- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
am 3.02 p.m. ar 20 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 7.00 p.m. ar 20 Tachwedd 2020
Yn dod i rym
am 4.00 a.m. ar 21 Tachwedd 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 21 Tachwedd 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2).
2. Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y lle priodol mewnosoder—
“Bonaire, Sint Eustatius a Saba”
“Cymanwlad Ynysoedd Gogledd Mariana”
“Dinas Jerwsalem(3)”
“Gweriniaeth Namibia”
“Gweriniaeth Rwanda”
“Israel”
“Sri Lanka”
“Uruguay”
“Ynysoedd y Wyryf yr Unol Daleithiau”.
3.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 21 Tachwedd 2020—
(a)oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith iddo gyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath, a
(b)diwrnod olaf ynysiad P yw 21 Tachwedd 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.
(2) Nid yw ychwanegu’r wlad a’r diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 at Ran 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 21 Tachwedd 2020 neu wedi hynny, a
(b)wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(4) At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath i’w bennu, mewn perthynas â gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, drwy gyfeirio at ba un a oedd y wlad neu’r diriogaeth yn wlad neu’n diriogaeth nad yw’n esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws y wlad neu’r diriogaeth pan fo P yn cyrraedd Cymru).
(5) Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.
4. Yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn lle “cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyrraedd” rhodder “wrth gyrraedd neu cyn cyrraedd”.
5. Yn Rhan 1 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliadau 4, 5, 7 nac 8), ym mharagraff 1(1)(f) ar ôl “gynhadledd y Deyrnas Unedig” mewnosoder “yn y Deyrnas Unedig”.
6.—(1) Mae Rhan 2 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliadau 7 nac 8), wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 13 mewnosoder—
“13.—(1) Unrhyw berson y mae’r Adran berthnasol wedi ardystio ei fod yn bodloni’r disgrifiadau yn is-baragraffau (a), (b) neu (c)—
(a)gwas i’r Goron neu gontractwr llywodraeth y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith plismona hanfodol neu waith llywodraeth hanfodol yn y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod y byddai wedi bod yn ofynnol iddo, oni bai am y paragraff hwn, hunanynysu yn unol â rheoliadau 7 neu 8;
(b)person sy’n dychwelyd o gynnal busnes hanfodol y wladwriaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig;
(c)person sy’n dychwelyd i’r Deyrnas Unedig pan fo hynny’n angenrheidiol i hwyluso gweithrediad cenhadaeth ddiplomyddol neu swydd gonsylaidd Ei Mawrhydi, neu benodiad milwrol neu benodiad swyddogol arall ar ran Ei Mawrhydi.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)ystyr “swydd gonsylaidd” yw unrhyw brif gonswl, conswl, is-gonswl neu asiantaeth gonsylaidd,
(b)mae i “gwas i’r Goron” yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989,
(c)ystyr “gwaith llywodraeth hanfodol” yw gwaith sydd wedi ei ddynodi felly gan yr Adran berthnasol, ac mae’n cynnwys, yn benodol, waith sy’n gysylltiedig â diogelwch gwladol, gwaith yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn unol â’i swyddogaethau statudol, a gwaith sy’n ymwneud â mewnfudo, clefyd y coronafeirws neu unrhyw ymateb argyfwng arall, ond nid yw’n cynnwys gwaith o’r disgrifiad a bennir ym mharagraff 2(1) o Ran 1 o’r Atodlen hon,
(d)ystyr “plismona hanfodol” yw plismona sydd wedi ei ddynodi felly ar ran y prif swyddog perthnasol neu’r prif gwnstabl perthnasol,
(e)ystyr “busnes hanfodol y wladwriaeth” yw gweithgaredd a ddynodwyd yn hanfodol i’r Deyrnas Unedig neu Lywodraeth Ei Mawrhydi gan yr Adran berthnasol, ac mae’n cynnwys, yn benodol, drafodaethau dwyochrog neu amlochrog â gwladwriaeth arall neu sefydliad rhyngwladol arall ac ymweliadau â gwladwriaeth arall ar ran y Deyrnas Unedig neu Lywodraeth ei Mawrhydi,
(f)mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.”.
(3) Ar ôl paragraff 13 mewnosoder—
“13A.—(1) Person sy’n dychwelyd o ymgymryd â gwaith hanfodol neu waith brys y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a ardystiwyd gan yr Adran berthnasol yn waith sy’n angenrheidiol i hwyluso gwaith llywodraeth hanfodol neu fusnes hanfodol y wladwriaeth.
(2) At ddibenion is-baragraff (1) mae i “gwaith llywodraeth hanfodol” a “busnes hanfodol y wladwriaeth” yr un ystyr ag a roddir iddynt ym mharagraff 13.”.
(4) Ym mharagraff 35(a)(i) hepgorer “gan gynnwys gwaith sy’n ymwneud â chynnal a chadw ac atgyweirio ceblau tanfor sy’n cysylltu’r Deyrnas Unedig â gwledydd eraill,”.
(5) Ar ôl paragraff 38 mewnosoder—
“39. Person —
(a)sy’n ymwneud â gosod, cynnal a chadw neu atgyweirio seilwaith telathrebu ffeibr optig tanfor,
(b)y mae ei rôl yn cefnogi yn uniongyrchol y gwaith o osod, cynnal a chadw neu atgyweirio seilwaith telathrebu ffeibr optig tanfor,
pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.”
7.—(1) Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, yn lle’r pennawd rhodder “Gwledydd, tiriogaethau a rhannau o wledydd neu diriogaethau”.
(3) Yn rheoliad 12B(3)(a)(ii) (gwahardd awyrennau a llestrau rhag teithio’n uniongyrchol o Ddenmarc), yn y testun Cymraeg, hepgorer “arall”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 3.02 p.m. ar 20 Tachwedd 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”). Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr (Cymru (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714 (Cy. 160);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726 (Cy. 163);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/804 (Cy. 177);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/817 (Cy. 179);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio (Rhif 4) 2020 (O.S. 2020/840 (Cy. 185);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio (Rhif 5) 2020 (O.S. 2020/868 (Cy. 190);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886 (Cy. 196);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio (Rhif 7) 2020 (O.S. 2020/917 (Cy. 205);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio (Rhif 8) 2020 (O.S. 2020/944 (Cy. 210);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio (Rhif 9) 2020 (O.S. 2020/962 (Cy. 216);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio (Rhif 10) 2020 (O.S. 2020/981 (Cy. 220);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio (Rhif 11) 2020 (O.S. 2020/1015 (Cy. 226);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042 (Cy. 231);
Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, y Gymanwlad a Datblygu) 2020 (O.S. 2020/942);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio (Rhif 13) 2020 (O.S. 2020/1080 (Cy. 243);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio (Rhif 14) 2020 (O.S. 2020/1098 (Cy. 249);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio (Rhif 15) 2020 (O.S. 2020/1133 (Cy. 258);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio (Rhif 16) 2020 (O.S. 2020/1165 (Cy. 263);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191 (Cy. 269);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio (Rhif 18) 2020 (O.S. 2020/1223 (Cy. 277);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru (Diwygio (Rhif 19) 2020 (O.S. 2020/1232 (Cy. 278);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau (Diwygio (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1237 (Cy. 279);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau (Diwygio (Rhif 2 (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1288 (Cy. 286).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau. Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn ychwanegu Bonaire, Sint Eustatius a Saba, Cymanwlad Ynysoedd Gogledd Mariana, Dinas Jerwsalem, Gweriniaeth Namibia, Gweriniaeth Rwanda, Israel, Sri Lanka, Uruguay ac Ynysoedd y Wyryf yr Unol Daleithiau at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r newid yn statws y gwledydd a’r tiriogaethau hyn. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwr) sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren i ddarparu gwybodaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol. Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth am deithiwr yn cael ei darparu wrth gyrraedd Cymru, neu cyn cyrraedd Cymru.
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 (personau esempt) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny yn esemptio categorïau penodol o weithwyr rhag gorfod darparu gwybodaeth am deithiwr a rhag gorfod ynysu.
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14)>. Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2020/574 (Cy. 132) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/595 (Cy. 136), O.S. 2020/714 (Cy. 160), O.S. 2020/726 (Cy. 163), O.S. 2020/804 (Cy. 177), O.S. 2020/817 (Cy. 179), O.S. 2020/840 (Cy. 185), O.S. 2020/868 (Cy. 190), O.S. 2020/886 (Cy. 196), O.S. 2020/917 (Cy. 205), O.S. 2020/944 (Cy. 210), O.S. 2020/962 (Cy. 216); O.S. 2020/981 (Cy. 220); O.S. 2020/1015 (Cy. 226), O.S. 2020/1042 (Cy. 231), O.S. 2020/942, O.S. 2020/1080 (Cy. 243), O.S. 2020/1098 (Cy. 249), O.S. 2020/1133 (Cy. 258), O.S. 2020/1165 (Cy. 263), O.S. 2020/1191 (Cy. 269), O.S. 2020/1223 (Cy. 277), O.S. 2020/1232 (Cy. 278), O.S. 2020/1237 (Cy. 279) ac O.S. 2020/1288 (Cy. 286).
Ystyr y cyfeiriad hwn at Jerwsalem yw Dinas Jerwsalem yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys Dwyrain Jerwsalem a’r Tiriogaethau Palestinaidd.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys