Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2020.

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

2.—(1Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn y diffiniad o “Rheoliadau’r Gymuned” (“the Community Regulations”), yn lle “, Rheoliad 2017/625 a phecyn Rheoliad 2017/625” rhodder “a phecyn Rheoliad 2017/625”;

(ii)hepgorer y diffiniad sy’n dechrau ag “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41””;

(iii)yn lle’r diffiniad o “Pecyn Rheoliad 2017/625” rhodder—

ystyr “Pecyn Rheoliad 2017/625” (“the Regulation 2017/625 package”) yw Rheoliad 2017/625 a’r Rheoliadau eraill a restrir yn Atodlen 1 o dan y pennawd “Pecyn Rheoliad 2017/625”;

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Mae i unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2017/625 neu unrhyw Gyfarwyddeb neu Reoliad arall y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen honno.

(3Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

3.—(1Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)hepgorer y diffiniad sy’n dechrau â “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41””;

(ii)yn y diffiniad o “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “Rheoliad 2017/625 neu becyn Rheoliad 2017/625” rhodder “phecyn Rheoliad 2017/625”;

(iii)yn lle’r diffiniad o “pecyn Rheoliad 2017/625” rhodder—

ystyr “pecyn Rheoliad 2017/625” (“the Regulation 2017/625 package”) yw Rheoliad 2017/625 a’r Rheoliadau eraill a restrir yn Atodlen 1 o dan y pennawd “Pecyn Rheoliad 2017/265”;;

(b)ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(1A) Mae i unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2017/625 neu unrhyw Gyfarwyddeb neu Reoliad arall y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen honno.

(c)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Onid yw’n ymddangos bod bwriad i’r gwrthwyneb, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002 neu ym mhecyn Rheoliad 2017/625 yr ystyr a roddir i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu ym mhecyn Rheoliad 2017/625 yn ôl y digwydd.

(3Yn rheoliad 22 (dehongli Rhan 3)—

(a)yn lle’r diffiniad o “cynnyrch” rhodder—

ystyr “cynnyrch” (“product”) yw bwyd anifeiliaid a bwyd nad ydynt yn dod o anifeiliaid y mae eu mewnforio wedi eu rheoleiddio gan Erthygl 44 neu Erthygl 47(1)(d), (e) neu (f) o Reoliad 2017/625 ac mae’n cynnwys y cynhyrchion a’r bwydydd cyfansawdd hynny nad ydynt wedi eu rhestru ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestrau o gynhyrchion cyfansawdd sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau mewn safleoedd rheoli ar y ffin(3);;

(b)yn y diffiniad o “darpariaeth fewnforio benodedig”, hepgorer “yn Rheoliad 2017/625 neu”.

(4Yn rheoliad 29 (gwirio cynhyrchion), yn lle “a 45(1), (2) a (4)”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “, 45(1), (2) a (4), a 49(1)”.

(5Yn rheoliad 36(2) (costau a ffioedd) ar ôl “y cyfeirir atynt yn”, mewnosoder “Erthygl 79(2)(a) ac”.

(6Yn rheoliad 41(1A) (tramgwyddau a chosbau), yn lle’r geiriau o “Erthygl 3” hyd at “cynhyrchu egin”, rhodder “Erthygl 13 o Reoliad 2019/625, i’r graddau y mae’n ymwneud â egin a hadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin, fel y’i darllenir gydag Erthygl 27 o Reoliad 2019/628”.

(7Yn Rhan 4 (adennill treuliau), yn y lle priodol mewnosoder—

Ffioedd neu daliadau sy’n deillio o reolaethau swyddogol anghynlluniedig

42A.  Rhaid i ffioedd neu daliadau a osodir gan awdurdod cymwys ar weithredydd yn unol ag Erthygl 79(2)(c) o Reoliad 2017/625 gael eu talu gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod cymwys.

(8Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

(9Yn lle Atodlen 4 (awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 2017/625 i’r graddau y maent yn gymwys o ran cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.

(10Yn lle Atodlen 5 (awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 2017/625 i’r graddau y maent yn gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau hyn.

(11Yn lle Atodlen 6 (darpariaethau mewnforio penodedig) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 5 i’r Rheoliadau hyn.

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016

4.—(1Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas)—

(a)ym mharagraff (1)

(i)hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 882/2004”;

(ii)yn y lleoedd priodol, mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

ystyr “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion (5);

ystyr “Rheoliad 2019/1793” (“Regulation 2019/1793”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol(6);

(b)ym mharagraff (2), yn lle “Rheoliad 882/2004, Rheoliad 183/2005 neu Reoliad 152/2009”, rhodder “Rheoliad 183/2005, Rheoliad 152/2009 a Rheoliad 2017/625”.

(3Yn rheoliad 19 (dadansoddiad ac eithrio yng nghwrs rheolaethau swyddogol), yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Mewn achosion pan nad oes dull priodol o ddadansoddi yn Rheoliad 152/2009, rhaid cyflawni’r dadansoddiad yn y modd y cyfeirir ato yn Erthygl 34(1) a (2) o Reoliad 2017/625 fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2019/1793.

(4Yn Atodlen 1 (cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig), yn y tabl—

(a)hepgorer y cofnodion ar gyfer Rheoliad 882/2004 ac ar gyfer Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009;

(b)yn y lleoedd priodol, mewnosoder y cofnodion a ganlyn—

  • Rheoliad 2017/625 i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid

  • Rheoliad 2019/1793 i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid.

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru

8 Rhagfyr 2020

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill