- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
9.—(1) Nid yw berson yn gymwys i fod yn aelod nad yw’n swyddog os yw’r person hwnnw yn cael, neu wedi cael, yn y 12 mis cyn ei benodi, ei gyflogi am dâl gan—
(a)Bwrdd Iechyd Lleol,
(b)ymddiriedolaeth GIG a sefydlir o dan adran 18 o’r Ddeddf, neu
(c)Awdurdod Iechyd Arbennig o ran Cymru a sefydlir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o’r Ddeddf.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person i’w drin fel pe bai wedi ei gyflogi am dâl a hynny am ei fod wedi dal swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog o Fwrdd Iechyd Lleol; cadeirydd, is-gadeirydd neu gyfarwyddwr anweithredol o ymddiriedolaeth GIG; neu swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog o Awdurdod Iechyd Arbennig.
(3) Mae person yn peidio â bod yn gymwys i fod yn aelod nad yw’n swyddog os yw’r person hwnnw, yn dilyn ei benodi’n aelod nad yw’n swyddog, yn ymgymryd â chyflogaeth am dâl gydag unrhyw un neu ragor o’r cyrff a restrir ym mharagraff (1) ac eithrio o dan yr amgylchiadau a bennir ym mharagraff 9(2).
10.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—
(a)yn aelod nad yw’n swyddog;
(b)yn aelod cyswllt gan Weinidogion Cymru neu gan IGDC yn unol â rheoliad 3(6)(a).
(2) Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi’n aelod, neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod, pan fo’r person hwnnw yn dod o fewn un neu ragor o baragraffau o’r Atodlen.
(3) Os yw person wedi cael ei benodi’n aelod ac yn dod yn anghymwys o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r person hysbysu IGDC a Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am yr anghymhwysiad.
11.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—
(a)yn aelod nad yw’n swyddog;
(b)yn aelod cyswllt gan Weinidogion Cymru neu gan IGDC yn unol â rheoliad 3(6)(a).
(2) Caiff Gweinidogion Cymru, neu IGDC os yw wedi gwneud y penodiad, drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod, ddiswyddo’r person hwnnw os ydynt wedi eu bodloni, neu os yw wedi ei fodloni—
(a)nad yw er budd IGDC neu’r gwasanaeth iechyd i’r person hwnnw barhau i ddal swydd,
(b)nad yw’r person yn addas i fod yn aelod o IGDC neu ei fod yn anfodlon arfer swyddogaethau aelod o IGDC neu nad yw’n gallu gwneud hynny,
(c)bod y person yn peidio â bod yn gymwys i fod yn aelod nad yw’n swyddog o dan reoliad 9(3), neu
(d)bod y person wedi ei anghymhwyso o dan reoliad 10 rhag dal swydd neu ei fod wedi ei anghymhwyso adeg ei benodi.
12.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru, neu IGDC os yw wedi gwneud y penodiad, atal person dros dro tra bo’n ystyried pa un ai i ddiswyddo’r person hwnnw o dan reoliad 11.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru, neu IGDC os yw wedi gwneud y penodiad, roi hysbysiad o’r penderfyniad i atal person dros dro yn unol â thelerau’r penodiad.
(3) Ni chaiff person y mae ei benodiad wedi ei atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod yn ystod y cyfnod atal dros dro.
13.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn aelod sy’n swyddog.
(2) Caiff yr aelodau nad ydynt yn swyddogion ddiswyddo’r person hwnnw, drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod, os ydynt wedi eu bodloni nad yw er budd IGDC neu’r gwasanaeth iechyd i’r person hwnnw barhau i ddal swydd.
(3) Caiff yr aelodau nad ydynt yn swyddogion atal y person hwnnw dros dro, drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod, os yw’n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer ym mharagraff (2).
(4) Ni chaiff person y mae ei benodiad wedi ei atal dros dro o dan baragraff (3) gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod yn ystod y cyfnod atal dros dro.
14.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i aelod cyswllt a benodir gan yr aelodau nad ydynt yn swyddogion yn unol â rheoliad 3(6)(b).
(2) Caiff yr aelodau nad ydynt yn swyddogion ddiswyddo’r person hwnnw, drwy hysbysiad ysgrifenedig, os ydynt wedi eu bodloni nad yw’r person yn addas i fod yn aelod o IGDC neu nad yw’n fodlon arfer swyddogaethau aelod o IGDC neu nad yw’n gallu gwneud hynny.
(3) Caiff yr aelodau nad ydynt yn swyddogion atal person dros dro, drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r person hwnnw, os yw’n ymddangos i’r aelodau nad ydynt yn swyddogion y gall fod sail dros arfer y pŵer ym mharagraff (2).
(4) Mae aelod cyswllt yn peidio â dal swydd os yw’r aelod yn peidio â bod yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt o dan reoliad 4(4).
(5) Ni chaiff person y mae ei benodiad wedi ei atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod yn ystod y cyfnod atal dros dro.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys