Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 479 (Cy. 110)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020

Gwnaed

30 Ebrill 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Mai 2020

Yn dod i rym

4 Mai 2020

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 94(5) a (5A), 95(3) a (3A) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 4 Mai 2020.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i apelau y mae Rheoliadau 2005(3) yn gymwys iddynt ac a gyflwynir—

(a)ar neu ar ôl 4 Mai 2020 ond ar neu cyn 31 Ionawr 2021;

(b)cyn 4 Mai 2020 ond pan na fo’r apêl wedi ei phenderfynu’n llawn ar neu cyn 4 Mai 2020.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2005” yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005.

Adolygu rheoliadau 5 i 12 a pha bryd y deuant i ben

2.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd rheoliadau 5 i 12 yn ystod y cyfnod y maent yn cael effaith.

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 3, mae rheoliadau 5 i 12 yn peidio â chael effaith ar 31 Ionawr 2021.

Darpariaethau arbed

3.—(1Mae rheoliadau 5 i 12 yn parhau i gael effaith ar gyfer apelau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt ac nad ydynt wedi eu penderfynu cyn i’r Rheoliadau hyn beidio â chael effaith yn y ffyrdd a ganlyn—

(a)pan fo panel apêl yn cael ei gyfansoddi i ystyried yr apêl fel panel a chanddo ddau aelod yn unol â pharagraff 1(1) o Atodlen 3 i Reoliadau 2005, caiff barhau i benderfynu’r apêl fel y’i cyfansoddir felly;

(b)pan fo panel apêl wedi dechrau penderfynu apêl ar sail yr wybodaeth ysgrifenedig a gyflwynir yn unol â pharagraff 2(2) o Atodlen 3 i Reoliadau 2005, caiff barhau i benderfynu’r apêl ar y sail honno;

(c)mae unrhyw derfynau amser a ragnodir ym mharagraffau 3 i 5 o Atodlen 3 i Reoliadau 2005, neu unrhyw derfynau amser a benderfynir o dan y paragraffau hynny, yn parhau i fod yn gymwys.

(2Nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau hyn wedi dod i ben o dan reoliad 2(2) yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn y dyddiad dod i ben.

4.  Yn ddarostyngedig i reoliad 3, unwaith y bydd rheoliadau 5 i 12 yn peidio â chael effaith yn unol â rheoliad 2(2), mae Rheoliadau 2005 yn parhau i fod yn gymwys fel pe na bai’r diwygiadau hyn wedi eu gwneud i apelau a gyflwynir—

(a)ar neu ar ôl 1 Chwefror 2021;

(b)ar neu cyn 31 Ionawr 2021 ac nad ydynt wedi eu penderfynu.

Diwygio Rheoliadau 2005

5.  Mae Rheoliadau 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

6.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

mae i “yr awdurdod derbyn” yr un ystyr ag a roddir i “the admisssion authority” yn adran 88(1)(a) a (b);;

ystyr “y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion” (“the School Admission Appeals Code”) yw’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion, sef y cod a ddyroddir o dan adran 84 sy’n ymwneud ag apelau derbyn;;

ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-Cov-2);;

“eithriad y coronafeirws” (“coronavirus exception”) yw amod sy’n gymwys, am reswm sy’n gysylltiedig â mynychder neu drosglwyddiad y coronafeirws—

(a)

pan na fo’n rhesymol ymarferol i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir gydymffurfio â gofynion paragraff 1(1) a (2) neu 2(1) a (2) o Atodlen 1 (yn ôl y digwydd), (“rheswm y cyfansoddiad”), neu

(b)

pan na fo’n rhesymol ymarferol i banel apêl gydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff 1(6) o Atodlen 2, neu baragraffau 4.13, 4.14 neu 7.5 o’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion i ganiatáu i apelyddion neu gynrychiolwyr awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu ymddangos yn bersonol (“rheswm yr apêl yn bersonol);;

ystyr “mynediad o bell” (“remote access”) yw mynediad at wrandawiad apêl i alluogi’r rheini nad ydynt i gyd yn bresennol gyda’i gilydd yn yr un man i fynd i’r gwrandawiad neu gymryd rhan ynddo ar yr un pryd drwy ddulliau electronig, gan gynnwys drwy gyswllt awdio byw a chyswllt fideo byw;;

ystyr “penderfyniad derbyn” (“admission decision”) yw penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1) i (2A) sy’n gwrthod derbyn plentyn i ysgol neu sy’n gwrthod mynediad iddo at chweched dosbarth neu o ran yr ysgol y mae addysg i’w darparu ar gyfer plentyn ynddi.

7.  Yn rheoliad 3 (cyfansoddiad panelau apêl), yn lle “Atodlen 1” rhodder “Atodlen 1 neu, pan fo rheswm cyfansoddiad eithriad y coronafeirws yn gymwys, y paragraffau perthnasol yn Atodlen 1, yn ddarostyngedig i baragraff 1 o Atodlen 3”.

8.  Yn rheoliad 5 (y weithdrefn apelio), yn lle “Atodlen 2” rhodder “Atodlen 2 neu, pan fo rheswm apêl yn bersonol eithriad y coronafeirws yn gymwys, y paragraffau perthnasol yn Atodlen 2, yn ddarostyngedig i baragraff 2 o Atodlen 3”.

9.  Ar ôl rheoliad 8 (indemnio) mewnosoder—

Terfynau amser

9.(1) Mae paragraffau 3 a 4 o Atodlen 3 yn effeithiol at ddibenion penderfynu’r amserlen mewn cysylltiad ag apêl yn unol â threfniadau a wneir gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir o dan adran 94.

(2) Mae paragraff 5 o Atodlen 3 yn effeithiol at ddibenion penderfynu’r amserlen mewn perthynas ag apêl yn unol â threfniadau a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 95.

10.  Yn Atodlen 1 (cyfansoddiad panelau apêl), o flaen paragraff 1, mewnosoder—

A1. Mae paragraffau 1(1) a (2) a 2(1) a (2) yn gymwys yn ddarostyngedig i baragraff 1 o Atodlen 3.

11.  Yn Atodlen 2 (gweithdrefn apêl), o flaen paragraff 1, mewnosoder—

A1. Mae paragraff 1 yn gymwys yn ddarostyngedig i baragraffau 2 i 4 o Atodlen 3 ac mae paragraff 2 yn gymwys yn ddarostyngedig i baragraffau 2 a 5 o Atodlen 3.

12.  Ar ôl Atodlen 2 mewnosoder—

Rheoliadau 3, 5 a 9

ATODLEN 3Diwygiadau dros dro i Gyfansoddiad Panelau Apêl a Gweithdrefn Apêl

Trefniadau a wneir gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu: pan fydd eithriad y coronafeirws yn gymwys

1.(1) Pan fo rhaid i un neu ragor o aelodau o banel apêl dynnu’n ôl ei aelodaeth o’r panel, caiff y panel apêl barhau i ystyried a phenderfynu’r apêl ar yr amod bod dau aelod o leiaf yn weddill ar y panel, ni waeth pa un a yw’r aelodau hynny yn bodloni gofynion paragraff 1(2) neu 2(2) (yn ôl y digwydd) o Atodlen 1.

(2) Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, a bo’r aelod sy’n tynnu’n ôl yn gadeirydd y panel, rhaid i’r awdurdod derbyn benodi (neu drefnu i glerc y panel apêl benodi) un o aelodau’r panel sy’n weddill yn gadeirydd.

Gwrandawiadau apêl

2.(1) Caiff panel apêl benderfynu cynnal gwrandawiad apêl gan ddefnyddio mynediad o bell ar yr amod—

(a)bod y partïon yn gallu cyflwyno eu hachos yn llawn,

(b)bod gan bob cyfranogwr fynediad at y dulliau electronig er mwyn caniatáu iddo glywed a chael ei glywed, a gweld a chael ei weld (pan ddefnyddir cyswllt fideo byw), drwy gydol y gwrandawiad apêl, ac

(c)bod y panel yn ystyried bod modd gwrando ar yr apêl yn deg ac yn dryloyw.

(2) Pan na fo unrhyw un neu ragor o’r amodau a ragnodir yn is-baragraff (1)(a) i (c) wedi ei fodloni, caiff panel apêl wneud ei benderfyniad ar yr apêl yn seiliedig ar yr wybodaeth ysgrifenedig a gyflwynir.

(3) Pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, rhaid i’r panel apêl sicrhau bod y partïon yn gallu cyflwyno eu hachos yn llawn, er mwyn i’r panel wneud penderfyniad ar yr apêl sy’n deg ac yn dryloyw.

Terfynau amser

3.(1) Pan fo’r awdurdod derbyn neu’r awdurdod lleol yn anfon penderfyniad derbyn, rhaid i’r dyddiad cau ar gyfer apêl a bennir yn y penderfyniad derbyn hwnnw—

(a)bod o leiaf 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad hysbysu am y penderfyniad derbyn, a

(b)cael ei fynegi drwy gyfeirio at ddyddiad penodedig neu nifer o ddiwrnodau calendr.

(2) Mewn cysylltiad â phenderfyniad derbyn a anfonir ar ôl 28 Chwefror 2020 sy’n cynnwys dyddiad cau ar gyfer apêl nad yw yn unol â gofynion is-baragraff (1)(a) neu (b), rhaid i’r awdurdod derbyn adolygu’r dyddiad cau presennol ar gyfer yr apêl a, phan fo’r amod yn is-baragraff (3) wedi ei fodloni, bennu dyddiad cau newydd ar gyfer yr apêl, a rhaid i hwnnw—

(a)bod o leiaf 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad hysbysu am y dyddiad cau newydd, a

(b)cael ei fynegi drwy gyfeirio at ddyddiad penodedig neu nifer o ddiwrnodau calendr.

(3) Yr amod yw—

(a)nad oes unrhyw apêl eisoes wedi ei chyflwyno mewn ymateb i’r penderfyniad derbyn,

(b)bod y dyddiad cau presennol yn cyfeirio at ddiwrnodau ysgol, neu fod yr awdurdod derbyn fel arall yn ystyried bod y dyddiad cau presennol yn aneglur o dan yr holl amgylchiadau, ac

(c)nad yw’r dyddiad cau presennol eisoes wedi dod i ben.

(4) Pan fo dyddiad cau newydd wedi ei bennu yn unol ag is-baragraff (2), rhaid anfon hysbysiad o’r dyddiad cau newydd at dderbynnydd y penderfyniad derbyn gwreiddiol o fewn 28 o ddiwrnodau i 4 Mai 2020 neu 7 niwrnod i ddyddiad penderfyniad derbyn nad yw’n cydymffurfio â gofynion is-baragraff (1) pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(5) Rhaid i’r hysbysiad o’r dyddiad cau newydd gael ei anfon gan—

(a)yr awdurdod derbyn os anfonodd yr awdurdod derbyn hwnnw y penderfyniad derbyn perthnasol, neu

(b)yr awdurdod lleol os anfonodd yr awdurdod hwnnw y penderfyniad derbyn perthnasol ar ran awdurdod derbyn arall.

(6) Dim ond unwaith bod yr awdurdod derbyn perthnasol wedi rhoi gwybod i’r awdurdod lleol am y dyddiad cau newydd y mae’r gofyniad yn is-baragraff (5)(b) yn gymwys.

4.(1) Rhaid i’r awdurdod derbyn ddarparu i apelyddion o leiaf 14 o ddiwrnodau o rybudd ysgrifenedig o wrandawiad apêl.

(2) Caiff yr awdurdod derbyn bennu dyddiadau cau rhesymol newydd neu ddiwygiedig er mwyn—

(a)i apelydd gyflwyno tystiolaeth ychwanegol,

(b)i’r awdurdod derbyn gyflwyno ei dystiolaeth, ac

(c)i’r clerc anfon papurau apêl perthnasol at y panel apêl a’r partïon.

(3) Rhaid i banel apêl anfon llythyrau penderfyniad ar apelau at y partïon o fewn 7 niwrnod i’r gwrandawiad, neu i derfynu penderfyniad yr apêl, pan fo’n bosibl.

(4) Rhaid i banel apêl wrando ar bob apel sydd wedi ei chyflwyno, pa un ai mewn pryd ai peidio, a’i phenderfynu, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

5.(1) Pan fo corff llywodraethu ysgol yn cael penderfyniad ysgrifenedig i dderbyn i’r ysgol blentyn y mae adran 87(2) yn gymwys iddo ar yr adeg pan wneir y penderfyniad, rhaid i unrhyw apêl gael ei gwneud o fewn 21 o ddiwrnodau i—

(a)y dyddiad hysbysu am y penderfyniad pan fo’r dyddiad hwnnw ar neu ar ôl 4 Mai 2020, neu

(b)4 Mai 2020—

(i)pan fo hysbysiad o’r penderfyniad wedi ei roi cyn 4 Mai 2020,

(ii)pan na fo unrhyw apêl wedi ei chyflwyno mewn ymateb i’r penderfyniad cyn 4 Mai 2020, a

(iii)pan na fo dyddiad cau apêl presennol sy’n berthnasol i’r penderfyniad eisoes wedi dod i ben cyn 4 Mai 2020.

(2) Rhaid cynnal pob gwrandawiad apêl y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo, a rhaid penderfynu apelau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

30 Ebrill 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”) ar gyfer apelau sy’n cael eu dwyn o dan adrannau 94 a 95 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac a gyflwynir—

(a)ar neu ar ôl 4 Mai 2020 ond ar neu cyn 31 Ionawr 2021, neu

(b)cyn 4 Mai 2020 ond pan na fo’r apêl wedi ei phenderfynu’n llawn ar neu cyn y dyddiad hwnnw.

Mae rheoliad 3(1) yn darparu y bydd rheoliadau 5 i 12 yn parhau i gael effaith ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i ben o dan amgylchiadau cyfyngedig sydd wedi eu rhagnodi. Fel arall, bydd y Rheoliadau hyn yn dod i ben ar 31 Ionawr 2021, fel y darperir ar ei gyfer gan reoliad 2(2). Mae rheoliad 4 yn nodi, pan fyddant yn dod i ben, y bydd Rheoliadau 2005 wedyn yn gymwys eto i apelau a gyflwynir o 1 Chwefror 2021 ymlaen ac i apelau sy’n parhau ar y dyddiad dod i ben ac nad ydynt wedi eu penderfynu gan banel apêl.

Mae rheoliad 6 yn mewnosod diffiniad newydd yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2005: yr “eithriad coronafeirws”. Mae’r eithriad hwnnw yn gweithredu mewn dwy brif ffordd o dan y Rheoliadau hyn—

(a)pan na fo’n rhesymol ymarferol i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol gydymffurfio â threfniadau’r apêl ym mharagraff 1 o Atodlen 1 am reswm sy’n ymwneud â mynychder neu drosglwyddiad y coronafeirws, mae paragraff 1 o Atodlen newydd 3 (a fewnosodir gan reoliad 12) yn gymwys yn lle hynny er mwyn caniatáu i banelau a chanddynt ddau aelod benderfynu apelau (gweler rheoliad 7);

(b)pan na fo’n rhesymol ymarferol i banel apêl derbyn gydymffurfio â’r gofynion gweithdrefnol ym mharagraff 1(6) o Atodlen 2 neu ofynion y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion ynghylch bod yn bresennol mewn apelau am reswm sy’n ymwneud â mynychder neu drosglwyddiad y coronafeirws, mae paragraff 2 o Atodlen newydd 3 yn gymwys i alluogi panelau apêl i gynnal gwrandawiadau drwy fynediad o bell neu i benderfynu apelau ar sail yr wybodaeth ysgrifenedig a ddarperir (gweler rheoliad 8).

Mae paragraffau 3 i 5 o Atodlen newydd 3 yn gwneud darpariaeth i linellau amser amrywiol fod yn gymwys mewn cysylltiad ag apelau i sicrhau y gall yr awdurdodau derbyn a’r cyrff llywodraethu osod llinellau amser rhesymol yn ystod cyfnod gweithredu’r Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1998 p. 31; gweler adran 142(1) am y diffiniadau o “the Assembly”, “prescribed” a “Regulations”. Mewnosodwyd is-adran (5A) yn adran 94 gan adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). Mewnosodwyd is-adran (3A) yn adran 95 gan baragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf Addysg 2002.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill