- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5.—(1) Caiff archwilydd arfer y pwerau yn y rheoliad hwn a chynnal archwiliad yn unol â Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE os caiff ei awdurdodi i wneud hynny—
(a)mewn perthynas â chynnal archwiliad o weithgareddau awdurdod dynodedig, gan yr awdurdod dynodedig, neu
(b)mewn perthynas â chynnal archwiliad yn unol â rheoliad 6(2), gan Weinidogion Cymru.
(2) At ddibenion cynnal archwiliad, caiff archwilydd fynd i fangre y mae gan arolygydd bŵer i fynd iddi o dan ddeddfwriaeth berthnasol (“mangre sy’n destun archwiliad”) fel pe bai’r archwilydd yn arolygydd sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer mynd iddi o dan y ddeddfwriaeth berthnasol honno.
(3) Caiff unrhyw berson y mae ei gymorth yn rhesymol ofynnol gan yr archwilydd fynd gydag archwilydd sy’n arfer pwer i fynd i fangre.
(4) Caiff archwilydd ofyn i unrhyw berson mewn unrhyw fangre sy’n destun archwiliad am unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol at ddibenion yr archwiliad, a chaiff arolygu unrhyw gofnodion sy’n rhesymol ofynnol at y dibenion hynny.
(5) Caiff archwilydd wneud copïau o gofnodion o’r fath neu wneud copïau ohonynt yn ofynnol.
(6) Wrth arfer y pwerau a roddir gan y rheoliad hwn, rhaid i archwilydd, pan ofynnir iddo, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad o dan y Rheoliadau hyn.
(7) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo archwilydd yn cynnal archwiliad yn unol â rheoliad 7 ar ran yr Asiantaeth.
6.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais ysgrifenedig i awdurdod dynodedig ddarparu gwybodaeth erbyn dyddiad penodedig ynglŷn ag unrhyw archwiliadau y mae wedi eu cynnal neu wedi bod yn destun iddynt neu y mae ganddo gynlluniau i’w cynnal neu i fod yn destun iddynt.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i archwilydd gynnal archwiliad o awdurdod dynodedig.
(3) Rhaid i’r awdurdod dynodedig ddarparu unrhyw gymorth i’r archwilydd hwnnw sy’n rhesymol ofynnol er mwyn i’r archwilydd gynnal yr archwiliad yn effeithiol.
7.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn trefnu bod yr Asiantaeth yn cynnal archwiliad, mae darpariaethau archwilio’r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd yn gymwys fel pe bai—
(a)cynnal yr archwiliad yn ddiben y cyfeirir ato yn rheoliadau 8(1) a 9(1) o’r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, a
(b)yr awdurdod cymwys o dan sylw yn awdurdod gorfodi y mae rheoliadau 8 a 9 o’r Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn gymwys iddo.
(2) At ddibenion paragraff (1), darpariaethau archwilio’r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd yw—
(a)rheoliadau 8 a 9(1) i (8) a (10), fel y’u darllenir ar y cyd â rheoliad 10 o’r Rheoliadau hynny, a
(b)rheoliad 11 o’r Rheoliadau hynny.
(3) Pan fo’r Asiantaeth yn cynnal archwiliad, mae rheoliadau 17(2), (4) a (5)(c), 18(2) i (9), 19 i 21, 45 i 47, 49 a 50 o’r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd yn gymwys fel pe bai’r archwiliad wedi ei gynnal o dan y Rheoliadau hynny a’i orfodi neu ei gynnal oddi tanynt gan yr Asiantaeth.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: