- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 10
1.—(1) Mae’r person wedi ei euogfarnu o fewn y cyfnod o 5 mlynedd yn union cyn dyddiad y penodiad arfaethedig, neu ar unrhyw adeg yn ystod ei gyfnod swydd yn cael ei euogfarnu—
(a)yn y Deyrnas Unedig o unrhyw drosedd, neu
(b)y tu allan i’r Deyrnas Unedig o drosedd a fyddai, pe bai wedi ei chyflawni yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig, yn drosedd yn y rhan honno;
ac, yn y naill achos neu’r llall, canlyniad terfynol yr achos oedd dedfryd o garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio) am gyfnod o ddim llai na 3 mis heb yr opsiwn o dalu dirwy.
(2) At ddibenion y paragraff hwn, bernir mai’r dyddiad euogfarnu yw’r dyddiad y mae’r cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais mewn cysylltiad â’r euogfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o’r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu’r cais, neu’r dyddiad y rhoddir y gorau i’r apêl neu’r cais, neu’r dyddiad y mae’r apêl yn methu am na chafodd ei dwyn yn ei blaen neu’r dyddiad y mae’r cais yn methu am na chafodd ei ddwyn yn ei flaen.
2.—(1) Mae’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn cyfyngu methdaliad interim neu wedi gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr.
(2) Pan fo person wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1)—
(a)os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai’r person fod wedi cael ei ddyfarnu’n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu’n llawn, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod ar ddyddiad y diddymiad,
(b)os caiff y person ei ryddhau o fethdaliad, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod ar ddyddiad y rhyddhau,
(c)os telir dyledion y person yn llawn, ac yntau wedi gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod ar y dyddiad y telir y dyledion hynny yn llawn, a
(d)os yw cyfnod o 5 mlynedd, ar ôl gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr, wedi dod i ben o’r dyddiad y cyflawnwyd telerau’r compównd neu’r trefniant, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod.
3.—(1) Mae’r person wedi ei ddiswyddo fel aelod, ac eithrio am fod y swydd wedi ei dileu, neu gontract tymor penodol heb ei adnewyddu, o gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd.
(2) Caiff person sydd wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1), ar ôl i gyfnod o 2 flynedd ddod i ben o ddyddiad y diswyddiad, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu’r anghymhwysiad hwnnw.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i ddileu anghymhwysiad o dan is-baragraff (2), nid yw’r person wedi ei anghymwyso mwyach at ddiben yr Atodlen hon.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais person o dan is-baragraff (2), ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn i’r cyfnod o 2 flynedd ddod i ben gan ddechrau â dyddiad cais diwethaf y person.
(5) At ddiben y paragraff hwn, nid yw person i’w drin fel pe bai wedi ei gyflogi am dâl a hynny dim ond oherwydd ei fod—
(a)yn achos corff gwasanaeth iechyd nad yw’n ymddiriedolaeth GIG neu’n ymddiriedolaeth sefydledig GIG (ac eithrio grŵp comisiynu clinigol), yn gadeirydd, yn is-gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog o’r corff,
(b)yn achos ymddiriedolaeth GIG, yn gadeirydd, yn is-gadeirydd neu’n gyfarwyddwr anweithredol i’r ymddiriedolaeth,
(c)yn achos ymddiriedolaeth sefydledig GIG, yn gadeirydd, yn llywodraethwr neu’n gyfarwyddwr anweithredol i’r ymddiriedolaeth, neu
(d)yn achos grŵp comisiynu clinigol, yn gadeirydd neu’n aelod o’r corff llywodraethu.
(6) Yn is-baragraff (5)(a), ystyr “aelod nad yw’n swyddog” yw aelod o gorff gwasanaeth iechyd nad yw’n cael ei gyflogi gan y corff.
4.—(1) Mae—
(a)aelodaeth y person fel cadeirydd, is-gadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd wedi ei therfynu, ac eithrio am fod y swydd wedi ei dileu, oherwydd ymddiswyddiad gwirfoddol neu ad-drefnu’r corff gwasanaeth iechyd, neu am fod cyfnod y swydd y penodwyd y person amdano wedi dod i ben, neu
(b)y person wedi ei ddiswyddo fel cadeirydd neu aelod o gorff llywodraethu grŵp comisiynu clinigol.
(2) Os yw person wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1), bydd yr anghymhwysiad yn peidio â chael effaith pan ddaw 2 flynedd i ben gan ddechrau ar y dyddiad y terfynir tymor y penodiad neu unrhyw gyfnod hwy a bennwyd gan y corff a derfynodd aelodaeth y person.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru, pan wneir cais iddynt gan y person a anghymhwyswyd, leihau cyfnod yr anghymhwysiad a grybwyllir yn is-baragraff (2).
(4) Pan fo cyfnod yr anghymhwysiad o dan is-baragraff (2) yn dod i ben, nid yw’r person wedi ei anghymhwyso mwyach at ddiben yr Atodlen hon.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: