- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Gwnaed
am 7:40 p.m. ar 21 Ionawr 2020
Yn dod i rym
22 Ionawr 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 53(1) a (3) a 201(3) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(1) (“Deddf 1983”), a pharagraffau 1(2), 1A a 13(1ZB) o Atodlen 2 iddi, ac adrannau 7(1) a (2) ac 11(3), (4) a (5) o Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013(2) (“Deddf 2013”) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol yn unol ag adran 53(5) o Ddeddf 1983(3), adran 7(1) a (2)(e) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(4), ac maent wedi ymgynghori â’r Comisiynydd Gwybodaeth ac ag unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy yn unol ag adran 53(5) o Ddeddf 1983.
Yn unol ag adran 201(2) o Ddeddf 1983(5) ac adran 11(2) o Ddeddf 2013, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddo. Yn unol ag adran 8(6) o Ddeddf 2013, cyflwynwyd adroddiad gan y Comisiwn Etholiadol gyda’r offeryn drafft.
1983 p. 2 (“Deddf 1983”). Diwygiwyd adran 53(1) gan adran 24 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (“Deddf 1985”), a pharagraff 13(b) o Atodlen 4 iddi, a chan baragraff 13(b) o Atodlen 1, a Rhan 1 o Atodlen 7, i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2) (“Deddf 2000”). Mewnosodwyd adran 201(3) gan baragraff 21 o Atodlen 1 i Ddeddf 2000. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan baragraff 2 o Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013 (p. 6) (“Deddf 2013”) ac fe’i diwygiwyd gan baragraffau 18(1) a (2) o Atodlen 19 i Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12). Mewnosodwyd paragraff 13(1ZB) gan baragraff 4 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013. Ystyr “prescribed” ym mharagraff 13(1ZB), fel y’i diffinnir yn adran 202(1) o Ddeddf 1983, yw wedi ei bennu mewn Rheoliadau. I’r graddau y mae swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol a’r Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet yn arferadwy o fewn cymhwysedd datganoledig, trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd erthygl 45 o O.S. 2018/644, a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddo.
2013 p. 6. I’r graddau y mae pwerau’r Gweinidog o dan adrannau 7 ac 11 o Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013 (“Deddf 2013”) yn arferadwy o fewn cymhwysedd datganoledig, trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd erthygl 45 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644), ac Atodlen 1 iddo. Caniateir arfer y pŵer i wneud gorchymyn o dan adran 7 o Ddeddf 2013 i wneud rheoliadau yn rhinwedd adran 39 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).
Mewnosodwyd adran 53(5) gan baragraff 5 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013.
Amnewidiwyd adran 201(2) gan adran 24 o Ddeddf 1985, a pharagraff 69 o Atodlen 4 iddi, ac fe’i diwygiwyd gan erthygl 5(b) o O.S. 1991/1728, paragraff 6(1) a (7)(b) o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ac adran 13(2) o Ddeddf Gogledd Iwerddon (Darpariaethau Amrywiol) 2014 (p. 13) (“Deddf Gogledd Iwerddon 2014”).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys