Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 4(7)

ATODLEN 6Addasiadau dros dro ar gyfer y Nadolig: aelwydydd estynedig a theithio

Y Nadolig: addasiadau dros dro i gyfyngiadau ar gynulliadau mewn anheddau preifat a chyfyngiadau ar deithio

1.  Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 22 Rhagfyr 2020 ac sy’n dod i ben â 28 Rhagfyr 2020 mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen hon.

Diffiniad o “cyfnod y Nadolig”

2.  Yn rheoliad 57(1) ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(da)ystyr “cyfnod y Nadolig” yw’r cyfnod sy’n dechrau â 23 Rhagfyr 2020 ac sy’n dod i ben â 27 Rhagfyr 2020 (ond gweler paragraff 3A o Atodlen 3 a pharagraff 3A o Atodlen 4).

Aelwydydd estynedig yn ystod cyfnod y Nadolig

3.—(1Mae Atodlen 3 wedi ei haddasu fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff 3 rhodder—

Y Nadolig: aelwyd estynedig

3.(1) Caiff aelwyd gytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig gydag aelwyd arall yn ystod cyfnod y Nadolig.

(2) Yn ychwanegol at y 2 aelwyd sydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd un oedolyn hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.

(3) Er mwyn cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig, rhaid i’r holl aelodau o’r aelwyd estynedig sy’n oedolion gytuno (ond gweler is-baragraff (4)).

(4) Caiff aelod o aelwyd (“aelwyd wreiddiol”) sy’n oedolyn gytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig nad yw aelod arall o’r aelwyd wreiddiol sy’n oedolyn wedi cytuno i fod yn rhan ohoni.

(5) Pan fo is-baragraff (5) yn gymwys—

(a)mae’r aelwyd wreiddiol i’w thrin at ddibenion y paragraff hwn a pharagraffau 1, 2 a 3A fel 2 aelwyd (neu ragor) ar wahân,

(b)rhaid i’r aelodau o’r aelwyd wreiddiol sy’n oedolion benderfynu pa un neu ragor o’r aelwydydd ar wahân hynny sy’n cynnwys unrhyw aelod o’r aelwyd wreiddiol sy’n—

(i)plentyn, neu

(ii)oedolyn y mae gan oedolyn arall ar yr aelwyd gyfrifoldebau gofalu drosto, ac

(c)mae’r aelodau o’r aelwyd wreiddiol sy’n oedolion i ddychwelyd i gael eu trin fel un aelwyd pan nad ydynt yn rhan o aelwyd estynedig mwyach.

(6) Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai mewn 1 aelwyd estynedig.

(7) Mae aelwyd yn peidio â chytuno i fod yn rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd sy’n oedolyn yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

(8) Os yw aelwyd yn peidio â chytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig arall gydag unrhyw aelwyd arall.

(9) Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.

Addasu “cyfnod y Nadolig”: aelwydydd sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon

3A.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo aelwyd sy’n ffurfio rhan o aelwyd estynedig yn aelwyd sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon.

(2) Mae’r cyfeiriad ym mharagraff 3(1) at “cyfnod y Nadolig” i’w ddarllen fel cyfeiriad at y cyfnod sy’n dechrau â 22 Rhagfyr 2020 ac sy’n dod i ben â 28 Rhagfyr 2020.

4.—(1Mae Atodlen 4 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff 3 (aelwydydd estynedig) rhodder—

Y Nadolig: aelwyd estynedig

3.(1) Caiff aelwyd gytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig gydag aelwyd arall yn ystod cyfnod y Nadolig.

(2) Yn ychwanegol at y 2 aelwyd sydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd un oedolyn hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.

(3) Er mwyn cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig rhaid i holl aelodau’r aelwydydd sy’n oedolion gytuno (ond gweler is-baragraff (4)).

(4) Caiff aelod o aelwyd (“aelwyd wreiddiol”) sy’n oedolyn gytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig nad yw aelod arall o’r aelwyd wreiddiol sy’n oedolyn wedi cytuno i fod yn rhan ohoni.

(5) Pan fo is-baragraff (4) yn gymwys—

(a)mae’r aelwyd wreiddiol i’w thrin at ddibenion y paragraff hwn a pharagraffau 1, 2 a 3A fel 2 aelwyd (neu ragor) ar wahân,

(b)rhaid i’r aelodau sy’n oedolion o’r aelwyd wreiddiol benderfynu pa un neu ragor o’r aelwydydd ar wahân hynny sy’n cynnwys unrhyw aelod o’r aelwyd wreiddiol sy’n—

(i)plentyn, neu

(ii)oedolyn y mae gan oedolyn arall ar yr aelwyd gyfrifoldebau gofalu drosto, ac

(c)mae’r aelodau o’r aelwyd wreiddiol sy’n oedolion i ddychwelyd i gael eu trin fel un aelwyd pan nad ydynt yn rhan o aelwyd estynedig mwyach.

(6) Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai mewn 1 aelwyd estynedig.

(7) Mae aelwyd estynedig yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd sy’n oedolyn yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

(8) Os yw aelwyd yn peidio â chytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig arall gydag unrhyw aelwyd arall.

(9) Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.

Addasu “cyfnod y Nadolig”: aelwydydd sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon

3A.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo aelwyd sy’n ffurfio rhan o aelwyd estynedig yn aelwyd sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon.

(2) Mae’r cyfeiriad ym mharagraff 3(1) at “cyfnod y Nadolig” i’w ddarllen fel cyfeiriad at y cyfnod sy’n dechrau â 22 Rhagfyr 2020 ac sy’n dod i ben â 28 Rhagfyr 2020.

(3Ym mharagraff 7

(a)yn is-baragraff (2)(b), hepgorer “(pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau a ganiateir gan baragraff 8)”;

(b)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

(5) Mae is-baragraffau (6) a (7) yn gymwys pan fo mangre busnes bwyd a diod (“y fangre o dan gyfyngiadau”) yn ffurfio rhan o fangre’r llety gwyliau neu’r llety teithio.

(6) Nid yw is-baragraff (1)—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i’r fangre o dan gyfyngiadau fod ar gau i breswylwyr y llety gwyliau neu’r llety teithio;

(b)yn atal gwerthu bwyd neu ddiod i breswylwyr —

(i)fel rhan o wasanaeth ystafell (ond gweler paragraff 11(3)), neu

(ii)rhwng 6.00 a.m. a 10.00 p.m. mewn unrhyw ran o fangre’r llety gwyliau neu’r llety teithio.

(4Yn lle paragraff 8 rhodder—

Gwestai a llety teithio: gofynion ynghylch preswylwyr

8.(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraff 15 i 18 (llety gwyliau neu lety teithio), erbyn diwedd y dydd ar 27 Rhagfyr 2020—

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

(c)darparu llety i unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—

(i)nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, or

(ii)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;

(d)darparu llety i unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw ac sy’n teithio i Ogledd Iwerddon ar 28 Rhagfyr 2020;

(e)defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill —

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.

(3) Pan—

(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Darpariaeth drosiannol ynghylch aelwydydd estynedig

5.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo aelwyd yn rhan o aelwyd estynedig yn ystod cyfnod y Nadolig yn rhinwedd yr addasiadau a wneir ym mharagraff 3 neu 4 o’r Atodlen hon (“aelwyd estynedig y Nadolig”), a

(b)pan oedd yr aelwyd, yn union cyn cyfnod y Nadolig, yn rhan o aelwyd estynedig a ffurfiwyd o dan neu yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 3 (“aelwyd estynedig cyn y Nadolig”) fel y mae’n gymwys heb yr addasiadau a wneir ym mharagraff 3.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn fel y’u haddesir gan yr Atodlen hon—

(a)mae’r aelwyd estynedig cyn y Nadolig i’w thrin fel pe na bai’n bodoli mwyach, a

(b)mae’r aelwyd i’w thrin fel pe na bai wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig cyn cytuno i ffurfio rhan o aelwyd estynedig y Nadolig.

(3Yn union ar ddiwedd cyfnod y Nadolig, mae’r aelwyd i’w thrin, at ddibenion y Rheoliadau hyn, fel pe na bai wedi gwneud unrhyw gytundeb blaenorol i gael ei thrin fel rhan o aelwyd estynedig.

(4Yn y paragraff hwn, ystyr “cyfnod y Nadolig” mewn perthynas ag aelwyd yw—

(a)y cyfnod sy’n dechrau â 23 Rhagfyr 2020 ac sy’n dod i ben â 27 Rhagfyr 2020, neu

(b)pan fo’r aelwyd—

(i)yn byw yng Ngogledd Iwerddon, neu

(ii)yn rhan o aelwyd estynedig y Nadolig gydag aelwyd sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon,

y cyfnod sy’n dechrau â 22 Rhagfyr 2020 ac sy’n dod i ben â 28 Rhagfyr 2020.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys