- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Mae Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “y Rheoliad CE” (“the EC Regulation”) yn lle “I neu II” rhodder “1, 2 neu 3”.
(3) Yn rheoliad 4(2) (tramgwyddau a chosbau)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (ch) hepgorer “a”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (d) yn lle “.” rhodder “;”;
(c)ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—
“(dd)Erthygl 8(2)(a)(i) (gwahardd ychwanegu sylwedd a restrir yn Atodiad 3, Rhan A at fwydydd neu ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu bwydydd);
(e)Erthygl 8(2)(a)(ii) (gwahardd ychwanegu sylwedd a restrir yn Atodiad 3, Rhan B at fwydydd neu ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu bwydydd oni bai bod y sylwedd hwnnw yn cael ei ychwanegu neu ei ddefnyddio yn unol â’r amodau a bennir yn y Rhan honno).”
(4) Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—
4A. Nid oes tramgwydd wedi’i gyflawni o dan baragraff (1) o reoliad 4 yn rhinwedd paragraff (2)(e) o’r rheoliad hwnnw mewn cysylltiad ag ychwanegu sylwedd at unrhyw fwyd neu ei ddefnyddio i weithgynhyrchu unrhyw fwyd os—
(a)yw’r bwyd wedi’i roi ar y farchnad cyn 1 Ebrill 2021; a
(b)yw’r sylwedd o dan sylw yn dod o fewn y cofnod yn Atodiad 3, Rhan B sy’n ymwneud â thraws-fraster ac eithrio traws-fraster sy’n digwydd yn naturiol mewn braster sy’n dod o anifeiliaid.”
O.S. 2007/1984 (Cy. 165), a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/2303 (Cy. 227) ac O.S. 2018/806 (Cy. 162). Mae wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gan O.S. 2019/179 (Cy. 45).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys