Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1Cyflwyniad, adolygu a dod i ben

Enwi, cychwyn a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Tachwedd 2020.

Adolygu

2.  Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, a pha un a yw’r cyfyngiadau a’r gofynion hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—

(a)erbyn 19 Tachwedd 2020;

(b)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 20 Tachwedd 2020 i 3 Rhagfyr 2020;

(c)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 4 Rhagfyr 2020 i 17 Rhagfyr 2020;

(d)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â 18 Rhagfyr 2020;

(e)o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 o ddiwrnodau.

Dod i ben

3.—(1Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar 19 Chwefror 2021.

(2Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.

RHAN 2Cyfyngiadau ar gynulliadau a digwyddiadau

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifat

4.—(1Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat gydag unrhyw berson arall ac eithrio aelodau o’i aelwyd neu ei aelwyd estynedig.

(2At ddibenion paragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

(b)os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys.

(3Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol ymarferol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(1), pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(f)symud cartref;

(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(h)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

(4Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(c)cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—

(i)yn byw yn yr un fangre, a

(ii)yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.

(5Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Aelwydydd estynedig

5.—(1Caiff 2 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig at ddibenion rheoliad 4 neu 6(2)(b).

(2Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i bob oedolyn ar y 2 aelwyd gytuno.

(3Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig.

(4Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw oedolion yn yr aelwyd yn peidio â chytuno i gael eu trin fel pe baent yn rhan o’r aelwyd estynedig.

(5Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall.

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddus

6.—(1Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad

(a)sy’n digwydd yn unman ac eithrio—

(i)mewn annedd breifat, neu

(ii)mewn llety gwyliau neu lety teithio, a

(b)sy’n cynnwys mwy na 4 o bobl, heb gynnwys

(i)unrhyw blant o dan 11 oed, na

(ii)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

(2Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath—

(a)sy’n digwydd o dan do neu mewn unrhyw ran o fangre reoleiddiedig sydd yn yr awyr agored, os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu

(b)sy’n digwydd yn yr awyr agored ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig, os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad—

(i)yn aelodau o’r un aelwyd, neu

(ii)yn aelodau o’r un aelwyd estynedig.

(3Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.

(4At ddibenion paragraffau (1) a (3), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

(b)os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (6) yn gymwys.

(5Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(f)symud cartref;

(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(h)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

(i)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

(6Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(c)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—

(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,

(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;

(d)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(e)cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 15 o bobl, heb gynnwys personau o dan 11 oed, mewn mangre reoleiddiedig i—

(i)dathlu gweinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil sy’n digwydd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;

(ii)dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;

(f)mynd i addoldy;

(g)athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;

(h)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon nad yw ond athletwyr elît yn cystadlu ynddo;

(i)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

(i)lle nad yw mwy na 15 o bobl yn bresennol heb gynnwys personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau elusennol ynddo, a

(ii)lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

(j)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

(i)lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gynnwys personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau elusennol ynddo, a

(ii)lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

(k)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).

(7Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau

7.—(1Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—

(a)digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu

(b)digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,

heb gynnwys personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau elusennol ynddo.

(2At ddibenion paragraff (1)

(a)nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;

(b)mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad yw mwy na 15 neu 30 yn bresennol, yn ôl y digwydd;

(c)nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—

(i)arddangos ffilm;

(ii)marchnad;

(iii)gwasanaeth crefyddol;

(iv)digwyddiad chwaraeon nad yw ond athletwyr elît yn cystadlu ynddo.

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau cerddoriaeth penodol sydd heb eu trwyddedu

8.—(1Ni chaiff unrhyw berson ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu” yw digwyddiad—

(a)y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol ynddo,

(b)lle y mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae neu ei pherfformio at ddiben adloniant, neu at ddibenion sy’n cynnwys y diben hwnnw, a

(c)lle o ran chwarae neu berfformio cerddoriaeth—

(i)y mae’n weithgaredd trwyddedadwy (o fewn ystyr Deddf Trwyddedu 2003(2)), a

(ii)nas cynhelir o dan awdurdodiad nac yn unol ag awdurdodiad (o fewn yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno).

(3At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo.

RHAN 3Cyfyngiadau ar deithio

Cyfyngiad ar deithio i Gymru ac o Gymru

9.—(1Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw y tu allan i Gymru fynd i Gymru neu aros yng Nghymru heb esgus rhesymol.

(2Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw yng Nghymru ymadael â Chymru heb esgus rhesymol.

(3At ddibenion paragraffau (1) a (2), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r person yn ymadael â Chymru neu’n mynd i Gymru at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;

(b)os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys.

(4Mae enghreifftiau o ddibenion y gall fod yn rhesymol ymarferol i berson fynd i Gymru neu ymadael â Chymru atynt yn cynnwys—

(a)ceisio neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos llys;

(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(f)symud cartref;

(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(h)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

(i)cael gafael ar wasanaethau addysgol;

(j)cael—

(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;

(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;

(k)cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 3 neu 4 o Ran 1 o Atodlen 2 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;

(l)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).

(5Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu gael cynhorthwy brys;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(c)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—

(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,

(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;

(d)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(e)athletwr elît ac yn hyfforddi ac yn cystadlu;

(f)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon nad yw ond athletwyr elît yn cystadlu ynddo;

(g)teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ar daith sy’n dechrau yng Nghymru ac yn gorffen yng Nghymru;

(h)teithio i gymryd rhan mewn cynulliad gydag aelwyd estynedig y person yn unol â rheoliad 4 neu 6(2)(b).

RHAN 4Gofyniad i ynysu etc.

PENNOD 1Gofyniad i ynysu etc. pan fo person yn cael canlyniad positif am y coronafeirws neu wedi dod i gysylltiad agos â pherson o’r fath

Dehongli’r Rhan

10.—(1Yn y Rhan hon ystyr “cysylltiad agos” yw cysylltiad y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ystyried y gall arwain at risg o haint neu halogiad â’r coronafeirws, gan gynnwys—

(a)dod i gysylltiad wyneb yn wyneb â pherson o bellter o lai nag 1 metr;

(b)treulio mwy na 15 munud o fewn 2 fetr i berson;

(c)teithio mewn car neu gerbyd bach arall gyda pherson neu’n agos i berson ar awyren neu yn yr un cerbyd mewn trên.

(2Yn rheoliadau 11 a 13, mae cyfeiriadau at “oedolyn” (“O”) yn cynnwys cyfeiriadau at blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed.

(3At ddibenion y Rhan hon, mae gan berson gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan y person—

(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

(b)cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw hysbysiad drwy ap ffôn clyfar Covid 19 y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn hysbysiad.

Gofyniad i ynysu: oedolyn â’r coronafeirws

11.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod O wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ar neu ar ôl 9 Tachwedd 2020.

(2Ni chaiff O ymadael â’r man lle y mae O yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad O oni bai bod rheoliad 15 yn gymwys.

(3Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i O hysbysu’r swyddog—

(a)am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae O yn byw, a

(b)am gyfeiriad y man hwnnw.

(4Diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(5Ond pan fo O yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd symptomau gyntaf, diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae O yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd y symptomau gyntaf.

Gofyniad i ynysu: plentyn â’r coronafeirws

12.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod plentyn (“P”) y mae O yn gyfrifol amdano wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ar neu ar ôl 9 Tachwedd 2020.

(2Ni chaiff P ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P oni bai bod rheoliad 15 yn gymwys.

(3Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i O hysbysu’r swyddog—

(a)am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a

(b)am gyfeiriad y man hwnnw.

(4Diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(5Ond mewn achos pan fo O yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd P symptomau gyntaf, diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae O yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd P symptomau gyntaf.

Gofyniad i ynysu ar ôl cysylltiad agos: oedolyn

13.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod O wedi dod i gysylltiad agos ar neu ar ôl 9 Tachwedd 2020 â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws (“C”).

(2Ni chaiff O ymadael â’r man lle y mae O yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad O oni bai bod rheoliad 15 yn gymwys.

(3Rhaid i O hysbysu swyddog olrhain cysylltiadau, os yw’n gofyn am hynny, am gyfeiriad y man lle y mae O yn byw.

(4Diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth O i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(5Ond pan fo O yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad O yw—

(a)pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf;

(b)pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

Gofyniad i ynysu ar ôl cysylltiad agos: plentyn

14.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod plentyn (“P”) y mae O yn gyfrifol amdano wedi dod i gysylltiad agos ar neu ar ôl 9 Tachwedd 2020 â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws (“C”).

(2Ni chaiff P ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P oni bai bod rheoliad 15 yn gymwys.

(3Rhaid i O hysbysu swyddog olrhain cysylltiadau, os yw’n gofyn am hynny, am gyfeiriad y man lle y mae P yn byw.

(4Diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth P i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(5Ond pan fo P yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad P yw—

(a)pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, neu

(b)pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

Gofynion ynysu: eithriadau

15.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn rhinwedd rheoliad 11(2), 12(2), 13(2) neu 14(2).

(2Caiff y person ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw a bod y tu allan iddo am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol i—

(a)ceisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen hyn ar frys neu ar gais ymarferydd meddygol cofrestredig;

(b)cael gafael ar wasanaethau milfeddygol—

(i)pan fo eu hangen ar frys, neu

(ii)pan na fo’n bosibl i berson arall yn y man lle y mae’r person yn byw gael gafael ar y gwasanaethau hynny;

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol, pan na fo’n bosibl nac yn ymarferol gwneud hynny heb ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw;

(d)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(e)am resymau tosturiol, gan gynnwys mynd i angladd—

(i)aelod o’r teulu;

(ii)ffrind agos;

(f)cael angenrheidiau sylfaenol (gan gynnwys ar gyfer personau eraill yn y man lle y mae’r person yn byw neu unrhyw anifeiliaid anwes yn y man hwnnw) pan na fo’n bosibl nac yn ymarferol—

(i)i berson arall yn y man lle y mae’r person yn byw eu cael, neu

(ii)eu cael drwy eu danfon i’r man hwnnw gan drydydd parti;

(g)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau i ddioddefwyr)—

(i)pan fo cael gafael ar y gwasanaeth yn hanfodol i lesiant y person, a

(ii)pan na fo’r gwasanaeth yn gallu cael ei ddarparu os yw’r person yn aros yn y man lle y mae’r person yn byw;

(h)symud i fan gwahanol i fyw pan fo’n mynd yn anymarferol aros yn y man lle y mae’r person yn byw.

(3Nid yw rheoliadau 11(2), 12(2), 13(2) a 14(2) yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

(4Nid yw rheoliad 11(2) yn gymwys i berson—

(a)sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws yn ystod astudiaeth ymchwil (y “prawf blaenorol”), a

(b)sy’n cael canlyniad positif am y coronafeirws yn ystod yr un astudiaeth o fewn y cyfnod o 90 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad y prawf blaenorol.

Gofyniad ar bersonau a chanddynt gyfrifoldeb dros blant

16.  Pan fo gofyniad wedi ei osod o dan reoliad 12(2) neu 14(2) ar blentyn, rhaid i berson a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.

Tynnu’n ôl hysbysiad sy’n gwneud ynysu yn ofynnol

17.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau—

(a)wedi rhoi hysbysiad o dan reoliad 11(1), 12(1), 13(1) neu 14(1) (“yr hysbysiad gwreiddiol”), ond

(b)yn hysbysu derbynnydd yr hysbysiad gwreiddiol wedi hynny fod yr hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.

(2Mae’r hysbysiad gwreiddiol i’w drin fel pe na bai wedi ei roi.

PENNOD 2Gwybodaeth

Pŵer i ddefnyddio a datgelu gwybodaeth

18.—(1Ni chaiff swyddog olrhain cysylltiadau ond datgelu gwybodaeth berthnasol i berson (“deiliad yr wybodaeth”) y mae’n angenrheidiol i ddeiliad yr wybodaeth ei chael—

(a)at ddibenion—

(i)cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn,

(ii)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(iii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(b)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.

(2Gwybodaeth berthnasol yw—

(a)pan fo’n ofynnol i berson ynysu yn unol â rheoliad 11(2), 12(2), 13(2) neu 14(2)—

(i)gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person;

(ii)y dyddiad y cafodd y person hysbysiad o dan reoliad 11(1), 12(1), 13(1) neu 14(1), neu, pan fo’r person yn blentyn, y person a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn;

(iii)y cyfnod penodol y mae’n ofynnol i’r person beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw neu fod y tu allan iddo mewn cysylltiad ag ef, wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 11, 12, 13 neu 14;

(iv)manylion unrhyw hysbysiadau cosb benodedig sydd wedi eu dyroddi, neu achosion sydd wedi eu dwyn, mewn perthynas â throsedd o dorri rheoliad 11, 12, 13 neu 14 yr honnir bod y person wedi ei chyflawni;

(b)cadarnhad na chafodd person ganlyniad positif mewn prawf am y coronafeirws (gan gynnwys enw, gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person).

(3Ni chaiff deiliad yr wybodaeth ddefnyddio gwybodaeth berthnasol a ddatgelir o dan baragraff (1) ond i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol—

(a)at ddibenion—

(i)cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn,

(ii)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(iii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(b)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir ym is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (6), ni chaiff deiliad yr wybodaeth ond datgelu gwybodaeth berthnasol i berson arall (y “derbynnydd”) y mae’n angenrheidiol i’r derbynnydd ei chael—

(a)at ddibenion—

(i)cyflawni un o swyddogaethau’r derbynnydd o dan y Rheoliadau hyn,

(ii)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(iii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(b)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (7), nid yw datgeliad sydd wedi ei awdurdodi gan y rheoliad hwn yn torri—

(a)rhwymedigaeth o safbwynt cyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, na

(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y’i gorfodir).

(6Nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu ar yr amgylchiadau pan ganiateir i wybodaeth gael ei datgelu’n gyfreithlon fel arall o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol.

(7Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi defnyddio neu ddatgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.

(8At ddibenion y rheoliad hwn, mae i “deddfwriaeth diogelu data” a “data personol” yr un ystyron â “data protection legislation” a “personal data” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(3).

RHAN 5Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

Cau mangreoedd a ddefnyddir gan fusnesau a gwasanaethau penodol

19.—(1O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir yn Atodlen 1—

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

(b)ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Nid yw paragraff (1) yn atal—

(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan na fydd paragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

(c)defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer ar gyfer darllediad o’r fath;

(d)defnyddio mangre ar gyfer darparu gwasanaethau neu wybodaeth (gan gynnwys gwerthu, llogi neu ddanfon nwyddau neu wasanaethau)—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.

(3Pan—

(a)bo’n ofynnol, yn rhinwedd y rheoliad hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y rheoliad hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedig

20.—(1Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.

(2Pan fo’r fangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, o ran y person sy’n gyfrifol am y fangre—

(a)rhaid iddo gau’r fangre (i gwsmeriaid) am neu cyn 10.20 p.m. bob dydd, a

(b)ni chaiff agor y fangre cyn 6.00 a.m. bob dydd.

(3Er gwaethaf paragraff (2), caiff sinema gau’n hwyrach na 10.20 p.m. dim ond at ddiben gorffen dangos ffilm sy’n dechrau cyn 10.00 p.m.

(4Nid yw paragraff (2) yn gymwys i—

(a)mangre mewn—

(i)porthladd môr;

(ii)maes awyr;

(iii)sefydliad addysgol;

(b)ffreuturau yn y gweithle.

(5O ran ei gymhwysiad i fangre llety gwyliau neu lety teithio, nid yw paragraff (2) ond yn gymwys i’r rhannau hynny o’r fangre lle y gwerthir neu y cyflenwir alcohol i’w yfed yn y fangre.

(6Nid yw paragraffau (1) a (2) yn caniatáu i’r fangre fod ar agor, nac i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi, yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.

(7Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae paragraffau (2) i (4) yn gymwys i’r mangreoedd hynny fel y maent yn gymwys i fangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.

RHAN 6Lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws

Gofyniad i gymryd mesurau ataliol mewn mangre reoleiddiedig i leihau risg

21.—(1At ddibenion paragraff (2)

(a)ystyr “mangre reoleiddiedig” yw—

(i)mangre busnesau neu wasanaethau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 2;

(ii)cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus;

(iii)mangre arall lle y mae gwaith yn cael ei wneud;

(b)ystyr y “person cyfrifol” yw—

(i)mewn perthynas â mangre reoleiddiedig y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)(i) neu (ii), y person sy’n gyfrifol am y fangre,

(ii)mewn perthynas â mangre reoleiddiedig o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(iii), y person sy’n gyfrifol am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y fangre.

(2At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre reoleiddiedig, neu ledaenu’r coronafeirws gan y rheini sydd wedi bod mewn mangre reoleiddiedig, rhaid i’r person cyfrifol—

(a)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(i)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr);

(ii)pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr),

(b)cymryd unrhyw fesurau rhesymol eraill at y diben hwnnw, er enghraifft mesurau sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac yn cynnal hylendid megis—

(i)newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;

(ii)rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;

(iii)rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;

(iv)rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi fel arall;

(v)gosod rhwystrau neu sgriniau;

(vi)darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac

(c)darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(3Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (2) hefyd yn cynnwys—

(a)peidio â gwneud gweithgareddau penodol;

(b)cau rhan o’r fangre;

(c)caniatáu i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu am gyfnod penodedig, a’i alluogi i wneud hynny, oherwydd profi’n bositif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, pan fo—

(i)Gweinidogion Cymru wedi gofyn i’r person hwnnw wneud hynny;

(ii)hysbysiad a roddir gan swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw wneud hynny;

(d)casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—

(i)Gweinidogion Cymru;

(ii)swyddog olrhain cysylltiadau;

(e)cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth gyswllt o’r fath yn gywir.

(4Pan fo paragraff (2) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, rhaid gwerthu neu gyflenwi bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre yn unol â’r mesurau rhesymol a bennir ym mharagraff (5) (yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7)).

(5Y mesurau rhesymol yw—

(a)bod rhaid bod person sy’n rheoli mynediad i’r fangre ac sy’n dyrannu cyfnod amser cyfyngedig y caiff cwsmeriaid aros yn y fangre ar ei gyfer;

(b)bod rhaid i gwsmeriaid fod yn eistedd yn y fangre yn unrhyw le ac eithrio wrth far—

(i)pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod,

(ii)pan weinir bwyd neu ddiod iddynt, a

(iii)pan fyddant yn bwyta neu’n yfed.

(6Ond pan fo bwyd yn cael ei ddarparu yn y fangre ar sail bwffe, caiff cwsmeriaid ddewis bwyd o’r bwffe a dychwelyd i’r man lle y maent yn eistedd ar yr amod y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau wrth y bwffe (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr).

(7Nid yw is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (5) yn gymwys i—

(a)ffreuturau yn y gweithle, neu

(b)mangreoedd mewn sefydliad addysgol.

(8At ddibenion paragraff (4)

(a)nid yw bwyd neu ddiod a werthir mewn llety gwyliau neu lety teithio fel rhan o wasanaeth ystafell i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre;

(b)mae bwyd neu ddiod a werthir i’w fwyta neu i’w hyfed mewn ardal sy’n gyfagos i’r fangre lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre.

(9Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae paragraffau (4) i (7) yn gymwys i’r mangreoedd hynny fel y maent yn gymwys i fangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.

Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus

22.—(1Rhaid i berson (“P”) sy’n teithio fel teithiwr mewn cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb.

(2Ond nid yw hyn yn ofynnol—

(a)pan fo esemptiad yn gymwys o dan baragraff (3);

(b)pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (4).

(3Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—

(a)pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;

(b)mewn cerbyd sy’n darparu gwasanaeth cludiant i’r ysgol;

(c)ar fferi—

(i)pan fo’r rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr yn yr awyr agored yn gyfan gwbl, neu

(ii)pan ellir cynnal pellter o 2 fetr o leiaf rhwng personau ar y rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr;

(d)ar long fordeithio;

(e)pan ddyrennir caban, man cysgu neu lety tebyg arall i P yn y cerbyd, ar unrhyw adeg pan yw P yn y llety hwnnw—

(i)ar ei ben ei hunan, neu

(ii)gydag aelodau o aelwyd P neu ofalwr i aelod o’r aelwyd yn unig;

(f)pan—

(i)caniateir i P, neu pan fo’n ofynnol fel arfer i P, fynd i gerbyd ac aros ynddo wrth ddefnyddio’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,

(ii)na fo’r cerbyd ei hunan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a

(iii)bo P yn aros yn y cerbyd hwnnw;

(g)ar gerbyd awyr na chychwynnodd o fan yng Nghymru, ac nad yw i lanio mewn man yng Nghymru;

(h)ar lestr nad yw’n docio mewn porthladd yng Nghymru.

(4Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—

(a)pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(4));

(b)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);

(c)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;

(d)pan fo P yn teithio i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;

(e)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—

(i)cymryd meddyginiaeth;

(ii)bwyta neu yfed, os caniateir gwneud hyn yn y cerbyd a bod hynny’n rhesymol angenrheidiol (er enghraifft oherwydd hyd y daith);

(f)pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan—

(i)swyddog gorfodaeth, neu

(ii)gweithredwr y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr.

(5Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ddarparu gwybodaeth i deithwyr am y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb yn ei gerbydau.

(6At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “gwasanaeth cludiant i’r ysgol” yw unrhyw wasanaeth cludiant nad yw ond yn cael ei ddarparu at ddiben—

(a)cludo person i’r ysgol ac o’r ysgol neu’r man arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo, neu

(b)hwyluso fel arall bresenoldeb person mewn ysgol neu fan arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo.

Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus penodol o dan do

23.—(1Rhaid i berson (“P”) wisgo gorchudd wyneb yn ardaloedd cyhoeddus o dan do mangreoedd y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddynt, pa un ai drwy dalu neu fel arall.

(2Ond nid yw hyn yn ofynnol—

(a)pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;

(b)pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (3).

(3Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—

(a)pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010);

(b)pan fo P yn ymgymryd â gweithgaredd ac y gellir ystyried yn rhesymol fod gwisgo gorchudd wyneb yn ystod y gweithgaredd hwnnw yn peri risg i iechyd P;

(c)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);

(d)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;

(e)pan fo P yn y fangre i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;

(f)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—

(i)cymryd meddyginiaeth;

(ii)bwyta neu yfed, pan fo’n rhesymol angenrheidiol;

(g)pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan swyddog gorfodaeth;

(h)pan fo P yn eistedd mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y’i darperir fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre.

Canllawiau ar leihau dod i gysylltiad â’r coronafeirws

24.—(1Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo gymryd mesurau rhesymol o dan reoliad 21(2) roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y mesurau hynny.

(2Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae rheoliad 22 yn gymwys iddo roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch—

(a)y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn unol â pharagraffau (1) i (4) o reoliad 22 a gorfodi’r gofyniad hwnnw o dan reoliad 30;

(b)darparu gwybodaeth i deithwyr yn unol â pharagraff (5) o reoliad 22.

(3O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) neu (2), a

(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).

(4Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).

(5Mae canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (1) neu (2) o reoliad 20 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020(5) i’w trin fel pe baent yn ganllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) neu (2) o’r rheoliad hwn, yn ôl y digwydd.

RHAN 7Gorfodi

Swyddogion gorfodaeth

25.—(1At ddibenion rheoliad 26 ac Atodlen 3, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2At ddibenion rheoliadau 22, 23, 27 i 35, a 37, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw—

(a)cwnstabl,

(b)swyddog cymorth cymunedol yr heddlu,

(c)person sydd wedi ei ddynodi gan—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)awdurdod lleol,

at ddibenion y Rheoliadau hyn (ond gweler paragraff (3)), neu

(d)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol o dan—

(i)rheoliad 10(11)(c) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(6) yn berson perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir gan y rheoliad hwnnw),

(ii)rheoliad 17(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(7) at ddibenion y Rheoliadau hynny, neu

(iii)rheoliad 21(2) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 at ddibenion y Rheoliadau hynny,

(ond gweler paragraff (3)).

(3Ni chaiff person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol arfer swyddogaethau swyddog gorfodaeth ond mewn perthynas â thorri gofyniad yn rheoliad 19(1), 20(1) neu (2), neu 21(2), neu Atodlen 3 (neu achos honedig o’i dorri).

Gorfodi’r gofyniad i gymryd mesurau ataliol

26.  Mae Atodlenni 3 a 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi swyddogaethau i swyddogion gorfodaeth at ddiben gorfodi rheoliad 21(2) ac mewn cysylltiad â rhoi’r swyddogaethau hynny.

Hysbysiadau cydymffurfio

27.—(1Caiff swyddog gorfodi roi hysbysiad cydymffurfio i berson os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod y person yn torri gofyniad yn rheoliad 19(1) neu 22(5).

(2Caiff hysbysiad cydymffurfio bennu mesurau y mae rhaid i’r person y’i rhoddir iddo eu cymryd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn atal y person hwnnw rhag parhau i dorri’r gofyniad.

Pwerau symud a gwasgaru

28.—(1Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri rheoliad 4(1), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;

(b)cyfarwyddo unrhyw berson nad yw’n byw yn yr annedd lle y mae’r toriad o dan amheuaeth yn digwydd i ymadael â’r annedd;

(c)symud unrhyw berson o’r fath o’r annedd.

(2Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod pobl wedi ymgynnull yn groes i reoliad 6(1) neu (3), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;

(b)cyfarwyddo unrhyw berson yn y cynulliad i ddychwelyd i’r man lle y mae’n byw;

(c)symud unrhyw berson yn y cynulliad i’r man lle y mae’n byw.

(3Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 9, caiff y swyddog gyfarwyddo P—

(a)mewn achos honedig o dorri rheoliad 9(1), i ymadael â Chymru, neu

(b)mewn achos honedig o dorri rheoliad 9(2), i beidio ag ymadael â Chymru neu i ddychwelyd i Gymru.

(4Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) i ffwrdd o’r man lle y mae’n byw yn groes i reoliad 11(2), 12(2), 13(2) neu 14(2), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo P i ddychwelyd i’r man lle y mae P yn byw;

(b)symud P i’r man hwnnw.

(5Wrth arfer pŵer ym mharagraffau (1) i (3), caiff swyddog gorfodaeth gyfarwyddo person i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

Pwerau sy’n ymwneud â digwyddiadau gwaharddedig

29.—(1Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn ymwneud â threfnu digwyddiad yn groes i reoliad 7(1) neu 8(1), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;

(b)symud P o leoliad y digwyddiad;

(c)cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad (neu pan fo’r person yn blentyn sydd gydag oedolyn a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn, cyfarwyddo’r unigolyn i symud y plentyn o’r digwyddiad);

(d)symud unrhyw berson o’r digwyddiad.

(2Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn ymwneud â threfnu digwyddiad y mae’r swyddog yn ystyried ei fod yn debygol o dorri rheoliad 7(1) neu 8(1), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal y digwyddiad rhag digwydd;

(b)symud P o leoliad arfaethedig y digwyddiad.

Gorfodi gofynion gorchuddion wyneb

30.—(1Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 22(1), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo P i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw;

(b)symud P o’r cerbyd.

(2Pan fo gan—

(a)gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,

(b)cyflogai i’r gweithredwr, neu

(c)person sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr,

sail resymol dros amau bod person (“P”) ar fin torri rheoliad 22(1), caiff y gweithredwr, y cyflogai neu’r person awdurdodedig gyfarwyddo P i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw.

(3Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 23(1), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo P i beidio â mynd i’r fangre;

(b)symud P o’r fangre.

Gorfodi: plant

31.—(1Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 4(1), a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—

(a)os nad yw P yn byw yn yr annedd lle y mae’r toriad honedig yn digwydd, caiff y swyddog gyfarwyddo U i symud P o’r annedd, a

(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.

(2Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) mewn cynulliad yn groes i reoliad 6(1) neu (3) a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—

(a)caiff y swyddog gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a

(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.

(3Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 9 a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—

(a)caiff y swyddog gyfarwyddo U—

(i)mewn achos honedig o dorri rheoliad 9(1), i fynd â P i fan y tu allan i Gymru,

(ii)mewn achos honedig o dorri rheoliad 9(2), i atal P rhag ymadael â Chymru neu i fynd â P yn ôl i Gymru, a

(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.

(4Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) i ffwrdd o’r man lle y mae’n byw yn groes i reoliad 12(2) neu 14(2) a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—

(a)caiff y swyddog gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a

(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.

(5Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod plentyn yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn rheoliad 22(1) neu 23(1), caiff y swyddog gyfarwyddo unrhyw unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn i sicrhau, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, fod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.

(6At ddibenion paragraffau (1) i (4), mae gan U gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan U—

(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

(b)cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

Pŵer mynediad

32.—(1Caiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre—

(a)os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri yn y fangre, a

(b)os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r gofyniad yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri.

(2Caiff swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1) gymryd unrhyw bersonau eraill, cyfarpar a deunyddiau i’r fangre y mae’n ymddangos i’r swyddog eu bod yn briodol.

(3Rhaid i swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)

(a)os gofynnir iddo gan berson yn y fangre, ddangos tystiolaeth o bwy yw’r swyddog ac amlinellu’r diben yr arferir y pŵer ato;

(b)os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.

Pŵer yr heddlu i gynnal archwiliadau ar y ffyrdd

33.—(1At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “archwiliad ar y ffordd” yw arfer y pŵer a roddir gan adran 163 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(8) mewn ardal yn y fath fodd i stopio, yn ystod y cyfnod pan fydd y pŵer hwnnw yn parhau i gael ei arfer yn yr ardal honno, bob cerbyd neu gerbydau sydd wedi eu dethol yn ôl unrhyw faen prawf.

(2Caiff cwnstabl gynnal archwiliad ar y ffordd at ddiben canfod a yw cerbyd yn cario person sydd wedi cyflawni, neu berson y mae’r cwnstabl yn credu’n rhesymol ei fod yn bwriadu cyflawni, trosedd o dan y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i archwiliad ar y ffordd gael ei awdurdodi gan gwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch.

(4Ond caiff cwnstabl o dan y rheng honno awdurdodi archwiliad ar y ffordd os yw’r cwnstabl yn ystyried ei fod yn angenrheidiol fel mater o frys.

(5Caiff cwnstabl awdurdodi archwiliad ar y ffordd os oes gan y cwnstabl sail resymol dros gredu bod personau yn yr ardal y byddai cerbydau’n cael eu stopio ynddi, neu sydd ar fin bod yn yr ardal honno, yn cyflawni, neu’n bwriadu cyflawni, trosedd o dan y Rheoliadau hyn.

(6Rhaid i awdurdodiad fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu—

(a)yr ardal y mae cerbydau i’w stopio ynddi;

(b)y cyfnod, nad yw’n hwy na 7 niwrnod, pan ganiateir cynnal yr archwiliad ar y ffordd;

(c)a yw’r archwiliad ar y ffordd i’w gynnal—

(i)yn barhaus drwy gydol y cyfnod, neu

(ii)ar adegau penodol yn ystod y cyfnod (ac yn yr achos hwnnw rhaid i’r awdurdodiad bennu’r adegau hynny);

(d)enw’r cwnstabl sy’n rhoi’r awdurdodiad.

(7Pan fo archwiliad ar y ffordd wedi ei awdurdodi o dan baragraff (4)—

(a)ni chaiff y cyfnod a bennir ym mharagraff (6)(b) fod yn hwy na 2 ddiwrnod;

(b)rhaid i’r cwnstabl sy’n rhoi’r awdurdodiad, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi’r awdurdodiad, roi gwybod i gwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch ei fod wedi ei roi.

(8Caiff cwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch roi awdurdodiad yn ysgrifenedig i archwiliad ar y ffordd barhau am gyfnod pellach, nad yw’n hwy na 7 niwrnod, y tu hwnt i’r cyfnod yr awdurdodwyd yr archwiliad ar y ffordd amdano yn wreiddiol.

(9Pan fo cerbyd yn cael ei stopio yn ystod archwiliad ar y ffordd, mae gan y person sy’n gyfrifol am y cerbyd ar yr adeg pan yw’n cael ei stopio hawlogaeth i gael datganiad ysgrifenedig am ddiben yr archwiliad ar y ffordd drwy gyflwyno cais yn ysgrifenedig—

(a)i’r heddlu sy’n gyfrifol am yr ardal lle y cynhelir yr archwiliad ar y ffordd, a

(b)heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o 12 mis o’r diwrnod pan stopiwyd y cerbyd.

Gorfodi: darpariaeth atodol

34.—(1Caiff swyddog gorfodaeth gymryd camau gweithredu eraill i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y Rhan hon, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu ateb unrhyw gwestiwn y mae’r swyddog yn ystyried ei bod neu ei fod yn berthnasol i arfer y pŵer.

(2Caiff swyddog gorfodaeth ddefnyddio grym rhesymol wrth arfer pŵer o dan—

(a)rheoliad 28(1)(c), (2)(c) neu (4)(b),

(b)rheoliad 29(1)(b) neu (d) neu (2)(b),

(c)rheoliad 30(1)(b) neu (3)(b), neu

(d)rheoliad 32(1).

(3Ni chaiff swyddog gorfodaeth ond arfer pŵer o dan y Rhan hon os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.

(4Yn y Rhan hon mae cyfeiriadau at ofyniad yn cynnwys cyfeiriadau at gyfyngiad.

RHAN 8Troseddau a chosbau

Troseddau a chosbau

35.—(1Mae person sydd—

(a)yn torri gofyniad yn rheoliad 4(1), 6(1) neu (3), 7(1), 9(1) neu (2), 11(2), 12(2), 13(2), 14(2), 16, 22(1) neu 23(1), neu

(b)heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn rheoliad 8(1), 11(3), 12(3), 13(3), 14(3), 19(1), 20(1) neu (2), neu 22(5),

yn cyflawni trosedd.

(2Mae’n drosedd i berson (“P”) roi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i swyddog olrhain cysylltiadau—

(a)o dan reoliad 11(3), 12(3), 13(3) neu 14(3), neu

(b)ynghylch—

(i)gwybodaeth gyswllt P, neu

(ii)personau y gall P fod wedi dod i gysylltiad agos â hwy,

pan fo P yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu pan fo P yn ddi-hid o ran a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.

(3Mae person sy’n cymryd rhan mewn cynulliad—

(a)sy’n digwydd mewn annedd breifat,

(b)lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, ac

(c)lle y mae pobl yn ymgynnull yn groes i reoliad 4(1),

yn cyflawni trosedd.

(4Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

(5Mae person sydd—

(a)heb esgus rhesymol, yn torri paragraff 3(1) o Atodlen 3,

(b)yn torri paragraff 3(2) o’r Atodlen honno, neu

(c)heb esgus rhesymol, yn tynnu, yn cuddio neu’n difrodi hysbysiad neu arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan baragraff 7(2)(a) o’r Atodlen honno,

yn cyflawni trosedd.

(6Mae person sydd, heb esgus rhesymol—

(a)yn torri cyfarwyddyd a roddir—

(i)gan swyddog gorfodaeth o dan Ran 7, neu

(ii)gan weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr, neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr, o dan reoliad 30(2), neu

(b)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 28(1),

yn cyflawni trosedd.

(7Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.

(8Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(9) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—

(a)cynnal iechyd y cyhoedd;

(b)cynnal trefn gyhoeddus.

(9Yn y rheoliad hwn, mae i “cysylltiad agos” yr un ystyr ag yn Rhan 4.

Troseddau a gyflawnwyd gan gyrff corfforedig etc.

36.—(1Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforedig—

(a)wedi ei chyflawni â chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath,

mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.

(3Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.

(4Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.

(5Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(10) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(11) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.

(6Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o asedau’r bartneriaeth.

(7Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y gymdeithas.

Hysbysiadau cosb benodedig

37.—(1Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw un y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol—

(a)ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a

(b)ei fod yn 18 oed neu drosodd.

(2Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—

(a)awdurdod lleol, neu

(b)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn,

a bennir yn yr hysbysiad.

(3Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).

(4Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan—

(a)rheoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

(b)rheoliad 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, neu

(c)rheoliad 31 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020,

i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.

(5Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo fod yn awdurdod (neu yn ôl y digwydd, unrhyw un o’r awdurdodau) yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni yn ei ardal.

(6Pan fo hysbysiad wedi ei ddyroddi i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;

(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

Swm cosb benodedig: cyffredinol

38.—(1Oni bai bod rheoliad 39, 40, 41 neu 42 yn gymwys, swm cosb benodedig yw £60.

(2Ond caiff hysbysiad cosb benodedig bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad, mai dyna swm y gosb benodedig.

(3Ac os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig iddo eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—

(a)nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys, a

(b)y swm a bennir fel y gosb benodedig yw—

(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £120;

(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £240;

(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £480;

(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £960;

(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir wedi hynny, £1,920.

(4Ym mharagraff (3), ystyr “hysbysiad cosb benodedig” yw—

(a)hysbysiad cosb benodedig pan fo swm y gosb benodedig wedi ei bennu o dan y rheoliad hwn;

(b)hysbysiad cosb benodedig o dan—

(i)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

(ii)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,

(iii)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, a

(iv)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020(12).

(5Wrth gyfrifo nifer yr hysbysiadau cosb benodedig sydd wedi eu dyroddi i berson, nid yw unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i hysbysiad sydd wedi ei ddyroddi i’r person mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri—

(a)rheoliad 14B(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, neu

(b)rheoliad 9 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020.

Swm cosb benodedig: cymryd rhan mewn cynulliad mawr mewn annedd breifat

39.  Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 35(3), swm y gosb benodedig yw £60.

Swm cosb benodedig: trefnu digwyddiad

40.—(1Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri rheoliad 7(1), swm y gosb benodedig yw £200.

(2Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri rheoliad 7(1) eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd honedig o’r fath—

(a)nid yw paragraff (1) yn gymwys, a

(b)swm y gosb benodedig yw—

(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £400;

(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £800;

(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £1,600;

(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £3,200;

(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir wedi hynny, £6,400.

Swm cosb benodedig: trefnu digwyddiad cerddoriaeth sydd heb ei drwyddedu

41.  Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri rheoliad 8(1), swm y gosb benodedig yw £10,000.

Swm gosb benodedig: troseddau sy’n gysylltiedig â busnes

42.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri—

(a)rheoliad 19(1),

(b)rheoliad 20(1) neu (2), neu

(c)paragraff 3(1) o Atodlen 3,

(y cyfeirir ati yn y rheoliad hwn fel “trosedd busnes honedig”).

(2Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig, swm y gosb benodedig yw £1,000.

(3Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd honedig o’r fath—

(a)nid yw paragraff (2) yn gymwys, a

(b)swm y gosb benodedig yw—

(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £2,000;

(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £4,000;

(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir wedi hynny, £10,000.

Cosbau penodedig: ffurf a gweithdrefn

43.—(1Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd;

(b)datgan y cyfnod pryd (oherwydd rheoliad 37(6)(a)) na ddygir achos am y drosedd;

(c)pennu swm y gosb benodedig a bennir o dan reoliad 38, 39, 40, 41 neu 42 (yn ôl y digwydd);

(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;

(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(2Pa ddull bynnag arall a bennir o dan baragraff (1)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (1)(d) i’r cyfeiriad a nodir.

(3Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel a grybwyllir ym mharagraff (2), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.

(4Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person a chanddo gyfrifoldeb am faterion ariannol—

(i)yr awdurdod lleol, neu

(ii)y person sydd wedi ei ddynodi o dan reoliad 37(2)(b),

a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a

(b)sy’n datgan bod y taliad am gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a nodwyd.

Hysbysiadau cosb benodedig: gwaharddiad ar gosbi ddwywaith

44.—(1Pan fo’r un weithred neu anweithred, neu fwy neu lai yr un weithred neu anweithred, gan berson yn gallu arwain at gred resymol bod y person wedi cyflawni mwy nag un drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ni chaniateir dyroddi cosb benodedig i’r person ond mewn cysylltiad ag un o’r troseddau honedig.

(2Ond caniateir dyroddi hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad—

(a)â’r drosedd honedig o dorri rheoliad 4(1), yn ogystal

(b)â throsedd o dan reoliad 35(3),

pan fo’r un weithred, neu fwy neu lai yr un weithred, gan berson yn arwain at gred resymol bod y person wedi cyflawni’r naill drosedd a’r llall.

Hunanargyhuddo

45.—(1Caniateir i wybodaeth berthnasol gael ei defnyddio fel tystiolaeth yn erbyn y person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef mewn achos troseddol.

(2Pan ddefnyddir yr wybodaeth mewn achos ac eithrio am drosedd o dan y Rheoliadau hyn neu adran 5 o Ddeddf Anudon 1911(13) (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw)—

(a)ni chaniateir i unrhyw dystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei rhoi gan yr erlyniad nac ar ei ran, a

(b)ni chaniateir i unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei ofyn gan yr erlyniad nac ar ei ran.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys—

(a)os rhoddir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person a’i darparodd, neu ar ei ran, yn ystod yr achos, neu

(b)os gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person hwnnw, neu ar ei ran, yn ystod yr achos.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw—

(a)gwybodaeth sy’n wybodaeth berthnasol at ddibenion rheoliad 18;

(b)gwybodaeth, neu’r ateb i gwestiwn, a roddir mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan reoliad 34(1);

(c)unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys mewn dogfen neu gofnodion electronig a ddangosir mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan baragraff 8(1) o Atodlen 3.

Erlyn

46.—(1Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan—

(a)y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus,

(b)unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru, neu

(c)mewn perthynas ag achos am drosedd—

(i)o dorri gofyniad yn rheoliad 19(1) neu 20(1) neu (2), neu Atodlen 3, neu

(ii)o dan reoliad 35(4) neu (6),

awdurdod lleol;

(2Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan—

(a)rheoliad 14 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

(b)rheoliad 22 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, neu

(c)rheoliad 32 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020,

i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi o dan y rheoliad hwn.

RHAN 9Cyffredinol

Dehongli

47.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu gofal ar gyfer y person a gynorthwyir pan fo—

(i)hawlogaeth gan y gofalwr i asesiad o dan adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(14),

(ii)y gofal yn rhan o ddarparu gwasanaethau gofal cymunedol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu

(iii)y gofal wedi ei ddarparu gan ddarparwr gofal sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(15);

(b)ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed;

(c)ystyr “gwybodaeth gyswllt”, mewn perthynas â pherson, yw enw’r person a gwybodaeth sy’n ddigon i alluogi cysylltiad â’r person, (gan gynnwys rhif ffôn, ac, mewn perthynas â pherson mewn mangre reoleiddiedig, y dyddiad a’r amser yr oedd y person yn y fangre);

(d)ystyr “swyddog olrhain cysylltiadau” yw—

(i)person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen at ddibenion y gwasanaeth iechyd (o fewn ystyr “the health service” yn adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(16) neu adran 108 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(17));

(ii)person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan awdurdod lleol,

sydd wedi ei ddynodi at ddibenion Rhan 4 gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru(18) neu awdurdod lleol.

(e)ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

(f)ystyr “athletwr elît” yw unigolyn sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru;

(g)ystyr “gorchudd wyneb” yw gorchudd o unrhyw fath sy’n gorchuddio trwyn a cheg person;

(h)ystyr “llety gwyliau neu lety teithio” yw llety mewn mangre o fath a restrir ym mharagraffau 8 i 11 o Ran 1 o Atodlen 2;

(i)ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(j)mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag a roddir i “parental responsibility” yn Neddf Plant 1989(19);

(k)mae “person sy’n gyfrifol am gynnal busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;

(l)mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;

(m)ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus” yw gwasanaeth a ddarperir ar gyfer cludo teithwyr ar ffordd, ar reilffordd, ar dramffordd, yn yr awyr neu ar y dŵr;

(n)mae i “mangre reoleiddiedig” yr ystyr a roddir gan reoliad 21(1);

(o)mae “cerbyd” yn cynnwys awyren, car cebl, trên, tram a llestr;

(p)mae “person hyglwyf” yn cynnwys—

(i)unrhyw berson sy’n 70 oed neu’n hŷn;

(ii)unrhyw berson o dan 70 oed sydd â chyflwr iechyd isorweddol;

(iii)unrhyw berson sy’n feichiog;

(iv)unrhyw blentyn;

(v)unrhyw berson sy’n oedolyn hyglwyf o fewn yr ystyr a roddir i “vulnerable adult” gan adran 60(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(20).

(2Yn y Rheoliadau hyn, o ran cyfeiriadau at “annedd breifat”—

(a)maent yn cynnwys cwch preswyl ac unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, tŷ allan neu unrhyw atodyn arall i’r annedd;

(b)nid ydynt yn cynnwys y canlynol—

(i)llety gwyliau neu lety teithio;

(ii)llety mewn gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, o fewn yr ystyr a roddir i’r termau hynny gan Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

(iii)llety cyfiawnder troseddol.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)mae cynulliad pan fydd dau neu ragor o bobl yn yr un man er mwyn gwneud rhywbeth gyda’i gilydd;

(b)mae digwyddiad yn achlysur—

(i)sydd wedi ei gynllunio a’i amserlennu at ddiben penodol, a

(ii)pan fo unrhyw nifer o bobl yn yr un lle at y diben hwnnw, pa un a ydynt yn cymryd rhan mewn cynulliad ai peidio.

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)mae mangre o dan do os yw’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 2 o Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007(21);

(b)mae mangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol pan fo awdurdodiad wedi ei ganiatáu neu ei roi i’r fangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, ac mae i “awdurdodiad” yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno.

(5At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gweithgaredd “wedi ei drefnu”—

(a)os yw wedi ei drefnu gan—

(i)busnes,

(ii)corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, llesiannol, addysgol neu ddyngarol,

(iii)clwb neu sefydliad gwleidyddol, neu

(iv)corff llywodraethu cenedlaethol camp neu weithgaredd arall, a

(b)os yw’r person sy’n ei drefnu wedi—

(i)cynnal asesiad risg a fyddai’n bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999(22), pa un a yw’r person yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hynny ai peidio, a

(ii)cydymffurfio â gofynion rheoliadau 21(2) a 24(1).

(6At ddibenion paragraff (5)(b)—

(a)mae rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn gymwys fel pe bai’r gweithgaredd yn ymgymeriad a wneir gan y person sy’n ei drefnu;

(b)mae rheoliad 21(2) o’r Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai—

(i)y man lle y mae’r gweithgaredd yn digwydd yn fangre reoleiddiedig at ddibenion y rheoliad hwnnw, a

(ii)y person sy’n trefnu’r gweithgaredd oedd y person cyfrifol mewn perthynas â’r fangre reoleiddiedig honno.

Diwygiad canlyniadol

48.  Yn rheoliad 19(10) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020, ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

(d)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 1.14 p.m. ar 5 Tachwedd 2020

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill