Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 2Archwiliadau a rheolaethau swyddogol

Pwerau archwilwyr

5.—(1Caiff archwilydd arfer y pwerau yn y rheoliad hwn a chynnal archwiliad yn unol â Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE os caiff ei awdurdodi i wneud hynny—

(a)mewn perthynas â chynnal archwiliad o weithgareddau awdurdod dynodedig, gan yr awdurdod dynodedig, neu

(b)mewn perthynas â chynnal archwiliad yn unol â rheoliad 6(2), gan Weinidogion Cymru.

(2At ddibenion cynnal archwiliad, caiff archwilydd fynd i fangre y mae gan arolygydd bŵer i fynd iddi o dan ddeddfwriaeth berthnasol (“mangre sy’n destun archwiliad”) fel pe bai’r archwilydd yn arolygydd sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer mynd iddi o dan y ddeddfwriaeth berthnasol honno.

(3Caiff unrhyw berson y mae ei gymorth yn rhesymol ofynnol gan yr archwilydd fynd gydag archwilydd sy’n arfer pwer i fynd i fangre.

(4Caiff archwilydd ofyn i unrhyw berson mewn unrhyw fangre sy’n destun archwiliad am unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol at ddibenion yr archwiliad, a chaiff arolygu unrhyw gofnodion sy’n rhesymol ofynnol at y dibenion hynny.

(5Caiff archwilydd wneud copïau o gofnodion o’r fath neu wneud copïau ohonynt yn ofynnol.

(6Wrth arfer y pwerau a roddir gan y rheoliad hwn, rhaid i archwilydd, pan ofynnir iddo, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad o dan y Rheoliadau hyn.

(7Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo archwilydd yn cynnal archwiliad yn unol â rheoliad 7 ar ran yr Asiantaeth.

Pwerau Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag archwiliadau o awdurdodau dynodedig

6.—(1Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais ysgrifenedig i awdurdod dynodedig ddarparu gwybodaeth erbyn dyddiad penodedig ynglŷn ag unrhyw archwiliadau y mae wedi eu cynnal neu wedi bod yn destun iddynt neu y mae ganddo gynlluniau i’w cynnal neu i fod yn destun iddynt.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i archwilydd gynnal archwiliad o awdurdod dynodedig.

(3Rhaid i’r awdurdod dynodedig ddarparu unrhyw gymorth i’r archwilydd hwnnw sy’n rhesymol ofynnol er mwyn i’r archwilydd gynnal yr archwiliad yn effeithiol.

Pwerau’r Asiantaeth sy’n cynnal archwiliadau ar ran Gweinidogion Cymru

7.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn trefnu bod yr Asiantaeth yn cynnal archwiliad, mae darpariaethau archwilio’r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd yn gymwys fel pe bai—

(a)cynnal yr archwiliad yn ddiben y cyfeirir ato yn rheoliadau 8(1) a 9(1) o’r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, a

(b)yr awdurdod cymwys o dan sylw yn awdurdod gorfodi y mae rheoliadau 8 a 9 o’r Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn gymwys iddo.

(2At ddibenion paragraff (1), darpariaethau archwilio’r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd yw—

(a)rheoliadau 8 a 9(1) i (8) a (10), fel y’u darllenir ar y cyd â rheoliad 10 o’r Rheoliadau hynny, a

(b)rheoliad 11 o’r Rheoliadau hynny.

(3Pan fo’r Asiantaeth yn cynnal archwiliad, mae rheoliadau 17(2), (4) a (5)(c), 18(2) i (9), 19 i 21, 45 i 47, 49 a 50 o’r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd yn gymwys fel pe bai’r archwiliad wedi ei gynnal o dan y Rheoliadau hynny a’i orfodi neu ei gynnal oddi tanynt gan yr Asiantaeth.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill