Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 220 (Cy. 49)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed

4 Mawrth 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Mawrth 2020

Yn dod i rym

1 Ebrill 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(e), 17(1) a (2), 26(3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), a chan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr(4) ac at Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/775 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Erthygl 26(3) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, o ran y rheolau ar gyfer dangos gwlad tarddiad neu darddle’r prif gynhwysyn mewn bwyd(5) a fewnosodir yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014(6), gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(7).

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(8).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2020.

Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014

2.—(1Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 5 (hysbysiadau gwella – darpariaethau penodedig), ar ôl Rhan 4 mewnosoder—

RHAN 5Y ddarpariaeth yn FIC y caniateir i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno mewn perthynas â hi ar ac ar ôl 1 Ebrill 2020.

Y ddarpariaeth yn FICY darpariaethau sydd i’w darllen gydaʼr ddarpariaeth yn FIC
Erthygl 26(3) (dangosiad gorfodol o wlad tarddiad neu darddle’r prif gynhwysyn pan fo’n wahanol i wlad tarddiad neu darddle’r bwyd)Erthyglau 1(3) a 6 o FIC, a Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/775(9) o ran y rheolau ar gyfer dangos gwlad tarddiad neu darddle prif gynhwysyn y bwyd fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

4 Mawrth 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303 (Cy. 227)) (“Rheoliadau 2014”). Maent yn gwneud darpariaeth i weithredu a gorfodi, yng Nghymru, Erthygl 26(3) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr fel y’i darllenir gyda Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/775 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Erthygl 26(3) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, o ran y rheolau ar gyfer dangos gwlad tarddiad neu darddle’r prif gynhwysyn mewn bwyd.

Mae Erthygl 26(3) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 yn gosod gofynion i ddarparu gwybodaeth benodol o ran gwlad tarddiad neu darddle’r prif gynhwysyn mewn bwyd pan fo’n wahanol i wlad tarddiad neu darddle’r bwyd. Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/775 yn gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Erthygl 26(3).

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod Rhan 5 newydd yn Atodlen 5 i Reoliadau 2014. Mae hyn yn ychwanegu Erthygl 26(3) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 fel y’i darllenir gyda Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/775 at y rhestr o ddarpariaethau’r UE y mae’r darpariaethau gorfodi o dan Reoliad 12 o’r Reoliadau 2014 yn gymwys iddynt.

Mae’r darpariaethau hyn, fel y’u diwygiwyd, yn galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno sy’n ei gwneud yn ofynnol cydymffurfio ag Erthygl 26(3) a darpariaethau Rheoliad 2018/775. Mae methu â chydymffurfio â’r hysbysiad gwella yn drosedd. Yn ogystal â hynny, mae gan yr awdurdodau gorfodi bwerau mynediad ac arolygu (gan gynnwys ymafael mewn cofnodion) at ddibenion gorfodi Erthygl 26(3) fel y’i darllenir gyda darpariaethau Rheoliad 2018/775.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1990 p. 16; diwygiwyd adran 6(4) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40), paragraff 10(1) a (3) o Atodlen 5 ac Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”) ac O.S. 2002/794. Diwygiwyd adran 16(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 17(1) gan baragraffau 8 a 12(a) o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 a chan O.S. 2011/1043. Diwygiwyd adran 17(2) gan baragraffau 8 a 12(b) o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 a chan O.S. 2011/1043. Diddymwyd adran 26(3) yn rhannol gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 48(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.

(2)

Mae’r swyddogaethau hynny a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” bellach yn arferadwy o ran Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

1972 p. 68. Mae Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”) wedi ei diddymu gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (“Deddf 2018”) gan gael effaith o’r diwrnod ymadael (“exit day”). Mae “exit day” wedi ei ddiffinio yn adran 20 o Ddeddf 2018 fel 31 Ionawr 2020 am 11pm. Er gwaethaf y diddymiad hwnnw mae Deddf 1972 yn parhau i gael effaith gydag addasiadau hyd ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu (“IP completion day”), yn rhinwedd adran 1A o Ddeddf 2018. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) (“Deddf 2020”). Mae “IP completion day” wedi ei ddiffinio yn adran 1A fel 31 Rhagfyr 2020 am 11pm (yr ystyr a roddir yn adran 39 o Ddeddf 2020). Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf 1972 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 ac O.S. 2007/1388.

(4)

OJ Rhif L 304, 22.11.2001. t. 18, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2015/2283, OJ Rhif L 327, 11.12.2015, t. 1.

(5)

OJ Rhif L 131, 29.05.2018, t. 8.

(6)

O.S. 2014/2303 (Cy. 227) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2016/664 (Cy. 181). Mae wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gan O.S. 2019/1418 (Cy. 253) o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(7)

Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O. S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(8)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2019/1243, OJ Rhif L 198, 25.07.2019, t. 241.

(9)

OJ Rhif L 131, 29.05.2018, t. 8.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill