymffurfio â gofynion rheoliadau 21(2) a 24(1).
(6) At ddibenion paragraff (5)(b)—
(a)mae rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn gymwys fel pe bai’r gweithgaredd yn ymgymeriad a wneir gan y person sy’n ei drefnu;
(b)mae rheoliad 21(2) o’r Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai—
(i)y man lle y mae’r gweithgaredd yn digwydd yn fangre reoleiddiedig at ddibenion y rheoliad hwnnw, a
(ii)y person sy’n trefnu’r gweithgaredd oedd y person cyfrifol mewn perthynas â’r fangre reoleiddiedig honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I47Rhl. 47 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
48. Yn rheoliad 19(10) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020, ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—
“(d)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.”
Gwybodaeth Cychwyn
I48Rhl. 48 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 1.14 p.m. ar 5 Tachwedd 2020
Rheoliad 19(1)
1. Neuaddau cyngerdd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I49Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
2. Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982(24)).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I50Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
3. Theatrau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I51Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
4. Lleoliadau sydd wedi eu hawdurdodi i’w defnyddio ar gyfer cyflenwi alcohol gan drwydded mangre neu dystysgrif mangre clwb (o fewn yr ystyr a roddir i “premises licence” a “club premises certificate” gan Ddeddf Trwyddedu 2003) lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I52Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
Rheoliad 21(1)
1. Unrhyw fusnes sy’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu hurio mewn siop.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I53Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
2. Canolfannau siopa ac arcedau siopa.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I54Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
3. Banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, darparwyr benthyciadau tymor byr, clybiau cynilo, peiriannau arian parod ac ymgymeriadau sydd, o ran eu busnes, yn gweithredu swyddfeydd cyfnewid arian cyfred, yn trawsyrru arian (neu unrhyw ffurf ar arian) drwy unrhyw ddull neu’n newid sieciau arian parod sydd wedi eu gwneud yn daladwy i gwsmeriaid yn arian parod.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I55Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
4. Swyddfeydd post.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I56Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
5. Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I57Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
6. Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I58Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
7. Tafarndai.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I59Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
8. Safleoedd gwersylla.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I60Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
9. Safleoedd gwyliau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I61Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
10. Gwestai a llety gwely a brecwast.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I62Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
11. Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I63Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
12. Tai arwerthiant.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I64Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
13. Neuaddau bingo.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I65Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
14. Alïau bowlio, arcedau diddanu a mannau chwarae o dan do.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I66Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
15. Delwriaethau ceir.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I67Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
16. Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I68Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
17. Casinos.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I69Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
18. Sinemâu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I70Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
19. Canolfannau cymunedol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I71Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
20. Amlosgfeydd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I72Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
21. Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, gwasanaethau trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I73Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
22. Sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, gwasanaethau tylino, tyllu’r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I74Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
23. Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I75Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
24. Trefnwyr angladdau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I76Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
25. Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I77Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
26. Canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I78Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
27. Salonau trin gwallt a barbwyr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I79Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
28. Golchdai a siopau sychlanhau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I80Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
29. Canolfannau hamdden a chyfleusterau hamdden gan gynnwys stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd a sbaon.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I81Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
30. Llyfrgelloedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I82Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
31. Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I83Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
32. Marchnadoedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I84Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
33. Amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I85Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
34. Salonau ewinedd a harddwch.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I86Atod. 2 para. 34 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
35. Gorsafoedd petrol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I87Atod. 2 para. 35 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
36. Fferyllfeydd (yn cynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I88Atod. 2 para. 36 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
37. Mannau addoli.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I89Atod. 2 para. 37 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
38. Canolfannau sglefrio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I90Atod. 2 para. 38 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
39. Cyrtiau chwaraeon, parciau sglefrio, lawntiau bowlio, cyrsiau golff a meysydd neu leiniau chwaraeon amgaeedig (boed yn yr awyr agored neu o dan do).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I91Atod. 2 para. 39 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
40. Cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I92Atod. 2 para. 40 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
41. Pyllau nofio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I93Atod. 2 para. 41 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
42. Busnesau tacsi neu logi cerbydau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I94Atod. 2 para. 42 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
43. Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I95Atod. 2 para. 43 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
44. Milfeddygon.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I96Atod. 2 para. 44 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
45. Atyniadau i ymwelwyr a busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I97Atod. 2 para. 45 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
46.—(1) At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—LL+C
(a)wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu
(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.
(2) At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—
(a)y person sy’n berchen ar y safle, neu
(b)person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(25) yn gymwys iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I98Atod. 2 para. 46 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
Rheoliad 26
1.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwella mangre”) i berson cyfrifol os yw’r swyddog yn ystyried—
(a)nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 21(2), a
(b)bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.
(2) Rhaid i hysbysiad gwella mangre—
(a)pennu’r fangre y mae’n ymwneud â hi;
(b)pennu’r mesurau y mae’n ei gwneud yn ofynnol eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 21(2);
(c)pennu terfyn amser y mae rhaid cymryd y mesurau oddi mewn iddo (na chaniateir iddo fod yn llai nag 48 awr sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad);
(d)rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.
(3) Yn yr Atodlen hon, mae i “person cyfrifol” yr ystyr a roddir gan reoliad 21(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I99Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
2.—(1) Os yw naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni, caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau mangre”) i berson cyfrifol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r fangre, neu ran o’r fangre, gael ei chau.
(2) Amod 1 yw—
(a)bod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi i’r person,
(b)bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried bod y person wedi methu â chymryd y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre o fewn y terfyn amser penodedig, ac
(c)bod y swyddog yn ystyried bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(3) Amod 2 yw bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried—
(a)nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 21(2), a
(b)bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, (heb fod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi) yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(4) Rhaid i hysbysiad cau mangre—
(a)cynnwys disgrifiad o’r fangre sydd i’w chau,
(b)pan fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r mesurau y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried—
(i)nad ydynt wedi eu cymryd, a
(ii)y mae rhaid eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person cyfrifol yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 21(2),
(c)pan na fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 21(2),
(d)yn y naill achos neu’r llall, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried bod cau’r fangre yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws,
(e)pennu’r cyfnod y mae’r hysbysiad yn cael effaith amdano, ac
(f)rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.
(5) Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (4)(e) fod yn hwy na 336 o oriau (14 o ddiwrnodau) sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad.
(6) Mae hysbysiad cau mangre yn cael effaith o’r amser y’i dyroddir neu o amser diweddarach a bennir yn yr hysbysiad.
(7) Ni chaniateir dyroddi hysbysiad cau mangre mewn perthynas â mangre sy’n rhan o seilwaith hollbwysig (er enghraifft, mangre a ddefnyddir i gynhyrchu trydan neu gyflenwi dŵr) neu a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I100Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
3.—(1) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad cau mangre gymryd effaith, rhaid i’r person y’i dyroddir iddo sicrhau—
(a)bod y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi yn cael ei chau, a
(b)na chynhelir unrhyw fusnes neu na ddarperir unrhyw wasanaeth yn y fangre neu ohoni.
(2) Ni chaiff unrhyw berson fynd i’r fangre, neu fod yn y fangre, sydd wedi ei chau o dan is-baragraff (1) heb esgus rhesymol.
(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae’r amgylchiadau pan fo gan berson esgus rhesymol yn cynnwys—
(a)pan fo’r person yn byw yn y fangre;
(b)pan fo’r person yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio hanfodol;
(c)pan fo’r person yn gwneud pethau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 21(2) pan ganiateir i’r fangre fod ar agor;
(d)pan fo’r person yn swyddog gorfodaeth neu berson sy’n cynorthwyo swyddog gorfodaeth;
(e)pan fo’n angenrheidiol i’r person fod yn y fangre er mwyn osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.
Gwybodaeth Cychwyn
I101Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
4.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad sy’n terfynu hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre os yw wedi ei fodloni—
(a)bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre (os dyroddwyd un) wedi eu cymryd, neu
(b)bod mesurau eraill wedi eu cymryd i sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 21(2) yn y fangre o dan sylw.
(2) Mae hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre yn peidio â chael effaith ar yr amser y dyroddir hysbysiad o’r terfyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I102Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
5.—(1) Caiff person y dyroddir hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre iddo apelio i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad.
(2) Rhaid i apêl gael ei gwneud—
(a)drwy gŵyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980, a
(b)o fewn 7 niwrnod ar ôl i’r hysbysiad gael ei ddyroddi.
(3) Ond caiff llys ynadon ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio y tu allan i amser).
(4) Caiff llys ynadon atal dros dro effaith hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre wrth aros am y penderfyniad ar yr apêl.
(5) Ar apêl yn erbyn hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre, caiff llys ynadon—
(a)cadarnhau’r penderfyniad i ddyroddi’r hysbysiad;
(b)cyfarwyddo bod yr hysbysiad i beidio â chael effaith;
(c)addasu’r hysbysiad;
(d)gwneud unrhyw orchymyn arall y mae’r llys yn ystyried ei fod yn briodol.
(6) Os yw’r llys ynadon yn cyfarwyddo bod hysbysiad i beidio â chael effaith neu’n addasu hysbysiad, caiff orchymyn i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre o dan sylw ddigolledu’r person sy’n gyfrifol am y fangre am golled a ddioddefir o ganlyniad i ddyroddi’r hysbysiad.
(7) Caiff y naill parti neu’r llall ddwyn apêl yn erbyn penderfyniad llys ynadon ar apêl o dan yr adran hon i Lys y Goron.
(8) Ar apêl i Lys y Goron, caiff y Llys—
(a)cadarnhau, amrywio neu wrthdroi penderfyniad y llys ynadon;
(b)anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.
Gwybodaeth Cychwyn
I103Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
6.—(1) Caiff hysbysiad gwella mangre, hysbysiad cau mangre neu derfyniad o’r naill neu’r llall o’r mathau hynny o hysbysiad ei ddyroddi i berson drwy roi copi ohono yn ysgrifenedig i’r person hwnnw.
(2) Ond pan na fo’r person sy’n gyfrifol am y fangre y mae’r hysbysiad neu’r terfyniad yn ymwneud â hi yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddyroddi i’r person hwnnw—
(a)os rhoddir copi ohono i unrhyw berson arall yn y fangre yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am unrhyw fusnes neu wasanaeth a gynhelir yn y fangre, neu
(b)os nad oes unrhyw berson o’r fath yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, os gosodir copi o’r hysbysiad mewn lle amlwg yn y fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I104Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth wedi dyroddi hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre.
(2) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dyroddi’r hysbysiad, rhaid i’r swyddog gorfodaeth—
(a)arddangos copi o’r hysbysiad, ac arwydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 4, mewn man amlwg yn agos i bob mynedfa i’r fangre;
(b)trefnu i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre.
(3) Rhaid i hysbysiad neu arwydd a arddangosir o dan is-baragraff (2)(a) fod o faint A4 o leiaf.
(4) Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei arddangos a’i gyhoeddi o dan is-baragraff (2) barhau i gael ei arddangos a’i gyhoeddi, a rhaid i arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan yr is-baragraff hwnnw barhau i gael ei arddangos, am gyhyd ag y mae’r hysbysiad yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I105Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
8.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth, er mwyn hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan yr Atodlen hon, ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion electronig, edrych ar y dogfennau hynny neu’r cofnodion electronig hynny a chymryd copïau ohonynt.
(2) Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan is-baragraff (1) i berson ddarparu dogfen, cofnod neu wybodaeth arall y gellid maentumio hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hi neu ag ef mewn achos cyfreithiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I106Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
Rheoliad 26
1.—(1) Rhaid i arwydd a arddangosir gyda hysbysiad gwella mangre o dan baragraff 7(2)(a) o Atodlen 3 fod ar y ffurf a nodir isod.
(2) Rhaid defnyddio’r lliwiau gwyn, du ac ambr C0 M60 Y100 K0 yn yr arwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I107Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
2.—(1) Rhaid i arwydd a arddangosir gyda hysbysiad cau mangre o dan baragraff 7(2)(a) o Atodlen 3 fod ar y ffurf a nodir isod.
(2) Rhaid defnyddio’r lliwiau gwyn, du and choch C15 M100 Y100 K0 yn yr arwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I108Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion a chyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill.
Mae 9 Rhan i’r Rheoliadau.
Mae Rhan 1 yn darparu y daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Tachwedd 2020 a bod rhaid eu hadolygu erbyn 19 Tachwedd, o leiaf unwaith yn y cyfnod o 20 Tachwedd i 3 Rhagfyr, o leiaf unwaith yn y cyfnod o 4 Rhagfyr i 17 Rhagfyr, ac o leiaf unwaith pob 21 o ddiwrnodau ar ôl hynny. Mae hefyd yn darparu, oni chaiff y Rheoliadau eu dirymu neu eu diwygio cyn hynny, eu bod yn dod i ben ar 19 Chwefror 2021.
Mae Rhan 2 yn gosod cyfyngiadau ar gyfarfod â phobl eraill (y cyfeirir ato fel cymryd rhan mewn cynulliadau) ac ar ddigwyddiadau. Mae rheoliad 4 yn cyfyngu ar gynulliadau yng nghartrefi pobl (gan gynnwys eu gerddi) i ddim ond y rheini sy’n rhan o aelwyd estynedig (neu “swigen”). Mae rheoliad 5 yn darparu y caniateir ffurfio aelwyd estynedig pan fydd pob oedolyn ar hyd at 2 aelwyd yn cytuno i gael eu trin fel 1 aelwyd at ddiben cyfarfod yng nghartrefi pobl neu ar gyfer cyfarfod yn yr awyr agored (ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig). Mae rheoliad 6 yn cynnwys cyfyngiad ar gyfarfod i ffwrdd o gartrefi pobl. Yn yr achos hwnnw, mae cynulliadau wedi eu cyfyngu i 4 o bobl, heb gynnwys plant o dan 11 oed. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gymwys i lety gwyliau na llety teithio pan fo’r cynulliad wedi ei gyfyngu i bobl sy’n aelodau o’r un aelwyd. Mae’r cyfyngiadau yn rheoliadau 4 a 6 ill dau yn gymwys yn ddarostyngedig i eithriadau penodol a restrir, ac yn ddarostyngedig i sefyllfaoedd pan fo’n gallu bod yn rhesymol angenrheidiol ymgynnull ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol. Caiff mwy na 4 o bobl ymgynnull os ydynt i gyd yn rhan o’r un aelwyd, neu os ydynt yn cyfarfod yn yr awyr agored (ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig) os ydynt i gyd yn rhan o’r un aelwyd estynedig. Mae eithriadau yn cynnwys gweithgareddau penodol “wedi eu trefnu” sy’n cynnwys hyd at 15 o bobl sy’n cyfarfod o dan do a 30 o bobl sy’n cyfarfod yn yr awyr agored. Rhaid cymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws yn ystod gweithgareddau wedi eu trefnu ac ni chaniateir iddynt ddigwydd yng nghartrefi pobl. Mae rheoliadau 7 a 8 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch digwyddiadau sy’n annog pobl i ymgynnull yn anghyfreithlon.
Mae Rhan 3 yn ymwneud â theithio. Mae rheoliad 9 yn gwahardd pobl rhag mynd i Gymru neu ymadael â Chymru. Mae hyn unwaith eto yn ddarostyngedig i eithriadau penodol a restrir, ac yn ddarostyngedig i sefyllfaoedd pan fo’n gallu bod yn rhesymol angenrheidiol teithio ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol. Nid oes unrhyw waharddiad ar deithio o fewn Cymru.
Mae Rhan 4 yn gosod gofynion ar bobl sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws a’u cysylltiadau agos. Mae rheoliadau 11 a 12 yn darparu na chaiff oedolion na phlant sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ymadael â’r man lle y maent yn byw tan ddiwedd diwrnod olaf eu hynysiad (ac eithrio o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer gan reoliad 15). Cyfrifir diwrnod olaf eu hynysiad yn unol â rheoliadau 11 a 12. Mae rheoliadau 13 a 14 yn darparu na chaiff pobl sydd wedi cael “cysylltiad agos” â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ymadael â’r man lle y maent yn byw tan ddiwedd diwrnod olaf eu hynysiad (ac eithrio o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer gan reoliad 15). Cyfrifir diwrnod olaf eu hynysiad yn unol â rheoliadau 13 a 14. Mae rheoliad 16 yn ymwneud â rhwymedigaethau oedolion mewn cysylltiad â phlant y mae’n ofynnol iddynt ynysu, mae rheoliad 17 yn galluogi i hysbysiadau a roddir o dan y Rhan hon gan swyddogion olrhain cysylltiadau gael eu tynnu’n ôl ac mae rheoliad 18 yn gwneud darpariaeth ynghylch defnyddio’r wybodaeth a ddelir gan swyddogion olrhain cysylltiadau.
Mae Rhan 5 yn ymwneud â busnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd ar agor i’r cyhoedd fel arfer. Mae rheoliad 19 yn darparu bod rhaid i fangreoedd busnesau a gwasanaethau a restrir yn Atodlen 1 fod ar gau i’r cyhoedd (er nad yw hyn yn atal gweithgareddau penodol rhag digwydd yn y fangre). Mae rheoliad 20 yn gosod cyfyngiadau ar fusnesau y mae eu mangreoedd wedi eu trwyddedu ar gyfer gwerthu alcohol. Mae’r rhain yn gwahardd alcohol rhag cael ei werthu ar ôl 10.00 p.m. ac yn ei gwneud yn ofynnol i fangreoedd fod ar gau erbyn 10.20 p.m. ar yr hwyraf.
Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mannau lle y mae pobl yn dod ynghyd. Mae rheoliad 21 yn gymwys i “mangreoedd rheoleiddiedig” (unrhyw fan sydd ar agor i’r cyhoedd neu lle y gwneir gwaith) ac yn ei gwneud yn ofynnol: (1) i bob mesur rhesymol gael ei gymryd i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre; (2) i unrhyw fesurau rhesymol eraill gael eu cymryd, er enghraifft i gyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb a chynnal hylendid; a (3) i wybodaeth gael ei darparu i’r rheini sy’n mynd i fangre neu’n gweithio mewn mangre ynghylch sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae hefyd yn pennu y gall stopio gweithgaredd, cau rhan o fangre, caniatáu i staff ynysu a chasglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth y rheini sydd yn y fangre fod yn fesurau rhesymol. Mae mesurau penodol hefyd yn gymwys i leoliadau lletygarwch. Mae rheoliadau 22 a 23 yn darparu bod rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis, ac mewn mannau penodol o dan do, yn ddarostyngedig i esemptiadau ac eithriadau a restrir. Mae rheoliad 24 yn darparu i ganllawiau gael eu dyroddi ynghylch cymhwyso’n ymarferol y gofynion a osodir gan y Rhan hon, a bod rhaid i’r rheini y mae’r gofynion yn gymwys iddynt roi sylw i’r canllawiau hynny.
Mae Rhan 7 yn ymwneud â gorfodi’r cyfyngiadau a’r gofynion. Mae rheoliad 25 yn gwneud darpariaeth ynghylch y rheini a gaiff gymryd camau gorfodi, mae rheoliad 26 yn gwneud darpariaeth bellach (yn Atodlenni 3 a 4) ynghylch gorfodi’r angen i gymryd mesurau ataliol o dan reoliad 21, mae rheoliad 27 yn ymwneud â hysbysiadau cydymffurfio, ac mae rheoliad 28 yn ymwneud â phwerau symud a gwasgaru. Mae rheoliad 29 yn gwneud darpariaeth ynghylch gorfodi’r gwaharddiad ar ddigwyddiadau penodol. Mae rheoliad 30 yn ymwneud yn benodol â gorfodi’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ac mae rheoliad 31 yn ymwneud yn benodol â phlant. Mae rheoliad 32 yn cynnwys pŵer i fynd i fangre, mae rheoliad 33 yn ymwneud ag archwiliadau ar y ffyrdd gan yr heddlu ac mae rheoliad 34 yn gwneud darpariaeth ychwanegol am orfodi, gan gynnwys caniatáu i rym rhesymol gael ei ddefnyddio o dan amgylchiadau penodol.
Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch troseddau a chosbau. Mae rheoliad 35 yn darparu bod person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri gofynion (a restrir) yn y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd. Mae hefyd yn darparu bod cynnal cynulliad mwy mewn annedd breifat yn drosedd, a bod darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i swyddog olrhain cysylltiadau yn drosedd hefyd. Mae’r troseddau honny i’w cosbi drwy ddirwy ddiderfyn. Mae rheoliad 36 yn ymwneud â throseddau gan gyrff corfforedig. Mae rheoliad 37 yn caniatáu i droseddau gael eu cosbi drwy hysbysiadau cosb benodedig, mae rheoliadau 38 i 42 yn ymwneud â swm y gosb ac mae rheoliadau 43 a 44 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch gweinyddu’r cosbau. Mae rheoliad 45 yn ymwneud â hunanargyhuddo ac mae rheoliad 46 yn ymwneud ag erlyn troseddau o dan y Rheoliadau.
Mae Rhan 9 yn cynnwys termau wedi eu diffinio (rheoliad 47) a diwygiad canlyniadol (rheoliad 48).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
2006 p. 47 Mewnosodwyd paragraff 7(3B) gan adran 66(2) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2011 (p. 9).
O.S. 2020/725 (Cy. 162). Diwygiwyd gan O.S. 2020/985 (Cy. 222).
1988 p. 52, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p. 40) a Deddf Rheoli Traffig 2004 (p. 18).
1984 p. 60. Amnewidiwyd adran 24 gan adran 110(1) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15).
1911 p. 6. Diwygiwyd adran 5 gan adran 1(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1948 (p. 58)
A sefydlwyd gan O.S 2009/2058 (Cy. 177)
1989 p. 41. Gweler Rhan 1 o’r Ddeddf, y mae diwygiadau amrywiol wedi eu gwneud iddi, gan gynnwys gan Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 (p. 22) ac O.S. 2019/1458.
Diwygiwyd adran 60 gan adran 65 o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).
O.S. 1992/3242. Diwygiwyd rheoliad 3 gan O.S. 2005/1541, O.S. 2015/21 ac O.S. 2015/1637 .
1982 p. 30. Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 3 gan adran 27(3) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26).
2013 dccc 6, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: