Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 497 (Cy. 118)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

am 2.00 p.m. ar 11 Mai 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 3.00 p.m. ar 11 Mai 2020

Yn dod i rym

am 4.00 p.m. ar 11 Mai 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd a cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad syndrom anadlol acíwt difrifol coronafeirws 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud y offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 a deuant i rym am 4.00 p.m. ar 11 Mai 2020.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3—

(a)ym mharagraff (2), ar ôl “y Rheoliadau hyn” mewnosoder “, a pha un a yw’r cyfyngiadau a’r gofynion hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt,”;

(b)hepgorer paragraffau (3), (4), (4A) a (5).

(3Yn rheoliad 4, ym mharagraff (5)(c), yn lle “, oriel neu lyfrgell” rhodder “neu oriel”.

(4Yn rheoliad 8, ym mharagraff (2)—

(a)ar ôl is-baragraff (aa) mewnosoder—

(ab)i gasglu nwyddau sydd wedi eu prynu oddi wrth berson sy’n darparu gwasanaeth mewn ymateb i archebion neu ymholiadau yn rhinwedd yr eithriad i’r gofyniad yn rheoliad 6(2)(a) i beidio â chynnal busnes;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “ddim mwy nag unwaith y dydd (neu’n amlach os oes angen hyn oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd penodol)” rhodder “o fewn ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw”;

(c)ar ôl is-baragraff (i)—

(ia)i ddefnyddio gwasanaethau ailgylchu neu waredu gwastraff;

(ib)i ymweld â llyfrgell;.

(5Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 10, hepgorer “, llyfrgelloedd”;

(b)ar ôl paragraff 33 mewnosoder—

33A.  Canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion.;

(c)ar ôl paragraff 47 mewnosoder—

48.  Llyfrgelloedd.

Diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

3.  Hepgorer rheoliad 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020(3).

Arbediad ar gyfer troseddau a chosbau mewn perthynas â gweithredoedd blaenorol

4.  Mae rheoliadau 12 a 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnir, neu y credir yn rhesymol ei bod wedi ei chyflawni, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym fel pe na bai’r diwygiadau a nodir yn rheoliad 2 wedi eu gwneud.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 2.00 p.m. ar 11 Mai 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”).

Mae’r diwygiadau fel a ganlyn—

(a)diwygio rheoliad 3 o’r prif Reoliadau i ychwanegu cymesuredd y gofynion a’r cyfyngiadau fel ystyriaeth pan fydd Gweinidogion Cymru yn adolygu’r prif Reoliadau, ac i ddileu darpariaethau sy’n ymwneud â therfynu gofynion neu gyfyngiadau drwy gyfarwyddyd gweinidogol (sy’n golygu bod rhaid eu terfynu drwy ddiwygio’r prif Reoliadau);

(b)diwygio rheoliad 4 o’r prif Reoliadau, ac Atodlen 1 iddynt, i ganiatáu i lyfrgelloedd agor yn ddarostyngedig i ofynion i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr gan bersonau yn y fangre a phersonau sy’n aros i fynd i’r fangre;

(c)diwygio rheoliad 8 o’r prif Reoliadau i wneud y canlynol—

(i)pennu bod gadael y man lle yr ydych yn byw i gasglu nwyddau a archebir o siop sy’n gweithredu ar sail “archebu a chasglu” yn esgus rhesymol at ddibenion rheoliad 8(1);

(ii)dileu’r cyfyngiad ym mharagraff (2)(b) ar beidio â gwneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd (fel y mae’n ymwneud ag ymarfer corff fel esgus rhesymol at ddibenion rheoliad 8(1));

(iii)pennu bod gwneud defnydd o gyfleuster ailgylchu neu waredu gwastraff neu ymweld â llyfrgell yn esgus rhesymol at ddibenion rheoliad 8(1) (sylwer, er hynny, nad yw’r newid hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyfleusterau hyn agor oherwydd mater i awdurdodau lleol yw hynny);

(d)ychwanegu canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion at Ran 4 o Atodlen 1 sy’n golygu y caniateir iddynt agor yn ddarostyngedig i ofynion i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr gan bersonau yn y fangre a phersonau sy’n aros i fynd i’r fangre.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”) O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(2)

O.S. 2020/353 (Cy. 80) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeiwrs) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/399 (Cy. 88)) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452 (Cy. 102)).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill