Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2020

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 10

YR ATODLENANGHYMHWYSO

Euogfarnau troseddol

1.—(1Mae’r person wedi ei euogfarnu o fewn y cyfnod o 5 mlynedd yn union cyn dyddiad y penodiad arfaethedig, neu ar unrhyw adeg yn ystod ei gyfnod swydd yn cael ei euogfarnu—

(a)yn y Deyrnas Unedig o unrhyw drosedd, neu

(b)y tu allan i’r Deyrnas Unedig o drosedd a fyddai, pe bai wedi ei chyflawni yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig, yn drosedd yn y rhan honno;

ac, yn y naill achos neu’r llall, canlyniad terfynol yr achos oedd dedfryd o garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio) am gyfnod o ddim llai na 3 mis heb yr opsiwn o dalu dirwy.

(2At ddibenion y paragraff hwn, bernir mai’r dyddiad euogfarnu yw’r dyddiad y mae’r cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais mewn cysylltiad â’r euogfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o’r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu’r cais, neu’r dyddiad y rhoddir y gorau i’r apêl neu’r cais, neu’r dyddiad y mae’r apêl yn methu am na chafodd ei dwyn yn ei blaen neu’r dyddiad y mae’r cais yn methu am na chafodd ei ddwyn yn ei flaen.

Methdaliad

2.—(1Mae’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn cyfyngu methdaliad interim neu wedi gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr.

(2Pan fo person wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1)—

(a)os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai’r person fod wedi cael ei ddyfarnu’n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu’n llawn, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod ar ddyddiad y diddymiad,

(b)os caiff y person ei ryddhau o fethdaliad, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod ar ddyddiad y rhyddhau,

(c)os telir dyledion y person yn llawn, ac yntau wedi gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod ar y dyddiad y telir y dyledion hynny yn llawn, a

(d)os yw cyfnod o 5 mlynedd, ar ôl gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr, wedi dod i ben o’r dyddiad y cyflawnwyd telerau’r compównd neu’r trefniant, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod.

Diswyddo o gorff gwasanaeth iechyd

3.—(1Mae’r person wedi ei ddiswyddo fel aelod, ac eithrio am fod y swydd wedi ei dileu, neu gontract tymor penodol heb ei adnewyddu, o gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd.

(2Caiff person sydd wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1), ar ôl i gyfnod o 2 flynedd ddod i ben o ddyddiad y diswyddiad, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu’r anghymhwysiad hwnnw.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i ddileu anghymhwysiad o dan is-baragraff (2), nid yw’r person wedi ei anghymwyso mwyach at ddiben yr Atodlen hon.

(4Os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais person o dan is-baragraff (2), ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn i’r cyfnod o 2 flynedd ddod i ben gan ddechrau â dyddiad cais diwethaf y person.

(5At ddiben y paragraff hwn, nid yw person i’w drin fel pe bai wedi ei gyflogi am dâl a hynny dim ond oherwydd ei fod—

(a)yn achos corff gwasanaeth iechyd nad yw’n ymddiriedolaeth GIG neu’n ymddiriedolaeth sefydledig GIG (ac eithrio grŵp comisiynu clinigol), yn gadeirydd, yn is-gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog o’r corff,

(b)yn achos ymddiriedolaeth GIG, yn gadeirydd, yn is-gadeirydd neu’n gyfarwyddwr anweithredol i’r ymddiriedolaeth,

(c)yn achos ymddiriedolaeth sefydledig GIG, yn gadeirydd, yn llywodraethwr neu’n gyfarwyddwr anweithredol i’r ymddiriedolaeth, neu

(d)yn achos grŵp comisiynu clinigol, yn gadeirydd neu’n aelod o’r corff llywodraethu.

(6Yn is-baragraff (5)(a), ystyr “aelod nad yw’n swyddog” yw aelod o gorff gwasanaeth iechyd nad yw’n cael ei gyflogi gan y corff.

Terfynu aelodaeth o gorff gwasanaeth iechyd

4.—(1Mae—

(a)aelodaeth y person fel cadeirydd, is-gadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd wedi ei therfynu, ac eithrio am fod y swydd wedi ei dileu, oherwydd ymddiswyddiad gwirfoddol neu ad-drefnu’r corff gwasanaeth iechyd, neu am fod cyfnod y swydd y penodwyd y person amdano wedi dod i ben, neu

(b)y person wedi ei ddiswyddo fel cadeirydd neu aelod o gorff llywodraethu grŵp comisiynu clinigol.

(2Os yw person wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1), bydd yr anghymhwysiad yn peidio â chael effaith pan ddaw 2 flynedd i ben gan ddechrau ar y dyddiad y terfynir tymor y penodiad neu unrhyw gyfnod hwy a bennwyd gan y corff a derfynodd aelodaeth y person.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, pan wneir cais iddynt gan y person a anghymhwyswyd, leihau cyfnod yr anghymhwysiad a grybwyllir yn is-baragraff (2).

(4Pan fo cyfnod yr anghymhwysiad o dan is-baragraff (2) yn dod i ben, nid yw’r person wedi ei anghymhwyso mwyach at ddiben yr Atodlen hon.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill