Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2020

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2020.

(2Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 30 Rhagfyr 2020.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “aelod cyswllt” (“associate member”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(5) o’r Gorchymyn;

mae i “aelod nad yw’n swyddog” (“non-officer member”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(3) o’r Gorchymyn;

mae i “aelod sy’n swyddog” (“officer member”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(4) o’r Gorchymyn;

ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw—

(a)

grŵp comisiynu clinigol a sefydlir o dan adran 14D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(1),

(b)

yr Asiantaeth Gwasanaethau Cyffredin ar gyfer Gwasanaethau Iechyd yr Alban sydd wedi ei chyfansoddi o dan adran 10(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(2),

(c)

Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddir o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(3),

(d)

y Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd wedi ei sefydlu o dan adran 252 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012(4),

(e)

yr Awdurdod Ymchwil Iechyd sydd wedi ei sefydlu o dan adran 109 o Ddeddf Gofal 2014(5),

(f)

Bwrdd Iechyd Lleol,

(g)

Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi ei sefydlu o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006,

(h)

ymddiriedolaeth sefydledig GIG a sefydlir o dan adran 30 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006,

(i)

ymddiriedolaeth GIG a sefydlir o dan adran 18 o’r Ddeddf neu a sefydlir o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006,

(j)

y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal sydd wedi ei sefydlu o dan adran 232 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012,

(k)

y Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol sydd wedi ei sefydlu o dan adran 7 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009(6),

(l)

Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlir o dan adran 22 o’r Ddeddf;

mae i “cydnabod”, mewn perthynas ag undeb llafur, yr ystyr a roddir i “recognised” gan Ddeddf 1992;

ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992(7);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 2020(8);

mae i “swyddog clinigol” (“clinical officer”) yr ystyr a roddir yn erthygl 1(3) o’r Gorchymyn;

ystyr “IGDC” (“DHCW”) yw Iechyd a Gofal Digidol Cymru sydd wedi ei sefydlu gan y Gorchymyn;

mae i “undeb llafur” yr ystyr a roddir i “trade union” gan Ddeddf 1992.

RHAN 2Penodi aelodau IGDC

Penodi aelodau

3.—(1Penodir aelodau IGDC fel a ganlyn—

(a)penodir y cadeirydd, yr is-gadeirydd a hyd at 5 o aelodau eraill nad ydynt yn swyddogion gan Weinidogion Cymru;

(b)penodir y prif swyddog yn unol â pharagraff (3);

(c)penodir yr aelodau sy’n swyddogion yn unol â pharagraff (4);

(d)penodir yr aelodau cyswllt yn unol â pharagraff (6).

(2Ni chaiff yr aelodau nad ydynt yn swyddogion fod yn gyflogeion IGDC.

(3Penodir y prif swyddog gan yr aelodau nad ydynt yn swyddogion, ar wahân i’r prif swyddog cyntaf a benodir gan Weinidogion Cymru.

(4Penodir yr aelodau sy’n swyddogion fel a ganlyn:

(a)penodir y swyddog cyllid cyntaf a’r swyddog clinigol cyntaf gan yr aelodau nad ydynt yn swyddogion;

(b)penodir yr holl aelodau eraill sy’n swyddogion gan yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a’r prif swyddog.

(5Mae’r aelodau sy’n swyddogion i fod yn gyflogeion IGDC.

(6Penodir yr aelodau cyswllt fel a ganlyn:

(a)caiff Gweinidogion Cymru, neu IGDC gan weithredu â chydsyniad Gweinidogion Cymru, benodi hyd at 2 aelod cyswllt, a

(b)pan fo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan IGDC, caniateir penodi 1 aelod cyswllt yn unol â rheoliad 4.

Penodi aelod cyswllt yr undebau llafur

4.—(1Pan fo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan IGCD, rhaid i’r aelodau nad ydynt yn swyddogion wahodd pob un o’r undebau llafur a gydnabyddir gan IGCD i enwebu ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt.

(2Rhaid i’r gwahoddiad bennu’r cyfnod y mae enwebiad i’w wneud ynddo a’r modd y mae enwebiad i’w wneud.

(3Rhaid i’r aelodau nad ydynt yn swyddogion benodi person o blith yr ymgeiswyr cymwys, os enwebir rhai, yn aelod cyswllt.

(4Nid yw person yn ymgeisydd cymwys i’w enwebu o dan baragraff (1) ond os yw’r person—

(a)yn aelod o staff IGDC,

(b)yn aelod o undeb llafur a gydnabyddir gan IGDC, ac

(c)wedi ei enwebu o fewn y cyfnod a bennir o dan baragraff (2).

Aelodau nad ydynt yn swyddogion

5.  Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y trefniadau ar gyfer penodi personau yn aelodau nad ydynt yn swyddogion yn ystyried y cod a gyhoeddir gan y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet sy’n nodi—

(a)yr egwyddorion ar gyfer penodiadau cyhoeddus, a

(b)y canllawiau ar yr arferion i’w dilyn mewn perthynas â gwneud penodiadau cyhoeddus.

RHAN 3Telerau swydd

Aelodau nad ydynt yn swyddogion

6.—(1Mae aelod nad yw’n swyddog yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir gan Weinidogion Cymru yn nhelerau’r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3), (4) a Rhan 4.

(2Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod nad yw’n swyddog fod yn hwy na 4 blynedd.

(3Caiff person sydd wedi dal swydd fel aelod nad yw’n swyddog fod yn gymwys i gael ei ailbenodi’n aelod nad yw’n swyddog ond ni chaiff person fod yn aelod nad yw’n swyddog am gyfnod cyfan sy’n hwy nag 8 mlynedd.

(4Caiff aelod nad yw’n swyddog ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

Aelodau sy’n swyddogion

7.  Mae aelod sy’n swyddog yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir yn nhelerau’r penodiad.

Aelodau cyswllt

8.—(1Yn ddarostyngedig i Ran 4, mae aelod cyswllt a benodir yn unol â rheoliad 3(6)(a) yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir yn nhelerau’r penodiad.

(2Pan fo aelod cyswllt wedi ei benodi gan IGDC yn unol â rheoliad 3(6)(a), rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo telerau ac amodau’r penodiad.

(3Caniateir i berson sydd wedi dal swydd fel aelod cyswllt a benodir yn unol â rheoliad 3(6)(a) gael ei ailbenodi’n aelod cyswllt yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn nhelerau ei benodiad.

(4Mae aelod cyswllt a benodir yn unol â rheoliad 3(6)(b) yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir yn nhelerau’r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (5).

(5Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod cyswllt a benodir yn unol â rheoliad 3(6)(b) fod yn hwy na 4 blynedd.

(6Caiff person sydd wedi dal swydd fel aelod cyswllt a benodir yn unol â rheoliad 3(6)(b) fod yn gymwys i gael ei ailbenodi.

RHAN 4Cymhwystra, anghymhwyso, atal dros dro a diswyddo

Aelodau nad ydynt yn swyddogion – cymhwystra

9.—(1Nid yw berson yn gymwys i fod yn aelod nad yw’n swyddog os yw’r person hwnnw yn cael, neu wedi cael, yn y 12 mis cyn ei benodi, ei gyflogi am dâl gan—

(a)Bwrdd Iechyd Lleol,

(b)ymddiriedolaeth GIG a sefydlir o dan adran 18 o’r Ddeddf, neu

(c)Awdurdod Iechyd Arbennig o ran Cymru a sefydlir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o’r Ddeddf.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person i’w drin fel pe bai wedi ei gyflogi am dâl a hynny am ei fod wedi dal swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog o Fwrdd Iechyd Lleol; cadeirydd, is-gadeirydd neu gyfarwyddwr anweithredol o ymddiriedolaeth GIG; neu swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog o Awdurdod Iechyd Arbennig.

(3Mae person yn peidio â bod yn gymwys i fod yn aelod nad yw’n swyddog os yw’r person hwnnw, yn dilyn ei benodi’n aelod nad yw’n swyddog, yn ymgymryd â chyflogaeth am dâl gydag unrhyw un neu ragor o’r cyrff a restrir ym mharagraff (1) ac eithrio o dan yr amgylchiadau a bennir ym mharagraff 9(2).

Aelodau nad ydynt yn swyddogion ac aelodau cyswllt a benodir gan Weinidogion Cymru neu gan IGDC gan weithredu â chydsyniad Gweinidogion Cymru - anghymhwyso

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—

(a)yn aelod nad yw’n swyddog;

(b)yn aelod cyswllt gan Weinidogion Cymru neu gan IGDC yn unol â rheoliad 3(6)(a).

(2Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi’n aelod, neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod, pan fo’r person hwnnw yn dod o fewn un neu ragor o baragraffau o’r Atodlen.

(3Os yw person wedi cael ei benodi’n aelod ac yn dod yn anghymwys o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r person hysbysu IGDC a Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am yr anghymhwysiad.

Aelodau nad ydynt yn swyddogion ac aelodau cyswllt a benodir gan Weinidogion Cymru neu gan IGDC gan weithredu â chydsyniad Gweinidogion Cymru – diswyddo

11.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—

(a)yn aelod nad yw’n swyddog;

(b)yn aelod cyswllt gan Weinidogion Cymru neu gan IGDC yn unol â rheoliad 3(6)(a).

(2Caiff Gweinidogion Cymru, neu IGDC os yw wedi gwneud y penodiad, drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod, ddiswyddo’r person hwnnw os ydynt wedi eu bodloni, neu os yw wedi ei fodloni—

(a)nad yw er budd IGDC neu’r gwasanaeth iechyd i’r person hwnnw barhau i ddal swydd,

(b)nad yw’r person yn addas i fod yn aelod o IGDC neu ei fod yn anfodlon arfer swyddogaethau aelod o IGDC neu nad yw’n gallu gwneud hynny,

(c)bod y person yn peidio â bod yn gymwys i fod yn aelod nad yw’n swyddog o dan reoliad 9(3), neu

(d)bod y person wedi ei anghymhwyso o dan reoliad 10 rhag dal swydd neu ei fod wedi ei anghymhwyso adeg ei benodi.

Aelodau nad ydynt yn swyddogion ac aelodau cyswllt a benodir gan Weinidogion Cymru neu gan IGDC gan weithredu â chydsyniad Gweinidogion Cymru – atal dros dro

12.—(1Caiff Gweinidogion Cymru, neu IGDC os yw wedi gwneud y penodiad, atal person dros dro tra bo’n ystyried pa un ai i ddiswyddo’r person hwnnw o dan reoliad 11.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru, neu IGDC os yw wedi gwneud y penodiad, roi hysbysiad o’r penderfyniad i atal person dros dro yn unol â thelerau’r penodiad.

(3Ni chaiff person y mae ei benodiad wedi ei atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod yn ystod y cyfnod atal dros dro.

Aelod sy’n swyddog – diswyddo ac atal dros dro

13.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn aelod sy’n swyddog.

(2Caiff yr aelodau nad ydynt yn swyddogion ddiswyddo’r person hwnnw, drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod, os ydynt wedi eu bodloni nad yw er budd IGDC neu’r gwasanaeth iechyd i’r person hwnnw barhau i ddal swydd.

(3Caiff yr aelodau nad ydynt yn swyddogion atal y person hwnnw dros dro, drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod, os yw’n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer ym mharagraff (2).

(4Ni chaiff person y mae ei benodiad wedi ei atal dros dro o dan baragraff (3) gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod yn ystod y cyfnod atal dros dro.

Aelod cyswllt yr undebau llafur – diswyddo ac atal dros dro

14.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i aelod cyswllt a benodir gan yr aelodau nad ydynt yn swyddogion yn unol â rheoliad 3(6)(b).

(2Caiff yr aelodau nad ydynt yn swyddogion ddiswyddo’r person hwnnw, drwy hysbysiad ysgrifenedig, os ydynt wedi eu bodloni nad yw’r person yn addas i fod yn aelod o IGDC neu nad yw’n fodlon arfer swyddogaethau aelod o IGDC neu nad yw’n gallu gwneud hynny.

(3Caiff yr aelodau nad ydynt yn swyddogion atal person dros dro, drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r person hwnnw, os yw’n ymddangos i’r aelodau nad ydynt yn swyddogion y gall fod sail dros arfer y pŵer ym mharagraff (2).

(4Mae aelod cyswllt yn peidio â dal swydd os yw’r aelod yn peidio â bod yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt o dan reoliad 4(4).

(5Ni chaiff person y mae ei benodiad wedi ei atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod yn ystod y cyfnod atal dros dro.

RHAN 5Y weithdrefn

Pwerau’r is-gadeirydd yn absenoldeb y cadeirydd

15.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)os yw’r cadeirydd wedi ei atal dros dro o dan reoliad 12,

(b)os yw swydd y cadeirydd yn wag dros dro am unrhyw reswm, neu

(c)os nad yw’r cadeirydd yn gallu cyflawni dyletswyddau’r cadeirydd, neu os nad yw’n fodlon gwneud hynny, oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw reswm arall.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae’r is-gadeirydd i weithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu hyd nes bod y cadeirydd presennol yn ailafael yn nyletswyddau’r cadeirydd.

Penodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau

16.—(1Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, caiff IGDC—

(a)sefydlu pwyllgorau ac is-bwyllgorau;

(b)ar y cyd ag un neu ragor o Awdurdodau Iechyd Arbennig, sefydlu cyd-bwyllgorau neu gyd-is-bwyllgorau;

sy’n cynnwys yn llawn neu’n rhannol bersonau nad ydynt yn aelodau o IGDC.

(2Rhaid i IGDC sefydlu unrhyw bwyllgorau, is-bwyllgorau, cyd-bwyllgorau a chyd-is-bwyllgorau o’r fath y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) os ydynt yn cael eu cyfarwyddo i wneud hynny gan Weinidogion Cymru.

Trefniadau ar gyfer arfer swyddogaethau

17.—(1Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, caiff IGDC wneud trefniadau ar gyfer arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gan bwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor a benodir o dan reoliad 16, neu gan swyddog IGDC, yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a’r amodau hynny y mae IGDC yn meddwl eu bod yn addas.

(2Nid yw trefniant o dan baragraff (1) yn effeithio ar gyfrifoldeb IGDC i arfer swyddogaeth ddirprwyedig neu ei allu i wneud hynny.

Cyfarfodydd a thrafodion

18.—(1Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, rhaid i IGDC wneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoli ei drafodion a’i fusnes.

(2Pan fo pwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu is-gyd-bwyllgor wedi ei sefydlu yn unol â rheoliad 16, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, rhaid i IGDC gymeradwyo unrhyw reolau sefydlog a wneir gan y pwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu is-gyd-bwyllgor hwnnw.

RHAN 6Cyfrifon ac Adroddiadau

Adroddiadau

19.—(1Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i IGDC—

(a)llunio adroddiad blynyddol ynghylch sut y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno, a

(b)anfon copi o’r adroddiad hwnnw at Weinidogion Cymru cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol honno.

(2Rhaid i IGDC—

(a)cyflwyno unrhyw adroddiadau eraill i Weinidogion Cymru yn y modd ac ar yr adeg a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru, a

(b)darparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani o bryd i’w gilydd.

Cyfrifon

20.  Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i IGDC—

(a)llunio cyfrifon a chadw cofnodion mewn perthynas â’r cyfrifon hynny, a

(b)llunio datganiad o gyfrifon;

yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

7 Rhagfyr 2020

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill