RHAN 2LL+CLefelau o gyfyngiadau ar ymgynnull, ar deithio ac ar ddefnyddio mangreoedd busnesau a gwasanaethau
Lefelau o gyfyngiadauLL+C
4.—(1) Mae Atodlenni 1 i 4 yn nodi cyfyngiadau a gofynion a all fod yn gymwys mewn ardal mewn perthynas ag—
(a)cynulliadau;
(b)trefnu digwyddiadau;
(c)teithio i ardaloedd eraill ac o ardaloedd eraill;
(d)defnyddio mangreoedd busnesau neu wasanaethau penodedig sydd fel arfer yn agored i’r cyhoedd.
(2) Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 1.
(3) Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 2 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 2.
(4) Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3.
(5) Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 4 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 4.
(6) Mae Atodlen 5 yn nodi pa un o Atodlenni 1 i 4 sy’n gymwys i ardal drwy bennu lefel ar gyfer yr ardal honno.
[(6A) Ond, mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3, am y cyfnod sy’n dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar 11 Ebrill 2021, mae Atodlen 3 i’w thrin fel pe bai Atodlen 3A wedi ei rhoi yn ei lle.
(6B) Ac mae Atodlen 5 yn nodi addasiadau dros dro canlyniadol sy’n gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3 am y cyfnod a bennir ym mharagraff (6A).]
(7) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(8) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)“ardal Lefel Rhybudd 1” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 1;
(b)“ardal Lefel Rhybudd 2” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 2;
(c)“ardal Lefel Rhybudd 3” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 3;
(d)“ardal Lefel Rhybudd 4” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 4.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn