- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
6 Mai 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
7 Mai 2020
Yn dod i rym
30 Mai 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) a pharagraff 2(a) o Atodlen 10 iddi.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mai 2020.
2. Mae Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3. Yn rheoliad 5 (tymor penodiad aelodau cyfetholedig), hepgorer “a rhaid peidio â’u hailbenodi fel aelodau cyfetholedig wedi diwedd eu tymor”.
4.—(1) Mae rheoliad 10 (aelodau sy’n gymwys i’w hailbenodi) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), caiff aelod” rhodder “Caiff aelod”.
(3) Hepgorer paragraffau (2), (3) a (4).
5.—(1) Mae rheoliad 15 (ethol cadeirydd ac is-gadeirydd) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Ar ddiwedd ei dymor, mae aelod a etholwyd yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd yn gymwys i’w ailethol am gyfnod pellach o ddwy flynedd ar yr hwyaf, ond heb fod yn hwy mewn unrhyw achos na gweddill tymor yr aelod a etholwyd fel aelod o Gyngor.”
(3) Ym mharagraff (2), ar ôl “mharagraff (1)” mewnosoder “neu’r cyfnod o ddwy flynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1A)”.
(4) Ym mharagraff (4), ar ôl “penodi” mewnosoder “nac ailbenodi”.
(5) Ym mharagraff (5), ar ôl “penodi” mewnosoder “nac ailbenodi”.
6.—(1) Mae rheoliad 17 (penodi pwyllgorau sydd i’w hadwaen fel pwyllgorau lleol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Ar ddiwedd ei dymor, mae aelod a etholwyd yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd yn gymwys i’w ailethol am gyfnod pellach o dair blynedd ar yr hwyaf, ond heb fod yn hwy mewn unrhyw achos na gweddill tymor yr aelod hwnnw fel aelod o’r Cyngor perthnasol.”
(3) Ym mharagraff (2), ar ôl “penodi” mewnosoder “nac ailbenodi”.
7.—(1) Mae rheoliad 35 (cymhwyster Aelodau o’r Bwrdd i’w hailbenodi ar y Bwrdd CIC) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a)yn lle “baragraffau (1)(a) a (b)” rhodder “baragraff (1)(a)”;
(b)yn lle “dair blynedd” rhodder “bum mlynedd”.
(3) Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1ZA) Caiff aelod o’r Bwrdd a benodir o dan baragraff (1)(b) o reoliad 34 wasanaethu am gyfnod o dair blynedd fan hwyaf.”
(4) Ym mharagraff (2), yn lle “dair blynedd” rhodder “bum mlynedd”.
(5) Ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(2ZA) Wrth gyfrifo’r cyfnod o dair blynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1ZA) rhaid cyfuno pob cyfnod o wasanaeth fel aelod o’r Bwrdd, gan gynnwys pob cyfnod o wasanaeth cyn 1 Ebrill 2010 a phob cyfnod o wasanaeth o ganlyniad i unrhyw benodiad o dan baragraff (1)(a) i (dd) o reoliad 34.”
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
6 Mai 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010.
Mae rheoliad 3 yn galluogi aelod cyfetholedig o Gyngor Iechyd Cymuned i gael ei ailbenodi ar ddiwedd ei dymor penodiad.
Mae rheoliad 4 yn dileu’r cyfnod hwyaf y caiff person wasanaethu amdano fel aelod o Gyngor Iechyd Cymuned.
Mae rheoliad 5 yn galluogi cadeirydd neu is-gadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned i gael ei ailethol ar ddiwedd ei dymor am dymor pellach o hyd at ddwy flynedd.
Mae rheoliad 6 yn galluogi aelod a etholwyd yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd pwyllgor lleol Cyngor Iechyd Cymuned i gael ei ailethol ar ddiwedd ei dymor am dymor pellach o hyd at dair blynedd.
Mae rheoliad 7 yn diwygio’r tymor gwasanaeth hwyaf y caiff cadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned wasanaethu ar y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned o dair blynedd i bum mlynedd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2006 p. 42. Gweler adran 206(1) am y diffiniad o “regulations”.
O.S. 2010/288 (Cy. 37), a ddiwygiwyd gan O.S. 2015/509 (Cy. 43); mae offeryn diwygio arall ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys