Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 257 (Cy. 59)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed

10 Mawrth 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Mawrth 2020

Yn dod i rym

3 Ebrill 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3) a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd(4). Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at ddarpariaethau yn Rheoliad (EC) Rhif 2016/128(5) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(6).

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(7), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ebrill 2020.

Diwygio Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007

2.—(1Mae Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “y Rheoliad CE” (“the EC Regulation”) yn lle “I neu II” rhodder “1, 2 neu 3”.

(3Yn rheoliad 4(2) (tramgwyddau a chosbau)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (ch) hepgorer “a”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (d) yn lle “.” rhodder “;”;

(c)ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

(dd)Erthygl 8(2)(a)(i) (gwahardd ychwanegu sylwedd a restrir yn Atodiad 3, Rhan A at fwydydd neu ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu bwydydd);

(e)Erthygl 8(2)(a)(ii) (gwahardd ychwanegu sylwedd a restrir yn Atodiad 3, Rhan B at fwydydd neu ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu bwydydd oni bai bod y sylwedd hwnnw yn cael ei ychwanegu neu ei ddefnyddio yn unol â’r amodau a bennir yn y Rhan honno).

(4Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â bwyd sy’n cynnwys sylwedd a restrir yn Atodiad 3, Rhan B

4A.  Nid oes tramgwydd wedi’i gyflawni o dan baragraff (1) o reoliad 4 yn rhinwedd paragraff (2)(e) o’r rheoliad hwnnw mewn cysylltiad ag ychwanegu sylwedd at unrhyw fwyd neu ei ddefnyddio i weithgynhyrchu unrhyw fwyd os—

(a)yw’r bwyd wedi’i roi ar y farchnad cyn 1 Ebrill 2021; a

(b)yw’r sylwedd o dan sylw yn dod o fewn y cofnod yn Atodiad 3, Rhan B sy’n ymwneud â thraws-fraster ac eithrio traws-fraster sy’n digwydd yn naturiol mewn braster sy’n dod o anifeiliaid.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

10 Mawrth 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1984 (Cy. 165)) (“Rheoliadau 2007”).

Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau 2007 wedi ei ddiwygio fel bod y diffiniad o “y Rheoliad CE” yn cynnwys cyfeiriad at Atodiad 3 (fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd) o Reoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Rhagfyr 2006 ar ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau eraill penodol at fwydydd (OJ Rhif L 404, 30.12.2006, t. 26), fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2019/650 dyddiedig 24 Ebrill 2019 sy’n diwygio Atodiad 3 i Reoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch Yohimbe (Pausinystalia yohimbe (K. Schum) Pierre ex Beille) (OJ Rhif L 110, 25.4.2019, t. 21).

Mae rheoliad 4(2) o Reoliadau 2007 wedi ei ddiwygio fel ei bod yn drosedd ychwanegu sylwedd a restrir yn Atodiad 3, Rhan A o’r Rheoliad CE at fwydydd, neu ddefnyddio sylwedd o’r fath wrth weithgynhyrchu bwydydd.

Mae rheoliad 4(2) o Reoliadau 2007 wedi ei ddiwygio ymhellach fel ei bod yn drosedd ychwanegu sylwedd a restrir yn Atodiad 3, Rhan B o’r Rheoliad CE at fwydydd, neu ddefnyddio sylwedd o’r fath wrth weithgynhyrchu bwydydd oni bai bod y sylwedd hwnnw yn cael ei ychwanegu neu ei ddefnyddio yn unol â’r amodau a bennir yn y Rhan honno.

Mae darpariaeth drosiannol newydd (rheoliad 4A) wedi ei mewnosod yn Rheoliadau 2007 i ddarparu nad oes unrhyw drosedd yn cael ei chyflawni mewn cysylltiad ag unrhyw fwyd nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau Atodiad 3, Rhan B sy’n ymwneud â thraws-fraster ac eithrio traws-fraster sy’n digwydd yn naturiol mewn braster sy’n dod o anifeiliaid ac a roddir ar y farchnad cyn 1 Ebrill 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (ystyr “food” ac ymadroddion sylfaenol eraill) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 16(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (“Deddf 1990”) gan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 17 o Ddeddf 1990 gan baragraffau 7, 8 a 12 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2011/1043. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 48(1) gan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.

(2)

Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a’r Ysgrifenyddion Gwladol a oedd yn eu trefn yn ymwneud ag iechyd yn Lloegr a bwyd ac iechyd yng Nghymru) i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999 a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Mae’r swyddogaethau hynny yn arferadwy bellach o ran Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.

(3)

1972 p. 68 (“Deddf 1972”). Diwygiwyd adran 2(2) o Ddeddf 1972 gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006. Fe’i diwygiwyd gan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 a Rhan 1 o’r Atodlen iddi ac O.S. 2007/1388.

(4)

O.S. 2005/1971, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Rhagfyr 2006 ar ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau eraill penodol at fwydydd (OJ Rhif L 404, 30.12.2006, t. 26), fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2019/650 dyddiedig 24 Ebrill 2019 sy’n diwygio Atodiad 3 i Reoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch Yohimbe (Pausinystalia yohimbe (K. Schum) Pierre ex Beille) (OJ Rhif L 110, 25.4.2019, t. 21).

(6)

Mewnosodwyd adran 48(A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.

(7)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2019/1243 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 sy’n addasu nifer o actau cyfreithiol sy’n darparu ar gyfer defnyddio’r weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu i Erthyglau 290 a 291 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (OJ Rhif L 198, 25.7.2019, t. 241) ac a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/641.

(8)

O.S. 2007/1984 (Cy. 165), a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/2303 (Cy. 227) ac O.S. 2018/806 (Cy. 162). Mae wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gan O.S. 2019/179 (Cy. 45).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill